|
|
|
(Pleser) |Now, by your leave, gentlemen and ladies|: |
|
|
|
(Rondol) Heddyw, mae rhai yn ei haeddu, |
(1, 1) 760 |
Gwrandewch yn awr fawr a mân gân glân Ragluniaeth, |
(1, 1) 761 |
I mi mor deg, yma ar dwyn, mae'r olwyn reolaeth; |
(1, 1) 762 |
Pura sail pob rhyw swydd, hwynt arwydd naturiaeth; |
(1, 1) 763 |
Pob cwymp a dyrchafiaeth sydd a'u lluniaeth i'm llaw; |
(1, 1) 764 |
Doethineb Ior wnaeth y byd, a'r hyn sydd gyd ynddo, |
(1, 1) 765 |
A'i air ef sydd o'i ras yn addas ddefnyddio, |
(1, 1) 766 |
Rhagluniaeth rad, glanwaith rodd, a ryngo fodd iddo; |
(1, 1) 767 |
Pob gwedd a ddigwyddo o'm dwylaw a ddaw, |
(1, 1) 768 |
Mae pob dyn yn llaw Duw yn cynwys i'w amcanion, |
(1, 1) 769 |
Fel clai rhwydd yn llaw rydd crochenydd awch union; |
(1, 1) 770 |
Ef oll wneiff, o'i allu 'nawr, rai'n fawr, a rhai'n fyrion. |
(1, 1) 771 |
A pha'm na bydd dynion mwy boddlon yn byw? |
(1, 1) 772 |
Creaduriaid glân, mân a mawr, ag aflan yn gyfled, |
(1, 1) 773 |
Carnolion byd, fryd ddi-freg, a hoywdeg ehediaid; |
(1, 1) 774 |
Lluoedd llawn, ddawn diddysg, pysg ac ymlusgiaid; |
(1, 1) 775 |
Rhagluniaeth ganlyniad sy'n rhediad phob rhyw. |
(1, 1) 776 |
~ |
(1, 1) 777 |
Rhagluniaeth nawf, glanwaith nod, i'r pysgod fel pesgon, |
(1, 1) 778 |
Y mawr eu nherth mewn môr a nant lyncant y gwaelion, |
(1, 1) 779 |
Byw wna'r dewr ar ben y dwl, a'u meddwl a'u moddion, |
(1, 1) 780 |
Doethineb y cyfion, llaw roddion, llwyr yw, |
(1, 1) 781 |
Yn ei law anwyl e' mae calonau pelynion; |
(1, 1) 782 |
Darostwng beilch drwst, a bar, a chodi'r gwar gwirion, |
(1, 1) 783 |
Mwynaidd yw 'mynedd dda, dilidia wrth dylodion; |
(1, 1) 784 |
Fe dderbyn dylodion i foddion ail fyw, |
(1, 1) 785 |
Enfyn ef iawn farn i'r goludog i'w g'ledi, |
(1, 1) 786 |
Newynog noeth llenwi wna o'i anwyl ddaioni, |
(1, 1) 787 |
Nerth a dawn wrth y dydd, radd enwog, rydd ini; |
(1, 1) 788 |
Os trown o'n trueni ei gwmni ef gawn. |
(1, 1) 789 |
O! am nerth yma'n Nuw i fyw ac i farw, |
(1, 1) 790 |
Hwn yw'r sail unig sydd pan dderfydd pob twrw; |
(1, 1) 791 |
Un yw ef yn ei air pan fo'r byd yn bair berw, |
(1, 1) 792 |
Gwynfyd fo'r dydd hwnw yn ei enw fe'n iawn. |
|
(Rheswm Natur) Chwenycha' i'n 'nawr, a mawr yw 'mwriad, |
|
|
|
(Rheswm Natur) Gael deall cyneddf dull eich caniad. |
(1, 1) 796 |
Pwy ydych chwi, a pheth yw'ch henw? |
|
(Rheswm Natur) Rheswm natur maent yn fy ngalw. |
|
|
|
(Rheswm Natur) Ddamweinie croes i Reswm Natur. |
(1, 1) 808 |
Nid Rheswm Natur, ystyr, clyw, |
(1, 1) 809 |
All union farnu pethe Duw; |
(1, 1) 810 |
Nicodemus yw cydymeth |
(1, 1) 811 |
Plant y byd a'u hanwybodeth. |
(1, 1) 812 |
~ |
(1, 1) 813 |
Mae'n rhaid cael dyn yn hollol allan |
(1, 1) 814 |
O syniad cnawd a balchder hunan, |
(1, 1) 815 |
A marw i'r cnawd a byw i Dduw, |
(1, 1) 816 |
Cyn perffeth ddirnad pa beth yw. |
|
(Rheswm Natur) Mae hyn 'rwy'n gweled galed gwlwm, |
|
|
|
(Rheswm Natur) Yw rhagluniaethe yn mhob oes. |
(1, 1) 821 |
Rhaglunieth iachus y Gorucha', |
(1, 1) 822 |
Ro'i Lot ymwared o Gomora; |
(1, 1) 823 |
A Noa wneud arch i'w gadw o'r dystryw, |
(1, 1) 824 |
Chwech ugen mlynedd cyn y diluw. |
(1, 1) 825 |
~ |
(1, 1) 826 |
Rhaglunieth ddirgel fu'r athrylith, |
(1, 1) 827 |
Yn dysgu Jacob gael y fendith; |
(1, 1) 828 |
A gwerthu Joseph i law'r Aiphtwyr, |
(1, 1) 829 |
I gadw'i fywyd ef a'i frodyr. |
(1, 1) 830 |
~ |
(1, 1) 831 |
Rhagluniaethe diamgyffred, |
(1, 1) 832 |
Fu i Moses gyda'r Israelied; |
(1, 1) 833 |
Josua, Dafydd, a Hezecia, |
(1, 1) 834 |
A'r wraig weddw o Sarepta. |
(1, 1) 835 |
~ |
(1, 1) 836 |
Fe gadwodd llaw Rhaglunieth lân, |
(1, 1) 837 |
Trwy ffau'r llewod a ffwrn dân; |
(1, 1) 838 |
Trwy ene'r morfil yn y mawrfor, |
(1, 1) 839 |
Trwy fywyd Job, ac amryw'n rhagor. |
(1, 1) 840 |
~ |
(1, 1) 841 |
Pob peth sy'n llaw yr Hwn a all |
(1, 1) 842 |
Ddarostwng un a chodi'r llall; |
(1, 1) 843 |
Ni ddichon un dyn, gwnaed ei egni, |
(1, 1) 844 |
'Chwanegu cyfudd at ei faintioli. |