|
|
|
(Martin) O'r gora, hogia. |
|
|
(1, 0) 34 |
Del... del iawn. |
(1, 0) 35 |
Clud. |
|
(Mac) Agos atat ti. |
|
|
|
(Mac) Agos atat ti. |
(1, 0) 37 |
Cartrefol. |
|
(Mac) Ia, dyna'r gair,─cartrefol. |
|
|
|
(Mac) A graen arno fo fel be-wyt-ti'n-alw, fel cefn macrell. |
(1, 0) 48 |
Gwerth arian. |
|
(Mac) Gwaith llaw, 'sti. |
|
|
|
(Mac) 'Dydyn nhw ddim yn gwneud dodrefn fel hyn heddiw. |
(1, 0) 53 |
Cofia di, mae yna dipyn o lwch yma─ |
|
(Mac) Cadeiria reit solet hefyd. |
|
|
|
(Mac) Ia, solet iawn. |
(1, 0) 57 |
Gwaith llnau─ |
|
(Mac) {Codi.} |
|
|
|
(Mac) Ond pethma bach ydy hynny─ |
(1, 0) 61 |
Ond buan iawn y daw o efo dipyn o eli penelin... wnes i ddim dychmygu, wnest ti? |
|
(Mac) E? |
|
|
|
(Mac) E? |
(1, 0) 63 |
Crwydro'r strydoedd, ddoe fel,─wel fel sipsiwn. |
|
(Mac) Fel sipsiwn, ia. |
|
|
|
(Mac) Fel sipsiwn, ia. |
(1, 0) 65 |
A heddiw, dyma ni yn y nyth bach yma! |
|
(Mac) Cartre am y tro cynta... |
|
|
|
(Mac) Sut mae deall y Drefn, sgwn i! |
(1, 0) 68 |
Y Drefn? |
|
(Mac) Ia, wyddost ti─petha. |
|
|
|
(Mac) Sut mae deall petha? |
(1, 0) 71 |
Fedrwn ni mo'u deall nhw. |
(1, 0) 72 |
Wedyn, paid â mwydro dy ben. |
(1, 0) 73 |
Pa ddiben dyfalu a phendroni? |
(1, 0) 74 |
Derbyn, a dal ein gafael, dyna'r peth gora. |
|
(Mac) E? |
|
|
(1, 0) 83 |
Be? |
|
(Mac) Dewcs annwyl! |
|
|
(1, 0) 86 |
O! |
|
(Mac) {Tynnu ei het.} |
|
|
|
(Mac) Mi ddywedodd y dyn rywbeth, wyt ti'n cofio? |
(1, 0) 97 |
Ydw. |
|
(Mac) Wel, mae'n dda gen i'ch cyfarfod chi... |
|
|
|
(Mac) 'Hynny ydy', medda fi, 'be fyddwn i'n 'i wneud?', medda fi. |
(1, 0) 130 |
Fi ddwedodd hynny. |
|
(Mac) E?... |
|
|
|
(Mac) Tybed? |
(1, 0) 133 |
Ta waeth. |
(1, 0) 134 |
Dos ymlaen. |
|
(Mac) Reit. |
|
|
|
(Mac) Ei ddefnyddio fo'n ôl eich doethineb', medda fo. |
(1, 0) 143 |
'Ei gadw fo mewn trefn', medda fo. |
(1, 0) 144 |
'Dyna'r unig amod. |
(1, 0) 145 |
Fydd yna ddim rhent.' |
|
(Mac) 'Am amser amhenodol', medda fo wedyn. |
|
|
|
(Mac) Er na ddwedodd o ddim am hynny, cofiwch. |
(1, 0) 149 |
A dyma ni'n derbyn, ydych chi'n gweld. |
|
(Mac) Wel nid pob dydd y cewch chi gynnig fel yna. |
|
|
|
(Mac) Hynny ydy, gwneud cartre, ac ati. |
(1, 0) 154 |
A dyma'r cynta inni ei gael, 'chi. |
|
(Mac) Y cynta erioed. |
|
|
(1, 0) 163 |
Rhaid imi gael golwg arni... |
(1, 0) 164 |
Esgusodwch fî. |
|
|
|
(Mac) Mr. Martin, Sadi─mae o ar gychwyn. |
(1, 0) 257 |
O? |
|
(Mac) Ia, wel, fedrwn ni wneud dim ond diolch ichi, Mr. Martin. |
|
|
|
(Mac) Ia, wel, fedrwn ni wneud dim ond diolch ichi, Mr. Martin. |
(1, 0) 259 |
Ia wir─am bopeth. |
|
(Mac) Ac os digwydd ichi ddwad i'r cyffinia yma, dowch i'n gweld ni. |
|
|
|
(Mac) Hynny ydy... ac fel dywedais inna o'r blaen, diolch o galon ichi. |
(1, 0) 267 |
Ia'n wir. |
|
(Mac) A phob hwyl ichi. |
|
|
|
(Martin) {Exit.} |
(1, 0) 272 |
Dyn od! |
|
(Mac) E? |
|
|
|
(Mac) Ond eto'n ddigon tawel; digon di-ffwdan. |
(1, 0) 276 |
'Roedd o'n gwneud i mi deimlo'n annifyr. |
|
(Mac) Twt, ti syn dychmygu petha'... |
|
|
|
(Mac) E? |
(1, 0) 284 |
I'r dim. |
(1, 0) 285 |
Cegin fach hwylus. |
(1, 0) 286 |
Wel nid mor fechan â hynny chwaith. |
(1, 0) 287 |
Tyrd i weld drosot dy hun. |
|
(Mac) Toc. |
|
|
|
(Mac) Toc. |
(1, 0) 289 |
Toc? |
|
(Mac) Toc. |
|
|
|
(Mac) Fy stumog i,─mae hi fel crempog ar fas cefn i. |
(1, 0) 295 |
Wel, 'does gen i fawr o ddim 'i gynnig iti! |
(1, 0) 296 |
Felly paid â disgwyl gwledd. |
|
|
(1, 0) 298 |
'Does yma ddim ond torth a lwmp a gaws a hanner sosej. |
|
|
|
(Mac) A photel o win, 'rhen chwaer! |
(1, 0) 301 |
Potel o win? |
(1, 0) 302 |
Mac |
|
|
(1, 0) 304 |
Yn hwn. |
(1, 0) 305 |
Ble gest ti hi? |
|
(Mac) Hidia di befo ble ges i hi. |
|
|
|
(Mac) {Mae'n agor y cas a thynnu pob math o feddiannau ohono.} |
(1, 0) 310 |
Wel, paid â'u rhoi nhw'n lluch-eu-tafl ar y llawr yna! |
|
(Mac) E? |
|
|
|
(Mac) Dim ond am funud. |
(1, 0) 313 |
Aros, tyrd â nhw i mi! |
|
(Mac) Hwyrach y cawn ni gyfle rŵan i wisgo rhai o'r rhain. |
|
|
(1, 0) 319 |
Dosbarth canol, sti. |
(1, 0) 320 |
Mac |
|
|
(1, 0) 322 |
Safonau newydd ac ati. |
(1, 0) 323 |
Gwerthoedd. |
(1, 0) 324 |
Mac |
|
|
(1, 0) 326 |
Diwylliant. |
(1, 0) 327 |
Cyfrifoldeb cymdeithasol. |
(1, 0) 328 |
Mac |
|
|
(1, 0) 330 |
Economeg. |
(1, 0) 331 |
Politics. |
(1, 0) 332 |
Mac |
|
|
(1, 0) 334 |
Crefydd. |
(1, 0) 335 |
Crefydd? |
|
(Mac) Wel, mae'n rhaid inni drio bod yn barchus rŵan, fel pawb arall... |
|
|
|
(Mac) A hynny heb nogio unwaith. |
(1, 0) 341 |
Ffyddlon. |
|
(Mac) Ffyddlon, a be-wyt-ti'n-alw, didrugaredd... |
|
|
|
(Mac) A, i ble rydyn ni'n mynd? |
(1, 0) 348 |
Mae pig y tebot yma wedi torri. |
|
(Mac) E? |
|
|
|
(Mac) E? |
(1, 0) 350 |
Ond hwyrach bod yna un yn y gegin. |
(1, 0) 351 |
Ches i ddim ond cip at y cypyrdda. |
|
(Mac) Ia, fel ro'n i'n dweud, chwilio am ateb i'r tri chwestiwn yna ydy swm a sylwedd pob crefydd ac athroniaeth, 'sti. |
|
|
|
(Mac) Gwaed a gwlith a chusan yr haul! |
(1, 0) 359 |
Mewn cwpan dun! |
|
(Mac) Hidia befo. |
|
|
|
(Mac) Does yna ddim tebyg i gaws i ddenu'r blas o'r gwin! |
(1, 0) 366 |
Be? |
|
(Mac) Dweud roeddwn i─dim tebyg i─ |
|
|
|
(Mac) Dweud roeddwn i─dim tebyg i─ |
(1, 0) 368 |
Fedri di ddim siarad â llond dy geg o fwyd! |
|
(Mac) E? |
|
|
|
(Mac) Caws,─dim tebyg iddo fo i hudo'r blas o hanfod y gwin. |
(1, 0) 372 |
Dim tebyg i win, chwaith, i dynnu allan gwir naws y caws. |
|
(Mac) Ia, rwyt ti yn llygad dy le. |
|
|
(1, 0) 377 |
Breuddwyd a thwyll a lledrith ydy hyn i gyd, wrth gwrs. |
(1, 0) 378 |
'Rydyn ni'n siŵr o ddeffro, toc. |
|
(Mac) Taw â sôn! |
|
|
|
(Mac) E? |
(1, 0) 382 |
Mi ddeffrwn i ail-ddechrau crwydro eto. |
|
(Mac) Ia, mae'n anodd credu. |
|
|
|
(Mac) Chwaneg o win? |
(1, 0) 387 |
Mi fyddi di'n feddw toc! |
|
(Mac) Melys moes mwy! |
|
|
(1, 0) 395 |
Be sy yna? |
|
(Mac) Weli di? |
|
|
|
(Mac) Chwarter acer os ydy hi lathen sgwâr. |
(1, 0) 399 |
Tybed? |
(1, 0) 400 |
Sut drefn sydd arni? |
|
(Mac) Eitha da... |
|
|
|
(Mac) Lawnt fel─fel darn o felfed gwyrdd! |
(1, 0) 408 |
Ydw, a border o lafant a Phen-ci-bach! |
|
(Mac) Rhosynnau a pherlysiau! |
|
|
|
(Mac) Rhosynnau a pherlysiau! |
(1, 0) 410 |
Blodau Mihangel! |
|
(Mac) A Thresi Aur! |
|
|
|
(Mac) A Blodau'r Cledd! |
(1, 0) 413 |
A phren afalau! |
|
(Mac) Dyn yn ei ardd,─pinacl gwareiddiad! |
|
|
|
(Mac) Dyn yn ei ardd,─pinacl gwareiddiad! |
(1, 0) 415 |
Be sy draw acw? |
|
(Mac) Cytia,─hen stablau ac ati. |
|
|
|
(Mac) Wyddost ti be ddwedais i o dan fy ngwynt pan welais i nhw gynna efo Mr. Martin? |
(1, 0) 419 |
Be ddwedaist ti? |
|
(Mac) Ieir! |
|
|
|
(Mac) Dyna be ddwedais i,─Ieir! |
(1, 0) 422 |
O? |
|
|
|
(Mac) Fedra i feddwl am ddim gwell, fedri di? |
(1, 0) 431 |
Wel... |
|
(Mac) Pleser a phroffid! |
|
|
|
(Mac) Beth wyt ti'n feddwl o'r syniad? |
(1, 0) 436 |
Syniad da. |
(1, 0) 437 |
Gwreiddiol. |
(1, 0) 438 |
Petha bach od ydy ieir. |
(1, 0) 439 |
Diniwed. |
(1, 0) 440 |
Del... |
(1, 0) 441 |
Mi fydda i'n rhoi enw i bob un ohonyn nhw. |
(1, 0) 442 |
Alis, Cleopatra, a Meri Ann Ddu! |
|
(Mac) A'r ceiliog? |
|
|
|
(Mac) A'r ceiliog? |
(1, 0) 444 |
Siôn Chwimwth. |
|
(Mac) O? |
|
|
|
(Mac) O? |
(1, 0) 446 |
Ne Syr Harri,─'dwy' i ddim yn gwybod eto. |
(1, 0) 447 |
Mi ga i weld... |
(1, 0) 448 |
Be ddwedaist ti rŵan─ |
(1, 0) 449 |
Wya, a be? |
|
(Mac) Wya, a chig a phlu i'r gobennydd. |
|
|
|
(Mac) Wya, a chig a phlu i'r gobennydd. |
(1, 0) 451 |
Wya, ia. |
(1, 0) 452 |
Ond cig? |
(1, 0) 453 |
Eu lladd nhw? |
(1, 0) 454 |
Fedrwn i byth! |
|
(Mac) Twt, twt! |
|
|
|
(Mac) Twt, twt! |
(1, 0) 456 |
Mi fydda fel lladd fy nheulu, canibaliaeth! |
|
(Mac) E? |
|
|
|
(Mac) Hynny ydy... ia, wel... rhaid imi fynd i weld y stafelloedd eraill yna rŵan. |
(1, 0) 460 |
Weli di ddim llawer arnyn nhw, bellach. |
|
(Mac) E?... |
|
|
|
(Mac) Pam? |
(1, 0) 463 |
Tywyll. |
|
(Mac) Be wyt ti'n 'i feddwl, 'tywyll'? |
|
|
|
(Mac) Be wyt ti'n 'i feddwl, 'tywyll'? |
(1, 0) 465 |
Dim gola. |
|
(Mac) Ond mae yna ola yma! |
|
|
|
(Mac) Ond mae yna ola yma! |
(1, 0) 467 |
'Does yna ddim yn unlle arall. |
|
(Mac) Dewcs! |
|
|
|
(Mac) A pheth arall, mi ydw i wedi hen flino heno. |
(1, 0) 473 |
Syrthni gwin. |
|
(Mac) E? |
|
|
|
(Mac) O wel, gorffwys amdani. |
(1, 0) 477 |
Ar y cadeiria. |
|
(Mac) Be wyt ti'n 'i feddwl? |
|
|
|
(Mac) Be wyt ti'n 'i feddwl? |
(1, 0) 479 |
Wel, ble arall? |
(1, 0) 480 |
Fedrwn ni ddim rhyfygu gwely tamp. |
|
(Mac) Hidia befo. |
|
|
|
(Mac) Esmwyth cwsg potas maip. |
(1, 0) 483 |
Mi gawn wely nos yfory os byddwn ni'n fyw ac iach. |
|
(Mac) Os na fyddwn ni, wnawn ni ddim poeni rhyw lawer! |
|
|
|
(Mac) Os na fyddwn ni, wnawn ni ddim poeni rhyw lawer! |
(1, 0) 485 |
Be? |
|
(Mac) Pa gadair gymeri di? |
|
|
|
(Mac) Pa gadair gymeri di? |
(1, 0) 487 |
Dim gwahaniaeth. |
(1, 0) 488 |
'Run fath ydyn nhw i gyd. |
|
(Mac) Ia, digon gwir. |
|
|
|
(Mac) Dewcs, mae hi'n oer! |
(1, 0) 493 |
Côt amdanat. |
|
(Mac) Syniad da. |
|
|
|
(Mac) Syniad da. |
(1, 0) 497 |
Paid â thynnu dy sgidia. |
(1, 0) 498 |
Mi fydd dy draed di fel llyffantod, toc. |
|
(Mac) Fedra i ddim cysgu efo nhw am fy nhraed. |
|
|
|
(Mac) Mi wyddost ti hynny'n iawn. |
(1, 0) 501 |
O wel, ti sy'n gwybod. |
(1, 0) 502 |
Mac |
|
|
(1, 0) 504 |
Het! |
(1, 0) 505 |
Het? |
|
(Mac) Gwynt oer ar fy mhen i. |
|
|
|
(Mac) Wyt ti ddim wedi blino, dwed? |
(1, 0) 511 |
Blino? |
(1, 0) 512 |
Mi fedrwn gysgu ar lein ddillad! |
|
(Mac) Cyffyrddus? |
|
|
|
(Mac) Cyffyrddus? |
(1, 0) 515 |
Go lew. |
|
(Mac) Mi newidiwn ni gadeiria os mynni di. |
|
|
|
(Mac) Mi newidiwn ni gadeiria os mynni di. |
(1, 0) 517 |
Na, mi ydw i'n iawn. |
|
(Mac) Ia, wel, ti sydd i ddweud. |
|
|
|
(Mac) Mi gei di newid toc os byddi di'n teimlo felly. |
(1, 0) 521 |
Dos i gysgu. |
|
(Mac) Dim ond iti wybod,─dyna oedd gen i. |
|
|
|
(Mac) Dim ond iti wybod,─dyna oedd gen i. |
(1, 0) 523 |
Ia. |
|
(Mac) Nos dawch. |
|
|
|
(Mac) Nos dawch. |
(1, 0) 525 |
Nos dawch. |
|
|
(1, 0) 527 |
Mac! |
|
(Mac) Ia? |
|
|
|
(Mac) Ia? |
(1, 0) 529 |
Gola. |
|
(Mac) E? |
|
|
|
(Mac) E? |
(1, 0) 531 |
Gola. |
(1, 0) 532 |
Fedra i ddim cysgu efo'r gola mawr yna. |
(1, 0) 533 |
Mac |
|
|
(1, 0) 535 |
Aros am funud. |
|
|
(1, 0) 537 |
Ar y llaw arall, mae hwn yn dŷ diarth. |
(1, 0) 538 |
Hynny ydy, gwell bod yn ofalus... |
(1, 0) 539 |
Beth am y gannwyll? |
(1, 0) 540 |
Wnaiff honno dy boeni di? |
(1, 0) 541 |
Na, 'dwy'i ddim yn meddwl. |
(1, 0) 542 |
Mac |
|
|
(1, 0) 544 |
Dyna ni. |
|
|
(1, 0) 546 |
Sut mae hynna? |
(1, 0) 547 |
Iawn. |
|
(Mac) Reit... |
|
|
|
(Mac) Wel, nos dawch eto. |
(1, 0) 550 |
Nos dawch. |
|
(Mac) Wyddost ti be, tawn i'n ddyn crefyddol... |
|
|
|
(Mac) Wyddost ti be, tawn i'n ddyn crefyddol... |
(1, 0) 553 |
Ia? |
|
(Mac) Tawn i'n ddyn crefyddol, diawch synnwn i flewyn na fyddwn i'n gweddïo heno! |
|
|
|
(Mac) Tawn i'n ddyn crefyddol, diawch synnwn i flewyn na fyddwn i'n gweddïo heno! |
(1, 0) 555 |
Pam? |