|
|
|
(Lwca) Thâl hyn ddim o gwbwl, mistras. |
|
|
|
(Lwca) Wel, wir, pan gysidra i, fuoch chi ddim allan o'r tŷ ers blwyddyn agos iawn. |
(1, 0) 10 |
'Ta i byth allan ohono fo, be di'r iws? |
(1, 0) 11 |
Mae 'mywyd i wedi darfod. |
(1, 0) 12 |
Mae o yn y bedd, a finnau wedi nghladdu rhwng muriau'r tŷ ma. |
(1, 0) 13 |
'R ydan ni wedi marw ein dau, y naill fel y llall. |
|
(Lwca) Rŵan, rŵan, mi fyddai'n well gin i beidio clywed geiriau fel'na. |
|
|
(1, 0) 33 |
Peidiwch byth â gadael imi glywed geiriau fel yna eto. |
(1, 0) 34 |
Mae bywyd wedi colli ei holl werth imi wedi imi golli Nicolai Michaelofìts; 'r wy'n edrych fel pe tawn i'n fyw, ond tydw i ddim, dim o'r fath beth! |
(1, 0) 35 |
'R w i wedi cymyd fy llw i wisgo du hyd fy medd ac i beidio byth â mynd allan i'r byd eto, glywch chi? |
(1, 0) 36 |
Bydded i'w gysgod yn y byd arall weld fel 'r ydw i yn ei garu o. |
(1, 0) 37 |
Wrth gwrs, mi wn i'n ddigon da, ac mi wyddoch chithau hefyd, fydda fo ddim yn fy nhrin i'n deg bob amser, chwaith, ac mi fyddai weithiau'n ddigon ciaidd hefyd, ac yn anffyddlon imi o dro i dro; ond mi fydda i yn ffyddlon iddo fo hyd fy medd, iddo gael gweld sut y medra |i| garu. |
(1, 0) 38 |
Er ei fod tu draw i'r bedd mi geith weld y medra i garu fel yr o'n yn ei garu cyn iddo farw. |
|
(Lwca) Yn lle siarad fel yna, mi fyddai'n well o lawer i chi fynd am dro yn yr ardd a gofyn iddyn nhw rhoi Tobi a Ciaptan wrth y cerbyd i chi gael mynd i rodio a gweld eich ffrindiau. |
|
|
|
(Lwca) Yn lle siarad fel yna, mi fyddai'n well o lawer i chi fynd am dro yn yr ardd a gofyn iddyn nhw rhoi Tobi a Ciaptan wrth y cerbyd i chi gael mynd i rodio a gweld eich ffrindiau. |
(1, 0) 40 |
Ow, ow! |
|
|
(1, 0) 42 |
Ow, ow! |
|
(Lwca) Mistras bach, be sy'n bod? |
|
|
|
(Lwca) Nefoedd fawr! |
(1, 0) 45 |
'R oedd o mor ffond o Tobi! |
(1, 0) 46 |
Hefo fo y byddai fo yn mynd i weld y Cortsiagins a'r Flasoffs. |
(1, 0) 47 |
Ac mi fyddai'n dreifio mor ddel, a'i law yn dal y |reins| fel angel o'r nefoedd! |
(1, 0) 48 |
Ydach chi'n cofio? |
(1, 0) 49 |
Tobi annwyl! |
(1, 0) 50 |
Rhowch ffiolad o geirch dros ben iddo heddiw. |
|
(Lwca) O'r gora, mym. |
|
|
(1, 0) 54 |
Pwy sy' na? |
(1, 0) 55 |
Deudwch na fedra i weld neb! |
|
(Lwca) Gna, mym. |
|
|
(1, 0) 59 |
'R wyt ti'n gweld, Nicolai, fel y galla'i garu a maddau. |
|
|
(1, 0) 61 |
Ond amdanat ti, oes arnat ti ddim cwilydd, fy mhwt clws i? |
(1, 0) 62 |
Fy nhwyllo i, cadw reiat yn y tŷ, a'm gadael i ar ben fy hun am wythnosau! |
|
(Lwca) {Yn dyfod i mewn yn ffwdanus.} |
|
|
|
(Lwca) Mistras, mae'na rywun yna isio'ch gweld chi. |
(1, 0) 65 |
Ond ddaru chi ddim deud wrtho fo na fydda'i yn gweld neb ar ôl imi golli'r gŵr? |
|
(Lwca) Do, mi ddeudais hynny, ond chymith o mo'i apad. |
|
|
|
(Lwca) Mae o'n deud fod gynno fo neges bwysig! |
(1, 0) 68 |
Cheith neb fy |ngweld i|! |
|
(Lwca) Dyna ddeudais i, ond mae o fel y coblyn ei hun... yn rhegi fel cath ac yn gwthio ei hun i mewn ar draws popeth, mae o yn y dining-room. |
|
|
(1, 0) 71 |
O'r gorau, o'r gorau, gadwch iddo ddŵad yma... y creadur difanars! |
|
|
(1, 0) 73 |
Ond tydi pobol yn ddiflas? |
|
(Smirnoff) {Ar y ffordd i mewn, wrth Lwca.} |
|
|
(1, 0) 82 |
Be fynnwch chi? |
|
(Smirnoff) Aeth eich diweddar ŵr... yr oedd yn anrhydedd gennyf ei adnabod... o'r byd yma, heb dalu ei ddyled imi, chwech igian o bunnoedd. |
|
|
|
(Smirnoff) Rhaid imi dalu llog i'r banc yfory, ac felly, Madam, rhaid imi gael yr arian gynnoch chi heddiw. |
(1, 0) 85 |
Chwech igian! |
(1, 0) 86 |
Ond sut y gallai 'ngŵr i fod mewn cymint o ddyled i chi? |
|
(Smirnoff) Mi werthais i geirch iddo fo. |
|
|
(1, 0) 89 |
Lwca, peidiwch ag anghofio rhoi mwy o geirch nag arfer i Tobi! |
|
|
(1, 0) 91 |
Os oedd ar Nicolai Michaelofits arian i chi, mi cewch nhw, wrth gwrs. |
(1, 0) 92 |
Ond maddeuwch imi, 'd oes gin i ddim arian parod heddiw. |
(1, 0) 93 |
Mi ddaw fy stiward yn ôl o'r dre, drennydd. |
(1, 0) 94 |
Mi ddeuda i wrtho fo am dalu'r hyn sydd ddyledus, ond hyd hynny, fedra i neud dim ichi. |
(1, 0) 95 |
A pheth arall i chi, bu fy ngŵr farw saith mis i heddiw ac yr wyf i wedi cynhyrfu cymint, 'd ydw i ddim mewn tymer i drin arian heddiw. |
|
(Smirnoff) 'D ydw innau ddim mewn tymer i aros, ac os na thala i'r llog yfory, mi fydd raid imi saethu fy hun, a dyna ben ar bopeth. |
|
|
|
(Smirnoff) Mi werthir fy holl eiddo hefyd. |
(1, 0) 98 |
Mi gewch eich arian drennydd. |
|
(Smirnoff) Rhaid imi eu cael nhw heddiw, nid drennydd. |
|
|
|
(Smirnoff) Rhaid imi eu cael nhw heddiw, nid drennydd. |
(1, 0) 100 |
Mae'n ddrwg gin i, ond fedra i ddim talu i chi heddiw. |
|
(Smirnoff) Fedra innau ddim aros tan drennydd. |
|
|
|
(Smirnoff) Fedra innau ddim aros tan drennydd. |
(1, 0) 102 |
Ond 'd oes dim help amdani, 'd oes gin i mo'r arian. |
|
(Smirnoff) Thalwch chi ddim felly? |
|
|
|
(Smirnoff) Thalwch chi ddim felly? |
(1, 0) 104 |
Fedra i ddim. |
|
(Smirnoff) M...m...m! |
|
|
|
(Smirnoff) A dyna'ch gair ola' chi? |
(1, 0) 107 |
Ie, 'ngair ola' i. |
|
(Smirnoff) Y gair ola' mewn difri? |
|
|
|
(Smirnoff) Y gair ola' mewn difri? |
(1, 0) 109 |
Mewn difri. |
|
(Smirnoff) Diolch yn fawr i chi. |
|
|
|
(Smirnoff) Sut y medra i beidio gwylltio? |
(1, 0) 119 |
Mi rois i ateb ddigon plaen i chi; pan ddaw'r stiward yn ôl o'r dre, mi gewch yr arian. |
|
(Smirnoff) Ond atoch chi y dois i, nid at y stiward. |
|
|
|
(Smirnoff) Be gebyst, maddeuwch imi am arfer y fath air, be gebyst sydd a nelof |i| â'ch stiward chi? |
(1, 0) 122 |
Esgusodwch fi, syr, 'd ydw i ddim yn arfer clywed y fath iaith, a'r fath dôn. |
(1, 0) 123 |
Wna i ddim gwrando arnoch chi chwaith. |
|
(Smirnoff) Glywoch chi rytsiwn beth erioed? |
|
|
|
(Smirnoff) O, mi 'dw i'n ddig, mi leiciwn falu'r byd i gyd yn bowdwr mân. |
(1, 0) 200 |
Syr, yn f'unigrwydd nid wyf wedi arfer clywed llais neb, a fedra i ddim diodde clywed neb yn gweiddi. |
(1, 0) 201 |
'R wyf yn erfyn arnoch adael llonydd i mi. |
|
(Smirnoff) Talwch i mi, mi af innau i ffwrdd. |
|
|
|
(Smirnoff) Talwch i mi, mi af innau i ffwrdd. |
(1, 0) 203 |
Mi ddeudais i heb flew ar fy nhafod nad oes gin i ddim arian parod rŵan, ond cewch nhw drennydd. |
|
(Smirnoff) Mi gefais innau yr anrhydedd o ddeud wrthoch chithau heb flew ar fy nhafod fod arna' i isio arian heddiw, nid drennydd. |
|
|
|
(Smirnoff) Os na thalwch i mi heddiw, mi groga i fy hun yfory. |
(1, 0) 206 |
Ond be fedra i wneud, os nad oes gin i arian? |
(1, 0) 207 |
Rhyfedd, yntê? |
|
(Smirnoff) Thalwch chi ddim heddiw felly? |
|
|
|
(Smirnoff) Thalwch chi ddim heddiw felly? |
(1, 0) 209 |
Fedra i ddim. |
|
(Smirnoff) Felly, mi rhosa i yma nes y caf yr arian. |
|
|
|
(Smirnoff) Ydach chi yn meddwl mai smalio yr ydw i? |
(1, 0) 219 |
Syr, peidiwch â gweiddi. |
(1, 0) 220 |
Nid stabal ydi'r tŷ ma. |
|
(Smirnoff) Nid am stabal 'r ydw i'n sôn ond gofyn a oes rhaid imi dalu'r llog yfory ai peidio. |
|
|
|
(Smirnoff) Nid am stabal 'r ydw i'n sôn ond gofyn a oes rhaid imi dalu'r llog yfory ai peidio. |
(1, 0) 222 |
Wyddoch chi ddim sut i ymddwyn o flaen merched. |
|
(Smirnoff) Celwydd. |
|
|
|
(Smirnoff) Mi wn i'r dim sut i ymddwyn o flaen merched. |
(1, 0) 225 |
Na, wyddoch chi ddim. |
(1, 0) 226 |
Dyn coman ydach chi, chawsoch chi ddim addysg, wyddoch chi ddim be di be. |
(1, 0) 227 |
Fydd neb neis yn siarad fel yna o flaen merched. |
|
(Smirnoff) Dyma beth rhyfedd. |
|
|
|
(Smirnoff) Mae dillad duon yn dygymod â chi. |
(1, 0) 235 |
'D ydach chi ddim yn ddigri o gwbwl, ond yn bur anfoesgar. |
|
(Smirnoff) {Yn e dynwared} |
|
|
|
(Smirnoff) 'D oes yr un ohonyn nhw yn ddidwyll a ffyddlon ond hen wragedd hurt a di-lun; cynt y gwelir cath â chyrn neu fran wen na gwraig ddidwyll a ffyddlon. |
(1, 0) 252 |
A ga i ofyn i chi yn ostyngedig: pwy yn eich barn chi sydd yn ddidwyll ac yn ffyddlon mewn cariad, nid y dynion ai e? |
|
(Smirnoff) Ie'r dynion, mym. |
|
|
(1, 0) 255 |
Y dynion yn ddidwyll a ffyddlon mewn cariad! |
(1, 0) 256 |
Wel, dyma beth newydd! |
|
|
(1, 0) 258 |
A pha hawl sydd gynnoch chi i ddeud hynna? |
(1, 0) 259 |
Dynion yn ddidwyll a ffyddlon, wir! |
(1, 0) 260 |
Gan i chi sôn am y peth, mi ddeuda i hyn wrthoch chi, o bawb a welais i erioed, fy ngŵr i oedd y gore o ddigon. |
(1, 0) 261 |
'R oeddwn yn ei garu yn wyllt â'm holl galon, â'm holl einioes, fel na all neb ond geneth ifanc, ysbrydol garu. |
(1, 0) 262 |
Rhoddais iddo fy holl ieuenctid, fy nedwyddwch, fy holl eiddo, fo oedd anadl fy einioes; 'r oeddwn yn ei addoli ar fy ngliniau fel pagan ger bron ei eilun, ac yntau yn fy nhwyllo bob munud awr; ie fo, y gorau o bawb yn y byd yn fy nhwyllo yn y modd mwyaf digwilydd. |
(1, 0) 263 |
Wedi iddo farw mi eis i'w ddesg a chefais lond bocs o lythyrau serch. |
(1, 0) 264 |
A phan oedd o'n fyw mi fyddai'n fy ngadael am wythnosau, yn canlyn merched eraill dan fy nhrwyn, yn fy mradychu i, yn sgwandro fy arian i, ac yn chwerthin am ben fy nheimladau i, Eto, serch hynny, 'r oeddwn yn ei garu ac yn para'n ffyddlon iddo; ac er ei fod wedi marw, 'r wy'n dal byth yn ffyddlon iddo. |
(1, 0) 265 |
'R wyf wedi claddu fy hun rhwng muriau'r tŷ yma ac mi wisgaf ddillad galar hyd fy medd. |
|
(Smirnoff) {Gan chwerthin yn wawdlyd} |
|
|
(1, 0) 275 |
Be? |
(1, 0) 276 |
Sut y medrwch chi ddeud peth fel'na wrtha i? |
|
(Smirnoff) Claddu ei hun yn fyw, ond ddaru hi ddim anghofio rhoi powdwr ar ei gwymad! |
|
|
|
(Smirnoff) Claddu ei hun yn fyw, ond ddaru hi ddim anghofio rhoi powdwr ar ei gwymad! |
(1, 0) 278 |
Sut y medrwch siarad fel yna wrtha i? |
|
(Smirnoff) Peidiwch â gweiddi, os gwelwch yn dda, nid eich stiward chi ydw i. |
|
|
|
(Smirnoff) Byddwch cystal â pheidio gweiddi. |
(1, 0) 283 |
Nid fi sy'n gweiddi; chi sy'n arthio. |
(1, 0) 284 |
Gadwch lonydd i mi. |
|
(Smirnoff) Talwch chi'r arian, mi â inna i ffwrdd. |
|
|
|
(Smirnoff) Talwch chi'r arian, mi â inna i ffwrdd. |
(1, 0) 286 |
Thala i mo'r arian. |
|
(Smirnoff) O, gnewch, mi wnewch, mym. |
|
|
|
(Smirnoff) O, gnewch, mi wnewch, mym. |
(1, 0) 288 |
Chewch chi'r un ddimai goch, tae hynny ddim ond i'ch sbeitio chi. |
(1, 0) 289 |
Waeth i chi adael llonydd i mi. |
|
(Smirnoff) 'D oes gin i mo'r hyfrydwch o fod yn ŵr i chi nac yn ddarpar-ŵr ichi ychwaith; felly, peidiwch â chodi'ch cloch a chadw reiat, os gwelwch chi'n dda. |
|
|
(1, 0) 294 |
Ydach chi'n eiste'? |
|
(Smirnoff) Ydwyf, yn eiste' i lawr. |
|
|
|
(Smirnoff) Ydwyf, yn eiste' i lawr. |
(1, 0) 296 |
'R wy'n gofyn i chi fynd. |
|
(Smirnoff) Rhowch yr arian i mi, 'ta. |
|
|
|
(Smirnoff) O, 'r ydw i'n ddig. |
(1, 0) 300 |
Fynna i ddim siarad â phobol mor ddigwilydd. |
(1, 0) 301 |
Byddwch cystal â mynd o'r tŷ ma. |
|
|
(1, 0) 303 |
Ydach chi ddim am fynd? |
|
(Smirnoff) Nag ydw i. |
|
|
|
(Smirnoff) Nag ydw i. |
(1, 0) 305 |
Nag ydach? |
|
(Smirnoff) Nag ydw i. |
|
|
|
(Smirnoff) Nag ydw i. |
(1, 0) 307 |
O'r gora^ta. |
|
|
(1, 0) 310 |
Lwca, ewch â'r gŵr bonheddig yma allan. |
|
(Lwca) {Yn mynd af SMiRNOFF} |
|
|
|
(Lwca) Fedra i ddim cael fy ngwynt. |
(1, 0) 323 |
Lle mae Dasia? |
|
|
(1, 0) 325 |
Dasia! Dasia! Pelagea! Dasia! |
|
|
|
(Lwca) Dŵr! |
(1, 0) 331 |
Byddwch cystal â mynd i ffwrdd. |
|
(Smirnoff) Rhaid i chi ofyn yn neisiach na hynny. |
|
|
(1, 0) 334 |
Y llabwst gwladaidd! |
(1, 0) 335 |
Yr hen arth i chi! |
(1, 0) 336 |
Yr anghenfil brwnt! |
|
(Smirnoff) Sut? |
|
|
|
(Smirnoff) Be ddeudsoch chi? |
(1, 0) 339 |
Deud mai arth ac anghenfil ydach chi. |
|
(Smirnoff) Sut y meiddiwch f'insyltio i fel'na, os gwelwch yn dda? |
|
|
|
(Smirnoff) Sut y meiddiwch f'insyltio i fel'na, os gwelwch yn dda? |
(1, 0) 341 |
Os ydw i yn eich insyltio chi, beth am hynny? |
(1, 0) 342 |
Ydach chi'n meddwl fod arna' i eich ofn chi? |
|
(Smirnoff) Ydach chi'n meddwl y gallwch insyltio pobol heb i neb daro'n ôl am eich bod yn freuddwyd y bardd? |
|
|
|
(Smirnoff) Ie, i saethu'n gilydd. |
(1, 0) 348 |
Os oes gynnoch chi ddwrn fel haearn a gwddw fel tarw, peidiwch â meddwl fod arna' i eich ofn chi. |
(1, 0) 349 |
Yr hen fwli! |
|
(Smirnoff) Dyna i chi sialens ta. |
|
|
(1, 0) 353 |
le, arthiwch... yr hen arth, arth, arth! |
|
(Smirnoff) Mae'n bryd i mi fwrw heibio hen ofergoelion gwirion, megis y dyb mai dyn yn unig a ddylai dalu am insyltio ei gymydog. |
|
|
|
(Smirnoff) "I'r maes â ni". |
(1, 0) 358 |
O, duel, felly wir. |
(1, 0) 359 |
Lediwch y ffordd, 'ta. |
|
(Smirnoff) Y munud ma. |
|
|
|
(Smirnoff) Y munud ma. |
(1, 0) 361 |
Y munud ma. |
(1, 0) 362 |
'R oedd gan fy ngŵr ddau bistol; mi â i nhôl nhw rŵan. |
|
|
(1, 0) 364 |
Mi fydd yn nefoedd i mi rhoi bwled yn eich talcen pres chi. |
(1, 0) 365 |
A'ch cipio chi! |
|
|
|
(Smirnoff) Mae hon yn ddigon o ryfeddod. |
(1, 0) 396 |
Dyma'r ddau bistol. |
(1, 0) 397 |
Ond cyn i ni fynd ati hi, dangoswch i mi sut i saethu, os gwelwch chi yn dda. |
(1, 0) 398 |
Fu 'na rioed bistol yn fy llaw i. |
|
(Lwca) Arglwydd annwyl, gwared ni a bydd drugarog! |
|
|
|
(Smirnoff) Gwna hon fi'n galon i gyd. |
(1, 0) 410 |
Fel hyn? |
|
(Smirnoff) Ie, i'r dim... |
|
|
|
(Smirnoff) Triwch gadw'ch llaw rhag crynu. |
(1, 0) 415 |
O'r gorau, well inni beidio saethu yn y tŷ, awn i'r ardd. |
|
(Smirnoff) Ie, ond cofiwch mai saethu i'r awyr wna í. |
|
|
|
(Smirnoff) Am fod... am fod... ond fy musnes i ydi hynny. |
(1, 0) 422 |
Wedi troi'n llwfrgi, ai e? |
(1, 0) 423 |
Waeth i chi heb â strancio, mae'n rhy hwyr i hynny rŵan. |
(1, 0) 424 |
Dewch ar fy ôl i, cha i ddim munud o dawelwch nes y bydda i wedi gyrru bwled trwy'ch hen ben atgas chi. |
(1, 0) 425 |
Wedi troi'n llwfrgi, ai e? |
|
(Smirnoff) Ie, yn llwfrgi. |
|
|
|
(Smirnoff) Ie, yn llwfrgi. |
(1, 0) 427 |
Celwydd noeth! |
(1, 0) 428 |
Pam na fynnwch chi gwffio? |
|
(Smirnoff) Am... am... wel, am fy mod yn eich licio chi. |
|
|
(1, 0) 431 |
Yn fy licio i! |
(1, 0) 432 |
Pa hawl sy' gynno fo i ddeud ei fod yn fy licio i? |
(1, 0) 433 |
Y dyn ei hun! |
|
|
(1, 0) 435 |
Ewch trwyddo fo. |
(1, 0) 436 |
Welwch chi'r drws na? |
|
(Smirnoff) {Yn rhoi'r ryfolfar i lawr, yn codi ei gap ac yn cychwyn allan; yn sefyll wrth y drws.} |
|
|
|
(Smirnoff) Mi 'dwi bron... yn eich caru chi. |
(1, 0) 448 |
Ewch i ffwrdd. |
(1, 0) 449 |
Mi 'dw i eich casâu chi. |
|
(Smirnoff) Rargian fawr, y fath wraig! |
|
|
|
(Smirnoff) Mae hi wedi darfod amdana i; dyma ben ar bopeth, wedi fy nal fel llygoden mewn trap! |
(1, 0) 453 |
I ffwrdd â chi, neu mi saetha i. |
|
(Smirnoff) Saethwch 'ta. |
|
|
(1, 0) 461 |
Na, saethu. |
(1, 0) 462 |
I'r maes... |
|
(Smirnoff) 'R ydw i wedi gwallgofi... fedra i ddallt dim... dŵr! |
|
|
(1, 0) 465 |
I'r maes! |
|
(Smirnoff) 'R w i wedi gwallgofi, yn caru fel hogyn, fel llo gwirion. |
|
|
|
(Smirnoff) {Gyfyd ac â yn frysiog tua'r drws.} |
(1, 0) 478 |
Rhoswch! |
|
(Smirnoff) {Ym aros} |
|
|
|
(Smirnoff) Y? |
(1, 0) 481 |
O, dim. |
(1, 0) 482 |
Ewch i ffwrdd... na, rhoswch!... |
(1, 0) 483 |
Na, na, i ffwrdd â chi! |
(1, 0) 484 |
Ewch i ffwrdd! |
(1, 0) 485 |
'R wy'n eich casâu chi. |
(1, 0) 486 |
Taech chi'n gwybod mor ddig ydw i! |
(1, 0) 487 |
O, mor ddig, mor ddig! |
|
|
(1, 0) 489 |
Mae mysedd i wedi cyffio ar ôl gafael yn yr hen beth na. |
|
|
(1, 0) 491 |
Pam 'r ydych chi'n sefyll yn y fan yna? |
(1, 0) 492 |
Ewch i ffwrdd! |
|
(Smirnoff) Da boch chi 'ta. |
|
|
|
(Smirnoff) Da boch chi 'ta. |
(1, 0) 494 |
Ie, ie, ewch i ffwrdd. |
|
|
(1, 0) 496 |
Lle 'dach chi'n mynd? |
(1, 0) 497 |
Rhoswch!... |
(1, 0) 498 |
O ran hynny, mi ellwch fynd. |
(1, 0) 499 |
O, 'r ydw i'n ddig! |
(1, 0) 500 |
Peidiwch â dŵad yn agos ata i. |
|
(Smirnoff) {Yn mynd ati} |
|
|
|
(Smirnoff) .. Faddeua i byth i mi fy hun am hyn! |
(1, 0) 510 |
Ewch i ffwrdd. |
(1, 0) 511 |
Tynnwch eich breichiau. |
(1, 0) 512 |
'R ydw i'n eich casâu chi. |
(1, 0) 513 |
I'r maes! |
|
|
(1, 0) 520 |
Lwca, deudwch wrthan nhw yn y stabal am beidio rhoi ceirch i Tobi rŵan. |