Hamlet, Tywysog Denmarc

Ciw-restr ar gyfer Rosencrantz

(Bernardo) Pwy sydd yna?
 
(Brenines) Gof brenin.
(2, 2) 1399 Gallasai eich mawrhydi, eich dau,
(2, 2) 1400 Trwy yr awdurdod goruchelaidd a
(2, 2) 1401 Feddienwch arnom ni, amlygu eich
(2, 2) 1402 Hewyllys chwi 'n fwy mewn gorchymyn nag
(2, 2) 1403 Mewn ymbil.
(Guildenstern) Ond ufuddâwn ill dau,
 
(2, 2) 1656 Duw a'ch cadwo, syr.
(Guildenstern) Fy anrhydeddus arglwydd!—
 
(Guildenstern) Fy anrhydeddus arglwydd!—
(2, 2) 1659 Fy anwylaf arglwydd!—
(Hamlet) Fy nghyfeillion da godidog!
 
(Hamlet) Lanciau da, pa sut yr ydych eich dau?
(2, 2) 1664 Fel dibwys blant y ddaear.
(Guildenstern) Hapus y'm,
 
(Hamlet) Na gwadnau ei hesgid chwaith?
(2, 2) 1669 Yr un o'r ddau, fy arglwydd.
(Hamlet) Yna yr ydych yn byw o gylch ei gwasg, neu yn nghanol ei ffafrau?
 
(Hamlet) Pa newydd.
(2, 2) 1675 Dim, fy arglwydd, ond fod y byd wedi troi yn onest.
(Hamlet) Yna mae dydd brawd yn agos: ond nid yw eich newydd yn wir.
 
(Hamlet) Carchar yw Denmarc.
(2, 2) 1682 Yna y mae y byd yn un.
(Hamlet) Un rhagorol; yn yr hwn y mae caethgelloedd, gwarchodgelloedd, a daeardai: a Denmarc yn un o'r rhai gwaethaf.
 
(Hamlet) Un rhagorol; yn yr hwn y mae caethgelloedd, gwarchodgelloedd, a daeardai: a Denmarc yn un o'r rhai gwaethaf.
(2, 2) 1684 Nid ydym ni yn meddwl felly, fy arglwydd.
(Hamlet) Ai ê, yna nid yw felly i chwi: canys nid oes dim nac yn dda nac yn ddrwg, nad ydyw meddwl yn ei wneud felly: i mi y mae yn garchar.
 
(Hamlet) Ai ê, yna nid yw felly i chwi: canys nid oes dim nac yn dda nac yn ddrwg, nad ydyw meddwl yn ei wneud felly: i mi y mae yn garchar.
(2, 2) 1686 Yna ynte eich huchelfrydedd sydd yn ei wneuthur yn un: mae yn rhy gyfyng i'ch meddwl.
(Hamlet) O Dduw! mi a allwn gael fy nghyfyngu mewn plisgyn cneuen, a chyfrif fy hunan yn frenin ar eangder diderfyn; pe na buasai fy mod wedi cael breuddwydion drwg.
 
(Hamlet) Nid yw breuddwyd ei hun ond cysgod.
(2, 2) 1690 Gwir, ac yr wyf fi yn dal fod uchelfrydedd o ansawdd mor awyrol ac ysgafn, fel nad yw ond cysgod, cysgod.
(Hamlet) Yna y mae ein cardotwyr yn fodau; a'n unbeniaid ni, a'n harwyr mawrion, [21] yn gardotwyr cysgod.
 
(Hamlet) Ond, yn llwybr cyffredin cyfeillgarwch, beth ydych chwi 'n ei wneud yn Elsinore?
(2, 2) 1696 Ymweled â chwi, fy arglwydd; dim neges arall.
(Hamlet) Cardotyn fel yr wyf, yr wyf yn dlawd, hyd yn nod mewn diolchgarwch; ond yr wyf yn diolch i chwi: ac yn sicr, gyfeillion anwyl, y mae fy niolchgarwch yn rhy ddrud am ddimai. Ai nis danfonwyd am danoch?
 
(Hamlet) Mi a wn mae 'r brenin a'r frenines a anfonodd am donoch.
(2, 2) 1706 I ba ddyben, fy arglwydd?
(Hamlet) Fel y gallech fy nysgu i.
 
(2, 2) 1710 Beth a ddywedwch chwi?
(Hamlet) Na, yna y mae genyf olwg arnoch; {wrtho ei hun}—os ydych yn fy ngharu i, nac ateliwch.
 
(Hamlet) Ac eto, i mi, beth yw y sylwedd llwch hwn! nid yw dyn yn fy nifyru i, na dynes chwaith; er, wrth eich cilchwerthiniad chwi, yr ymddangoswch fel yn dweud felly.
(2, 2) 1719 Fy arglwydd, nid oes dim o'r fath sothach yn fy meddyliau i.
(Hamlet) Paham y chwarddasoch, ynte, pan y dywedais, |Nid yw dyn yn fy nifyru i|?
 
(Hamlet) Paham y chwarddasoch, ynte, pan y dywedais, |Nid yw dyn yn fy nifyru i|?
(2, 2) 1721 Wrth feddwl, fy arglwydd, os nad ydych yn ymhyfrydu mewn dyn, y fath groesaw prin a dderbynia y chwareuwyr genych; ni a'u daliasom hwy ar y ffordd; ac y maent yn dyfod i gynyg i chwi eu gwasanaeth.
(Hamlet) Yr hwn a chwareua y brenin, a fydd iddo groesaw; ei fawrhydi a gaiff deyrnged genyf fi: caiff y marchog anturus ddefnyddio ei gledd a'i darged: ni chaiff y carwr ocheneidio am ddim: caiff y dyn digrifol orphen ei ddarn mewn tangnefedd: y drelyn [24] a gaiff
 
(Hamlet) Pa chwareuwyr ydynt hwy?
(2, 2) 1725 Y rhai hyny ag y cymerech y fath ddifyrwch ynddynt—prudd-chwareuwyr y ddinas.
(Hamlet) Pa fodd y dygwydd eu bod yn crwydro?
 
(Hamlet) Yr oedd eu trigiad sefydlog yn well iddynt bob ffordd, mewn parch ac elw.
(2, 2) 1728 Yr wyf yn meddwl fod y gwaharddiad iddynt wedi tarddu oddiwrth y newydd-ddefod ddiweddar. [25]
(Hamlet) A ydynt hwy yn dal mor enwog ag oeddynt pan oeddwn i yn y ddinas?
 
(Hamlet) A ddilynir hwy gymaint?
(2, 2) 1731 Nac ydynt, yn wir nid ydynt.
(Hamlet) Pa fodd y mae hyny yn bod?
 
(Hamlet) A ydynt hwy yn myned yn rhydlyd?
(2, 2) 1734 Na, y mae eu hymgais yn dal yn y lle arferol: ond y mae, syr, y fath nythlwyth o blant, cywion bychain, sydd yn llefain allan hyd eithaf eu hysgyfaint, a hwy a glecir yn dra gormesol am dano: dyna ym y ffasiwn yn awr; a gwnant y fath dwrf a thrwst ar yr
(2, 2) 1735 esgynloriau cyffredin (felly y galwant hwy), fel y mae llawer, sydd yn gwisgo hirgleddyfau, yn ofni cwils gwyddau, a phrin y meiddiant ddyfod yno.
(Hamlet) Beth, ai plant ydynt? pwy sydd yn eu cynal? pa sut y telir iddynt?
 
(Hamlet) Ai ni ddywedant drachefn, os tyfant i fyny yn chwareuwyr cyffredin eu hunain (fel y bydd yn bur debyg, oni bydd eu moddion yn well), fod eu hysgrifenwyr yn gwneud cam â hwynt, fel ag i wneud iddynt waeddi yn erbyn eu holynwyr?
(2, 2) 1739 Yn wir, bu llawer i'w wneud o bob tu; ac nid yw y genedl yn ei gyfrif yn bechod i'w hanog yn mlaen i ddadleuaeth: nid oedd, am beth amser, ddim arian yn cael eu cynyg ar ddadl, os na byddai i'r bardd a'r chwareuydd fyned i baffio ar y pwnc.
(Hamlet) A ydyw hyny yn bosibl?
 
(Hamlet) A ydyw y bechgyn yn cario y dydd?
(2, 2) 1743 Ydynt, felly y maent, fy arglwydd, Hercules a'i lwyth hefyd. [26]
(Hamlet) Onid yw yn bur hynod: canys y mae fy ewythr yn frenin Denmarc, a'r rhai, tra yr oedd fy nhad yn fyw, a wnaent wynebau arno, a roddant ugain, deugain, haner cant, a chan |ducat|, [27] am ei arlun mewn bychandra. [28]
 
(Hamlet) Gwrandewch, Guildenstern; a chwithau hefyd;—wrth bob clust boed gwrandawydd: y babi mawr hwna, a welwch yna, nid yw eto allan o'i gawiau.
(2, 2) 1757 Fe ddichon ei fod wedi dyfod iddynt yr ail waith; canys dywedant fod hen ddyn ddwywaith yn blentyn.
(Hamlet) Mi a brophwydaf, mai wedi dyfod i ddweud wrthyf yn nghylch y chwareuwyr; sylwch chwi.—
 
(Hamlet) Fy nghyfeillion da, mi a'ch gadawaf hyd y nos: croesaw i chwi i Elsinore.
(2, 2) 1913 Fy arglwydd da!