ACT I CARTREF MARI LEWIS. BWRDD, TAIR CADAIR, CLOC, A RHAI DODREFN. Golygfa 1 —Lle mae MARI LEWIS yn achwyn am y streicio, ac yn cwyno fod BOB yn cymeryd rhan. —MARGED PITARS yn ymweld a MARI LEWIS. —BOB yn dychwelyd o helynt y Glowyr, ac yn ymddiddan a'i fam. —MARI LEWIS yn ofni'r canlyniadau. —SERGEANT WILLIAMS yn dod i'r ty, ac yn cyflwyno'r wys i BOB. —BOB yn garcharor. —RHYS yn dychrynnu,—a'i fam yn wylo. |
|
Mari |
(yn siarad wrthi ei hun) Wn i ddim be ddaw o honom ni 'rwan. Dyma Bob wedi colli eì waith, a Rhys yn cael dim ond digon i'w gadw mewn 'sgidiau. Mae'r streics 'ma yn bethe creulon. Dyden nhw ddim yn perthyn i ni,—y Cymry. Pethe wedi dwad oddiwrth y Saeson yde nhw. Fu 'rioed son am streics yma cyn i Abram Jones gael ei droi i ffwrdd. Wn i ddim be oedd yn corddi Bob ni i fynd i'r row heddyw o gwbl. Mae Bob yn rhy ddiniwed o lawer. Mae y lleill yn 'i stwffio fo ymlaen, ond Bob sydd yn colli ei waith, nid y nhw; a dyma ninne yn gorfod diodde. Oni bai mod i'n gwybod b'le i droi, wn i ddim be wnawn i, na wn i yn wir. |
(Enter Marged Pitars). |
|
Marged |
Sut yr ydach chi, Mari Lewis? |
Mari |
Yr ydw i yn reit fflat, Marged Pitars, ydw'n wir. Steddwch i lawr. |
Marged |
Na, rhaid i mi fynd, ond mod i jest yn troi i mewn i weld sut yr oeddech chi yn yr helynt yma, Mi na'th y dynion yn riol â Mr. Strangle. Dase nhw wedi hanner 'i ladd o, fase o niwed yn y byd—— |
Mari |
Be ydi'ch meddwl chi, Marged Pitars? |
Marged |
Dim; ond fod yn hen bryd ì rywun godi row, fod y cyflogau mor fychain, fel nad yw yn bosib cadw teulu; ond, yn wir, yr oeddwn wedi siarsio y gwr acw i beidio dweyd yr un gaìr, nac i wneyd ei hun yn amlwg mewn ffordd yn y byd. |
Mari |
Felly, Marged Pitars, yr ydach chi yn awyddus i Bob ni ac ereill ymladd y frwydr, ac i Wmphre, eich gwr, a phawb arall sydd yn perthyn i chwi, fod fel y Dan hwnnw gynt, yn aros mewn llongau, a dyfod i mewn am ran o'r anrhaith wedi i'r rhyfel fynd drosodd. Mae yna lawer Dan yn ein dyddiau ninnau, fel yr oedd Mr. Davies, Nerquis, yn deyd. |
Marged |
Gobeithio na chollith Wmphra mo'i waith, beth bynnag. Rhaid i mi fynd. Nos da. |
Mari |
Nos da, a diolch i chi am alw. |
Exit Marged Pitars. Enter Bob. |
|
Bob |
Wel, mam, mae yn debyg eich bod wedi cael hanes yr helynt? |
Mari |
Do, machgen i; ond wyt tì yn meddwl dy fod wedi gwneyd dy ddyledswydd? Mi ddaru mi dy siarsio di lawer gwaith i adael i'r lleill godlo hefo'r helynt, onid o? Mi wn o'r gore fod genoch chi, fel gweithwyr, le i gwyno, ac fod yn gywilydd fod rhyw Sais yn dwad ar draws gwlad i gym'ryd lle dyn duwiol fel Abram Jones, na fu 'rioed helynt efo fo; ond 'dwyt ti ddim ond ifanc, a pham na faset ti yn gadael i rywun fel Edward Morgan siarad a chodlo,—dyn sydd ganddo dy iddo fo'i hun, a buwch, a mochyn? Ond waeth tewi. Beth ddaw o honom ni ydi'r pwnc 'rwan? |
Bob |
Mam! nid fel yna ddaru chi nysgu i. Gwna dy ddyledswydd, a gad rhwng y Brenin Mawr a'r canlyniadau, oedd un o'r gwersi cyntaf ddysgasoch i mi. Nid yw hyn ond y peth oeddwn yn ei ddisgwyl. Mae yn rhaid i rywun ddiodde cyn y daw daioni i'r lliaws; ac os ydw i ac ychydig ereill yn cael ein gwneyd yn fwch dihangol i'r tri chant sydd yn gweithio yn y Caeau Cochion, ac os bydd i ni fod yn foddlon i ddwyn eu rhyddid oddi amgylch, a'u llesad, popeth yn dda. Nid ydwyf wedi dweyd un gair ond y gwir, a'r hyn y mae pawb sydd yn y gwaith yn ei gredu a'i deimlo, ond eu bod yn rhy lwfr i'w adrodd yn gyhoeddus. Fel y dywedais, rhaid i rywun ddioddef er mwyn y lliaws. Mae y'ch Llyfr chi,—y Beibl,—yn son llawer am aberthu er mwyn ereill— |
Mari |
Taw a dy lol; fedra i ddim diodde dy glywed di yn siarad. 'Does ene ddim son am streics coliars yn y Beibl; ac os wyt ti yn mynd i gymharu y row ene â dim sydd yn y Beibl, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan y mynnost. |
Bob |
Cymerwch bwyll, mam; os nad oes cymhariaeth, y mae yna gyfatebiaeth, ac am gyfatebiaeth yr ydw i yn son. |
Mari |
Hwde di, paid di hel dy eirie mawr efo fi; dydi y gair cyfatebiaeth ddim yn y Beibl nac yn 'Fforddwr Mr. Charles. |
Bob |
Mi wn, mam, nad ydych wedi darllen 'Butler' ar Gyfatebiaeth. |
Mari |
'Bwtler!' Be wyt ti yn son am dy fwtler wrthai? Rhyw bagan fel ene, nad ydi o byth yn mynd i le o addoliad, ond i'r Eglwys, ac na ŵyr o ddim ond am gario gwin i'w feistar. |
Bob |
(yn chwerthin) Nid bwtler y Plas oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Bwtler,—dyn da a duwiol. |
Mari |
Wel, sut bynnag, yr wyt ti wedi ei gwneyd hi heddyw. Welest ti mo John Powell? Be oedd o yn feddwl o'r helynt? |
Bob |
Roedd o yn ofnì y cai rhai o honom ein cospi. |
Mari |
Wel, mae arna i ofn y canlyniadau. |
Bob |
Beth bynnag fyddant, dydi ddim yn 'difar gen i mod i wedi gwneyd yr hyn nes i, a dase y dynion wedi cadw at fy nghyngor i, fuase'r ynfydwaith hwn ddim wedi ei wneyd. |
Bob yn ceisio darllen papur newydd; Mari Lewis yn eistedd, a'i phen yn ei dwylaw. |
|
Mari |
Mi ges brofedigaeth fawr hefo dy dad, ond yr oedd yn dda gen i 'i weld o'n ffoi o'r ardal, er mai 'y ngwr i oedd o; ond wn i ddim be wnawn i daset ti yn gorfod ffoi rhag dwad i helynt. |
Bob |
'Na i ddim, a 'na i mo'ch gadel chi chwaith, tra y caf aros. |
Enter SERGEANT WILLIAMS. |
|
Bob |
(yn codi, gan roddi cadair i'r heddwas) Noson dda i chi, Sergeant; 'steddwch i lawr. Yr wyf yn meddwl fy mod yn deall eich neges. |
Sgt Williams |
Wel, neges digon anymunol sydd gen i, Robert Lewis, yn siwr i chi; ond yr wyf yn gobeithio y bydd popeth yn iawn dydd Llun. Mrs. Lewis, peidiwch a dychrynnu (gan estyn y warrant i Bob, yr hwn a'i darllennodd),—dydi o ddim ond matter of form. Rhaid i ni wneyd ein dyledswydd, wyddoch; ac fel y dywedais, yr wyf yn gobeithio y bydd popeth yn reit dydd Llun. |
Enter Rhys. |
|
Rhys |
Mam!—— (yn gweld y Sergeant, ac yn tewi mewn syndod) |
Sgt Williams |
Dowch, Robert Lewis, waeth i ni heb ymdroi, wna hynny les yn y byd. |
Bob |
Mam, mi wyddoch b'le i droì. Mae fy nghydwybod i yn dawel. |
MARI LEWIS yn eistedd yn sydyn ar gadair, ac yn rhoi eì phen ar y bwrdd, gan ddweyd yn floesg, "DYDD Y BROFEDIGAETH!" CURTAIN |