|
|
|
|
(1, 0) 12 |
Wyt ti wedi cael tê, Esther? |
|
(Esther) Ydw. |
|
|
|
(Esther) Cymer gadair; mae John yn gweithio 'mlaen. |
(1, 0) 15 |
Dim ond am ychydig o funudau. |
(1, 0) 16 |
Mae Sam ar fynd i'r steddfod. |
|
(Esther) Wyt ti'n mynd hefyd? |
|
|
|
(Esther) Wyt ti'n mynd hefyd? |
(1, 0) 18 |
Fi? |
(1, 0) 19 |
Dim perigl. |
(1, 0) 20 |
Wfft iddi nhw a'u hên ganu ac adrodd. |
(1, 0) 21 |
'Rwyf am fynd lawr i'r dre' i weld Mari, fy chwaer. |
|
(Esther) 'Steddfod i'w chofio fydd hon. |
|
|
|
(Esther) 'Steddfod i'w chofio fydd hon. |
(1, 0) 23 |
'Dyw'r Genedlaethol yn ddim i'w chymharu â hi. |
(1, 0) 24 |
Mi fyddai'n falch i weld yfory. |
|
|
(1, 0) 26 |
Dim ond 'steddfod, a |male voice|, a |rallentando| glywir yn ein tŷ ni o fore tan nos. |
|
(Esther) Synnwn i fawr, Rachel. |
|
|
|
(Esther) Synnwn i fawr, Rachel. |
(1, 0) 28 |
Wyddost ti, mae Sam fel pe bae wedi ynfydu. |
(1, 0) 29 |
Wrth gwrs, y mae John yn mynd? |
|
(Esther) {Yn dawel.} |
|
|
|
(Esther) Ydi. |
(1, 0) 32 |
A tithau hefyd, wrth gwrs. |
|
(Esther) Na, nid wy'n mynd heno. |
|
|
|
(Esther) Na, nid wy'n mynd heno. |
(1, 0) 34 |
Beth? |
(1, 0) 35 |
A'r fath gantores fuost ti erioed! |
(1, 0) 36 |
A ti wyddost am gystadleuaeth y |male voice| heno; ni bu ei bath erioed! |
|
(Esther) {Yn dawel iawn.} |
|
|
|
(Esther) Na, Rachel, arhosaf gartref. |
(1, 0) 39 |
Ond, Esther, fe fydd canu da yn y gystadleuaeth heno! |
|
(Esther) Nid oes cân yn fy nghalon bellach. |
|
|
|
(Esther) Torrwyd y tant. |
(1, 0) 42 |
Wel, wel, dyna un ôd wyt ti, a dweyd y lleiaf. |
(1, 0) 43 |
Gall'swn feddwl—. |
|
|
(1, 0) 45 |
O, ie, wrth gwrs. |
|
|
(1, 0) 47 |
Faint sy 'nawr oddiar y bu Neli fach farw? |
|
(Esther) {Gydag ymdrech.} |
|
|
|
(Esther) Blwyddyn—i heno. |
(1, 0) 50 |
Blwyddyn i heno! |
(1, 0) 51 |
Yr annwyl, annwyl. |
(1, 0) 52 |
Druan fach! |
(1, 0) 53 |
Fel mae'r amser yn mynd! |
|
(Esther) Ydi. |
|
|
|
(Esther) Ydi. |
(1, 0) 55 |
Cannwyll llygad John oedd Neli fach. |
|
(Esther) {Yn ddwys.} |
|
|
|
(Esther) Eitha' gwir. |
(1, 0) 58 |
Nid wyf yn cofio'n iawn—ai nid yn dy freichiau di y bu Neli fach farw? |
|
(Esther) {Mewn cyffro.} |
|
|
|
(Esther) Nage, ym mreichiau John. |
(1, 0) 61 |
Wrth gwrs, wrth gwrs; nawr 'rwy'n cofio. |
(1, 0) 62 |
Peth òd fod John yn mynd heno, Esther! |
|
(Esther) {Yn frysiog.} |
|
|
|
(Esther) Wedi anghofio'r date mae John, 'rwy'n siwr. |
(1, 0) 65 |
Dd'wedi di rywbeth wrtho i'w atgofio, Esther? |
|
(Esther) {Yn apelgar.} |
|
|
|
(Esther) Gadewch i'r dynion gael eu dedwyddwch. |
(1, 0) 69 |
Gâd i fi ddweyd wrtho. |
|
(Esther) {Yn codi ei llaw ac yn siglo ei phen.} |
|
|
|
(Esther) Na {megis murmur}—na. |
(1, 0) 72 |
Hwyrach mai ti sy'n iawn, Esther. |
(1, 0) 73 |
Nyni, y menywod, sy'n cofio ac yn hiraethu. |
(1, 0) 74 |
Dyna yw'n tynged ni ar y ddaear yma. |
|
(Esther) Hwyrach hynny, Rachel. |
|
|
|
(Esther) Hwyrach hynny, Rachel. |
(1, 0) 76 |
Mae yna lawer o lawenydd yn ddyledus i ni yn y byd arall, gall'swn feddwl. |
(1, 0) 77 |
Oes, sicr o fod. |
|
(Esther) Mae hiraeth yn well na bod yn ddi-brofiad, Rachel. |
|
|
|
(Esther) Bydd y lle yn orlawn heno, Rachel. |
(1, 0) 82 |
Maent yn dod o bobman; weles i ddim o'r fath beth erioed. |
(1, 0) 83 |
Mae'r ddau gôr lleol wedi rhoddi'r goron ar y cyfan. |
|
(Esther) 'Rwy'n falch nad yw John yn y côr y tro hwn. |
|
|
|
(Esther) Amhosibl iddo weithio gyda'r contract newydd 'ma a mynychu'r |rehearsals|. |
(1, 0) 86 |
Byddai'n dân goleu 'ma rhwng Sam a John, pe bae un ohonynt ym |Male Voice| Dwynant, a'r llall yng Nghôr Pentwyn. |
|
(Esther) Eitha' gwir, Rachel. |
|
|
|
(Esther) Eitha' gwir, Rachel. |
(1, 0) 88 |
Hyd yn oed fel y mae pethau, dim ond sôn am roddi "whiff" i hên gôr John y mae Sam, nos a dydd. |
(1, 0) 89 |
Ydi John yn siarad rhywbeth am y corau? |
|
(Esther) Y mae ambell i frawddeg yn dod allan 'nawr ac yn y man. |
|
|
|
(Esther) Weithiau clywaf ef yn mwmian |Comrades in Arms|. |
(1, 0) 92 |
Dyna fe! |
(1, 0) 93 |
|Comrades in Arms| sydd yn fy nghlustiau innau byth ac hefyd. |
(1, 0) 94 |
Gwyn fyd na buasai'r gân heb ei chyfansoddi erioed. |
|
(Esther) Ychydig o wahaniaeth wnelai hynny. |
|
|
|
(Esther) Mi fyddai'r |Martyrs of the Arena| yn codi tô ein tai ni wedyn. |
(1, 0) 97 |
|Martyrs of the Arena| yn wir! |
(1, 0) 98 |
Mae'n bryd i ryw fenyw gyfansoddi darn o'r enw |Martyrs of the Kitchen|! |
(1, 0) 99 |
Ydi'n wir. |
|
(Esther) Ond, Rachel, gwell fod ein dynion yn sobr ac yn dilyn y canu, na pe baent yn... |
|
|
(1, 0) 102 |
Wrth gwrs, wrth gwrs. |
(1, 0) 103 |
Ond trueni fod dynion yn cweryla â'u gilydd am ychydig o hên ganu. |
(1, 0) 104 |
'Nawr... |
|
(Sam) {O'r tuallan.} |
|
|
(1, 0) 108 |
Os daw Sam i mewn, ar dy fywyd paid a sôn am |Comrades in Arms|. |
|
(Sam) {Yn agor y drws.} |
|
|
|
(Sam) Ydi—O, 'rwyt yma, Rachel? |
(1, 0) 112 |
Cael sgwrs fach gydag Esther 'roedd i cyn mynd i'r dref. |
|
(Esther) Dewch ymlaen, ac eisteddwch, |
|
|
|
(Sam) Y dyn, bydd y 'steddfod hanner drosodd, a'r |male voice|... |
(1, 0) 120 |
Rho lonydd i'r |male voice|, da ti. |
(1, 0) 121 |
'Rwyf bron a gwirioni wrth glywed y tragwyddol |Comrades in Arms|. |
|
|
(1, 0) 123 |
Dyna fi wedi'i gwneud hi! |
|
(Sam) Fe rown ni |Comrades in Arms| i'r sêt. |
|
|
(1, 0) 128 |
Gloiaist ti ddrws y ffrynt cyn dod allan? |
|
(Sam) {Yn chwilio yn ei logell, ac yn tynnu allan allwedd.} |
|
|
(1, 0) 136 |
O'r nefoedd! |
(1, 0) 137 |
Dôs i'r 'steddfod, er mwyn popeth, a phaid â phoeni Esther â dy lol. |
(1, 0) 138 |
'Rwy'n mynd i'r dre, Esther, allan o sŵn |Comrades in Arms|. |
(1, 0) 139 |
Noswaith dda, Esther. |