| (Martha) {Hanner lleisio mewn temper.} | |
| (Martha) Neis cwrdd â chi. | |
| (1, 0) 333 | O, helo, Mrs. Jones. |
| (1, 0) 334 | Fi wedi clywed llawer am ti gyda Meri. |
| (1, 0) 335 | Rhaid i ti esciwso Cymraeg fi achos nawr fi yn dysgu fe yn ysgol nos. |
| (1, 0) 336 | Fi wedi bod yn dod lot i Tre yma blynydde nôl i aros ar gwylie ato uncle a auntie fi. |
| (Mari) Odi, mae PC Thomas yn wncwl i Roger, mam. | |
| (Martha) O, dier, odi fe. | |
| (1, 0) 340 | Ti yn nabod Uncle Bill ac Auntie Patsy, Mrs. Huws? |
| (Martha) O, na, alla i ddim gweud bod fi yn 'u nabod nhw, dim ond 'u gweld nhw yn paso, ie, dim ond 'u gweld nhw yn paso. | |
| (Mari) Ta, ta cariad. | |
| (1, 0) 348 | O, ta ta, Bubbles. |
| (Martha) Bubbles? | |
| (Martha) Bubbles? | |
| (1, 0) 350 | Dyna yw pet name fi am Meri. |
| (Martha) O, ife, wel dewch i iste lawr, nawr te, i neud ych hunan yn gysurus. | |
| (Martha) O, ife, wel dewch i iste lawr, nawr te, i neud ych hunan yn gysurus. | |
| (1, 0) 352 | Ni pobl heddi yn eistedd gormod ar 'yn pen ole, Mrs. Huws. |
| (Martha) Esgusodwch fi, odi ych trowsus chi yn gwasgu arnoch chi yn rhywle? | |
| (1, 0) 356 | O, no, exserseisus yw rhain. |
| (1, 0) 357 | Fi yn neud rhain pob dydd i cadw yn ffit. |
| (1, 0) 358 | Os na fydda i wedi cael amser y bore i neud routine i gyd, fi yn iwsho bob chance fi cael yn y dydd wedyn. |
| (Martha) Roger, dyma John y gŵr. | |
| (1, 0) 363 | Da iawn gyda fi gael cwrdd â ti, Mr Huws. |
| (Martha) Ma Roger yn dysgu Cymraeg yn ysgol nos, John. | |
| (John) Chi'n eitha siŵr? | |
| (1, 0) 374 | O odw, fi yn arfer pan o'n i'n small dod ar holidays ato Uncle Bill a Aunty Patsy bob blwyddyn. |
| (Martha) Wel, shwt ma fe yn wncwl i chi te? | |
| (Martha) Wel, shwt ma fe yn wncwl i chi te? | |
| (1, 0) 376 | Ti gweld mae tad fi yn brawd iddo fe a mae tad fi yn Chief Constable yn Birmingham, a mae mam yn Saesnes o Birmingham. |
| (1, 0) 377 | Mae teulu fi yn od iawn a gweud y gwir. |
| (John) Rwy'n deall hynny. | |
| (John) Rwy'n deall hynny. | |
| (1, 0) 379 | Mae gyda fi un tadcu odd wedi dod o Scotland a un mamgu yn dod o Ireland, tad o Gymru a mam o England. |
| (John) Bachan, ddyle nhw fod wedi ych galw chi yn United Nations. | |
| (Martha) Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac ma fe yn neud ecserseisus bob dydd, John. | |
| (1, 0) 385 | Pe bai mwy o pobl yn neud ecserseisus bob dydd bydde lot llai o pobl yn marw yn cwic o heart attacks a pethe felna. |
| (1, 0) 386 | Odyt ti, Mr Huws, yn neud ecserseisus? |
| (1, 0) 387 | Achos wyt ti wedi dod i 'funny age' nawr, cofia. |
| (John) O fi yn cered digon bob dydd, achan. | |
| (John) O fi yn cered digon bob dydd, achan. | |
| (1, 0) 389 | A, Mr. Huws, dyw cered ddim digon. |
| (1, 0) 390 | Dyle ti neud ecserseisus sydd yn hela calon ti i mynd yn ffast bob dydd achos pam bod calon ti yn mynd yn ffast mae gwaed ti yn cael i cadw yn thin. |
| (John) Weda i un peth sydd yn hela nghalon i fynd yn ffast. | |
| (John) Mynd gyda Martha ni yn y car. | |
| (1, 0) 393 | Mae lot o dynion fel ti ar ôl dod i middle age yn gollwng 'u hunen i fynd yn fflabby. |
| (Martha) O chi'n iawn, mae John ni wedi gollwng 'i hunan i fynd yn ofnadŵ o fflabi. | |
| (John) {Rhoi un besychan.} | |
| (1, 0) 400 | Reit te, Mr. Huws, dewch i ti gael profi ych geirie, dewch i ti cael neud cwpwl bach o ecserseisus gyda fi. |
| (Martha) Ie, i gael gweld pa mor ffit ych chi. | |
| (Martha) Pwy rhy hen, chi newydd weud bod chi mwy ffit nawr nag erioed. | |
| (1, 0) 404 | Ie, dewch, dewch i wneud cwpwl bach o pres-yps gyda fi ar y llawr, Mr. Huws. |
| (Martha) Dewch mlân nawr. | |
| (John) Dych chi ddim hanner call, fenyw, a gobitho na ddaw Huws y ffeirad heibio nawr neu fe all gredu 'mod i wedi troi yn fwslim. | |
| (1, 0) 411 | Nawr te, Mr. Huws, coese a pen ôl yn stret. |
| (1, 0) 412 | Pwyso ar y breichie a wedyn i lawr ac i fyny, i lawr ac i fyny. |
| (Martha) Dewch ymlaen, bachan. | |
| (Martha) Dewch ymlaen, bachan. | |
| (1, 0) 415 | I lawr ac i fyny, shwt wyt ti'n dod ymlaen, Mr. Huws? |
| (John) {Yn edrych yn boenus.} | |
| (Martha) Nawr te, lan â ti. | |
| (1, 0) 422 | Ti'n tsheto nawr, Mr. Huws, dim pen ôl fod i dod lan o gwbwl. |
| (1, 0) 424 | Dyna shwt mae gneud pres-yps, ti'n gweld, Mr. Huws. |
| (Martha) Odd Roger yn iawn eich bod chi wedi gollwng ych hunan, fyse eliffant ddim mwy stiff. | |
| (Martha) Roger dyma Mrs. Williams drws nesa. | |
| (1, 0) 435 | Neis i cwrdd â ti. |
| (Jên) Neis cwrdd a chithe hefyd. | |
| (Jên) Chi'n gwbod, Roger, mae nai i fi yn blisman yn Coventry ac odd e yn gweud bod Saeson ofnadŵ yn byw yn fan'ny. | |
| (1, 0) 443 | O, mae gyda fe panda, siŵr o bod. |
| (Jên) Wel 'wi ddim yn siŵr. | |
| (Martha) O, peth poenus ofnadŵ. | |
| (1, 0) 455 | Ti'n gwbod ─ lack of ecserseisus yn amal yn achosi slip discs oherwydd bod mysyls y cefen dim yn rhoi digon o syport i'r spine. |
| (Jên) {Yn troi at Martha.} | |
| (Jên) Wel pa ecserseisus fydde hi yn 'u cynnig 'te i Dai ni? | |
| (1, 0) 459 | O dim byd yn well i'r cefen na digon o nofio. |
| (Jên) O wel, sgen i ddim gobeth, achos rwy'n gorfod cwmpo mas â Dai am orie cyn ca'i e i gymryd bath, ac aros ar ei drâd ma fe yn cymryd hwnnw. | |
| (Jên) O wel, sgen i ddim gobeth, achos rwy'n gorfod cwmpo mas â Dai am orie cyn ca'i e i gymryd bath, ac aros ar ei drâd ma fe yn cymryd hwnnw. | |
| (1, 0) 461 | A peth arall sydd yn dda i ôl-rownd ffitnes yw squash. |
| (Jên) Jiw, jiw, dim ond Barley Water yfith Dai ni ─ mae fe yn well i'r blader, mynte fe. | |
| (1, 0) 464 | Dim yfed Squash fi'n meddwl ond chware squash. |
| (1, 0) 465 | Ma hi yn sport. |
| (Jên) {Yn chwerthin ar ben 'i hunan.} | |
| (Jên) Rwy'i fel 'sen ni yn meddwl 'mod i wedi gweld chi yn rhywle o'r blân. | |
| (1, 0) 477 | Falle bod ti wedi gweld fi pan o fi yn dod ar holidays blynydde nôl at Uncle Bill a Auntie Patsy. |
| (1, 0) 478 | Falle bod ti nabod e yn well fel PC Thomas. |