g1g2g3

Faust (1922)

Johann-Wolfgang von Goethe
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1922 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 1

CYFLWYNIAD


Ledrithion gwelwon! wele chwi'n dynesu,
Oedd hoff i'm golwg dwys ym more byd,
A geisiaf nau eilwaith eich anwesu,
A blyg fy nghalon eto dan yr hud?
Ymdyrrwch yna ynteu, ac ymresu,
Megys y dowch o darth a niwl ynghŷd;
Yn ieuanc eto, cryn fy nghalon hithau
O dan yr hud a ddaw pan ddeloch chwithau.

I'ch canlyn, fe ddaw cof am ddyddiau mwynion,
A chyfyd llun rhai annwyl mwy nad ynt;
Fel rhyw hen ramant hanner mud, daw swynion
Y cariad cyntaf a'r gyfeillach gynt;
Daw gofid hefyd, ac atseinia gŵynion
Bywyd ei hunan a'i drofâog hynt,
Ac enwa imi lawer hoff gydymaith
O'm blaen o'i ddedwydd awr a gipiwyd ymaith.

Ni chlywant hwy mo'r newydd gân, y rheiny
Y canwn iddynt gerddi'r bore llon;
Ar wasgar, mwy, yr aeth y mwyn gwmpeini, a
A'r atsain gyntaf, bellach, mud yw hon;
Fy nghân, yn awr, i estron dorf y seini,
A'u clod ei hun sydd megys braw i'm bron;
A'r sawl o'm cân a gaffo ddim diddigrwydd,
Os ceir, drwy'r byd y crwydra mewn unigrwydd.

A mi, rhyw ryfedd hiraeth mwy a'm tery
Am dawel fyd di boen yr ysbryd fry;
A nawf fy sisial gân, fel chwa pan chwery
Drwy dannau telyn, yn ddilafar su;
Rhed iasau drwof, dagrau li'n goferu,
A'r galon gref, yn wan a masw y try;
A feddaf, megys draw ymhell y gwelaf,
A'r peth a aeth, sydd, eto, ddiogelaf.

g1g2g3