|
|
|
(Sara) Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod? |
|
|
(1, 0) 11 |
Y llyfr 'ma, Sara, mae o'n ddigon â gwneud i'r marw chwerthin. |
|
(Sara) Pa lyfr, 'neno'r dyn? |
|
|
|
(Sara) Pa lyfr, 'neno'r dyn? |
(1, 0) 13 |
"Seren tan Gwmwl". |
|
(Sara) O, yr hen Jac Glan-y-Gors 'na! |
|
|
|
(Sara) 'R wyt ti wedi meddwi'n lân ar y cr'adur. |
(1, 0) 16 |
Dim syndod. |
(1, 0) 17 |
'D oes yr un llyfr mwy doniol yn bod. |
|
(Sara) Doniol? |
|
|
|
(Sara) Lladd ar y byddigions a deud y drefn am yr offeiriaid a'r Eglwys. |
(1, 0) 21 |
Wel ie, diolch bod rhywun yn... |
|
(Sara) A brolio pobol Ffrainc am dorri pen y brenin a'i roi mewn basged. |
|
|
|
(Sara) A brolio pobol Ffrainc am dorri pen y brenin a'i roi mewn basged. |
(1, 0) 23 |
Ie, Sara, ond wrth gwrs... |
|
(Sara) Bobol bach! |
|
|
|
(Sara) A 'r wyt ti'n galw peth felly yn ddoniol? |
(1, 0) 26 |
Ydw. |
(1, 0) 27 |
Er mai gwir neges y llyfr ydi dangos bod Seren Rhyddid a Chyfiawnder dan gwmwl yn yr hen wlad 'ma. |
|
(Sara) A rhoi'r bai am hynny ar y byddigions. |
|
|
(1, 0) 30 |
Y nhw sy'n cyfrifol... y brenhinoedd, yr esgobion a'r arglwyddi. |
(1, 0) 31 |
Cymer di'r ardal yma... |
|
(Sara) {Yn gwaredu.} |
|
|
(1, 0) 35 |
Trefn yr Hollalluog, yn wir! |
|
(Sara) Ein dyletswydd ni ydi plygu. |
|
|
|
(Sara) Ein dyletswydd ni ydi plygu. |
(1, 0) 37 |
I drefn yr esgobion a'r bobol fawr? |
(1, 0) 38 |
Gwared ni! |
(1, 0) 39 |
Darllen di waith Jac yn ymosod ar y tacle. |
|
(Sara) Paid â rhyfygu, Rolant! |
|
|
(1, 0) 42 |
Ma'r cnafon yn ddigon dig'wilydd i gymryd arian y bobol, ond heb ddeall un gair o'u hiaith nhw! |
|
(Sara) Mae Mr. Foster, ein person |ni|, yn gallu siarad Cymraeg. |
|
|
(1, 0) 45 |
Ydi, rhaid cyfaddef fod mei lord Hugh Foster yn ymostwng cymaint â hynny i'n plesio ni. |
|
(Sara) Nid peth gweddus o gwbl ydi gwneud sbort o weision y Brenin Mawr. |
|
|
(1, 0) 48 |
Hy! Gweision i frenin yn nes atom o beth wmbredd ydi'r tacle! |
|
(Sara) Rhag cywilydd iti, Rolant! |
|
|
|
(Sara) Rhag cywilydd iti, Rolant! |
(1, 0) 50 |
Mae Jac yn ei le, Sara. |
(1, 0) 51 |
'R ydw i reit hoff o'r bachgen... 'r oedd 'i dad a minne yn ffrindie mawr erstalwm yng Ngherrig y Drudion. |
(1, 0) 52 |
Chwarae teg iddo am brotestio yn erbyn gorthrwm y Llywodraeth, y trethi di-ddiwedd, a'r degwm. |
|
(Sara) 'D ydw i ddim yn cydweld â'r cr'adur, beth bynnag. |
|
|
|
(Sara) Mae o'n fachgen digon teidi, am wn i, er na weles i mohono ers plwc byd. |
(1, 0) 55 |
Sut y mae hi arno fo tua Llundain 'na tybed? |
|
(Sara) Mae'n rhaid iddo fo fihafio'i hun mewn lle felly, a'r brenin mor agos. |
|
|
(1, 0) 58 |
Go dda yr hen Sara! |
|
|
(1, 0) 60 |
Ond 'synnwn i flewyn na chaiff o'i erlid am sgrifennu'r |Seren|. |
|
(Sara) Rhyngddo fo â'i botes! |
|
|
|
(Sara) Ond paid |ti| â brygawtha' gormod... rhag ofn... |
(1, 0) 63 |
Rhaid imi ddatgan fy marn. |
|
(Sara) Wel, rhaid... ond... {yn torri'r ddadl.} |
|
|
|
(Sara) Mae'n bur gyfyng arni, y gre'dures. |
(1, 0) 69 |
Ac nid yr unig un o lawer. |
(1, 0) 70 |
'R wyt ti'n helpu cryn dipyn arni, Sara, chwarae teg iti. |
|
(Sara) Mae'n rhaid i rywun swcro'r hen chwaer. |
|
|
|
(Sara) Lle mae o, Rolant? |
(1, 0) 74 |
Yn y llofft, am wn i, yn pincio fel arfer. |
(1, 0) 75 |
'D ydi o'n meddwl am ddim arall. |
|
(Sara) Caru ma'r bachgen, 'neno'r dyn. |
|
|
|
(Sara) Caru ma'r bachgen, 'neno'r dyn. |
(1, 0) 77 |
'D oedd dim rhyw hen ffal-diral fel hyn pan oeddwn i wrthi erstalwm... |
|
(Sara) Rhaid i Ifor symud efo'r oes, weldi. |
|
|
|
(Sara) A chofia bod Janet yn |lady|. |
(1, 0) 80 |
Ydi, ond twt lol, wn i ddim be' ddaw o blant yr oes yma... |
|
(Sara) {Yn mynd at ddrws y gegin fach, ac yn bloeddio.} |
|
|
(1, 0) 97 |
Nid fel yna y mae iti siarad â'th fam! |
|
(Ifor) 'Fedra 'i ddod o hyd i affeth o ddim yn y llofft 'na. |
|
|
(1, 0) 106 |
I fynd i dŷ'r Person am |afternoon tea|, wrth gwrs! |
|
(Ifor) 'D oes dim rhaid ichi fod mor sbeitlyd! |
|
|
|
(Ifor) 'D oes dim rhaid ichi fod mor sbeitlyd! |
(1, 0) 108 |
'D ydw i ddim, 'ngwas i. |
(1, 0) 109 |
'R wy'n falch dy fod ti'n ffrind i Janet y ferch. |
(1, 0) 110 |
Mae hi'n eneth hoffus iawn. |
|
(Ifor) Wel? |
|
|
|
(Ifor) Wel? |
(1, 0) 112 |
Yn bur wahanol i'w thad. |
|
(Sara) Da thi, Rolant, rho'r gore iddi... |
|
|
|
(Ifor) Mae Mr. Foster yn ddyn o gymeriad... |
(1, 0) 115 |
Ydi! |
(1, 0) 116 |
Cymeriad caled... fel haearn Sbaen. |
(1, 0) 117 |
Dim owns o gydymdeimlad â'r werin bobl y mae o'n gyfrifol amdanyn' nhw. |
|
(Ifor) Mae Janet yn ymweld â'r tlodion... |
|
|
|
(Ifor) Mae Janet yn ymweld â'r tlodion... |
(1, 0) 119 |
Ydi, chware teg iddi. |
(1, 0) 120 |
Hi ddyle fod yn offeiriad plwy', ac nid Hugh Foster. |
|
(Sara) Rolant, 'r wyt ti'n rhyfygu! |
|
|
|
(Sara) Cofia 'i fod o'n un o weision yr Hollalluog. |
(1, 0) 123 |
Dyna hi eto! |
(1, 0) 124 |
Be' ydi gwaith gwas yr Arglwydd, tybed? |
(1, 0) 125 |
Hel bechgyn i'r Milishia? |
|
(Ifor) Mae'n rhaid inni amddiffyn y wlad 'ma. |
|
|
(1, 0) 132 |
Ffordd yr hen Feti Ifans o fyw, er enghraifft? |
(1, 0) 133 |
Yn hanner llwgu yn yr hofel bwthyn 'na! |
(1, 0) 134 |
A miloedd o rai tebyg iddi yng Nghymru! |
|
(Ifor) {Yn dal ati fel parot.} |
|
|
(1, 0) 138 |
Wel, wel! |
(1, 0) 139 |
Hawdd gweld dy fod |ti| wedi cael y fraint o eistedd wrth draed Hugh Foster. |
(1, 0) 140 |
"Yn erbyn yr Anghrist", yn wir! |
|
(Sara) Ond Rolant, os ydi Ifor bach yn meddwl fel yna, mae ganddo fo berffaith hawl i... |
|
|
|
(Sara) Ond Rolant, os ydi Ifor bach yn meddwl fel yna, mae ganddo fo berffaith hawl i... |
(1, 0) 142 |
Meddwl? |
(1, 0) 143 |
'Ddaru o 'rioed feddwl yr un eiliad! |
(1, 0) 144 |
Dim ond ail-adrodd pregeth yr hen Foster fel parot. |
(1, 0) 145 |
Yn enw'r Mawredd, dysga feddwl drosot dy hun, ngwas i! |
|
(Ifor) Yr un fath â chi, wrth gwrs. |
|
|
|
(Ifor) Yr un fath â chi, wrth gwrs. |
(1, 0) 147 |
Wel... ie... pam? |
|
(Ifor) {Yn sarcastig.} |
|
|
|
(Ifor) Byth yn benthyca syniadau yr un cr'adur byw, John Jones o Lan-y-Gors na neb arall. |
(1, 0) 150 |
Mi fydde'n iechyd iti ddarllen |Seren tan Gwmwl|. |
|
(Ifor) 'R ydw i wedi ei ddarllen. |
|
|
(1, 0) 155 |
Beth? |
(1, 0) 156 |
Bradwr? |
|
(Ifor) Ie! |
|
|
(1, 0) 159 |
'Chaiff neb alw Jac Glan-y-Gors yn fradwr yn y tŷ yma! |
|
(Ifor) {Yn dal ati.} |
|
|
(1, 0) 165 |
Pwy glywest ti'n galw Jac yn fradwr? |
|
(Ifor) {Yn haerllug.} |
|
|
|
(Ifor) Pawb bron. |
(1, 0) 169 |
Pwy? |
|
(Ifor) 'R wyf wedi dweud unwaith... pawb. |
|
|
(1, 0) 172 |
Ateb... PWY? |
|
(Ifor) {Yn dechrau cloffi.} Wel... y... hwn a'r llall |
|
|
|
(Ifor) {Yn dechrau cloffi.} Wel... y... hwn a'r llall |
(1, 0) 174 |
Brysia... pwy oedd o? |
|
(Ifor) O wel... y... Mr. Foster yn un... |
|
|
|
(Ifor) O wel... y... Mr. Foster yn un... |
(1, 0) 176 |
Pwy arall? |
|
(Ifor) {Yn ddof erbyn hyn.} N... n... neb arall. |
|
|
|
(Ifor) {Yn ddof erbyn hyn.} N... n... neb arall. |
(1, 0) 178 |
Na, 'feiddiai neb yn y pentre' heblaw Hugh Foster alw Jac yn fradwr. |
|
(Sara) {Yn ceisio tawelu'r storm.} |
|
|
(1, 0) 182 |
'Daswn i'n gwybod dy fod ti'n galw Jac yn fradwr o argyhoeddiad, mi fedrwn faddau iti, ond cymryd gair y person... |
|
(Sara) Gad lonydd i'r bachgen, da thi. |
|
|
|
(Sara) Gad lonydd i'r bachgen, da thi. |
(1, 0) 184 |
Lle aflwydd ma' dy asgwrn cefn di, dywed? |
|
|
(1, 0) 186 |
'D oes dim hanner digon o hwnnw yng Nghymru heddiw. |
(1, 0) 187 |
Diodde' pob anghyfiawnder a thrais heb brotest yn y byd! |
|
(Sara) Ifor bach, mi gei di'r crys erbyn yfory... |
|
|
|
(Sara) 'R wyt ti wedi dweud pethe reit cas wrtho fo, Rolant. |
(1, 0) 203 |
Dim ond y gwir. |
|
(Sara) Mae Ifor yn iawn yn y bôn. |
|
|
(1, 0) 206 |
Nac ydi, Sara. |
|
(Sara) {Wedi dychryn braidd.} |
|
|
|
(Sara) Paid â dweud 'i fod o yn... |
(1, 0) 209 |
Mae gen i ofn mai fel hyn y bydd o weddill i oes, yn greadur dof, di-asgwrn-cefn, sbeitlyd, anniolchgar.... |
|
(Sara) Ond mi fydd yn well ar ôl priodi Janet. |
|
|
(1, 0) 212 |
Mi ddaw hynny i ben pan fydd y Wyddfa i gyd yn gaws! |
|
(Sara) {Ym poethi mymryn.} |
|
|
|
(Sara) Ma'n teulu ni gystal â theulu Mr. Foster, be' siŵr iawn ydi o! |
(1, 0) 215 |
'Sgwn i pam y ma'r cradur hwnnw eisiau fy ngweld heno? |
|
(Sara) I sôn am Ifor a Janet, mae'n amlwg. |
|
|
|
(Sara) I sôn am Ifor a Janet, mae'n amlwg. |
(1, 0) 217 |
Na, rhywbeth llawer mwy pwysig na hynny! |
|
(Sara) 'Fydde hi ddim yn well iti dacluso mymryn arnat dy hun cyn iddo ddod? |
|
|
(1, 0) 220 |
Tacluso? |
(1, 0) 221 |
Ar gyfer rhyw ddyn fel... |
|
|
(1, 0) 223 |
Wel hwyrach dy fod ti'n iawn, Sara. |
|
|
(1, 0) 225 |
Rhy hwyr! |
(1, 0) 226 |
Dyna'r hen Foster, os nad wy'n methu. |
|
(Sara) {Mewn helynt.} |
|
|
|
(Foster) Fe garwn gael gair â chwi, Mr. Huw, os gwelwch yn dda. |
(1, 0) 236 |
Wrth gwrs, Mr. Foster, Dowch i mewn. |
|
|
(1, 0) 239 |
Eisteddwch yma, Mr. Foster. |
|
(Foster) Diolch. |
|
|
|
(Foster) Esgusodwch fi, Mrs. Huw, ond nid i olrhain y tywydd y deuthum i yma heno. |
(1, 0) 251 |
Gwyddom hynny'n dda Mr. Foster. |
(1, 0) 252 |
Beth yw eich neges, os gwelwch yn dda? |
|
(Foster) Y mae a wnelo â chwi yn bersonol, ac hefyd â'ch mab Ifor. |
|
|
|
(Sara) O, Mr. Foster! |
(1, 0) 256 |
Ewch ymlaen. |
|
(Foster) Barn pob dyn cyfrifol yn y wlad hon yw fod Prydain mewn argyfwng pur enbyd heddiw. |
|
|
|
(Foster) Barn pob dyn cyfrifol yn y wlad hon yw fod Prydain mewn argyfwng pur enbyd heddiw. |
(1, 0) 258 |
Wel? |
|
(Foster) Dyletswydd pawb sy'n deyrngarol i'r Brenin a'r Llywodraeth ydyw ceisio helpu'r wlad yn ei dyddiau blin. |
|
|
|
(Foster) Fel gŵr o sylwedd a dylanwad ymhlith gwerin y pentref, byddwch yn barod i ategu hyn... |
(1, 0) 261 |
Ac felly? |
|
(Foster) Disgwylir brwdfrydedd gan bawb at yr ymgyrch y mae Prydain wedi ei galw gan Dduw iddi... |
|
|
(1, 0) 264 |
Mr. Foster, siaradwch yn blaen, da chi. |
(1, 0) 265 |
Awgrymu yr ydych y dylwn ddangos mwy o frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn Ffrainc? |
|
(Foster) Ie, os mynnwch. |
|
|
|
(Foster) Ie, os mynnwch. |
(1, 0) 267 |
Fy nghydwybod i fy hunan, ac nid offeiriad y plwy sy'n arfer â dangos i mi fy nyletswydd. |
|
(Foster) {Yn sarcastig braidd.} |
|
|
(1, 0) 272 |
Ie, ac y mae un peth pendant iawn y dywed fy nghydwybod wrthyf na ddylwn ei wneud. |
|
(Foster) O? A beth ydyw? |
|
|
|
(Foster) O? A beth ydyw? |
(1, 0) 274 |
Hel ieuenctid yr ardal i'r Milishia, fel y gwnewch chi, Mr. Foster. |
|
(Sara) {Yn dechrau ofni.} |
|
|
|
(Foster) Fe'ch clywais yn datgan un tro eich bod yn ddyn crefyddol. |
(1, 0) 278 |
'R wy'n amcanu felly, yn ôl fy syniad i am grefydd. |
|
(Foster) Ac eto, ni ddangoswch unrhyw frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn anffyddwyr Ffrainc, gelynion eich crefydd chwi a minnau. |
|
|
|
(Foster) Ac eto, ni ddangoswch unrhyw frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn anffyddwyr Ffrainc, gelynion eich crefydd chwi a minnau. |
(1, 0) 280 |
Mr. Foster, 'r ydym wedi clywed y bregeth yma o'r blaen, gan Ifor. |
|
(Foster) Chwarae teg iddo, yn wir. |
|
|
|
(Foster) Dywedais fod a wnelo fy neges ag yntau hefyd. |
(1, 0) 283 |
Wel? |
|
(Foster) Ymddengys ei fod ef, o leiaf, yn sylweddoli ei ddyletswydd. |
|
|
(1, 0) 287 |
Beth? |
|
(Foster) Fe ddylech fod yn falch o'i sêl wlatgarol a'i ysbryd gwrol... |
|
|
(1, 0) 290 |
F...f...fy mab i yn y Milishia? |
|
(Foster) Ie, yn ymladd dan faner rhyddid a chyfiawnder... |
|
|
(1, 0) 297 |
Na, 'chaiff yr un mab i mi ymuno â'r Milishia! |
|
(Foster) Dynion dewr, gwlatgarol. |
|
|
|
(Foster) Dynion dewr, gwlatgarol. |
(1, 0) 299 |
Gwehilion cymdeithas! |
|
(Foster) Syr! |
|
|
|
(Foster) Syr! |
(1, 0) 301 |
Lladron, dihirod, treiswyr merched! |
|
(Foster) Mr. Huw, ystyriwch eich... |
|
|
|
(Foster) Mr. Huw, ystyriwch eich... |
(1, 0) 303 |
A'u drygioni yn drewi drwy'r sir! |
|
(Foster) {Yn llymach na'i arfer.} |
|
|
|
(Foster) Mr. Huw, nid wyf am wrando ar y fath sen... |
(1, 0) 306 |
Pam nag arferwch eich sêl ryfelgar i ymladd anghyfiawnder a thrais yr uchelwyr yn y wlad hon? |
|
(Foster) {Yn bontifficaidd.} |
|
|
|
(Foster) Y maer Diafol a'r Anghrist ar gerdded yn Ffrainc... |
(1, 0) 309 |
Y mae'r ddau yn fyw yma yng Nghymru, a chwithau'r Eglwysi yn ymladd o'u plaid! |
|
(Sara) {Wedi dychryn.} |
|
|
(1, 0) 313 |
Pa le mae llais yr Efengyl heddiw? |
|
(Foster) {Yn offeiriadol.} |
|
|
(1, 0) 317 |
Treftadaeth! |
(1, 0) 318 |
Pa faint sydd gan drueiniaid tlawd y pentref hwn, er enghraifft? |
(1, 0) 319 |
'R ydych chwi a'ch degymau a'ch trethi wedi ei ddwyn oddi arnynt! |
|
(Foster) {Yn awgrymiadol.} |
|
|
|
(Foster) Syniadau peryglus yw y rhai hyn, Mr. Huw. |
(1, 0) 322 |
Peryglus i bwy, tybed? |
|
(Foster) Mae'n amlwg eich bod wedi llyncu athrawiaeth |The Rights of Man|, Tom Paine, a'i ddynwaredwr yng Nghymru, Jac Glan-y-Gors. |
|
|
|
(Foster) Mae'n amlwg eich bod wedi llyncu athrawiaeth |The Rights of Man|, Tom Paine, a'i ddynwaredwr yng Nghymru, Jac Glan-y-Gors. |
(1, 0) 324 |
Dau ddyn yn ddigon dewr i sefyll dros gyliawnder! |
(1, 0) 325 |
Fe wnai les i chwi ddarllen y llyfryn hwn, Mr. Foster. |
|
|
|
(Foster) ... Yr Efengyl yn ôl Jac Glan-y-Gors. |
(1, 0) 332 |
Yn nes at yr Efengyl na'r eiddo chwi! |
|
(Sara) Rolant bach, paid â rhyfygu! |
|
|
(1, 0) 340 |
Bradwr? |
|
(Foster) Ac wrth goleddu eu syniadau llygredig, Mr. Huw, yr ydych chwithau yn elyn i'ch gwlad. |
|
|
|
(Foster) Ac wrth goleddu eu syniadau llygredig, Mr. Huw, yr ydych chwithau yn elyn i'ch gwlad. |
(1, 0) 342 |
Ond nid gelyn i gyfiawnder! |
|
(Sara) {Wedi dychryn eto.} |
|
|
|
(Foster) Yr wyf i yn ŵr o ddylanwad... |
(1, 0) 349 |
Gwnewch a fynnoch, 'r wyf yn berffaith dawel fy mod yn iawn. |
|
(Foster) O'r gorau. |
|
|
|
(Sara) Dyna ti wedi andwyo popeth. |
(1, 0) 359 |
Pam, 'neno'r dyn? |
|
(Sara) Ifor a Janet. |
|
|
|
(Sara) Ifor a Janet. |
(1, 0) 361 |
A dyna'r cwbl sy'n dy boeni di? |
|
|
(1, 0) 363 |
Mae llawer mwy yn y fantol na helynt Ifor a Janet, coelia di fi. |
|
(Sara) Ond amdanyn' nhw yr ydw i'n meddwl. |
|
|
|
(Sara) Ond amdanyn' nhw yr ydw i'n meddwl. |
(1, 0) 365 |
Digon posibl. |
(1, 0) 366 |
Ma' Janet yn llawer rhy dda i fod yn ferch i'r hen Foster. |
|
(Sara) Mae o'n ddyn caled, wrth gwrs. |
|
|
|
(Sara) Cannwyll 'i lygad o. |
(1, 0) 370 |
Diolch bod rhywun yn gallu meddalu mymryn arno. |
(1, 0) 371 |
Ond cofia, 'd ydi Hugh Foster ddim yn ddyn drwg, Sara. |
(1, 0) 372 |
Mae o'n eitha' cydwybodol, yn ymddwyn yn ôl ei argyhoeddiad... |
|
(Sara) Ond yn elyn iti byth ar ôl heno! |
|
|
|
(Sara) Ond yn elyn iti byth ar ôl heno! |
(1, 0) 374 |
Dichon 'i fod o. |
(1, 0) 375 |
Eto, 'synnwn i ddim nad ydi o yn ddistaw bach yn fy mharchu am ddal fy nhir. |
|
(Sara) Gobeithio'r annwyl! |
|
|
|
(Sara) Gofala fod 'chydig yn gallach o hyn ymlaen, ne' yn y carchar yn Rhuthun y byddwn ni, gei di weld! |
(1, 0) 379 |
Ond mae'n rhaid imi sefyll... |
|
(Sara) Mi gei sefyll faint 'fynni di, ond iti gofio'r hen air... |
|
|
|
(Sara) "Os na bydd gryf..." |
(1, 0) 382 |
Mi gawn weld... |
|
|
(1, 0) 384 |
O'r annwyl, 'r oeddwn i wedi edrych ymlaen heno am noson go dawel yng nghwmni'r Seren. |
(1, 0) 385 |
Gresyn 'mod i wedi colli fy nhymer, hefyd. |
|
(Sara) 'R ydw i'n mynd â'r ychydig bethe 'ma i'r hen Feti, druan. |
|
|
|
(Sara) Mae'n ddrwg gen' i drosti. |
(1, 0) 391 |
Y gre'dures! |
(1, 0) 392 |
Yr hen ryfel felltith 'ma! |
(1, 0) 393 |
Pobol yn hanner llwgu. |
|
|
(1, 0) 395 |
Pam aflwydd y ma'r Person yna mor ddall! |
|
(Sara) Da thi, eistedd i lawr, a cheisia anghofio popeth amdano fo a dy hen Jac Glan-y-Gors! |
|
|
|
(Sara) Darllen rywbeth arall, 'neno'r dyn... |
(1, 0) 398 |
O wel... |
|
|
(1, 0) 422 |
Jac! |
(1, 0) 423 |
Be ar y ddaear... |
|
(Jac) {Ar dop ei lais.} |
|
|
|
(Jac) Duwcs mawr, Rolant Huw, 'rois i fraw ichi, deudwch? |
(1, 0) 426 |
Sh! |
(1, 0) 427 |
Paid â bloeddio! |
|
(Jac) Pam? |
|
|
|
(Jac) A phan weles i Mrs. Huw... |
(1, 0) 432 |
Be' ydi ystyr hyn, helgwn y gyfraith? |
|
(Jac) Ie, gorfod gadael Llundain ar |short notice|, fel pe tae. |
|
|
|
(Jac) Bras-gamu allan o'r tŷ drwy ddrws y bac fel cr'adur o'i go' ulw las, heb ddim ond côt ucha' a'r pecyn 'ma. |
(1, 0) 437 |
A dod yr holl ffordd o Lundain? |
|
(Jac) Ie. |
|
|
|
(Jac) 'Neno'r dyn, Rolant Huw, be' ydi rhyw d'wllwch fel hyn? |
(1, 0) 442 |
O, ofn i rywun dy weld, Jac. |
|
(Jac) Dyna welliant! |
|
|
|
(Jac) 'R argod fawr, ydech chi wedi dychryn, deudwch? |
(1, 0) 447 |
Wel... na, ond mae'n ddrwg gen' i drosot ti, Jac. |
|
(Jac) {Yn eithaf hapus.} |
|
|
(1, 0) 454 |
Mae'n g'wilydd dy fod ti'n gorfod ffoi oddi cartre' am sefyll dros yr hyn sy'n iawn. |
|
(Jac) O wel, rhyw greadur aflonydd 'fum i erioed wyddoch. |
|
|
|
(Jac) Dyna pam 'r ydw i'n dal yn hen lanc, efallai. |
(1, 0) 457 |
'R wyt ti mewn tipyn o helynt heno. |
(1, 0) 458 |
Be' oedd yr achos? |
(1, 0) 459 |
|Seren tan Gwmwl|? |
|
(Jac) Ie. |
|
|
|
(Jac) Mi ddeudis i bethe reit gas amdanyn' nhw. |
(1, 0) 464 |
'R oeddwn i'n amau o'r dechre mai i hyn y bydde' hi'n dod. |
|
(Jac) Ond gwrandewch! |
|
|
|
(Jac) Mae'n rhaid fod rhyw Ddic-Siôn-Dafydd wedi prepian arna' i. |
(1, 0) 469 |
Rhag c'wilydd iddo, pwy bynnag oedd. |
(1, 0) 470 |
Dyna un sgerbwd na fedra' i ei ddiodde' byth... bradwr! |
|
(Jac) Wel, 'ddarfu imi ddim aros yn Llundain i ddadlau f'achos. |
|
|
|
(Jac) Noswaith o leia'. |
(1, 0) 474 |
 chroeso, Jac. |
(1, 0) 475 |
'R wyt ti'n haeddu gorffwys... mi ge'st amser digon caled, mi'wn. |
|
(Jac) {Yn eithaf hapus.} |
|
|
(1, 0) 480 |
Mae'r werin yn dy hanner addoli. |
|
(Jac) Ydi. |
|
|
|
(Jac) ... a llawer ohonyn' nhw'n hanner lwgu, y cre'duried. |
(1, 0) 486 |
Mi fyddi'n berffaith sâff yma, Jac. |
(1, 0) 487 |
Hwyrach bod Ifor y bachgen 'ma yn deud y drefn amdanat ti ambell dro, ond mi ofala'i y bydd |o| yn iawn. |
(1, 0) 488 |
Mae pawb yn yr ardal yn cyd-weld â thi, ond |un|... |
|
(Jac) O? |
|
|
|
(Jac) A phwy ydi hwnnw, felly? |
(1, 0) 491 |
Person y plwy. |
|
(Jac) {Yn chwerthin yn galonnog.} |
|
|
|
(Jac) Yr hen deip, mi'wn. |
(1, 0) 496 |
Ie, efallai. |
(1, 0) 497 |
Dim symud arno ar gwestiwn y wladwriaeth a'r Eglwys. |
(1, 0) 498 |
Cyfiawnhau'r rhyfel... |
|
|
(1, 0) 500 |
"Crwsâd sanctaidd yn erbyn yr i Anghrist"... |
|
(Jac) {Yn chwerthin.} |
|
|
|
(Jac) Dyna'r teip... i'r blewyn! |
(1, 0) 503 |
Ond mae hwn yn llawer mwy galluog na'r cyffredin. |
(1, 0) 504 |
Mae o'n ddyn i'w |ofni|. |
|
(Jac) Ofni? |
|
|
(1, 0) 526 |
Y... y... dyma Miss Foster. |
|
|
(1, 0) 528 |
D... Dyma Mr.... Mr.... |Williams|! |
|
(Jac) {Yn mwynhau'r sefyllfa ddiddorol.} |
|
|
(1, 0) 537 |
Y... ie... Mr. Williams. |
|
(Janet) Wel, gwell fyddai i mi fynd, 'r wy'n meddwl. |
|
|
(1, 0) 541 |
Wel ie, am wn i... yn wir. |
|
(Jac) {Ar ei orau yng ngŵydd y rhyw deg.} |
|
|
(1, 0) 556 |
Wel... y... eisteddwch am funud, Janet. |
|
(Jac) Janet? |
|
|
(1, 0) 564 |
Mae Mr.... y... Williams a minnau yn hen gyfeillion, Janet. |
(1, 0) 565 |
'R oeddwn i'n adnabod ei dad yn dda erstalwm. |
(1, 0) 566 |
Mae Mr. Williams ar ymweliad â mi, fel hyn... |
|
(Janet) O, wyddwn i ddim eich bod yn disgwyl ymwelydd, Mr. Huw. |
|
|
|
(Janet) O, wyddwn i ddim eich bod yn disgwyl ymwelydd, Mr. Huw. |
(1, 0) 571 |
Wel na, rhyw... y... wneud ei feddwl i fyny'n sydyn wnaeth Mr. Williams, yntê? |
|
|
|
(Jac) Mi fum innau'n ei ofyn hefyd lawer tro, onido Rolant Huw? |
(1, 0) 588 |
Wel do... am wn i... wir. |
|
(Janet) Mae un Cymro o leiaf yn datgan yn gryf mai peth ffôl a phechadurus yw rhyfela. |
|
|
|
(Janet) Dillad, 'r wy'n credu. |
(1, 0) 643 |
Mae Sara wedi mynd ag un pecyn i'r hen Feti... |
|
(Janet) Na, nid hwnnw, ar gyfer rhywun arall. |
|
|
|
(Janet) Na, nid hwnnw, ar gyfer rhywun arall. |
(1, 0) 645 |
Wel, 'rhoswch chi, 'rŵan. |
|
(Janet) {Yn swynol.} |
|
|
(1, 0) 657 |
Na Janet, 'fedra'i weld yr un pecyn yn unman... |
|
(Janet) O? |
|
|
|
(Janet) Os gwelwch yn dda. |
(1, 0) 663 |
Ar bob cyfrif, Janet. |
(1, 0) 664 |
'Fyddai'r un dau funud. |
|
(Janet) Wel... JAC GLAN-Y-GORS! |
|
|
|
(Janet) Mae gennyf ofn amdanoch... ofn. |
(1, 0) 690 |
Mae o'n beth od, Janet, ond 'fedra'i yn fy myw da... |
|
(Janet) {Yn hollol fel pe bai dim wedi digwydd.} |
|
|
|
(Jac) Merch y person! |
(1, 0) 705 |
Ie. |
(1, 0) 706 |
Biti dy fod ti wedi dweud... |
|
(Jac) {Yn dal i edrych tua'r drws.} |
|
|
(1, 0) 711 |
Diolch i'r nefoedd nad oedd hi'n sylweddoli pwy oeddet ti, Jac! |
(1, 0) 712 |
"Mistar Williams"! |
(1, 0) 713 |
Mi fum i'n glyfar yn meddwl am hwnna! |
|
(Jac) {Yn hanner breuddwydiol.} |
|
|
(1, 0) 717 |
Do, yn wir. |
|
(Jac) {Â'i feddwl ymhell, a dal i edrych tua'r drws.} |
|
|
|
(Jac) "Janet" ddywed'soch chi oedd ei henw hi, yntê? |
(1, 0) 720 |
Wel ie... ond... |
|
(Jac) {Yn freuddwydiol eto.} |
|
|
(1, 0) 727 |
'Neno'r dyn, be' sy'n bod? |
(1, 0) 728 |
Wyt ti'n sâl? |
|
(Jac) {Yn hynod o dawel.} |
|
|
|
(Jac) Rolant Huw, 'rhaid imi ffoi ar unwaith! |
(1, 0) 736 |
Ffoi? |
|
(Jac) 'D oes dim aros i fod! |
|
|
|
(Jac) 'D oes dim aros i fod! |
(1, 0) 738 |
Ofn yr hen Foster? |
|
(Jac) Na. |
|
|
|
(Jac) Mae pethau'n waeth nag a feddyliwch... |
(1, 0) 741 |
'Neno'r dyn, Jac... |
|
(Jac) {Yn dechrau byrlymu.} |
|
|
|
(Jac) Tom Paine... mi glywsoch am hwnnw? |
(1, 0) 745 |
Wel do... ond... |
|
(Jac) {Yn dal ati.} |
|
|
|
(Jac) Ie, yng Nghymru! |
(1, 0) 753 |
Ond beth sydd a wnelo Tom Paine... |
|
(Jac) Y fi ydi Tom Paine Cymru! |
|
|
|
(Jac) 'D oes dim dinas barhaus bellach i awdur |Seren tan Gwmwl|. |
(1, 0) 757 |
Twt lol Jac, 'r wyt ti'n eitha' sâff yma... |
|
(Jac) Nac ydw'! |
|
|
(1, 0) 769 |
Y... y... 'd wyt ti ddim yn 'i 'nabod o, Sara? |
|
(Ifor) {Ar unwaith, ac yn eithaf siriol.} |
|
|
|
(Sara) Ond be'ar y ddaear... |
(1, 0) 781 |
Mae Jac ar ymweliad â'r pentref, ac wedi galw... |
|
(Jac) {Yn cellwair unwaith eto.} |
|
|
|
(Sara) Ond mi gadwn ni chwarae teg iti yma. |
(1, 0) 788 |
Na, mae'n rhaid i Jac fynd ar unwaith. |
|
(Sara) 'Rheswm annwyl, mor fuan â hynny? |
|
|
(1, 0) 794 |
Wel, chware teg iti Ifor, ond... |
|
(Ifor) Mae hwn yn achlysur pwysig iawn. |
|
|
|
(Ifor) Bydd sôn am ymweliad y gwron o Lan-y-Gors... |
(1, 0) 797 |
Yn anesmwyth.} |
(1, 0) 798 |
Na... mae Jac ar gychwyn... |
|
(Ifor) {Yn dal ati.} |
|
|
(1, 0) 810 |
Pwy sy' 'na, tybed? |
|
(Jac) Rolant Huw, 'r ydw i'n adnabod y sŵn curo yna yn rhy dda! |
|
|
(1, 0) 825 |
Ifor, beth yw hyn? |
|
(Ifor) Mae hi'n rhy hwyr, Jac Glan-y-Gors. |
|
|
|
(Jac) Hen ffrindie! |
(1, 0) 834 |
Dyna Hugh Foster, |
|
(Jac) Wel, Rolant Huw, agorwch y drws... led y pen! |
|
|
|
(Jac) Wel, Rolant Huw, agorwch y drws... led y pen! |
(1, 0) 836 |
Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac... |
|
|
(1, 0) 839 |
Beth yw ystyr hyn, Mr. Foster? |
|
(Foster) Gwaith y Brenin. |
|
|
(1, 0) 851 |
A gwyddom erbyn hyn pwy ydyw. |
|
(Foster) Y mae'n haeddu pob clod, Mr. Huw. |
|
|
(1, 0) 857 |
Ti, felly, bia'r |clod| am hyn! |
|
(Ifor) {Yn wawdlyd.} |
|
|
(1, 0) 862 |
Fy mab i fy hun yn bradychu ei deulu... bradychu fy nghyfaill! |
(1, 0) 863 |
Ac yn cymryd arno ei fod yn falch o'i weld... |
|
(Ifor) Wrth gwrs! |
|
|
|
(Ifor) Y fi... Ifor... nad oedd neb yn meddwl y gallwn i... |
(1, 0) 870 |
'D oes dim enw yn bod ar y weithred ffiaidd yma... |
|
(Foster) 'R wyf fi yn dal ei bod yn ganmoladwy. |
|
|
(1, 0) 874 |
Na, melltith a gwawd! |
|
(Sara) {Yn ceisio'i gysuro.} |
|
|
(1, 0) 883 |
Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac... |
|
(Foster) Tewi a fyddai orau i chwithau, Mr. Huw. |
|
|
|
(Janet) Ifor? |
(1, 0) 922 |
Ie... fy mab i fy hun... |
|
(Jac) {Yn ceisio cyfiawnhau Ifor.} |
|
|
(1, 0) 938 |
Nage, gwaith bradwr! |
(1, 0) 939 |
'D oes arna'i byth eisiau ei weld eto! |