(Blank) Ledrithion gwelwon! wele chwi'n dynesu, | |
(Blank) A'r peth a aeth, sydd, eto, ddiogelaf. | |
(0, 2) 40 | Ymryson gerdd yr Haul a glywir, |
(0, 2) 41 | Fel cynt, â'i frodyr fydoedd gwrdd, |
(0, 2) 42 | A'i rag-drefnedig daith yn gywir |
(0, 2) 43 | A geidw ef â tharan dwrdd; |
(0, 2) 44 | I'r engyl, rhydd ei wedd ddigonedd, |
(0, 2) 45 | Er nas amgyffred un o'r llu; |
(0, 2) 46 | A'r gwaith goruchel mewn gogonedd |
(0, 2) 47 | Megys y diwrnod cyntaf fu. |