|
|
|
(Mari) {yn siarad wrthi ei hun} Wn i ddim be ddaw o honom ni 'rwan. |
|
|
|
(Sgt Williams) Rhaid i ni wneyd ein dyledswydd, wyddoch; ac fel y dywedais, yr wyf yn gobeithio y bydd popeth yn reit dydd Llun. |
(1, 1) 79 |
Mam!—— {yn gweld y Sergeant, ac yn tewi mewn syndod} |
|
(Sgt Williams) Dowch, Robert Lewis, waeth i ni heb ymdroi, wna hynny les yn y byd. |
|
|
|
(Mari) Be wyt ti'n ddeyd ddeydodd Abel Hughes wrthat ti neithiwr, Rhys? |
(1, 2) 111 |
Deyd y cawn i beidio mynd i'r siop heddyw, am fod Bob yn dwad allan o'r jail. |
|
(Mari) Mae'n dda gen i fod Abel Hughes yn dal i gredu mai ar gam yr anfonwyd Bob i'r jail. |
|
|
|
(Mari) Mae'n dda gen i fod Abel Hughes yn dal i gredu mai ar gam yr anfonwyd Bob i'r jail. |
(1, 2) 113 |
'Roedd mistar yn deyd ddoe yn y siop ei fod ef yn credu erbyn hyn fod Bob wedi cael dau fis o jail yn hollol ar gam. |
|
(Mari) Yr ydw i yn synnu fod Mr. Brown, y Person, yn gallu pregethu am gyfiawnder a thrugaredd, ac ynta'i hun wedi bod ar y fainc yn cytuno efo gwr y Plas i weinyddu anghyfiawnder. |
|
|
|
(Mari) Be' na i iddo fo, Rhys? |
(1, 2) 164 |
Mi fydda Bob yn ffond iawn o gacen gyrans. |
|
(Mari) Ie, dyna hi; wneiff honno ddim pwyso arno fo. |
|
|
|
(Wil) {wrth Rhys} Gai roi noled iddo fo? |
(1, 2) 256 |
Cymer ofal, Wil. |
|
(Mari) Cerwch i ffwrdd, James, fel 'rydw i yn gofyn i chi. |
|
|
|
(Tomos) Rhaid i ni hastio; rhaid iti adel y llestri, Barbara. |
(2, 2) 342 |
Dacw Wil Bryan yn dwad. |
(2, 2) 343 |
Welodd o mona i. |
(2, 2) 344 |
Mi drof yn f'ol. |
(2, 2) 345 |
Na, fydde hynny ddim yn anrhydeddus at Wil, er fy mod wedi penderfynu peidio cymdeithasu âg ef mwyach. |
(2, 2) 346 |
Mi ddeudaf wrtho mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da. |
(2, 2) 347 |
Mi fydd yn siwr o fy ngwawdio, yn enwedig os deyda i wrtho mod i am fynd yn bregethwr. |
(2, 2) 348 |
Dylaswn fod wedi deyd yn onest wrtho er's misoedd, paham yr wyf yn ei osgoi. |
|
(Wil) Holo! yr hen fil blynyddoedd! |
|
|
|
(Wil) Mae acw andros o row wedi bod yr wsnos yma, a hynny am ddim byd just, a dydw i ddim am ddiodde chwaneg o humbug. |
(2, 2) 357 |
Beth oedd yr helynt, Wil? |
|
(Wil) Wel, mi wyddost am yr hen gloc wyth niwrnod sy yn y gegin acw? |
|
|
|
(Wil) Ond honour brigh, ydi'n ffaith fod ti wedi d'aileni? |
(2, 2) 397 |
Wil, wyt ti ddim yn meddwl fod yn bryd i ni droi dalen? |
(2, 2) 398 |
Fedra i ddim deyd wrthat ti yn groew mod i wedi fy ail-eni, ond y mae fy meddwl wedi mynd dan gyfnewidiad rhyfedd yn ddiweddar. |
(2, 2) 399 |
'Roeddwn i eisio cael deyd wrthat ti mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da, os ca i help i fod felly, a does dim ar y ddaear a ddymunwn yn fwy nag i tithau neyd yr un penderfyniad. |
(2, 2) 400 |
Yr wyt bob amser wedi bod yn ffrynd mawr i mi, ond neiff hi mo'r tro i fynd ymlaen fel y buom ni,—mae hi yn siwr o ddiweddu yn ddrwg. |
(2, 2) 401 |
Fyddi di ddim yn meddwl am hynny weithie, Wil? |
|
(Wil) Go on efo dy bregeth; "ni a sylwn yn yr ail le," dywed. |
|
|
|
(Wil) Go on efo dy bregeth; "ni a sylwn yn yr ail le," dywed. |
(2, 2) 403 |
Nid pregeth mo honi, Wil, ond ymgom gyfeillgar. |
|
(Wil) Wel, os nad pregeth ydi hi, mi glywis i salach lawer gwaith. |
|
|
|
(Wil) Ond i fod yn sad; 'roeddwn i wedi spotio er's tipyn dy fod wedi mynd i'r lein yna, a mi ddeudis hynny wrthat ti, onid o? |
(2, 2) 406 |
Do siwr. |
|
(Wil) Roeddat ti'n meddwl y baswn i'n gneyd sport am dy ben di. |
|
|
|
(James) Nei di ddim ysgwyd llaw efo mi? |
(2, 2) 455 |
F'ewythr, pe ysgydwn law â chwi, disgwyliwn iddi fraenu y foment honno. |
(2, 2) 456 |
Yr wyf yn eich cashau â fy holl galon. |
(2, 2) 457 |
Gadewch i mi basio. |
|
(James) Be' sy arnat ti, fachgen? |
|
|
|
(James) Pam yr wyt ti yn fy nghashau i? |
(2, 2) 461 |
Pam, yn wir! |
(2, 2) 462 |
Gwyddoch yn burion. |
(2, 2) 463 |
Chi fu yr holl achos o'r holl drueni y bu fy mam ynddo. |
(2, 2) 464 |
Chi ddysgodd fy nhad i boachio. |
(2, 2) 465 |
Chi a'i dysgodd i segura. |
(2, 2) 466 |
Pa sawl gwaith y rhoddodd fy mam y swllt ola i chi er mwyn cael gwared o honoch? |
|
(James) Na hidia son am dy dad; mae o wedi mynd i ffwrdd. |
|
|
|
(James) Na hidia son am dy dad; mae o wedi mynd i ffwrdd. |
(2, 2) 468 |
I ble? |
(2, 2) 469 |
I'r Merica? |
|
(James) Na, i le cynhesach o lawer. |
|
|
|
(James) Na, i le cynhesach o lawer. |
(2, 2) 471 |
Siaradwch yn eglur. |
(2, 2) 472 |
Lle mae o? |
|
(James) Sut y medra i ddeyd wrthat ti? |
|
|
|
(James) Fum i 'rioed ar y grounds lle mae dy dad 'rwan; y cwbwl fedra i ddeyd ydi fod o wedi cicio'r bwced. |
(2, 2) 475 |
Ydach chi'n deyd y gwir am unwaith? |
|
(James) Fu 'rioed well gwir. |
|
|
|
(Miss Hughes) Eistedd fan yna, Rhys. |
(2, 3) 519 |
O'r gore, Tomos Bartley. |
(2, 3) 520 |
Prysur iawn ydych o hyd, 'rwy'n gweld. |
|
(Tomos) Ie, tw bi shwar, trwsio 'sgidie rhwfun o hyd. |
|
|
|
(Tomos) Ie, tw bi shwar, trwsio 'sgidie rhwfun o hyd. |
(2, 3) 522 |
Esgidie pwy yw y rhai yna? |
|
(Tomos) 'Sgidie Wil Pont y Pandy, {gellir nodi unrhyw gymeriad lleol}—welest ti fath draed erioed, ma' nhw fel cwarter i dri, da 'i byth o'r fan 'ma! |
|
|
|
(Tomos) Wyst ti be, pan glywn ni am cheap trip, hidie Barbara a finne 'run bluen pwyntydd a dwad i edrach am danat ti, a hidien ni, Barbara? |
(2, 3) 533 |
Mi leiciwn eich gweld chi yn arw iawn. |
|
(Tomos) Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gweld ni. |
|
|
|
(Tomos) Oes yno lawer o honyn nhw, dwed, yn y Bala yn dysgu pregethu? |
(2, 3) 536 |
Nid dysgu pregethu mae nhw yno, Tomos Bartley. |
|
(Tomos) O wel, wir, dwed di hynny, achos mi glywais i rai o honyn nhw a doeddwn i yn gweld dim byd ynyn nhw,—i nhast i |
|
|
|
(Tomos) Wel, be yn y byd mawr mae nhw yn ddysgu yno? |
(2, 3) 541 |
Ieithoedd, Tomos Bartley. |
|
(Tomos) Hyhy! Pw ieithoedd, dwed? |
|
|
|
(Tomos) Hyhy! Pw ieithoedd, dwed? |
(2, 3) 543 |
Lladin a Groeg. |
|
(Tomos) Hoho! mi gwela hi 'rwan,—rhag ofn y bydd raid iddyn nhw fynd yn fisionaries, ynte? |
|
|
|
(Tomos) Riol peth, yn wir. |
(2, 3) 546 |
Nag ydw. |
|
(Tomos) 'Roeddwn inne yn meddwl hynny. |
|
|
|
(Tomos) Be daru ti galw nhw? |
(2, 3) 550 |
Lladin a Groeg. |
|
(Tomos) Tw bi shwar,—Lladin a Groeg. |
|
|
|
(Tomos) Tw bi shwar,—Lladin a Groeg. |
(2, 3) 552 |
Nage. |
|
(Tomos) Iaith pwy, ynte? |
|
|
|
(Tomos) Iaith pwy, ynte? |
(2, 3) 554 |
O, ieithoedd rhyw hen bobol sydd wedi marw er's canrifoedd. |
|
(Tomos) Ieithoedd pobol wedi marw! |
|
|
|
(Tomos) Gneyd sport o hono i 'rwyt ti, dwed? |
(2, 3) 558 |
Na, yr wyf yn deyd y gwir yn onest i chi,—maent yn dysgu yr ieithoedd er mwyn y trysorau sydd ynddynt. |
|
(Tomos) Wel, da i byth gam i geibio os clywais i ffasiwn beth. |
|
|
|
(Tomos) Beth arall mae nhw yn 'i ddysgu ono, dwed? |
(2, 3) 563 |
Mathematics. |
|
(Tomos) Mathew Matic! |
|
|
|
(Tomos) Be ydi hwnnw, dywed? |
(2, 3) 567 |
Sut i fesur a phwyso, a gneyd cyfrifon a phethe felly. |
|
(Tomos) Dene rwbath digon handi, a dene'r rheswm, ddyliwn i ti, fod cymin o brygethwrs yn mynd yn ffarmwrs ac yn shopwrs. |
|
|
|
(Tomos) Be arall ma nhw yn 'i ddysgu? |
(2, 3) 570 |
Saesneg a Hanesiaeth. |
|
(Tomos) Eitha peth. |
|
|
|
(Tomos) Ond dywed i mi, ddyliwn fod y ffâr yn go lew ono? |
(2, 3) 581 |
Nid ydynt yn profeidio i neb. |
(2, 3) 582 |
Mae pawb yn gorfod gofalu am dano ei hun. |
|
(Tomos) Wel, sut yn y byd mawr mae'r bechgyn yn cael profisiwns? |
|
|
|
(Tomos) Ydyn nhw yn cael hyn a hyn yr wsnos at fyw? |
(2, 3) 585 |
Nag ydynt; mae nhw yn cael mynd yma ac acw i brygethu, ac yn cael ychydig am hynny, ac yn byw arno. |
|
(Tomos) Wel, da i byth i Ffair Caerwys os nad y College ydi'r lle rhyfedda y clywis i son am dano. |
|
|
|
(Tomos) Mi fydd gynnon ni ddigon wedyn. |
(2, 3) 594 |
Na, fydd arna i ddim angen, yn siwr, Tomos Bartley, diolch yn fawr i chwi. |
|
(Tomos) Wel, wel! Arnat ti mae'r bai. |
|
|
|
(Tomos) Nos dawch. |
(2, 4) 617 |
Wel, mae yr amgylchiad oeddwn wedi ei hir ddisgwyl wedi pasio. |
(2, 4) 618 |
Yr wyf yn awr wedi fy ngalw gan eglwys Bethel i bregethu, ond beth wnaf?—dyna y cwestiwn. |
(2, 4) 619 |
Dydw i ddim ond bachgen tlawd, a rhaid cael arian i fynd i'r Coleg. |
(2, 4) 620 |
Hwyrach y dylwn i aros adref i gadw y busnes ymlaen efo Miss Hughes. |
(2, 4) 621 |
Mae hi wedi cynnyg cyflog dai mi; ond 'rwyf yn meddwl mai mynd i'r Coleg ddylwn er hynny, neu roi fling i'r pregethu yma am byth. |
(2, 4) 622 |
Dywedodd fy hen feistr, Abel Hughes, wrthyf lawer gwaith na ddylai yr un dyn ieuanc feddwl am bregethu, heb ar yr un pryd benderfynu treulio rhai blynyddoedd yn y Coleg. |
(2, 4) 623 |
Dywedodd Abel wrthyf na fuasai raid i mi fod eisiau dim tra yn y Coleg, ac y disgwyliai ef i mi wneyd Shop y Gornel yn gartref. |
(2, 4) 624 |
Ond waeth tewi am hynny. |
(2, 4) 625 |
Fuasai wiw i mi son wrth neb am hynny,—choelie nhw mona i. |
(2, 4) 626 |
Beth wnai? |
(2, 4) 627 |
Wn i ddim. |
(2, 4) 628 |
Yr ydw i yn synnu ata fy hun mor ddi-adnoddau ydwyf. |
(2, 4) 629 |
Hwyrach fy mod wedi arfer ymddiried mwy yn Abel Hughes nag mewn Rhagluniaeth. |
(2, 4) 630 |
Ydi o ddim ond rhyfyg arnaf fynd i'r Coleg heb ddim o fy nghwmpas ond dillad ac ychydig lyfrau. |
(2, 4) 631 |
Be ydw i'n siarad? |
(2, 4) 632 |
Y cwestiwn ydyw, "Beth a wna i am arian?" |
(2, 4) 633 |
'Does gen i fawr; dyma nhw—{yn tynnu allan ei bwrs, ac yn cyfrif ei arian,—un, dwy, etc.}—chwe phunt a deg swllt a chwe cheiniog! |
(2, 4) 634 |
Erbyn byddaf wedi talu rhyw ychydig bethau, a phrynnu rhai ereill, fydd gen i ddim ond digon i dalu fy nhren i'r Bala. {yn dal ei arian yn ei law} |
|
(Miss Hughes) Yr ydw i'n mynd i gadw 'rwan, Rhys. |
|
|
|
(Miss Hughes) Yr ydw i'n mynd i gadw 'rwan, Rhys. |
(2, 4) 637 |
Arhoswch funud. |
(2, 4) 638 |
Mae gen i eisio siarad gair efo chwi. |
(2, 4) 639 |
Heb ofyn eich caniatad, yr wyf wedi gwneyd ymchwiliad lled fanwl i amgylchiadau eich diweddar frawd, ac yr wyf yn cael fod digon ar ol i chi fyw yn gysurus arno, ac i chi gael byw i fynd yn hen. |
(2, 4) 640 |
Fy nghyngor i ydyw,—gellwch ei wrthod os dewiswch,—gwerthu yr ystoc a'r busnes. |
(2, 4) 641 |
Yr wyf yn meddwl y gwn am gyfaill i mi y byddai yn dda ganddo gymeryd popeth oddiar eich llaw. |
(2, 4) 642 |
Mae allan o'r cwestiwn i mi aros yma i edrych ar ol y busnes. |
(2, 4) 643 |
Yr wyf yn benderfynol o fynd i'r Coleg. |
(2, 4) 644 |
Ac yr wyf yn sicr, pe gallech ymgynghori â fy hen feistr, y dywedai ef fy mod yn gwneyd yn fy lle. |
|
(Miss Hughes) Yr ydw i wedi siarad yn gas iawn lawer gwaith wrthat ti, Rhys. |
|
|
|
(Miss Hughes) Mi wn y gwnei di fadde i mi. |
(2, 4) 647 |
Gwnaf; 'ran hynny, ddigies i 'rioed wrthoch chi. |
|
(Miss Hughes) Roeddwn i wastad yn dy leicio di, mi wyddost o'r gore. |
|
|
|
(Miss Hughes) Y ti ŵyr ore, a mi wnaf fel wyt ti yn deyd. |
(2, 4) 651 |
Yr wyf yn sicr mai dyna y peth gore i chi, a mae yn dda gen i weld eich bod yn cydweld â mi. |
|
(Miss Hughes) Bydawn i yn cael rhwfun yn dy le di, fy robio i wnai o, hwyrach, ynte? |
|
|
|
(Miss Hughes) Bydawn i yn cael rhwfun yn dy le di, fy robio i wnai o, hwyrach, ynte? |
(2, 4) 653 |
Wn i ddim yn wir. |
|
(Miss Hughes) Oedd ar Abel rwbeth o gyflog i ti? |
|
|
|
(Miss Hughes) Oedd ar Abel rwbeth o gyflog i ti? |
(2, 4) 655 |
Dim. |
(2, 4) 656 |
Yr oeddwn ers mis wedi codi fy nghyflog, hyd i ddydd Sadwrn diweddaf. |
|
(Miss Hughes) Dyma ti, mi wn y cei yn y College bopeth fyddi di eisio; ond hwyrach na chei di fawr o boced-myni. |
|
|
|
(Wil) Wel, aros di, welis i monot ar ol y seiat y ces di dy alw i bregethu, ond dyma ni, just y peth, 'roeddwn i eisio cael ymgom efo ti. |
(2, 4) 667 |
Mi wyddwn, Wil, y cawn i'r hanes i gyd gennyt. |
(2, 4) 668 |
Sut y bu hi ar ol iddyn nhw ngyrru i allan? |
|
(Wil) Bydawn i yn rhoi verbatim report i ti, wnai o les yn y byd i ti. |
|
|
|
(Wil) Glywes di am danom ni acw? |
(2, 4) 697 |
Clywed be, Wil? |
(2, 4) 698 |
Dydw i ddim yn dy ddailt di. |
|
(Wil) Wel, mae hi yn "U P" acw, a mi fydd pawb yn gwybod hynny cyn wythnos i heddyw, a fedra i mo'i sefyll hi. |
|
|
|
(Wil) Fum i 'rioed o'r blaen yn really down in the mouth. |
(2, 4) 710 |
Wil, yr wyt ti bron wedi cymeryd fy ngwynt! |
(2, 4) 711 |
Sut y daeth pethau i hyn? |
|
(Wil) Rhy faith i fynd drostyn nhw, was. |
|
|
|
(Wil) Mae'n rhaid i mi fynd,—mae rhywbeth yn fy ngyrru. |
(2, 4) 720 |
'Rwyt ti wedi ngneyd i'n brudd, Wil. |
(2, 4) 721 |
Wnei di dderbyn un cyngor? |
|
(Wil) Beth ydi hynny, old fellow? |
|
|
|
(Wil) Beth ydi hynny, old fellow? |
(2, 4) 723 |
Treia newid dy ffordd o fyw. |
|
(Wil) Fedra i ddim, Rhys. |
|
|
|
(Wil) Yr wyf yn teimlo bron 'run fath a Wolsey,—"Had I but served my God,"—mi wyddost am y geirie. |
(2, 4) 729 |
Wil bach—— |
|
(Wil) Waeth iti heb siarad! |
|
|
|
(Tomos) Sut yr wyt ti ers cantoedd â miloedd? |
(3, 1) 795 |
Reit iach, Tomos. |
(3, 1) 796 |
Pwy yn y byd mawr fase yn disgwyl y'ch gweld chi yn y Bala? |
|
(Tomos) Tw bi shwar! |
|
|
|
(Tomos) Lle 'roeddat ti wrthi ddoe? |
(3, 1) 809 |
Trawsfynydd. |
|
(Tomos) Trawsfynydd? |
|
|
|
(Tomos) Wel, aros di, nid un oddiyno oedd Morgan Llwyd? |
(3, 1) 812 |
Ië. |
|
(Tomos) Tw bi shwar! |
|
|
|
(Tomos) Dywed i mi, oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Trawsfynydd 'rwan? |
(3, 1) 832 |
Oes y mae, Tomos. |
|
(Tomos) Bydase gen i amser, mi faswn yn mynd yno 'u gweld nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma! |
|
|
|
(Tomos) Wyt ti'n cael digon o brofisiwns yma, dywed? |
(3, 1) 841 |
Mae hi yn dwad ymlaen yn eitha da hyd yn hyn, Tomos. |
(3, 1) 842 |
Sut mae Barbara, a sut na fase hi efo chi? |
|
(Tomos) Wel, rhw ddigon bethma ydi Barbara, yn siwr i ti. |
|
|
|
(Tomos) Wyst ti be, fum i ddim oddicartre o'r blaen er's pum mlynedd ar hugain. |
(3, 1) 847 |
Beth ydych chi yn 'i feddwl o'r Bala, Tomos? |
|
(Tomos) Tydw i wedi gweld fawr ohoni eto, ond yn ol hynny weles hi, mae hi'n edrach yn debyg iawn,—yn ol y meddwl i,—i dre wedi 'i bildio ar ganol cae. |
|
|
|
(Tomos) Does gen i fawr o amser, a mi fydd acw dy ar ffyrch nes a i 'nol. Oes gynnat ti amser? |
(3, 1) 857 |
Oes debyg. |
(3, 1) 858 |
Mi ddanghosaf gymaint ag allaf. |
(3, 1) 859 |
Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi cael bwyd. |
|
(Tomos) Do, neno dyn; mi roth Barbara olwyth o facyn a bara i mi fyta ar y ffordd, a mi nes yn champion, syffiasiant i un-dyn. |
|
|
|
(Tomos) Do, neno dyn; mi roth Barbara olwyth o facyn a bara i mi fyta ar y ffordd, a mi nes yn champion, syffiasiant i un-dyn. |
(3, 1) 861 |
Well i mi 'molchi. |
|
(Tomos) 'Molchi! I be wyt ti isio molchi? |
|
|
|
(Tomos) Wyt ti'n mynd dipyn yn gysetlyd yma, dywed? |
(3, 1) 866 |
Fydda i 'run dau funud. {Ymneillduo am funud.} |
|
(Tomos) Aros di, Rhys, weles i monat ti yn cymeryd dim byd at dy ben er pan ydw i yma. |
|
|
|
(Tomos) Ches di ddim bwyd? |
(3, 1) 869 |
Do, Tomos, mi ges fwyd yn Rhyd-y-fen. |
|
(Tomos) Rhyd-y-fen? |
|
|
|
(Tomos) Ydi hi'n daith? |
(3, 1) 873 |
Na, ty tafarn ydi Rhyd-y-fen,—hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog. |
|
(Tomos) Be, be? |
|
|
|
(Tomos) Ond 'does dim harm yn y peth-ynddo'i hun, yn ol y meddwl i; a mi fyddwn yn wastad yn deyd fod Abel Hughes yn rhy strict efo hynny. |
(3, 1) 878 |
Diolch yn fawr i chwi, Tomos; a diolchwch i Barbara. |
|
(Tomos) Mae i ti groeso, machgen i. |
|
|
|
(Tomos) {yn tanio ei getyn} Mi gychwynna i, fechgyn. |
(3, 1) 881 |
Hwyrach mai gwell fydda i chi beidio smocio yn y dre, Tomos. |
|
(Tomos) Oes drwg am hynny? |
|
|
|
(Tomos) Ne ai pobol go gysetlyd sydd yn y Bala? |
(3, 1) 884 |
'Does dim drwg yn y peth, am wn i, Tomos; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hynny yma. |
|
(Williams) Na, smociwch eich gore, Mr. Bartley. |
|
|
|
(Williams) Mi fydde yn perfect treat. |
(3, 1) 895 |
Fydde hynny ddim quite y peth. |
(3, 1) 896 |
Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd raid i mi fynd ag o o gwmpas. |
(3, 1) 897 |
Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre, mi fase yn dda iawn gen i. |
(3, 1) 898 |
Mi fydd pawb yn edrach ar y'n hola ni. |
|
(Williams) Paid a chyboli! |
|
|
|
(Williams) Os cai, mi geiff y mathematics am heddyw'r prydnawn fynd i Jerico. |
(3, 1) 904 |
Gei di, wir! |
(3, 1) 905 |
Yr oeddwn ar fedr cynnyg pum swllt i ti am ddwad i gymeryd peth o'r cywilydd. |
|
(Williams) Rhys Lewis sydd ar y ddau. |
|
|
|
(Williams) Ydi hi'n iach? |
(3, 1) 913 |
Paid a lolian, Williams. |
(3, 1) 914 |
Edrych, beth ddyliet ti yw hwn? |
(3, 1) 915 |
Gwahoddiad oddiwrth fy hen eglwys, Bethel, i fynd yn weinidog arni. |
|
(Williams) Llongyfarchiadau lond gwlad. |
|
|
|
(Williams) Unpeth eto, Rhys. |
(3, 1) 918 |
Beth ydi hwnnw, Williams? |
|
(Williams) Gwraig reit dda. |
|
|
|
(Williams) Pam mae dy wedd yn newid,—pa newydd drwg? |
(3, 1) 922 |
Dyma lythyr o garchar Birmingham, yn dweyd fod yno berthynas i mi ar ei wely angeu, ac fod yn rhaid i mi fynd yno ar unwaith i'w weld. |
|
(Tomos) {oddiallan} |
|
|
|
(Athraw) Mr. Evans of Denbigh, will you read? |
(3, 2) 948 |
He is not here, sir. |
|
(Athraw) Where is he? |
|
|
(4, 1) 1019 |
Waeth i mi droi i edrych am lety.—{Clywed chwibiannu.} |
(4, 1) 1020 |
Dyna'r hen "Gaersalem". |
(4, 1) 1021 |
Wyddwn i ddim fod y Saeson yn ei harfer o'r blaen. |
(4, 1) 1022 |
Mi gaf weld,—mae y chwibianwr yn dwad ffordd yma. |
|
(Wil) Wel, yr hen ganfed! |
|
|
|
(Wil) Wyddost ti pwy weles i rwan just? |
(4, 1) 1030 |
Na wn i. |
|
(Wil) Wel, mi weles yr hen Niclas yn dwad allan o'r lle yna, a mi canlynais o, a mi weles 'i fod o yn byw ar hyn o bryd yn 65 Gregg Street, ac mi ddois yn ol yma i edrych welwn i chwaneg o'r breed, a strange to tell, dyma tithe. |
|
|
|
(Wil) Spowtia. |
(4, 2) 1067 |
Wel, mi ges lythyr fod 'ne rywun yn y Carchar yna wedi marw, ac yn gofyn am danaf cyn marw. |
(4, 2) 1068 |
Dois yma ar unwaith, ac aethum i'r Carchar, a phwy oedd yno ond fy ewythr James Lewis wedi marw. |
(4, 2) 1069 |
Prin y medrwn i gredu ei fod wedi marw o ddifrif; ond mai rhyw gynllun cyfrwysddrwg oedd ganddo i ddyfod allan o'r carchar. |
(4, 2) 1070 |
Er mwyn bod yn sicr, teimlais ei ddwylaw a'i dalcen, ac yr oeddynt can oered a'r muriau llaith oedd o'n cwmpas. |
(4, 2) 1071 |
Yr oedd cyn farwed a hoel, ac er ei fod yn ewythr i mi, frawd fy nhad, mae arnaf ofn na ddodwyd ond ychydig o'i waeth rhwng pedair ystyllen. |
(4, 2) 1072 |
Fedra i ddim llai na theimlo yn falch, nad all ef fy mlino i mwy. |
(4, 2) 1073 |
Mi ddois allan o'r Carchar, ac mi wyddost y gweddill. |
|
(Wil) Gwna dy hun gartref tra byddai yn ceisio'r grub yn barod. |
|
|
|
(Wil) Wel, mi welaf fod ti'n cymeryd stoc. |
(4, 2) 1078 |
Wel, Wil bach, wyt ti wedi dwad i hyn? |
|
(Wil) Dwad i be? |
|
|
|
(Wil) Dywed y gair, te neu goffi? |
(4, 2) 1084 |
Te. |
|
(Wil) Same here. |
|
|
|
(Wil) Does gen i ddim llefrith chwaith,—ma'r tuberculosis yn enbyd ar y gwartheg yma, ac mae te heb laeth ynddo 'n torri syched yn well lawer, Rhys. |
(4, 2) 1098 |
Wel, 'rwan, Wil bach, dywed dipyn o dy hanes i mi. |
|
(Wil) Wel, mi wyddost pan yr es i oddi cartre. |
|
|
|
(Wil) Mae'r cwbl just a chael ei dalu rhyngom ni. |
(4, 2) 1129 |
Yr oeddwn yn deall fod dy dad bron a thalu ei holl ddyled, ond bychan y gwyddwn i dy fod di yn 'i helpu o. |
(4, 2) 1130 |
Yr wyt yn gwneyd yn dda iawn, ond fe wnaet yn well pe ddoit adref. |
|
(Wil) Mi ddof rai o'r dyddiau nesaf yma, pan fydd yr accounts yn glir. |
|
|
|
(Wil) Mi ddof rai o'r dyddiau nesaf yma, pan fydd yr accounts yn glir. |
(4, 2) 1132 |
Be ddyliet, Wil, yr wyf fi wedi cael galwad i fod yn fugail yr hen eglwys y cawsom ein dau ein magu ynddi. |
(4, 2) 1133 |
A fuasai ddim yn well gennyf, os atebaf yr alwad yn gadarnhaol, na dy gael di unwaith eto yn aelod ohoni. |
|
(Wil) Wait till the clouds roll by. |
|
|
|
(Wil) Ddylies i'n siwr mai y got las oedd ene, having run us down to earth. |
(4, 2) 1140 |
'O na, mae'n debyg ei fod yn gweld nad oeddym yn gwneyd drwg, ac wedi ein rhoi i fyny. |
|
(Wil) Never be too sure! |
|
|
|
(Wil) Os daw'r officer yma, be ddeydwn ni wrtho, dywed? |
(4, 2) 1145 |
'Does dim i'w wneyd ond deyd y gwir, a chymeryd y canlyniadau. |
(4, 2) 1146 |
Ond mi fynnaf wybod pwy oedd ar y gwely yn y ty yna, dae raid i mi fynd i ben y ffenestr eto. |
|
(Wil) Deyd y gwir! |
|
|
|
(Sgt Williams) Rhys, a ydych yn fy adnabod? |
(4, 2) 1173 |
Nag ydw i'n wir. |
|
(Sgt Williams) Bryan, a ydych chwi? |
|
|
|
(Sgt Williams) Wyddoch chi pwy oedd yn y ty hwnnw, Rhys Lewis? |
(4, 2) 1185 |
Mi wn fod yr hen Niclas yno. |
|
(Sgt Williams) Ydi, ac y mae eich tad yno hefyd,—ar ei wely angau. |
|
|
|
(Sgt Williams) Fuasech chi yn leicio ei weld? |
(4, 2) 1190 |
Na fuaswn! |
(4, 2) 1191 |
Ond yr ydw i wedi gwneyd addewid. |
(4, 2) 1192 |
Buaswn. |
|
(Wil) Ie, cyn iddo'i gloewi hi. |
|
|
|
(Sgt Williams) Mi ddof hefo chwi. |
(4, 2) 1195 |
Wel, mi awn; ond aros di, Wil, 'does gen i ddim llawer o amser i ddal y tren, achos rhaid i mi fynd yn ol i'r Bala yn ddiymdroi, am fod yr Exam gennon ni drwy'r wythnos nesaf. |
|
(Wil) Wel, paid a synnu os bydd yours truly yn troi adref yn fuan, achos rydw i yn mawr gredu fod Wil Bryan yn dwad yn ei ol. |
|
|
|
(Tomos) Dacw fo'n dwad ar y gair i ti. |
(4, 3) 1214 |
Wel, gyfeillion bach, sut yr ydach chi heddyw? |
|
(Tomos) Digon symol ydi Barbara wir, wel di. |
|
|
|
(Tomos) Wyst ti be, Rhys, mae 'i gweld hi yn sal fel hyn yn codi hireth arna i am Seth. |
(4, 3) 1218 |
Wel, yr ydw i yn disgwyl y cawn ni gyfarfod Seth eto. |
|
(Tomos) Mae natur tranne yni hi heno, wel di; ac wrth feddwl am hynny, dene sy'n gneyd Barbara deimlo mor sal heno. |
|
|
|
(Tomos) Mae un o'r moch ola ges i yn colli'i stumog bob amser cyn tranne. |
(4, 3) 1221 |
Mae'n ddrwg gen i nad ydi Barbara ddim gwell. |
(4, 3) 1222 |
Mi ddowch |chi| i'r capel, Tomos? |
|
(Tomos) Tw bi shwar. |
|
|
|
(Wil) And to kill two birds with one stone, drwy ymweld â'r hen thorough-breds, mi ddeuthom yma ar dy ol di. |
(4, 3) 1231 |
Dowch i fewn. |
|
(Tomos) Wel, William, mi 'rwyt ti'n edrych yn dda. |
|
|
|
(Barbara) Ydi o'n wir, William, dy fod di yn mynd i briodi? |
(4, 3) 1249 |
Rhaid i chi ddim swilio'ch dau. |
(4, 3) 1250 |
Ydi o'n wir? |
|
(Wil) Fel secret, gan ddisgwyl nad eiff o ddim ymhellach, yr ydw i'n deyd wrthoch chi yma fod ene o'r diwedd definite understanding rhwng Sus a minne, ac yn wir ynglŷn â'r cwestiwn yna y daethom i yma i edrach am Rhys. |
|
|
|
(Wil) Mae hynny yn dibynnu ar Rhys yma. |
(4, 3) 1255 |
O na, mi fydd yn bleser gen i roi fy hun at eich gwasanaeth a'ch cyfleustra chwi eich dau. |
|
(Wil) Well, that settles it. |
|
|
|
(Wil) Wyt ti'n cofio mod i'n deyd wrthat ti mod i'n past feeling? |
(4, 3) 1260 |
Ydw. |