Pobun

Ciw-restr ar gyfer Pobun

(Y Criwr) Pell ac agos yma dewch,
 
(0, 2) 32 Dos yn ebrwydd i geisio goruchwyliwr y tŷ; rhaid i mi roi gorchymyniddo.
 
(0, 2) 34 Ys gwir, y mae golwg da ar fy nhŷ.
(0, 2) 35 Saif yma yn urddasol, yn wych a chyfoethog.
(0, 2) 36 Nid oes yn y dref un tebyg iddo.
(0, 2) 37 Y mae ynddo liaws o ddodrefn drud, cistiau lawer, cypyrddau lawer, gweinidogion lawer, heblaw hynny, trysor teg o aur pur, ac o flaen y porth digon o lawntiau.
(0, 2) 38 Plasdy yn y wlad hefyd, tyddyn llawn o wartheg a defaid a'r rheiny'n dwyn elw i mi, fel yn wir y gallaf fyw'n llawen o ddydd i ddydd.
 
(0, 2) 40 Swyddog, dos i ymofyn côd lawn o aur i mi—fe anghofiais ei dodi yn fy ngwregys.
(0, 2) 41 Dal sylw ar hyn hefydy fory, rhaid paratôi gwledd o'r pethau gorau oll—bydd perthynasau a gwahoddedigion dieithr yn dyfod.
(0, 2) 42 Rhaid bod wedi trwsio'r bwrdd yn wych.
(0, 2) 43 Gyrr y Cogydd yma, dos dithau ynghylch yr aur.
 
(0, 2) 45 Y mae arnaf eisiau gwledd gostfawr erbyn yfory.
(Cogydd) O'r gorau.
 
(Cogydd) A gaf i ynteu baratoi pob cwrs o'r newydd?
(0, 2) 48 Crynu'r cryd arnat!
(0, 2) 49 O'r newydd?
(0, 2) 50 Dim ysborion ar fy mwrdd i!
(Cogydd) Yr oedd dros ben ddoe ddigon o leiaf at ddau gwrs oer.
 
(Cogydd) Yr oedd dros ben ddoe ddigon o leiaf at ddau gwrs oer.
(0, 2) 52 Yr asyn!
(0, 2) 53 A wyt ti'n meddwl mai cinio cardotyn a fynnwn i?
 
(0, 2) 57 Cadw di olwg ar forwyn a gwas, nid ynt yn rhyngu mo'm bodd ym mhopeth.
 
(0, 2) 61 Dyna pam yr wyt ti'n ben swyddog yma, er mwyn i ti—O, dyma'r cydymaith!
 
(0, 2) 64 Yr oeddwn eisoes yn disgwyl amdanat.
(0, 2) 65 Awn yn awr at borth y dref i edrych y darn tir, gael i ni weld a dalo at wneud gardd bleser.
(Cydymaith) Y mae aur y Tylwyth Teg yn dy law di, felly bydd popeth yn iawn, fe gei'r peth a fynni—fydd dyn ddim yn hir cyn cwpla'r peth fo wrth ei fodd.
 
(Cydymaith) A adwaenost ti'r creadur yna?
(0, 2) 76 Myfi?
(0, 2) 77 Pwy yw, tybed?
(Cymydog Tlawd) O, fy meistr Pobun, atat ti yr wyf yn dal fy llaw.
 
(0, 2) 82 O'r gorau!
(Cymydog Tlawd) {Heb ei gymryd.}
 
(Cymydog Tlawd) Rhodd fach yw honyna.
(0, 2) 85 Aie?
(0, 2) 86 Gwaed Duw!
(0, 2) 87 Dyro hi'n ôl i mi, ynteu.
(Cymydog Tlawd) {Gan bwyntio at y god.}
 
(Cymydog Tlawd) Honyna, pe cawn fy rhan fel brawd o gymydog o honyna, byddwn eto'n iach a dedwydd.
(0, 2) 90 O honyna?
(Cymydog Tlawd) Am hynny yr wyf yn penlino o'th flaen.
 
(0, 2) 94 Dim ond hynny?
(Cydymaith) Mae'r gŵr drwg yn ei groen!
 
(Cymydog Tlawd) Pe rhennit y god yn gyfartal â mi, byddai cistiau ddigon gennyt wedyn, a'r rhenti a'r llogau yn llifo i mewn iddynt.
(0, 2) 100 Aros!
(0, 2) 101 Pwy roes gennad i ti sôn am fy nghistiau, fy rhenti a'm llogau i?
(Cydymaith) O'm rhan fy hun, byddai'n gywilydd gennyf ofyn y fath beth!
 
(0, 2) 104 Gad iddo!
 
(0, 2) 106 Weli di, yr wyt yn methu'n arw wrth feddwl y gallwn i rhag blaen rannu'r hyn sydd yn y pwrs â thi.
(0, 2) 107 Erbyn hyn, nid eiddof i mo'r arian, yn un peth—rhaid i mi eu talu heddiw fel pris gardd bleser.
(0, 2) 108 Rhoddais fy ngair i'r gwerthwr, ac nid erys hwnnw ddim yn hwy am yr arian.
(Cymydog Tlawd) Os yw'r arian hyn i fynd am yr ardd, nid rhaid i ti ond amneidio—yn lle un pwrs y mae deg ar dy helw.
 
(Cymydog Tlawd) Galw am un araÌl rhag blaen, a rhan â mi, os wyt ti'n Gristion.
(0, 2) 111 Pe dygid y nesaf yma, ni byddai hwnnw chwaith ddim yn rhydd.
(0, 2) 112 Rhaid i'm harian i dreiglo a gweithio, ymryson ag angau ac â'r diawl ei hun, rhedeg ymhell a gorwedd ar lôg, er mwyn i minnau gael yr eiddof fy hun.
(0, 2) 113 Heblaw hynny, cyst fy nhai lawer i mi; cadw meirch, bytheiaid a gweinidogion, a'r pethau eraill sy'n perthyn i'r busnes, gerddi, pysgodlynnoedd, tir hela mwy o ofal am bethau felly nag am blentyn bach!
(0, 2) 114 [Rhaid eu cadw mewn trefn a'u gwella o hyd, cost fawr i ddechrau a chost wedyn o hyd.]
(0, 2) 115 Hawdd iawn dywedyd "Gŵr cyfoethog," eto llawer trafferth y sydd, a galw arnom o bob cyfeiriad, peth na ddaeth i'th ben di erioed.
(0, 2) 116 Dônt yma o bell ac agos, pob un a'i hawl a phob un a'i angen; [ni chymerai dyn mo'r tricham oddi yma at y wal acw heb fod o hyd a'i law'n agored.]
(0, 2) 117 Purion, ond rhaid cael rheswm a chyfraith hefyd, ac i bawb ofalu am yr hyn a berthyn iddo.
(0, 2) 118 Rwyt ti'n methu yn y fan yma eto.
(0, 2) 119 Pe cyfrifid f'arian a'm heiddo i gyd, a'u rhannu rhwng pob Cristion y byddai arno angen elusen, ni ddeuai mwy i ti na'r swllt hwn, yn sicr.
(0, 2) 120 Am hynny, cymer ef rhag dy flaen, canys dyma dy gyfiawn ran.
(Cydymaith) Diau, fe roddaist iddo synnwyr noeth.
 
(Cydymaith) Wir Dduw! a fo goludog a fydd doeth!
(0, 2) 124 Bellach, ni awn, y mae hi'n hwyrhau.
(Cydymaith) Beth yw'r creadur hwn o ddyn sy ganddynt, a'i ddwylo wedi eu rhwymo'n groes?
 
(Dyledwr) Pe bai llyfr echwyn ambell un yn agored, fe welid bod ynddo lawer peth drwg.
(0, 2) 132 I bwy y mae'r ergyd yna?
(Dyledwr) I'r sawl sy'n holi.
 
(Dyledwr) I'r sawl sy'n holi.
(0, 2) 134 Nid wyf yn deall monot.
(0, 2) 135 Ni wn i ddim am bwy yr wyt ti'n fy nghymryd.
(Dyledwr) Byddai'n gywilydd gennyf fod yn dy groen.
 
(Dyledwr) Byddai'n gywilydd gennyf fod yn dy groen.
(0, 2) 137 Dyna air caled i mi heb achos.
(0, 2) 138 Os drwg dy sut wyt ti, beth a allaf i wrth hynny?
(Cydymaith) Beth?
 
(Cydymaith) Beth!
(0, 2) 142 Pwy roes ergyd i ti?
(Dyledwr) Ti dy hun, ac un drom.
 
(Dyledwr) Ti dy hun, ac un drom.
(0, 2) 144 [Nid adwaen i monot wrth d'olwg.]
(Dyledwr) [Eto dy droed ti sy'n pwyso arnaf.]
 
(Dyledwr) [Eto dy droed ti sy'n pwyso arnaf.]
(0, 2) 146 Peth rhyfedd fyddai fy mod yn gwneud hynny ac heb wybod dim am y peth.
(0, 2) 147 Beth?
(Cydymaith) Beth!
 
(Dyledwr) Mae d'enw di wrth amod sy'n fy mwrw i i garchar.
(0, 2) 150 [Ar fy ngair, pa beth yw hynny i mi?]
(Dyledwr) [Tydi, Pobun wrth d'enw, yw'r gŵr y doed â'r gŵyn yn f'erbyn i yn ei enw ac ar ei gais! Drwy d'orchymyn di yn unig y'm dygir i i'r carchar.]
 
(Dyledwr) [Tydi, Pobun wrth d'enw, yw'r gŵr y doed â'r gŵyn yn f'erbyn i yn ei enw ac ar ei gais! Drwy d'orchymyn di yn unig y'm dygir i i'r carchar.]
(0, 2) 152 'Rwy'n golchi fy nwylo mewn diniweidrwydd, fel un na ŵyr ddim am y peth.
(Dyledwr) [Gweision dy weision, efallai, sy'n rhoi trais arnaf, gorff a meddwl.
 
(Dyledwr) Ond ti dy hun yw'r gŵr sy tu cefn i'r peth, a bydd yn warth arnat yn awr ac am byth.]
(0, 2) 155 [Pwy a barodd iti fenthyg arian ar lôg?
(0, 2) 156 Bellach, dyma'r cyfiawn dâl i ti.
(0, 2) 157 Ni ŵyr f'arian i ddim amdanat ti na minnau, ac ni dderbyniant wyneb neb.
(0, 2) 158 Amser wedi mynd heibio, dydd wedi darfod—dwg dy gŵyn yn eu herbyn hwy.]
(Dyledwr) [Dyma fo'n dirmygu ac yn gwawdio f'angenoctyd i.
 
(Gwraig y Dyledwr) Oni feddi di nag anrhydedd na chydwybod, ai difater gennyt felltith yr amddifaid, ac onid cof gennyt am dy lyfr dyledion di dy hun, y bydd raid iti ei ddwyn gerbron y Barnwr pan ddêl hi at y pedwar peth diweddaf?
(0, 2) 165 Aros, wraig, drwg yr wyt ti'n deall y peth a ddywedi; nid o ddrwg ewyllys yn erbyn dy ŵr y bu hyn; ystyriwyd y cwbl yn llawn ac yn deg cyn rhoi cyfraith arno.
(0, 2) 166 Arian, fel pob masnach arall, y mae arian dan gytundeb a thegwch.
(Cydymaith) Byddai'n warth o beth pe bai'n amgen.
 
(Dyledwr) Nid yw arian fel pob masnach arall; peth melltigedig a llawn hudoliaeth yw; y neb a estynno'i law tuag ato, i'w enaid ei hun y bydd niwed a gwarth nad arbedir ef byth rhagddynt, canys nid oes ar rwyd Satan yn y byd amgen enw nag arian.
(0, 2) 171 Yr wyt yn cablu fel ynfytyn noeth!
(0, 2) 172 Ni wn i pam yr wyf yn aros yma.
(0, 2) 173 Dywed paham y mae dy barch i arian mor brin pryd y byddai yntau'n beth mor ddwyfol i ti!
(0, 2) 174 Wrth fwrw dirmyg arno cyffelyb wyt i'r cadno a'r grawn surion; a'r sawl a ddifenwo unpeth yn ei gefn, ni chaiff hwnnw neb a'i credo ar ei air.
(Dyledwr) [O'm helbul mi enillais rywbeth, sef bod wedi dysgu adnabod magl y diawl, a rhyddhau f'enaid rhag melltith arian.]
 
(Cydymaith) [Gwahanwyd rhwng arian â thithau ers tro—am hynny y mae dy le yng ngharchar.]
(0, 2) 177 Cymer y ddysg hon gennyf i—gŵr doeth a dyrchafedig oedd y sawl a ddyfeisiodd arian i ni, oherwydd drwy hynny, yn lle rhyw gyfnewid pethau a rhyw fan-werthu salw, daeth ein byd ni i gyd i gyflwr uwch, a dyfod pob dyn yn ei gylch ei hun yn ddioed yn debyg i ryw Dduw bychan, [fel y gallo yn ei ffordd gynhyrchu ac achosi llawer o bethau].
(0, 2) 178 Daw i feddu llawer iawn drwy hyn, ac heb na thynnu sylw na chodi sŵn, i reoli llawer mil o ddwylaw, a bod mewn gwirionedd yn llywodraethwr.
(0, 2) 179 Ni bydd dim yn rhy uchel na rhy ddiogel na ellir ei brynu am arian.
(0, 2) 180 Ti elli brynu'r tir a'r gwas ynghyd, a hyd yn oed awdurdod ysgrifenedig y brenin, peth amhrisiadwy bob amser, a pheth a gysegrwyd gan Iesu Grist ei hun; a hyd yn oed o hynny oll, ymhobman, bob amser, ti elli am arian brynu rhan.
(0, 2) 181 Ac ni wn i am un awdurdod tros ben honno; o'i blaen hi bydd raid i bawb blygu, a thalu parch i'r petb sydd yn fy llaw i yma.
(Gwraig y Dyledwr) Nid gwael wyt ti am ganmol diawl—mae'r peth fel pregeth ar dy dafod, a thalu parch yr wyt i god y Mamon, fel pe bai barch i'r cysegr ei hun.
 
(Gwraig y Dyledwr) Nid gwael wyt ti am ganmol diawl—mae'r peth fel pregeth ar dy dafod, a thalu parch yr wyt i god y Mamon, fel pe bai barch i'r cysegr ei hun.
(0, 2) 183 Myfi, rhoi parch yr wyf i lle'r haeddir parch, ac nid cablu lle bynnag y gwelwyf fod gallu.
(Dyledwr) {A'r swyddogion yn ei lusgo ymaith.}
 
(0, 2) 193 Er fy mwyn i, dos ar eu holau, ac edrych yn ddistaw at y peth.
(0, 2) 194 Aed y gŵr i'r carchar, ni thâl poeni dim erddo ef; am y wraig, mi atebaf am gysgod iddi, ac am y peth a fo rhaid iddi at fyw, a'r plant i'w chanlyn, mi a'i rhof iddynt.
(0, 2) 195 Caiff y goruchwyliwr ofalu drosof am hynny, a gwneud ystafell yn barod iddynt; eto, mynnwn fod heb glywed eu llefain na gwybod eu hangen na'u cwyn.
(0, 2) 196 Y mae hyn yn beth blin ddireswm—dyn yn byw'n dawel iddo'i hun, heb un amcan drwg yn wir yn ei feddwl, ac yn sydyn ar y dydd brafiaf fu erioed, ei lusgo fel hyn heb yn wybod iddo sut, i ganol ymryson, chwerwder a chwynfan, a'i fwrw allan o'i dawelwch.
(0, 2) 197 'Rwy'n gofyn i ti, pam y dylwn i ddyfod i mewn i beth fel hyn?
(0, 2) 198 Pa beth sydd a wnelwyf i â helynt y taeog?
(0, 2) 199 'Tynnu ei hun i'r drwbl, ac yna dyfod yma i gwyno ac ochain, hynny oll, wrth gwrs, fel y daw'r naill droed ar ôl y llall.
(0, 2) 200 Codi bwthyn ag arian benthyg; pwy bynnag a fynn dŷ felly, yr un fath y bydd hi arno.
(0, 2) 201 [Dyna'r hanes er dyddiau Adda, nid rhywbeth newydd ddyfod yw.
(0, 2) 202 Ac i ddibennu, mynnai fy ngosod i yn ei esgidiau, ac yntau yn fy nyled am dwr o arian, a bydd cost y chwarae'n disgyn ar hirymaros ac amynedd y gŵr trugarog nad oedd, yn ei olwg ef, ond diawl noeth!]
(0, 2) 203 Ond bellach, a dywedyd y gwir yn blaen, nid oes arnaf i ryw lawer o awydd mynd i weled un ardd bleser, ac y mae hi eisoes yn tywyllu.
(0, 2) 204 Gwna gymwynas eto â mi, fy nghydymaith, ar ôl iti orffen y llall,—dwg y tâl hwn i'r sawl piau, rhag bod i mi flinder oblegid esgeuluso.
(0, 2) 205 Mi rof yr ardd bleser a'r tŷ pleser ynddi yn rhodd i'm meistres ar ben eì blwydd eto.
(Cydymaith) Honno y caf i dy weled gyda hi heno?
 
(Cydymaith) Mi ddof â'r dangosiad am y tâl iti yno, wedi ei gwpla yn ôl d'ewyllys.
(0, 2) 208 Llawer o ddiolch i ti, gydymaith da, mae awydd arnaf am brysuro yno—dyna'r unig fan yn y byd na bydd ynddo ddim yn andwyo fy mhleser; rhyw wynfyd cwbl baradwysaidd yw'r croeso parod a gaf ganddi hi.
(0, 2) 209 Am hynny, f'ewyllys yw bod pa beth bynnag a ddygaf yn rhodd iddi hi yn dangos fy niolchgarwch iddi megis mewn drych.
(Cydymaith) Pa fodd y gwnei di hyn, ym mha ryw ddull?
 
(Cydymaith) Pa fodd y gwnei di hyn, ym mha ryw ddull?
(0, 2) 211 Trefnais yr ardd gyda gofal, a bod tŷ pleser i fod yn ei chanol, a'r gwaith yn union wrth fy mryd fy hun, megis llwyfan agored, a cholofnau teg o faen yno, a dwfr yn neidio i'r awyr a delwau pres na bont yn ôl am un addurn; ac yno hefyd, gosod y gwelâu fel y bo arogleuon blodau o lawer math yn llenwi awel y bore a'r hwyr, lilîau, rhosynnau a lafant.
(0, 2) 212 [Hefyd, mynnais drefnu bod yno lwybrau i bob cyfeiriad, a bwâu wedi eu plethu o fân geinciau'r coed a'r rheiny mor dewion fel y caffo dyn gysgod rhag y gwres a hyfrydwch yno ar ganol y dydd tecaf, lle ni wywo dim rhag y tes.]
(0, 2) 213 At hynny, mewn rhyw lannerch gudd, megis gwely y ryw dduwies, mi fynnaf gael ystafell o faen llyfn caboledig, a bâdd ynddi.
(Cydymaith) Gardd fach odidog yn sicr, ac nid hawdd taro ar ei thebyg.
 
(Cydymaith) Gardd fach odidog yn sicr, ac nid hawdd taro ar ei thebyg.
(0, 2) 215 Mi roddaf honno i'm hanwylyd, a'i harwain hithau yno gerfydd ei dwy law, fel y gwelo hi yn yr ardd fach werthfawr hon ei llun ei hunan megis mewn drych; [lle fydd hwn fydd yn fy llawn foddhau i bob amser, a thes a chysgod hyfryd yn fy llonni, a gardd fach dawel megis hon fydd dedwyddwch a golud y garddwr].
(Cydymaith) Mi welaf dy fam yn dyfod draw.
 
(Cydymaith) Afynni di gyfarfod â hi yma?
(0, 2) 218 Ni fynnwn ei hysgói hi, ond yn wir nid oes imi ond ychydig amser.
(0, 2) 219 Dos di a dwg i mi'r dangosiad cymwys am yr arian, tra bwyf innau yn ei chyfarch hi.
(Mam Pobun) Fy mab, y mae'n llawen gennyf dy weled, canys mawr boen i'm calon yw na bydd gennyt nemor amser i ymddiddan â mi, gan faint dy brysurdeb gyda phethau'r byd.
 
(Mam Pobun) Fy mab, y mae'n llawen gennyf dy weled, canys mawr boen i'm calon yw na bydd gennyt nemor amser i ymddiddan â mi, gan faint dy brysurdeb gyda phethau'r byd.
(0, 3) 221 Mae awel yr hwyr yn ddrwg ei naws, a'ch iechyd chwithau'n wan a bregus, fel na allaf beidio â phryderu wrth eich gweled yma.
(0, 3) 222 Oni ddowch i mewn i'r tŷ?
(Mam Pobun) A ddoi di gyda mi ac aros gartref?
 
(Mam Pobun) A ddoi di gyda mi ac aros gartref?
(0, 3) 224 Am heno ni all hynny fod.
(Mam Pobun) Felly, ni ddigi di ddim wrthyf am dy gadw yn y fan yma.
 
(Mam Pobun) Felly, ni ddigi di ddim wrthyf am dy gadw yn y fan yma.
(0, 3) 226 Poeni yr wyf am eich iechyd chwi—hwyrach y caem ryw gyfle eto.
(Mam Pobun) Am fy iechyd i nid rhaid iti mo'r poeni; yr wyf i eisoes ag un troed yn y bedd; nid oes arnaf i ddim pryder am fy iechyd yn y byd yma, ond yn hytrach am fy iechydwriaeth yn y byd tragywydd.
 
(Mam Pobun) Ac eto, rhwng heddiw ac yfory, gallai ddyfod cennad oddi wrtho ef yn sydyn a'th alw ger bron Gorsedd ei farn Ef i roddi iddo Ef gyfrif clir o'th holl fywyd ar y ddaear.]
(0, 3) 233 [Fy mam, nid gwawdio yw f'amcan i, ond mi wn mai hoff iawn gan yr offeiriaid fwgwth pobl; dyna'u hunig amcan yn y byd—lladd ar gyfoeth, os gennym ni y bydd, er mwyn ei gael at eu gwasanaeth eu hunain.
(0, 3) 234 Gresyn yw meddwl na wnant ddim ond pwnio rhyw syniadau tywyll ym mhennau hen bobl a rhai afiach.]
(Mam Pobun) [Yn rhywle arall y bydd y tywyllwch yn dew, ond clir a golau yw'r syniadau hyn.
 
(Mam Pobun) O, y sawl a gofio yn ei galon bob amser am awr angau, am hwnnw nid rhaid i galon mam ddwyn na phryder na phoen.]
(0, 3) 238 [Yr ydym ni'n Gristnogion da, yn gwrando ar bregethau, yn rhoi elusennau, ac yn byw'n ddibriod.]
(Mam Pobun) Ond sut, pan gano utgorn y Farn, y gelli di roi cyfrif clir am dy holl olud i Dduw, fel y caffech naill ai marwolaeth ai bywyd yn dragywydd?
 
(Mam Pobun) Fy mab, peth drwg ydyw marw, a pheth gwaeth fyth yw llygredigaeth dragywydd.
(0, 3) 241 Nid wyf i eto brin ddeugain mlwydd oed, ac ni chaiff neb drwy orfod beri i mi beidio â'm pleserau daearol.
(Mam Pobun) A fynni di guddio dy ben yn y tywod, ac oni weli di'r angau, a ddichon syrthio arnat un adeg?
 
(Mam Pobun) A fynni di guddio dy ben yn y tywod, ac oni weli di'r angau, a ddichon syrthio arnat un adeg?
(0, 3) 243 [Yr wyf yn ieuanc o galon ac yn iach drwodd a thro, a mynnaf fwynhau fy mywyd.
(0, 3) 244 Fe ddaw'r amser yn ddigon buan pryd y bydd cymwys i mi edifarhau ac ymroddi.]
(Mam Pobun) [Y mae bywyd yn llifo heibio fel dwfr, ac nid yn hawdd y try'r meddwl.]
 
(Mam Pobun) [Y mae bywyd yn llifo heibio fel dwfr, ac nid yn hawdd y try'r meddwl.]
(0, 3) 246 [Fy mam, diflas yw'r ymddiddan hwn i mi; dywedais eisoes nad oes gennyf heddiw mo'r egwyl.]
(Mam Pobun) [Fy mab annwyl!]
 
(Mam Pobun) [Fy mab annwyl!]
(0, 3) 248 [Bryd arall, mi fyddaf yn ufudd iawn ac yn barod i'ch gwasanaethu.]
(Mam Pobun) [Y mae f'ymddiddan yn ddiflas ddigon gennyt ac y mae hynny yn dyblu fy nhristwch innau.
 
(Mam Pobun) Felly, gwrando un gair eto, rhag dy flino ag ymddiddan hir—cofia'r Arglwydd dy Dduw, a hefyd roddion mawr Ei ras; y saith sagrafen sanct, [o'r rhai y daw pob lles i ni a chymorth i'n gwendid bawb ohonom ym mhob modd, a nerth i ni at daith y bywyd hwn].
(0, 3) 252 Pa beth—
(Mam Pobun) Yr wyt yn ŵr golygus, a chariad gwragedd wrth dy fodd.
 
(Mam Pobun) A fynni di fyth ymdrôi mewn chwant a bod yn ddieithr i gyflwr glân briodas?
(0, 3) 256 [Fy mam, mi wn yr ystori hon yn dda.]
(Mam Pobun) [Eto, ni throes dy galon di ddim.]
 
(Mam Pobun) [Eto, ni throes dy galon di ddim.]
(0, 3) 258 [Ni ddaeth yr amser i hynny eto.]
(Mam Pobun) [Ac eto, ag angau mor agos!]
 
(Mam Pobun) [Ac eto, ag angau mor agos!]
(0, 3) 260 Nid wyf yn dywedyd nac ie na nage.
(Mam Pobun) Felly rhaid i minnau fod fyth mewn pryder.
 
(Mam Pobun) Felly rhaid i minnau fod fyth mewn pryder.
(0, 3) 262 Daw dydd eto yfory.
(Mam Pobun) Pwy a ŵyr pwy a'i gwêl?
 
(Mam Pobun) Pwy a ŵyr pwy a'i gwêl?
(0, 3) 264 Peidiwch â phoeni heb achos, fe'm gwelwch yn ŵr priod eto, yn sicr.
(Mam Pobun) Fy mab annwyl, am y gair yna, boed fy mendith arnat; [llawer o ddiolch am dy glywed yn addef peth mor dda].
 
(Mam Pobun) Fy mab annwyl, am y gair yna, boed fy mendith arnat; [llawer o ddiolch am dy glywed yn addef peth mor dda].
(0, 3) 266 [Nid sôn yr oeddwn am heddiw nac yfory.]
(Mam Pobun) [Cyhyd ag na bo'r ewyllys yn erbyn hynny, bydd calon mam yn fodlon iawn lle ni chaffer ond y gair lleiaf a fo da.
 
(Mam Pobun) Nid yw dy fwriad ond bychan a gwan eto, ond y mae'n tueddu at beth sanctaidd] ac y mae'r ateb hwn a roddaist yn tynnu baich trwm oddi ar fy nghalon i.
(0, 3) 269 Nos da, nos da, fy mam, gobeithio y cewch orffwyso'n dawel.
(Mam Pobun) Mi gaf, fy mab annwyl; ac y mae i mi fel pe bai sain mor fwyn â sain pib a thelyn i'w chlywed yn adseinio yn d'eiriau di!
 
(Mam Pobun) Cymeraf hwy fel rhybudd y byddaf innau farw yn fuan iawn.
(0, 3) 274 Fe glywaf innau adsain felly hefyd!
(0, 3) 275 Ai rhyfeddod yw hynny, meddwch chwi?
(0, 3) 276 O, na, peth a ddigwydd yn naturiol yw, er na wn i ddim ychwaith pa fodd i'w esbonio.
(0, 3) 277 Ac yn awr, nid yn unig i'm clyw y daw, ond hefyd o flaen fy llygaid.
 
(0, 3) 279 Ha, dyma hi, f'anwylyd, y mae fy nghalon eisoes yn hiraethu amdani.
(0, 3) 280 Chwaryddion yn ei chanlyn yn llu a hithau'n dyfod i'm ceisio.
(Meistres Pobun) Y sawl a fynno gadw pawb i ddisgwyl yn rhy hir amdano ac yntau'r pennaf o'r cwmpeini oll, yna bydd raid myned gyda symbalau a ffaglau i'w geisio a'i ddwyn at ei ddyletswydd.
 
(Meistres Pobun) Y sawl a fynno gadw pawb i ddisgwyl yn rhy hir amdano ac yntau'r pennaf o'r cwmpeini oll, yna bydd raid myned gyda symbalau a ffaglau i'w geisio a'i ddwyn at ei ddyletswydd.
(0, 3) 282 Y mae d'oleuni di yn drech na'r ffaglau oll, a'th eiriau'n bereiddiach na sain telyn.
(0, 3) 283 Y mae hyn oll i mi yr awr hon fel balm i glwyf agored.
(Meistres Pobun) Yr oeddwn yn tybio, cyn i mi gyrraedd atat, fod rhywun yma yn d'ymyl yn peri rhyw ddrwg ti.
 
(Meistres Pobun) Yr oeddwn yn tybio, cyn i mi gyrraedd atat, fod rhywun yma yn d'ymyl yn peri rhyw ddrwg ti.
(0, 3) 285 A roddi di gymaint o bris arnaf nes sylwi ar bethau felly?
(0, 3) 286 Nid rhyw hen ddyn annymunol ydwyf iti felly, mewn gwirionedd?
(Meistres Pobun) Mae'r geiriau hyn yn peri poen i mi, ac ni ddisgwyliwn monynt gennyt chwaith.
 
(Meistres Pobun) Ni'm denir i gan bob rhyw hogyn gwirion, tydi dy hunan yw fy nghariad i—a'm gŵr.
(0, 3) 289 Yr wyf yn wir yn teimlo'n ieuanc o galon ac o'm rhan fy hun yn ddigon tebyg i hogyn, ac os wyf wedi peidio â bod yn hogyn erbyn hyn, y mae fy nheimlad lawn |mor| dyner.
(Meistres Pobun) Peth hy yw cariad hogyn, peth heb barch; peth tyner, mawr ei fryd, yw cariad gŵr.
 
(Meistres Pobun) Bydd ei law ef yn hael a'i fryd yn gyson, hynny fydd yn tynnu merched ato.
(0, 3) 292 Pan goffaer dyn am angau, a'i fod yntau'n brudd ei fryd, bydd gweld d'anwyldeb di yn ddigon i chwalu'r meddyliau trymllyd.
(Meistres Pobun) Y mae'r gair yna'n gyrru ofn arnaf.
 
(Meistres Pobun) Y mae angau fel sarff wenwynig, yn gorwedd o'r golwg dan y blodau—ni ddylid byth mo'i deffroi hi.
(0, 3) 295 F'anwylyd, a berais i boen i ti?
(0, 3) 296 Gadawn iddi ymguddio dan y blodau; na boed i ni gofio dim yn y byd am un sarff, ond am ddwy yn cofleidio'n annwyl.
(Meistres Pobun) A adwaen innau'r ddeubeth hyn, a pha beth yw eu henwau?
 
(Meistres Pobun) A adwaen innau'r ddeubeth hyn, a pha beth yw eu henwau?
(0, 3) 298 Dy freichiau annwyl di ydynt hwy, a mynnwn orwedd ynddynt.
(Y Prif Gantor) {Yn canu.}
 
(Y Cwbl) Y gwynfyd a gaed.
(0, 4) 340 Croeso i chwi bawb, a diolch i chwi heno am roddi arnaf yr anrhydedd olaf.
(Car Tew) Duw fo'n gwarchod, y câr Pobun, beth yw rhyw gyfarchiad fel yna?
 
(Meistres Pobun) Pa beth sydd arnat, beth sy'n dy flino?
(0, 4) 344 Rhywbeth yn dyfod dros wefus dyn heb yn wybod iddo!
(0, 4) 345 Ond, y croeso gorau yn y byd i chwi bawb!
(Meistres Pobun) Cymerwch eich lleoedd fel y mynnoch!
 
(Meistres Pobun) Eistedda ni i lawr.
(0, 4) 351 Pam y maent hwy yn eistedd bob un yn ei amdo!
(Meistres Pobun) Beth sydd o'i le arnat?
 
(Meistres Pobun) A wyt ti'n glaf, dywed?
(0, 4) 354 Ha-ha!
(0, 4) 355 Rhyw syniad gwrthun ar ddamwain!
(0, 4) 356 Mi yfaf gwpanaid o win i glirio rhyw ddylni felly o'r ymennydd.
(Meistres Pobun) Eistedd!
 
(Meistres Pobun) Dywed ryw air caredig wrthynt!
(0, 4) 359 Ai yma y dylech chwi fod, bobl?
(0, 4) 360 Yr ydych yn edrych yn union fel estroniaid i mi.
(Car Tenau) Yr argen fawr, fy nghâr Pobun, a fynnech chwi'n gyrru ni adref eto?
 
(Car Tew) 'Rwyf i'n ddigon cartrefol lle'r wyf.
(0, 4) 365 Ie, ie,... dim ond... ond yr oedd yn fy meddwl i gynneu, pan ddaethoch i mewn yma gyntaf, y gallswn eich prynu i gyd a'ch gwerthu wedi hynny hefyd, ac na buasai hynny'n fwy o beth i mi na phe bawn yn torri f'ewin.
(Gwahoddedig 1) Beth a wnawn ni o ryw siarad cras fel hyn?
 
(Meistres Pobun) Am ba beth y mynni di roi cosb arnaf i, dywed?
(0, 4) 373 Dy gosbi di, f'anwylyd?
(0, 4) 374 Peth pell o'm meddwl i yw hynny—yr wy'n dy garu fel cannwyll fy llygad fy hun.
(0, 4) 375 Rhaid fy mod yn rhyw feddwl ar ddamwain sut olwg fyddai arnat pe daethai'r newydd i ti yn sydyn gan rywun fod yn rhaid i mi farw yr awr hon.
(Meistres Pobun) Er mwyn cariad Crist, pa beth sydd o'i le arnat, fy nghariad annwyl?
 
(Meistres Pobun) Dyma fi gyda thi, gwel fi, eiddot ti wyf, heddiw ac yn dragywydd.
(0, 4) 378 Pe gofynnwn
(0, 4) 379 A arhosi di gyda mi?
(0, 4) 380 A fynni di fod gyda mi'r tu draw megis y tu yma?
(0, 4) 381 A fynni di ddyfod i'm canlyn i'r fan draw, a chymryd rhan o'm gwely oer-fel-yr-ia?
(Meistres Pobun) Duw fo'n gwarchod!
 
(Meistres Pobun) Duw fo'n gwarchod!
(0, 4) 383 Syrthit yn ddideimlad wrth fy nhraed, fel y byddai raid i minnau edifarhau am ofyn y fath beth?
(0, 4) 384 Pe [ceisiwn gennyt ddyfod y ffordd honno, rhewai dy waed yn dy wythiennau; byddai'n artaith ddwbl i minnau, fel bustl a gwinegr ynghyd pe] bai raid i mi edrych a'm llygaid fy hun a gweld na thalai dy lw serchog ddim yn hwy, ac fel y gollyngai dy law fy llaw innau yn y diwedd, ac fel y tynnit dy wefusau oddi wrth fy ngwefusau i yn yr awr olaf!
(0, 4) 385 O, gwae!
 
(Meistres Pobun) Ni welais erioed mono fel hyn o'r blaen.
(0, 4) 392 Dduw trugarog!
(Meistres Pobun) Ni wn i ddim beth a all fod wedi digwydd iddo.
 
(Gwahoddedig 2) Lle'r aeth fy nghariad chwim ei droed."]
(0, 4) 447 Byddwch lawen, geraint a chyfeillion hoff; nid oeddwn gynneu ddim yn teimlo'n rhyw dda iawn, ond erbyn hyn fe'm gwnaeth y ddiod eto'n iach.
(0, 4) 448 Croeso i bawb ohonoch at fy mord gron.
(0, 4) 449 'Roedd rhywbeth megis yn pwyso ar fy mron, ond yn awr, dyma eto ddyblu pleser bywyd.
(0, 4) 450 Dedwyddwch yw ein bod ni yma gyda'n gilydd—mae hynny i mi fel gwin gwir lawenydd.
(0, 4) 451 Y mae fy nghalon yn fwy na llawn, ni wn i ddim yn wir pa beth a ddywedaf.
(0, 4) 452 Peth gwerthfawr yw ein bywyd yn y byd, ysblennydd ydyw bywyd oll o'n hamgylch ni, Ie, serch a chyfeillgarwch, mawr yw eu gwerth, a'r sawl a'u caffo hwy, ni fynn ei galon fwy; [ac os ceir hefyd gân a gwin, llawenydd y tu hwnt i fesur fydd hynny].
(0, 4) 453 Gyfeillion hoff, 'rwyf yn eich caru yn wir; mwynhewch yr awr i'r eithaf oll; na boed eich gyddfau'n segur, doed cân allan, aed gwin i mewn, clymed eich lleisiau yn y gân, a phawb a'i goflaid ganddo'n dynn, [mwynhewch yr awr ddedwyddaf hon â chalon, gwefus, llygad, llaw!]
(0, 4) 454 Na boed eisiau hir grefu arnoch, tyrd, dyro inni gân, fy annwyl gâr.
(Car Tew) [Fy nghyfaill tenau, gwae ni, gwae ni, cawn glywed ei gân am yr eira oer!]
 
(Car Tenau) O gwrando, Wener lân!
(0, 4) 470 Ond pa sŵn clychau yw hwnyna?
(0, 4) 471 'Rwy'n meddwl nad arwydd da mono!
(0, 4) 472 Sain groch a brawychus, yn gyrru ias a gloes drwy galon dyn!
(0, 4) 473 Paham y cân y clychau ar yr awr hon?
(Gwahoddedig 1) Nid oes dim yn y byd i'w glywed,
 
(Meistres Pobun) Da chwithau, na thewch â chanu.
(0, 4) 484 ['Rwy'n erfyn na sonioch ddim mwy am y peth—ni chlywaf mono mwy, pob peth yn dda.]
(Car Tew) O ryw ddrwg yn y gwaed y cyfyd peth fel hyn.
 
(Car Tew) Mi baraf dwymo cwpanaid o win eto i chwi.
(0, 4) 487 Llawer o ddiolch, fy nghâr, ond gadewch hynny.
(Lleisiau) Pobun! Pobun! Pobun!
 
(0, 4) 494 Fy Nuw!
(0, 4) 495 Pwy sy'n galw arnaf?
(0, 4) 496 O ble y gelwir arnaf?
(0, 4) 497 Ni byddaf ddedwydd byth eto tra bwyf!
(Cydymaith) Pobun, [fy nghar,] yr wyf i ger llaw,
 
(Lleisiau) Pobun!
(0, 4) 502 Dywed, fy nghyfaill, pwy sy'n galw "Pobun"' mor groch?
(Car Tenau) Atsain ein canu ni sy'n rhedeg yn eich clustiau, efallai.
 
(Car Tenau) Atsain ein canu ni sy'n rhedeg yn eich clustiau, efallai.
(0, 4) 504 Na, na!
(0, 4) 505 Sŵn ofnadwy, yn uchel ac yn gryf, nid yn ysgafn.
(0, 4) 506 Fel hyn: "Pobun, Pobun!" ond yn uwch nag y gallwn i ei ddynwared.
(0, 4) 507 Yn swnio'n ddieithr ac eto'n gynefin hefyd.
(0, 4) 508 O ba uffernol fan y gallent fod yn galw arnaf?
(0, 4) 509 Ni chaf i byth ddim cysur eto, na chaf!
(0, 4) 510 Yna, yna, eto!
(0, 4) 511 Clywch mor groch y maent yn galw "Pobun!"
(Meistres Pobun) Ni chlywaf i ddim sain.
 
(Cydymaith) A gaf i d'arwain di i'r tŷ.
(0, 4) 520 Pan drof fy ngolwg atoch, daw fy nerth yn ôl i mi, [hynny yw, ni allai'r fath gri ddigwydd ddwywaith yma.
(0, 4) 521 Gwna'r goleuni disglair les mawr i mi.
(0, 4) 522 Eistedd yn f'ymyl yma, fy nghydymaith,] a boed i'r gwahoddedigion bawb gyrraedd at bethau a'u digoni eu hunain oll.
(0, 4) 523 Yfory cymeraf gyfle i ymgynghori â meddyg, er mwyn cael gwared rhag y drybini yma cto.
(Meistres Pobun) Rhaid iti addo hynny i mi, f'anwylyd!
 
(0, 5) 528 Er mwyn Duw, dywed, fy nghariad, pam y llysg y golau mor wan?
(0, 5) 529 A phwy sydd y tu cefn i mi yma?
(0, 5) 530 Ni cherdd ar wyneb daear ei debyg o ddyn.
(Angau) Pobun, a wyt ti mor llawen dy fryd?
 
(Angau) A lwyr anghofiaist ti dy grewr?
(0, 5) 535 Paham y gofynni hynny yn awr?
(0, 5) 536 A yw'n dy boeni di?
(0, 5) 537 Pwy wyt?
(0, 5) 538 Pa beth a fynni?
(Angau) Oddi wrth Fawrhydi dy luniwr y'm danfonwyd atat ti, a hynny ar frys; o'r herwydd, yma y safaf.
 
(Angau) Oddi wrth Fawrhydi dy luniwr y'm danfonwyd atat ti, a hynny ar frys; o'r herwydd, yma y safaf.
(0, 5) 540 Sut?
(0, 5) 541 Dy anfon ataf i?
 
(0, 5) 543 Gallai hynny fod.
(0, 5) 544 Gallai!
(0, 5) 545 Fy nghydymaith da, fy meistres annwyl...
(Meistres Pobun) Cymorth, Arglwydd Waredwr!
 
(0, 5) 549 Pa beth a fyn fy Nuw gennyf i?
(Angau) Mi ddywedaf iti.
 
(Angau) Cyfrif, dyna a fynn gennyt, heb oedi!
(0, 5) 552 Nid wyf i mewn modd yn y byd yn barod i fedru rhoi cyfrif felly.
(0, 5) 553 Pe bai raid i mi ei roi, fe fyddai'n helbul arnaf.
(0, 5) 554 Nid adwaen i mohonot ychwaith—pa gennad ydwyt ti?
(Angau) Dyma fì, Angau!
 
(Angau) Nid arbedaf neb.
(0, 5) 560 [Beth?
(0, 5) 561 Nid oedi di ddjm amdanaf; a disgyn yr wyt ar ddyn heb rybudd yn y byd, a'i hoedl yntau ar ei gorau?
(0, 5) 562 Gwaed Duw!
(0, 5) 563 Nid chwarae teg mo hynny; ni chei di nemor glod erddo, canys fel yr wyf newydd ddywedyd, nid wyf i ddim yn barod; nid parod ychwaith mo'r llyfr cyfrif; pe cawn i eto ddeng mlynedd neu ddeuddeg, byddai'r llyfr mewn trefn gennyf, fel na byddai arnaf un ofn.
(0, 5) 564 Mi wnawn hynny drwy gymorth Duw.
(0, 5) 565 Gad lonydd imi, drwy drugaredd Dduw, gael imi roddi trefn ar amgylchiadau.]
(Angau) [Ni thâl na dagrau na gweddi yma, rhaid cychwyn ar y daith rhag blaen.]
 
(Angau) [Ni thâl na dagrau na gweddi yma, rhaid cychwyn ar y daith rhag blaen.]
(0, 5) 567 O Dduw trugarog ar d'orsedd yn y nef, tosturia wrthyf yn fy nghyfyngder.
(0, 5) 568 Oni chaf ar yr hynt hon ddim un i gyd-deithio â mi ond y sawl a ddanfonaist?
(0, 5) 569 Ai rhaid i mi fynd o'r byd hwn heb un i'm tywys, mi, na byddwn yma byth ar fy mhen fy hun, ond y byddai raid i mi bob amser gael cymdeithion?
(Angau) Dyma ben ar bob cymdeithas, ni waeth i ti heb wasgu dwylaw'n ofer.
 
(Angau) [Ai tybio'r oeddit yn d'ynfydrwydd mai at dy wasanaeth di dy hun y rhoed iti dda'r byd hwn, yn gystal a'th einioes dy hun?]
(0, 5) 573 Felly yn wir y meddyliwn.
(Angau) [Nid felly; nid oedd y cwbl ond echwyn i ti; wedi dy fynd ti ymaith, eiddo arall fydd y cwbl, ac wedi ennyd, tery ei awr yntau yn ei dro, a rhaid iddo adael y cwbl a mynd.]
 
(Angau) Chwyrn y byddaf i'n dyfod.
(0, 5) 576 [Dim ond un diwrnod! Dim ond heno, hyd godiad haul, fel y gallwyf drwy edifarhau fynd i mewn i mi fy hun a gwrando ar ddysg yr offeiriad a'm gwneud fy hun yn well, fel y mynnit ti.]
(Angau) [Ni allaf i ganiatáu mo hynny.
 
(Angau) Pan fyddaf i'n dyfod wyneb yn wyneb â dyn, rhof ergyd chwyrn i'w galon, ac ni bydd rybudd ymlaen llaw.]
(0, 5) 579 Gwae fi, daeth amser wylo arnaf!
(Angau) Ni bydd wylo ond gwastraffu amser.
 
(Angau) Ni bydd wylo ond gwastraffu amser.
(0, 5) 581 Gwae fi, pa beth a wnaf?
(0, 5) 582 Pe na bai i mi ond rhyw orig fach yn rhydd i gael hyd i ryw gydymaith, fel na byddai raid i mi fod o flaen fy marnwr ar fy mhen fy hun yn unig.
(Angau) Ai tybio'r wyt ti y gellit ddyfod o hyd i rywun o'r fath?
 
(Angau) O'm rhan fy hun, rhof iti fy ngair mai gwrthod y gymwynas a wnai pawb.
(0, 5) 585 Dim ond na bawn yn unig yn y farn honno!
(0, 5) 586 Dim ond orig i gael ymddiddan a chyngor, er mwyn tosturi Crist!
(Angau) O'r gorau, mi af o'r golwg; eto, cymer ofal rhag ofera'r oediad hwn, ond ei ddefnyddio'n gall fel Cristion.
 
(0, 6) 590 F'annwyl gydymaith, fe wyddost, fe wyddost—
(Cydymaith) Gwn.
 
(Cydymaith) Bellach, daw'r dagrau i'm llygaid wrth edrych arnat, Pobun, fy nghydymaith.
(0, 6) 596 Llawer o ddiolch iti, f'annwyl gydymaith.
(Cydymaith) Beth sy'n dy flino eto, dywed rhag blaen.
 
(Cydymaith) Beth sy'n dy flino eto, dywed rhag blaen.
(0, 6) 598 [Buost yn gyfaill da i mi erioed, cefais di bob amser yn ffyddlon.]
(Cydymaith) [Ac felly y'm cei bob amser hefyd.
 
(Cydymaith) A choelia fi, pe bai dy daith yn union ar ei phen i uffern, fe'm ceit i'n gydymaith hyd y fan.]
(0, 6) 601 [Rhoed Duw, fy nghyfaill hoff, mai teilwng fwyf innau ohonot.]
(Cydymaith) [Nid teilyngdod yw'r peth, buasai'n gywilydd o'r mwyaf gennyf pe na bawn i onid yn bostio ar air a'm bod wedyn yn amharod yn fy ngweithred.]
 
(Cydymaith) [Nid teilyngdod yw'r peth, buasai'n gywilydd o'r mwyaf gennyf pe na bawn i onid yn bostio ar air a'm bod wedyn yn amharod yn fy ngweithred.]
(0, 6) 603 Fy nghyfaill!
(Cydymaith) Siarad â mi yn rhydd, rhaid ì mi gael popeth yn glir o'th enau di dy hun; mi safaf gyda thi hyd yr awr olaf, yn gymwys fel y dylai Cydymaith Da.
 
(Cydymaith) Cânt eu cosb o'm llaw i fy hun â'r dur miniog, pe bai raid i mi lyfu'r llwch am hynny.]
(0, 6) 610 Nid wy'n poeni dim am bethau felly, Duw a'i gŵyr!
(Cydymaith) 'Rwyt ti'n poeni llawer efallai ynghylch dy arian a'th eiddo, am nad oes iti'r un etifedd.
 
(Cydymaith) 'Rwyt ti'n poeni llawer efallai ynghylch dy arian a'th eiddo, am nad oes iti'r un etifedd.
(0, 6) 612 [Nac wyf, gyfaill, nac wyf!
(Cydymaith) [Nid rhaid wrth lawer o eiriau—fe saif d'ymddiried ynof fi.
 
(Cydymaith) Mae'r weithred brynu'r tir hwnnw'n ddigon diogel; tebyg mai d'ewyllys fyddai fynd dy gyfoeth i'th feistres serchog, gymaint ag a fo teg, dros byth.]
(0, 6) 615 [Na, annwyl gyfaill, gwrando arnaf]
(Cydymaith) [Arbed i ti dy hun y drafferth, Pobun, deallaf di heb lawer iawn o eiriau.]
 
(Cydymaith) [Arbed i ti dy hun y drafferth, Pobun, deallaf di heb lawer iawn o eiriau.]
(0, 6) 617 Och! peth arall sy'n fy mhoeni i, [peth llawer nes,] fy nghyfaill annwyl.
(Cydymaith) [Allan ag ef, gad ei glywed rhag blaen—o enau cyfaill cysur fydd.]
 
(Cydymaith) [Allan ag ef, gad ei glywed rhag blaen—o enau cyfaill cysur fydd.]
(0, 6) 619 [Ie, tydi, fy nghyfaill.]
(Cydymaith) [Onid egluri di i mi?
 
(Cydymaith) Efallai nad erys i ti lawer o amser.]
(0, 6) 622 [Och fi! peth chwerw fyddai hynny.]
(Cydymaith) [Dywed imi'r peth! ar unwaith, Pobun.
 
(Cydymaith) Pa beth a dâl cyfeillgarwch onid hynny?]
(0, 6) 625 [Pe tywalltwn fy nghalon allan i ti ac i tithau droi dy gefn arnaf a digio wrth fy ngeiriau, yna byddai imi gymaint ddengwaith o flinder a gwae!]
(Cydymaith) [Syr, fel y dywedais wrthych eisoes, felly y gwnaf.]
 
(Cydymaith) [Syr, fel y dywedais wrthych eisoes, felly y gwnaf.]
(0, 6) 627 [Taled Duw i ti.]
(0, 6) 628 Gorchmynnwyd i mi fynd ymaith.
(0, 6) 629 Y mae'r ffordd yn bell a llawn blinder; a pha beth wedyn?
(0, 6) 630 [Rhaid i mi roi cyfrif o'm cyfoeth a'm holl fywyd, ger bron fy lluniwr a'm barnwr goruchaf!]
(0, 6) 631 Am hynny, dyred gyda mi, fy nghydymaith ffyddlon, fel yr addewaist eisoes.
(Cydymaith) Ie, ie.
 
(Cydymaith) Addo, a gwrthod wedyn, cywilydd i mi fyddai hynny—mae meddwl am hynny'n fy ngyrru'n boeth.
(0, 6) 635 O, dydi!]
(Cydymaith) Eto, cyn cychwyn ar y daith, fe ddylid cymryd cyngor da.
 
(Cydymaith) Eto, cyn cychwyn ar y daith, fe ddylid cymryd cyngor da.
(0, 6) 637 Beth!
(0, 6) 638 Dywedaist wrthyf eisoes na throit mo'th gefn arnaf nac yn fyw nac yn farw, hyd yn oed ped ai'r ffordd ar ei hunion i uffern.
(Cydymaith) Do, dyna oedd fy ngeiriau, yn gywir!
 
(Cydymaith) Ha, dyro ateb?
(0, 6) 643 Ni ddoem yma mwy.
(0, 6) 644 Ni ddoem mwy hyd ddydd barn.
(Cydymaith) Yna, myn crog Crist, mi arosaf yma.
 
(Cydymaith) Os dyna ystyr yr alwad, yna, dyma fel y saif pethau—nid af i ddim i'r daith.
(0, 6) 647 Nid ei di?
(Cydymaith) Nid af.
 
(Cydymaith) Gwyddost fy mod i yn agored bob pryd, bid fel y bo, dyma fonid af i ddim i'r daith, er mwyn un enaid byw, yn wir; ie, nid awn er mwyn fy nhad fy hun,—rhoed Duw iddo heddwch tragywydd er hynny.]
(0, 6) 652 Yn enw Duw!
(0, 6) 653 Peth arall a addewaist i mi!
(Cydymaith) Da gwn.
 
(Cydymaith) A phe byddit ti'n dymuno rhywbeth arall, bod gyda'r merched yn gwmpeini da, neu beth a fynni, yna, ceit fy ngweled wrth dy ystlys cyhyd ag y rhoddai Duw ddiwrnod teg, neu gyda'r ffaglau tân ar ôl iddi nosi—yr wyf yn dywedyd hyn oll o ddifrif.
(0, 6) 658 O, gyfaill, os gallaf eto d'alw di felly.
(Cydymaith) Pa un bynnag ai cyfeillion fuom ai peidio, o hyn allan ni cherddaf i gam gyda thi.
 
(Cydymaith) Pa un bynnag ai cyfeillion fuom ai peidio, o hyn allan ni cherddaf i gam gyda thi.
(0, 6) 660 'Rwy'n erfyn arnat, gwna gymaint â hynny er mwyn tosturi Crist, a dyred i'm canlyn hyd at borth y ddinas.
(Cydymaith) {Gan droi ymaith.}
 
(Cydymaith) Rhoed Duw iti daith ysgafn a hwylus hyd yno, rhaid i mi brysuro ar fy ffordd.
(0, 6) 666 [{gan roi cam ar ei ôl.}
(0, 6) 667 I ble'r ei, fy nghyfaill?
(0, 6) 668 A adewi di fi yn llwyr?]
(Cydymaith) [Yn llwyr, lwyr.
 
(Cydymaith) Cymered Duw drugaredd ar d'enaid.]
(0, 6) 671 Da boch, fy nghyfaill, y mae fy nghalon yn friw o'th achos di.
(0, 6) 672 Da boch bob pryd, ni welaf i monot fyth eto.
(Cydymaith) Da boch dithau, Pobun, da boch.
 
(Cydymaith) Ie, trist iawn yw gwahanu, 'rwy'n deall hynny'n awr.
(0, 7) 677 [Gwae fi!
(0, 7) 678 I ba le'n y byd y trof yn awr am borth?]
(0, 7) 679 Tra fum lawen, bu yntau'n gyfaill i mi, [bellach, bychan yw ei ofid ef o'm plegid i.]
(0, 7) 680 Mi glywais fyth a hefyd ddywedyd [peth na ddaeth yn agos at fy mhrofiad i nes digwydd i mi heddiw—dyma hwnnw:]
(0, 7) 681 Tra bo lwc i ddyn bydd iddo gyfeillion lawer, ond pan dry ei lwc ei chefn arno, fe'i gad y cwbl yntau.
(0, 7) 682 Gwae fi, mi welaf hynny'n awr, [ac yr wyf yn mygu gan ing a dychryn.]
 
(0, 7) 684 Dacw fy ngheraint yn sefyll yna, fy nghefndryd caredig, sefwch yn agos ataf.
(0, 7) 685 [Yr ydych yn wir yn eich union le.
(0, 7) 686 Ni wn i am well gair yn y byd na hwnnw.
(0, 7) 687 "Mae gwaed yn dewach na dŵr"—fe'i profir gennych heddiw'n llwyr,] a chwithau, yn fy nghyfyngder, yn rhoi i mi gymorth llaw a genau.
(Car Tew) Gan bwyll, fy nghâr Pobun.
 
(Car Tew) Os gwrandewi arnaf i, dim ond un gair—gan bwyll!
(0, 7) 690 Ni adewch chwi monof ychwaith—
(Car Tew) Dim ond gan bwyll.
 
(Car Tew) Gwelwch ein bod yn ffyddlon i chwi.]
(0, 7) 696 O, llawer o ddiolch i chwi, fy ngheraint.
(Car Tew) Perthynasau ydym ni!
 
(Car Tew) Perthynasau ydym ni!
(0, 7) 698 Fe welsoch ddyfod cennad ataf ar orchymyn brenin galluog.
(Car Tew) [Do...
 
(Car Tew) Felly y bu, ond nid wyf i'n deall y cwbl!]
(0, 7) 702 Gorchmynnodd i mi gymryd taith.
(Car Tew) [Ie, fel y dywedwyd—]
 
(Car Tew) [Ie, fel y dywedwyd—]
(0, 7) 704 [O'r daith hon...]
(Car Tew) [Ie, fel y dywedwyd eisoes, "Mae gwaed yn dewach na dŵr."]
 
(Car Tew) [Ie, fel y dywedwyd eisoes, "Mae gwaed yn dewach na dŵr."]
(0, 7) 706 O'r daith hon, mi wn yn dda, ni ddof i byth yn f'ôl.
(Car Tew) [Ha, byth?
 
(Car Tew) Yn siwr, lle ni bo dim byd, yno bydd hawl y brenin wedi colli.]
(0, 7) 709 [Fy ngheraint, a glywsoch chwi pa beth a ddywedais?]
(Car Tew) [Nid wrth glustiau byddar yr oeddych yn llefaru.]
 
(Car Tenau) [Ha, nage'n wir, myn fy ffydd!]
(0, 7) 712 [Ni welir monof byth yn f'ôl.]
(Car Tew) [Ai sicr gennych i chwi ddeall y gennad yn iawn?]
 
(Car Tew) [Ai sicr gennych i chwi ddeall y gennad yn iawn?]
(0, 7) 714 [Myfi?]
(Car Tew) [Y geiriau a'u hystyr, a ddeallsoch chwi'r cwbl yn iawn?]
 
(Car Tew) [Y geiriau a'u hystyr, a ddeallsoch chwi'r cwbl yn iawn?]
(0, 7) 716 [A ddarfu i mi?]
(Car Tew) Hynny yw, meddaf i—rhyw ymwelwr heb ei eisiau ydoedd?
 
(Car Tew) Ie, fel y dywedwyd, ie, Duw'n rhwydd gyda thi, fy nghâr, Pobun, dyna i chwi'r cwbl sy gennyf i i'w ddywedyd.
(0, 7) 722 Fy ngheraint, aroswch, gwrandewch arnaf!
(Car Tew) [Ond odid nad oes i ti ryw ddymuniad arall?
 
(Car Tew) Siarad yn eglur, y câr.]
(0, 7) 725 Bydd raid i mi roddi cyfrif yno, [ac y mae gelyn i mi, a bydd hwnnw ar fy ffordd yn rymus iawn o hyd.
(0, 7) 726 O, gwrandewch arnaf!]
(Car Tew) Pa fath gyfrif, dywed?
 
(Car Tew) Pa fath gyfrif, dywed?
(0, 7) 728 Cyfrif o'm holl weithredoedd ar y ddaear.
(0, 7) 729 [Y modd y treuliais fy nyddiau, a pha beth a wneuthum yn fy nigofaint, ar hyd y flwyddyn, ddydd a nos;] am hynny, er mwyn Crist, da chwi, rhowch gymorth i mi amddiffyn f'achos.
(Car Tew) [Beth?
 
(Car Tew) Byddai well gennyf fod mewn tywyllwch ar fara a dŵr am ddeng mlynedd!]
(0, 7) 735 [Och na bawn heb fy ngeni!
(0, 7) 736 Ni byddaf ddedwydd byth mwy, os gadewch fi fel hyn!]
(Car Tew) Hai, ŵr!
 
(0, 7) 743 Fy nghâr, oni ddeui di gyda mi?
(Car Tenau) Duw annwyl!
 
(Car Tew) Efallai yr ai hi gyda thi i'r daith.]
(0, 7) 750 [Na, dangos i mi beth yn wir yw dy feddwl, a ddoi di gyda mi ai aros yma, dyna'r cwbl y mynnwn ei wybod.]
(Car Tew) Aros yma, a dymuno pob da i tithau!
 
(Car Tew) Aros yma, a dymuno pob da i tithau!
(0, 7) 753 [Och Iesu, ai dyna ddiwedd pob peth?
(0, 7) 754 Addawsant lawer i mi'n rhwydd, ond wedi'r cwbl, torri eu gair.]
(Car Tenau) [{Gan droi unwaith eto at Pobun.}
 
(Car Tenau) Y mae gennyt ddigon o daeogion a chennyt hawl i alw arnynt, ond y mae mwy o werth na hynny ar d'annwyl geraint.]
(0, 8) 759 [Taeogion, pa beth fyddent i mi pe cymerwn hwy i'm canlyn—ni byddai hynny ond cymorth prin.
 
(0, 8) 761 A yw'r wledd lawen drosodd a phawb wedi mynd o'r neuadd?]
 
(0, 8) 765 Onid erys un cymorth arall i mi ynteu, ai un colledig ydwyf innau?
(0, 8) 766 Ac yn gwbl unig yn y byd, ai dyna fel y mae hi arnaf eisoes?
(0, 8) 767 [A barodd Ef eisoes fy mod yn noeth ac heb ddim gallu,] fel pe bawn eisoes yn gorwedd yn fy medd, a minnau a'm gwaed eto'n gynnes, fy nhaeogion eto'n ufudd i mi, a thai a thrysorau eto'n eiddo i mi?
(0, 8) 768 Hai! caned y clychau—-alarwm ynteu, chwithau daeogion, peidiwch ag ystelcian yn y tŷ, dowch allan ataf oll.
 
(0, 8) 770 Rhaid i mi fynd ar daith ar frys, a hynny nid mewn cerbyd ond ar droed.
(0, 8) 771 Doed fy holl weision gyda mi, dyger fy nghist arian yma, bydd y daith megis ymgyrch byddin, ac felly bydd yn rhaid i mi gael fy nhrysorau i'm canlyn.
(Goruchwyliwr) Y gist drom sydd yn y fan draw?
 
(Goruchwyliwr) Y gist drom sydd yn y fan draw?
(0, 8) 773 Ie, rhag blaen, heb lawer o siarad.
 
(0, 8) 775 Gelwais arnoch ar gyfer taith, a bydd raid i bob un fod yn ufudd i mi.
(0, 8) 776 Taith ddieithr a phell iawn fydd hi, yn gofyn am bobl ffyddlon; [rhaid cymryd y daith hon mewn distawrwydd llwyr, ac yr wyf yn ymddiried ynoch am hyn oll.]
(Gwas 2) Dyma gist ddigon trom i ladd dyn.
 
(Goruchwyliwr) Gwnewch y peth a baro'ch meistr i chwi.
(0, 8) 779 Yn awr, cychwynnwn i'r daith yn dawel iawn, heb yn wybod i neb.
(Gwas 2) Dacw ddiawl yn sefyll ac yn arwyddo arnom aros.
 
(Angau) Ni wyddost sut i geisio cydymaith cymwys, a buan y byddi heb un gobaith ac yn dy felltithio dy hun.
(0, 9) 788 Och, Dduw, faint f'arswyd rhag Angau!
(0, 9) 789 Tyrr chwys oer drosof, ac y mae'r ing fel pe bai'n lladd yr enaid yn y corff—pa beth ynteu a ddigwyddodd i mi ar drawiad?
(0, 9) 790 [Bob amser, ar ryw oriau gwaeth na'i gilydd, hyd yma cefais hyd i ryw gysur; ni'm llwyr adawyd i erioed, yn ddim ond rhyw ynfytyn truan tlawd; ni bûm erioed lle ni fedrwn sefyll a throi yn f'ôl pan fynnwn.]
(0, 9) 791 A ddarfu am fy ngallu yn llwyr, a gymysgwyd fy meddwl fel mai prin y gallaf atgofio pethau bellach?
(0, 9) 792 Pwy ydwyf ynteu, ai Pobun, y Pobun cyfoethog o hyd?
(0, 9) 793 Dyma fy llaw, dyma fy ngwisg, a'r peth sydd eto yn y fan yma, hynny yw f'arian a'm trysor, drwyddynt hwy gynt, mi fyddwn bob amser yn cael popeth fel y mynnwn.
(0, 9) 794 Yn awr, mi fyddaf yn well wrth ei weled yma yn ymyl fy llaw yn fy helbul.
(0, 9) 795 [Os gallaf ddal ati felly, ni ddaw nac arswyd nac ing arnaf.
(0, 9) 796 Ond gwae fi, rhaid i mi fynd oddi yma—daw hynny'n ebrwydd i'm cof.
(0, 9) 797 Daeth y gennad, rhoed y wŷs, bellach rhaid mynd oddi yma.
 
(0, 9) 799 Nid hebot ti!] rhaid i ti ddyfod i'm canlyn, ni'th adawn i ar f'ôl er dim; rhaid dy gael di eto mewn tŷ arall.
(0, 9) 800 Am hynny, i fyny â thi ac allan rhag blaen!
(Mamon) Ha, Pobun, pa beth sydd arnat ti?
 
(Mamon) Yr wyt yn frawychus yn dy frys, a chyn welwed â'r calch.
(0, 9) 805 Pwy wyt ti, ynteu?
(Mamon) Nid adwaenost fy wyneb, ac eto, mynnit fy llusgo oddi yma gyda thi?
 
(0, 9) 809 Nid ymddengys dy wyneb i mi cystal, ni rydd ddim bodlonrwydd, yn wir.
(0, 9) 810 Ond nid yw hynny nac yma nac acw, rhaid i ti ddyfod i'm canlyn.
(Mamon) Beth bynnag fo rhaid, gellir gwneud hynny oll oddi yma, gwyddost yn dda faint fy ngalluoedd i.
 
(Mamon) Dywed pa beth sydd yn dy boeni, rhof innau gymorth i ti.
(0, 9) 813 Fel arall y mae'r amgylchiadau.
(0, 9) 814 Gyrrwyd amdanaf o ryw le arall.
(Mamon) Oddi...
 
(0, 9) 817 Ie, ie! daeth cennad ataf.
(Mamon) Ai felly y mae hi arnat?
 
(Mamon) Ni chlywais i erioed o'r blaen am alwad felly.
(0, 9) 826 Ac fe ddoi gyda mi, oni ddoi?
(Mamon) Dim un cam, 'rwy'n ddedwydd yma.
 
(Mamon) Dim un cam, 'rwy'n ddedwydd yma.
(0, 9) 828 Eiddof i wyt, fy meddiant a'm da.
(Mamon) Eiddot ti?
 
(Mamon) Ha, paid â chodi chwerthin arnaf.
(0, 9) 831 A wrthryfeli dithau, y felltith, y teclyn!
(Mamon) {Gan ei fwrw ymaith.}
 
(Mamon) Tydi'r bychan yw'r gwas, ac os buost yn meddwl mai fel arall y byddai, nid oedd hynny ond twyll ac ynfydrwydd.
(0, 9) 838 Buost at fy ngalwad i.
(Mamon) A mi oedd yn llywodraethu yn d'enaid.
 
(Mamon) A mi oedd yn llywodraethu yn d'enaid.
(0, 9) 840 [Buost was i mi i mewn ac allan.]
(Mamon) [A thithau'n dawnsio wrth fy nhennyn!]
 
(Mamon) [A thithau'n dawnsio wrth fy nhennyn!]
(0, 9) 842 Gwas i mi, caethwas i mi oeddit,
(Mamon) Nage, mwnci-ar-ben-pric i mi oeddit ti.
 
(Mamon) Nage, mwnci-ar-ben-pric i mi oeddit ti.
(0, 9) 844 [Gennyf i yn unig yr oedd hawl i ymhel â thi.]
(Mamon) [A minnau fy hun yn d'arwain dithau wrth dy drwyn.]
 
(0, 10) 865 Roeddwn yn meddwl bod rhywun yn galw.
(0, 10) 866 [Llais gwan ac eto'n gwbl glir.]
(0, 10) 867 Rhoed Duw nad llais fy mam ydoedd.
(0, 10) 868 [Y mae hi druan yn hen wraig fethiantus, mynnwn ei harbed rhag yr olwg hon.
(0, 10) 869 O, cymer gymaint â bynny o drugaredd arnaf; gad nad fy mam fo hi!]
(Gweithredoedd Da) Pobun!
 
(Gweithredoedd Da) Pobun!
(0, 10) 871 [Boed y neb y bo, nid oes i mi ddim egwyl at helynt na diflastod y byd bellach.]
(Gweithredoedd Da) Pobun, oni'm clywi?
 
(Gweithredoedd Da) Pobun, oni'm clywi?
(0, 10) 873 Benyw glaf yw hi; ni waeth gennyf i—edryched ati ei hun.
(Gweithredoedd Da) Pobun, d'eiddo di ydwyf; erot ti yr wyf yn gorwedd yma.
 
(Gweithredoedd Da) Pobun, d'eiddo di ydwyf; erot ti yr wyf yn gorwedd yma.
(0, 10) 875 Pa fodd y gall hynny fod?
(Gweithredoedd Da) {Gan hanner cyfodi.}
 
(Gweithredoedd Da) Gwel, dy holl weithredoedd da wyf i.
(0, 10) 878 [Na'm gwatwar i, yr wyf ar farw.]
(Gweithredoedd Da) [Dyred ynteu ychydig yn nes ataf.]
 
(Gweithredoedd Da) [Dyred ynteu ychydig yn nes ataf.]
(0, 10) 880 [Ni wnawn i mo hynny o'm bodd.]
(0, 10) 881 Ni fynnwn eto weled fy ngweithredoedd, [ni byddai edrych arnynt wrth fy modd.]
(Gweithredoedd Da) [Yr wyf yn wan iawn a baich mawr arnaf, am na feddyliaist ti erioed amdanaf.]
 
(Gweithredoedd Da) [Yr wyf yn wan iawn a baich mawr arnaf, am na feddyliaist ti erioed amdanaf.]
(0, 10) 883 [Nid rhaid wrth wendid arall yma, ac arnaf innau ddigon o ing ac artaith eisoes.]
(Gweithredoedd Da) Bydd arnat angen amdanaf i.
 
(Gweithredoedd Da) Y mae'r ffordd yn hir echryslon, a thithau heb neb i'th ganlyn.
(0, 10) 886 Er hynny, ar fy mhen fy hun y bydd raid i mi fyned.
(Gweithredoedd Da) Na, mynnaf ddyfod i'th ganlyn, gan mai d'eiddo di wyf.
 
(0, 10) 891 O, fy ngweithredoedd, y mae hi'n galed arnaf.
(0, 10) 892 Y mae arnaf fawr angen cyngor da a chynorthwy.
(Gweithredoedd Da) {Gan gyfodi drwy boen ar ei baglau.}
 
(Gweithredoedd Da) [Oni fynni dy golli, na ddos heb neb onid ti dy hun i'r daith hon, meddaf i ti.]
(0, 10) 896 A fynni di ddyfod gyda mi?
(Gweithredoedd Da) A fynnaf i ddyfod gyda thi i'r daith?
 
(0, 10) 900 Wrth dy weled yn edrych arnaf yn hiraethus, tebyg gennyf na bu yn f'einioes i na chyfaill na chariad, na gwraig na gŵr a edrychai arnaf fel yna!
(Gweithredoedd Da) [O, Pobun, dy fod ti ar awr mor hwyr yn troi at fy llygaid a'm genau!]
 
(Gweithredoedd Da) [O, Pobun, dy fod ti ar awr mor hwyr yn troi at fy llygaid a'm genau!]
(0, 10) 902 [Gwelw a threuliedig yw dy wedd, ac eto 'rwy'n meddwl ei bod yn llawn tegwch; po fwyaf yr edrychwyf arnat, mwyaf y gwae yn fy nghalon, ond bod hwnnw'n gymysg â rhyw dynerwch, fel na wn i ddim pa beth a wnaf.
(0, 10) 903 Mi dybiwn pe gallai goleuni dy lygaid ti dreiddio i mewn drwy fy llygaid i, y digwyddai dirfawr lanhad a bendith i druan tlawd.
(0, 10) 904 Eto, gwn na ellir hynny mwy, ac nad yw bellach onid megis breuddwyd.]
(Gweithredoedd Da) Pe buasit ti yn deall gynt nad wyf i lawn mor ddiolwg, buasit wedi aros llawer gyda mi [ymhell o'r byd a phob rhyw ddrwg chwarae!
 
(Gweithredoedd Da) llawenhau, a minnau, sy mor fethiantus,] buaswn innau, drwy fod yn eglur o flaen dy feddwl, megis llestr dwyfol i ti, megis cwpan a gras yn llifo drosodd ohono i'th wefusau di.
(0, 10) 908 [Ac nid adnabûm innau monot, mor ddall oedd fy ngolwg!
(0, 10) 909 Gwae ni! pa fath greaduriaid ydym ni gan fod y fath bethau'n digwydd i ni!]
(Gweithredoedd Da) [Cwpan oeddwn i a safai o'th flaen, a lanwyd hyd yr ymyl gan y nefoedd ei hun.
 
(Gweithredoedd Da) Nid oedd yn y cwpan hwnnw ddim daearol, am hynny, dibwys oeddwn yn dy olwg di!]
(0, 10) 912 [O! pe gallwn dynnu'r ddau lygad allan, ni byddai'r tywyllwch mor arswydus i mi ag yw'r gofid chwerw a dynnodd fy llygaid ffeilsion arnaf ar hyd foes.]
(Gweithredoedd Da) [O, gwae! bellach bydd syched byth ar dy wefus!
 
(Gweithredoedd Da) Ni fynnaist yfed ond o bethau'r byd, ac am hynny, cipiwyd y cwpan oddi wrthyt.]
(0, 10) 915 [Y mae syched poeth eisoes yn rhedeg drwy fy holl wythiennau, a gwanc ymhob synnwyr!
(0, 10) 916 Dyna gyflog fy mywyd i!]
(Gweithredoedd Da) [Dyna'r edifeirwch chwerw, llosg, y gofid cudd.
 
(0, 10) 920 Deued i'm rhan beidio â bod byth bythoedd!
(0, 10) 921 Onid yw pob gronyn ohonof yn awr yn llefain gan ddwfn edifeirwch a gwae gwyllt!
(0, 10) 922 Mynd yn f'ôl! ac ni allaf!
(0, 10) 923 Dim ond un cynnig eto!
(0, 10) 924 Ond ni ddaw hwnnw ddim.
(0, 10) 925 Dychryn a gloes!
(0, 10) 926 Yn y byd hwn ni cheir byw ond unwaith, yn y byd hwn ni cheir byw ond unwaith!
(0, 10) 927 [Gwn bellach beth yw'r gwae sy'n rhwygo'r fron, ac ni wybûm erioed o'r blaen beth y dichon y gair hwn ei feddwl.
 
(0, 10) 929 Dod dy hun i lawr yma a bydd farw, dyma dy ddydd!]
(Gweithredoedd Da) {Ar ei gliniau.}
 
(Gweithredoedd Da) Mor druan, gwan a chlaf wyf i!]
(0, 10) 935 [Am bopeth fe geir tâl, yn wir!
(0, 10) 936 O, Weithredoedd, er mwyn pob peth, na'm gad i'm trybini!
(0, 10) 937 Colledig fyddwn felly yn ddiau.
(0, 10) 938 Dod gymorth i mi roi cyfrif ger ei fron Ef sydd Arglwydd ar Angau a Bywyd, a Brenin yn dragywydd, ac onid e colledig fyddaf byth!]
(Gweithredoedd Da) [O, Pobun!]
 
(Gweithredoedd Da) [O, Pobun!]
(0, 10) 940 [Na'm gad yn ddigyngor.]
(Gweithredoedd Da) Y mae i mi chwaer, Ffydd y gelwir hi.
 
(Gweithredoedd Da) Pe gadawai hi erfyn arni ddyfod i'th ganlyn ar dy ffordd, a sefyll gyda thi ger bron brawdle Duw!
(0, 10) 943 Galw arni heb oedi, y mae'r amser yn ehedeg ymaith,
(Gweithredoedd Da) [Efallai mai troi oddi wrthyt a wnai, a'th ado i fynd heb gysur i'th fedd, ond pe gwyddit ti ba fodd i lefaru wrthi, fe roddai hithau ei chynorthwy iti.]
 
(Gweithredoedd Da) [Efallai mai troi oddi wrthyt a wnai, a'th ado i fynd heb gysur i'th fedd, ond pe gwyddit ti ba fodd i lefaru wrthi, fe roddai hithau ei chynorthwy iti.]
(0, 10) 945 [Pe bai dyn heb dafod, fe'i gwnai ing ac angen yn hyawdl.]
(Gweithredoedd Da) [Nid rhaid galw'n groch, teimlaf fod y chwaer yn dyfod!]
 
(Ffydd) Chwerddaist am fy mhen ar hyd dy oes, a bernaist air Duw yn oferedd; bellach, yn dy awr olaf, a ddaw amgen lleferydd o'th enau di?
(0, 11) 953 'Rwy'n credu, yn credu.
(Ffydd) Truan o leferydd!
 
(Ffydd) Truan o leferydd!
(0, 11) 955 O, trugarhaed Duw!
(0, 11) 956 'Rwy'n credu'n gadarn yn efengyl Iesu Grist, a ddysgwyd i mi wrth liniau fy mam.
(0, 11) 957 Credaf fod popeth sydd ynddynt hwy yn wir a sanctaidd oll.
(0, 11) 958 Rwy'n credu, 'rwy'n credu.
(Ffydd) Darn go druan o Ffydd yw hynny.
 
(Ffydd) Oni wyddost ti am beth gwell?
(0, 11) 962 [Credaf yn amynedd Duw, od edifarhao neb mewn pryd; ond bum i mewn pechod yn rhy hir fel nad oes i mi yma drugaredd.]
(Ffydd) [{Gan gymryd cam yn nes ato.}
 
(Ffydd) A drochwyd di mor llwyr mewn chwant, a'th suddo cyn ddyfned mewn nwyd, fel na ddaw dros dy wefus mo'r peth a ryddhai d'enaid yn dragywydd?]
(0, 11) 965 Credaf—
(Ffydd) A gredi di yn Iesu Grist, a ddaeth oddi wrth y Tad, yn ddyn cyffelyb i ninnau, a aned o wraig farwol, a thrwy loes merthyrdod a roes ei fywyd trosot ti, ac a gyfododd o farw fel y'th gymodid ti â Duw?
 
(Ffydd) A gredi di yn Iesu Grist, a ddaeth oddi wrth y Tad, yn ddyn cyffelyb i ninnau, a aned o wraig farwol, a thrwy loes merthyrdod a roes ei fywyd trosot ti, ac a gyfododd o farw fel y'th gymodid ti â Duw?
(0, 11) 967 Credaf!
(0, 11) 968 Felly y gwnaeth Ff, dileodd ddigofaint y Tad, gan ennill tragwyddol iachâd i ddynion, a marw ei Hun dros hynny ar y grog.
(0, 11) 969 Eto mi wn na bydd hynny les onid i'r sawl a fo sanctaidd a da; drwy weithredoedd da a dyhewyd y pryn Ef fywyd tragwyddol.
(0, 11) 970 Ond gwelwch, dyma fy ngweithredoedd i: y mae fy mhechodau yn un mynydd mor drwm yn gorwedd arnaf fel na all Duw roi gras i mi, gan mai efô yw'r perffaith gyfiawn.
(Ffydd) Ai Cristion amheus felly ydwyt ti, ac onid adwaenost Drugaredd Dduw?
 
(Ffydd) Ai Cristion amheus felly ydwyt ti, ac onid adwaenost Drugaredd Dduw?
(0, 11) 972 Ofnadwy yw cosb Duw!
(Ffydd) Fe faddau Duw'n ddifesur!
 
(Ffydd) Fe faddau Duw'n ddifesur!
(0, 11) 974 Tarawodd Pharao, tarawodd Sodom a Gomorra, tarawodd, tarawodd!
(Ffydd) Na, aberthodd Ei unig fab i boen y byd o orsedd y goleuni, megis y genid Ef fel dyn, ac nad ai neb mwy'n golledig, dim un, nid y gwaethaf, na, [ond cael ohono fywyd tragwyddol.
 
(Ffydd) Os credi di ynteu yn y bywyd hwn, yna maddeuir i ti dy bechodau, a dofir llid Duw.
(0, 11) 978 O, y mae deiriau'n dyner; yr wyf fel pe'm ail-enid.
(0, 11) 979 Credaf, cyhyd ag yr anadlaf ar y ddaear, y byddaf gadwedig drwy Grist.
(Ffydd) Daeth yr awr.
 
(Ffydd) Bellach, dos i'th olchi'n lân oddi wrth dy bechodau.
(0, 11) 982 [Pa le y mae ffynnon gysegredig fel y gallwyf fynd yno'n ddi-oed?]
(Ffydd) [Mae cymorth da yn disgwyl amdanat.
 
(Ffydd) Dyred yn ôl mewn gwisg wen, yna ti ei draw yn fy llaw i, ac i'th ganlyn di, bydd hefyd i'th weithredoedd rym a nerth.]
(0, 11) 987 [{Ar ei liniau.}
(0, 11) 988 O, Dduw tragywydd!
(0, 11) 989 O, ddwyfol wedd!
(0, 11) 990 O, union Ffordd!
(0, 11) 991 O, oleuni nefol!
(0, 11) 992 Yma y llefaf arnat yn fy olaf awr; llef un truan a ddaw o'm genaui.
(0, 11) 993 O, fy Ngwaredwr, erfyn di ar i'm Crewr fod yn rasol tuag ataf ar y diwedd, pan ddêl y gelyn uffernol yn agos ataf, a phan wasgo angau creulon fy ngwddf hyd oni'm tago, erfyn ar iddo Ef arwain f'enaid fry.
(0, 11) 994 A phar, O, Waredwr, drwy d'eiriolaeth dy hun, fy ngosod i ar ei ddeheulaw Ef, i fyned gydag Ef i'w ogoniant.
(0, 11) 995 Gwrando ar fy ngweddi gan ddarfod iti drengi ar y Grog a phrynu'n heneidiau ni.]
(Gwas 1) Paham y sefwch, meistres, yma?
 
(Gweithredoedd Da) Pobun, wele fi, dy gyfeilles; bendithiaf di yn fy meddwl; rhyddheaist fi o'm gofid, ac yn awr, canlynaf di lle'r elych.
(0, 13) 1019 [O, fy ngweithredoedd, wrth glywed eich llais, ni allwn nad wylwn innau o lawenydd.]
(Ffydd) [Ni wyli ac ni ofidi fyth mwy; na, bydd ddedwydd a llawen dy fryd, canys y mae Duw o'i orsedd yn edrych yn fodlon arnat.]
 
(Ffydd) [Ni wyli ac ni ofidi fyth mwy; na, bydd ddedwydd a llawen dy fryd, canys y mae Duw o'i orsedd yn edrych yn fodlon arnat.]
(0, 13) 1021 [Am hynny ni cheisiaf i nac oedi nacaros.]
(0, 13) 1022 Chwi, gyfeillion, gyda'n gilydd yr awn, ac oddi wrthych chwi nid af i mwy.
(Diawl) {Yn dyfod gan neidio, gweiddi a gwneud arwyddion.}
 
(Gweithredoedd Da) Fe allodd fodloni ei Arglwydd, 'rwy'n teimlo drwy f'aelodau oll y nerth at ehedeg fry!]
(0, 14) 1121 Weithion, rhowch i mi yn ffyddlon eich dwylaw, cefais y cymun Sanct.
(0, 14) 1122 [Bendigedig a fo'r sawl a barodd i mi hyn ac a roes i mi hefyd gyngor da.
(0, 14) 1123 Bellach, boed diolch i chwi am aros mor ofalus amdanaf gyda gweddïau dyfal.]
(0, 14) 1124 Ac weithian, gadewch i ni gychwyn ar y daith.
(0, 14) 1125 Doded pawb ei law ar y ffon hon a chanlyned fi i'm bedd.
(Gweithredoedd Da) Ni thynnaf i mo'm llaw oddi ar y ffon cyn bod y daith ar ben.
 
(0, 14) 1132 Weithion, rhaid i mi fynd i'r bedd, sydd cyn ddued â'r nos.
(0, 14) 1133 Trugarha wrthyf yn dy holl-allu, Arglwydd!
(Ffydd) Safaf yn d'ymyl a gwyliaf di.
 
(Gweithredoedd Da) A deuaf innau gyda thi, Pobun.
(0, 14) 1136 O Arglwydd Waredwr, aros gyda mi, arnat y galwaf am drugaredd.
(Gweithredoedd Da) {Gan ei gynorthwyo i'r bedd a'i ganlyn ymo.}
 
(Gweithredoedd Da) Arglwydd, boed dawel ein diwedd ni, i'th lawenydd di yr awn i mewn.
(0, 14) 1139 [{Yn y bedd fel na weler onid ei ben a'i ysgwyddau.}
(0, 14) 1140 Gan iti fy mhrynu'n rhydd, cadw eto f'enaid fel nas coller ac fel yr esgynno atat Ti yn y dydd diweddaf gyda theulu'r gwaredigion.]