Ffrwd Ceinwen

Cue-sheet for Radio

(Dei) {Ar y ffôn.}
 
(Dei) Ia, iawn.
(1, 1) 43 John ac Alun...
(1, 1) 44 Cofiwch fynd i wrando arnyn nhw yn Nhafarn y Rhos wsnos nesa'.
(1, 1) 45 Mi fydd yn noson a hannar.
(1, 1) 46 Ewch ych hun Gloria bach.
(1, 1) 47 Peidiwch â mynd â'r hen ŵr diflas 'na sy' gynnoch chi i ddifetha'r noson...
(1, 1) 48 Ond pwyll hefo'r llaeth mwnci...
(1, 1) 49 Yr hen Gloria o Walchmai.
(1, 1) 50 Halan y ddaear...
(1, 1) 51 Reit bobol, ma'n nhw'n deud i mi fod 'na rywun o'r enw Dei ar ben arall y ffôn...
(1, 1) 52 Dei?
(1, 1) 53 Ti 'na?
 
(1, 1) 55 Dei?
(1, 1) 56 Ti 'na?
(Dei) Ydw.
 
(Dei) Ydw.
(1, 1) 58 Meddwl bo chdi 'di rhedag yn ôl i dy dwll 'chan.
(1, 1) 59 O le ti'n ffonio, Dei?
(Dei) O Sir Fôn.
 
(Dei) O Sir Fôn.
(1, 1) 61 Un arall o wlad y medra.
(Dei) Ia...
 
(Dei) Isio record 'dw i.
(1, 1) 64 Newydd fod yn siarad hefo Gloria.
(1, 1) 65 Nabod hi?
(Dei) Nac'dw.
 
(Dei) Nac'dw.
(1, 1) 67 Hogan ar y diawl, Gloria.
(1, 1) 68 Newydd ddeud wrtha'i sut ma' gneud jam riwbob.
(1, 1) 69 Ti'n lecio jam riwbob, Dei?
(Dei) Nac'dw.
 
(Dei) Nac'dw.
(1, 1) 71 Pa jam ti'n lecio?
(Dei) Fydda i ddim yn lecio jam.
 
(Dei) Fydda i ddim yn lecio jam.
(1, 1) 73 O'n i'n meddwl fod pawb yn lecio jam.
(1, 1) 74 Jam cwsberis fydda i'n lecio.
(1, 1) 75 Llond llwy ohono fo ar frechdan Hovis...
(1, 1) 76 Ti'n ca'l cythral o gollad sti?
(1, 1) 77 Y?
(1, 1) 78 Dydyn nhw ddim yn lecio jam yn Sir Fôn 'cw?
(1, 1) 79 Dei?... Dei?
(1, 1) 80 Ti'n dal yna?
(Dei) Ydw.
 
(Dei) Ydw.
(1, 1) 82 O ble'n union yn Sir Fôn ti'n ffonio?
(Dei) Rhosceinwen.
 
(Dei) Rhosceinwen.
(1, 1) 84 Lle ma' fanno?
(Dei) Ddim yn bell o Niwbwrch.
 
(Dei) Ddim yn bell o Niwbwrch.
(1, 1) 86 Hen le go lew, 'lly?
(Dei) Ma' siŵr.
 
(Dei) Ma' siŵr.
(1, 1) 88 Ydyn nhw'n lecio jam cwsberis yna?
(Dei) {Yn flin.}
 
(Dei) 'D wn i'm duw.
(1, 1) 91 Be fasat ti'n lecio'i glywad Dei?
(Dei) Rhwbath gin Islwyn Davies.
 
(Dei) Rhwbath gin Islwyn Davies.
(1, 1) 93 Ma'n ddrwg gin i?
(Dei) Islwyn Davies.
 
(Dei) A deud y gwir, y darn faswn i'n lecio'i glywad fasa 'i drefniant o o |Gob Malltraeth|.
(1, 1) 99 Cob lle?
(Dei) Cob Malltraeth.
 
(Dei) Cob Malltraeth.
(1, 1) 101 O, Malltraeth.
(1, 1) 102 Ym Malltraeth ma'r hen Doris yn byw.
(1, 1) 103 Sut ma' hi pnawn 'ma Doris?
(1, 1) 104 Sut ma'r hen Sel?
(1, 1) 105 Ydi o am Man U dydd Sadwrn?
(1, 1) 106 Ydi m'wn.
(1, 1) 107 Stid gan' nhw, deuda wrtho fo...
(1, 1) 108 Hen bobol iawn ym Malltraeth.
(1, 1) 109 Halan y ddaear.
(1, 1) 110 Hogia'r werin, te?
 
(1, 1) 112 Reit Dei.
(1, 1) 113 'Dw i newydd ga'l nodyn gin ryw bishyn bach yn fan'ma yn deud nad oes 'ma ddim byd gin Islwyn Davies.
(1, 1) 114 Fasa ti'n lecio rhwbath arall?
(1, 1) 115 Dei?
(1, 1) 116 Ti 'na?
(1, 1) 117 Dei?
(1, 1) 118 Lle a'th o 'dwch?...
(1, 1) 119 Ta waeth, enjoia hon gin yr hen Doreen Lewis.
(1, 1) 120 Hogan a hannar Doreen.