| (Rachel) Wyt ti wedi cael tê, Esther? | |
| (1, 0) 106 | Rachel, Rachel! |
| (Rachel) {Yn codi.} | |
| (1, 0) 110 | Hylo! |
| (1, 0) 111 | Ydi—O, 'rwyt yma, Rachel? |
| (Rachel) Cael sgwrs fach gydag Esther 'roedd i cyn mynd i'r dref. | |
| (Esther) Dewch ymlaen, ac eisteddwch, | |
| (1, 0) 114 | Ydi John wedi dod adre'? |
| (Esther) Nac ydi. | |
| (Esther) Nid wyf yn ei ddisgwyl am awr arall. | |
| (1, 0) 118 | Awr arall? |
| (1, 0) 119 | Y dyn, bydd y 'steddfod hanner drosodd, a'r |male voice|... |
| (Rachel) Rho lonydd i'r |male voice|, da ti. | |
| (Rachel) Dyna fi wedi'i gwneud hi! | |
| (1, 0) 124 | Fe rown ni |Comrades in Arms| i'r sêt. |
| (1, 0) 125 | Fe ddanghoswn iddynt sut i ganu. |
| (1, 0) 126 | Nid chware plant bach yw cystadlu yn erbyn... |
| (Rachel) {Yn ddi-amynedd.} | |
| (1, 0) 130 | Naddo—|ar ol| dod allan. |
| (1, 0) 132 | Siarad 'roeddwn am |Comrades in Arms|. |
| (1, 0) 133 | Fe ysgubwn y llawr â Chôr Pentwyn heno. |
| (1, 0) 134 | Mae'n |tenors| ni... |
| (Rachel) {Â'i dwylaw i fyny.} | |
| (1, 0) 142 | Mae—mae Rachel yn—yn—yn—yn— |
| (Esther) {Yn ceisio ei wneud yn esmwyth.} | |
| (1, 0) 146 | Nag ydi'n wir? |
| (1, 0) 147 | Fe'i clywsoch yn galw meddyliau calon dyn yn lol? |
| (Esther) Do, do; ond cellwair roedd hi, Sam bach. | |
| (Esther) Do, do; ond cellwair roedd hi, Sam bach. | |
| (1, 0) 149 | 'Doeddwn i ddim am siarad dim ynglŷn â'r 'steddfod. |
| (1, 0) 150 | Rachel soniodd am |Comrades in Arms|. |
| (Esther) Eitha' gwir. | |
| (Esther) Eitha' gwir. | |
| (1, 0) 152 | Ond, yn wir, Esther, fe ddyl'sech glywed ein |tenors| ni ar y |climax| yn y diwedd. |
| (1, 0) 153 | Gallai'r angylion byth a'n curo. |
| (1, 0) 154 | Na, ffaith! |
| (Esther) {Yn dechreu torri bara.} | |
| (1, 0) 158 | Ond 'rydych chi'n mynd i'r 'steddfod, wrth gwrs? |
| (Esther) Dim heno, Sam. | |
| (Esther) Dim heno, Sam. | |
| (1, 0) 160 | Y fenyw! |
| (1, 0) 161 | A Chôr Dwynant yn cystadlu yn erbyn Côr Pentwyn! |
| (1, 0) 162 | Gwarchod pawb! |
| (Esther) Na, nid wyf am fyned allan o'r tŷ heno. | |
| (Esther) Na, nid wyf am fyned allan o'r tŷ heno. | |
| (1, 0) 164 | Falle mai ofni gweld Côr Dwynant yn gwneud hewl â hên gôr John 'rydych chi? |
| (Esther) O'm rhan i, rwy'n fo'lon i'ch côr ennill ganwaith, Sam bach. | |
| (Esther) O'm rhan i, rwy'n fo'lon i'ch côr ennill ganwaith, Sam bach. | |
| (1, 0) 166 | Ddwedwch chi hynny yn wyneb John? |
| (Esther) 'Rydw'i wedi ei ddweyd ugeiniau o droion eisoes. | |
| (Esther) 'Rydw'i wedi ei ddweyd ugeiniau o droion eisoes. | |
| (1, 0) 168 | Beth gynllwyn sy' arnoch chi heno, Esther? |
| (1, 0) 169 | 'Roeddech chi 'n arfer dilyn y canu yn gyson! |
| (Esther) 'Rydw' i allan o hwyl heno, Sam. | |
| (1, 0) 172 | Rhai ôd ydych chi'r menywod, a dweyd y lleiaf. |
| (1, 0) 174 | Wyddoch chi, Esther, mae'n wlêdd i wrando ar ein |bottom bass|. |
| (1, 0) 175 | Hylo! |
| (John) Cewch eich dodi yn eich lle heno! | |
| (John) {Hyn yn ychydig yn lledchwith.} | |
| (1, 0) 193 | Ydw, mae'n debyg. |
| (1, 0) 194 | Perthynas i'r beirniad, aie? |
| (Esther) 'Nawr, Sam! | |
| (John) Wel, Esther fach, mae hi—fel hyn— | |
| (1, 0) 200 | Dwed ar unwaith dy fod am gael gwlêdd, wrth glywed ni'n canu |Comrades in Arms|. |
| (John) Gwlêdd? | |
| (Esther) {Yn cydio y "thermos" a'r bocs bwyd, ac yn mynd allan.} | |
| (1, 0) 216 | Wyt ti am i mi aros i ti? |
| (John) Fel y mynnot. | |
| (1, 0) 221 | Oes, oes: mae chwarter awr eto. |
| (John) Gwêll i ti fynd, mae'n siwr fod angen practis ar dy gôr. | |
| (John) {Yn eistedd wrth y ford gyferbyn â Sam, ac yn dechreu codi llewysau ei grys.} 6 | |
| (1, 0) 225 | Rhai o dy gôr di wedi bod yn gwrando amom ni, aie? |
| (1, 0) 226 | Yr un hên drics. |
| (John) Gwrando arnoch chi'n wir. | |
| (1, 0) 231 | Nac ydi. |
| (John) Wyddost ti pam? | |
| (John) Wyddost ti pam? | |
| (1, 0) 233 | Y—y—mae anwyd trwm arno fe. |
| (John) Ha, ha! | |
| (John) Oes, oes; ond sut cafodd yr anwyd? | |
| (1, 0) 236 | Sut y gwn i? |
| (1, 0) 237 | Cael gwlychfa falle. |
| (John) Ie, bwceded o ddŵr ar ei ben. | |
| (John) Ie, bwceded o ddŵr ar ei ben. | |
| (1, 0) 239 | Bwceded o ddŵr ar ei ben? |
| (John) Ie, o'r ffenestr uwchben lle 'roedd efe'n gwrando, wythnos yn ôl. | |
| (John) O, ie, |Niagara Falls|! | |
| (1, 0) 242 | Anwiredd pob gair! |
| (1, 0) 243 | Does gyda chi ddim |points| gwerth eu dwyn. |
| (John) Beth am y |double forte| yn y mudiad olaf? | |
| (John) Beth am y |double forte| yn y mudiad olaf? | |
| (1, 0) 245 | Cyn y dewch o fewn i led cae i ni, bydd eisieu |double eighty| arnoch chi. |
| (Esther) Mae'r dŵr yn barod, John. | |
| (1, 0) 252 | |Nonsense| i gyd; mae yna ddigon o bolish ar ein côr lanhau dy 'sgidiau am flwyddyn, |
| (Esther) Peidiwch a'i gymryd yn seriws, Sam. | |
| (Esther) Tynnu'ch coes mae John. | |
| (1, 0) 255 | Nid tynnu coes dyn yw dweyd celwydd fe 'na! |
| (1, 0) 256 | Mae'n harweinydd ni yn ddigon o feistr ar e waith heb help neb. |
| (1, 0) 257 | O, ydi! |
| (Esther) Dyna fe'n wir. | |
| (Esther) Dyna fe'n wir. | |
| (1, 0) 259 | Mae William Phillips yn arweinydd di-guro, |
| (1, 0) 260 | Mae'n ysbrydiaeth i'w weld yn arwain. |
| (1, 0) 261 | Ac edrychwch ar ei wybodaeth! |
| (John) {Yn ymddangos â'i ddwylaw a'i wyneb llawn sebon.} | |
| (John) Pasiodd yr un |exam|, erioed. | |
| (1, 0) 266 | Y dyn! |
| (1, 0) 267 | Dim ond deuddeg |certificate| syd rhyngddo a chael ei |AC|. |
| (Esther) John, ei di byth heno! | |
| (John) {Yn diflannu.} | |
| (1, 0) 273 | Wyddoch chi, Esther, mae John braidd cynddrwg ag erioed. |
| (1, 0) 274 | Wn i ddim sut byddai rhyngom ni'n dau pe bae yntau'n canu heno gyda'i hên gôr. |
| (Esther) Na'n wir. | |
| (Esther) Na'n wir. | |
| (1, 0) 276 | Trueni hefyd nad ydi yn y côr. |
| (1, 0) 277 | Ond dyna fe, daeth marwolaeth y ferch fach. |
| (Esther) Do. | |
| (1, 0) 281 | Bu John bron a mynd yn wallgof yr adeg hynny, Esther. |
| (Esther) Do. | |
| (Esther) Do. | |
| (1, 0) 283 | Tŷ gwâg yw tŷ heb blentyn, Esther. |
| (Esther) {Gyda ymdrech.} | |
| (Esther) {Yn sychu deigryn.} | |
| (1, 0) 287 | Gallaf ei gweld hi 'nawr. |
| (1, 0) 288 | Yr annwyl, dyna lygaid oedd ganddi, fel dwy ffynnon loew! |
| (1, 0) 289 | Faint sy' 'nawr, Esther? |
| (Esther) Blwyddyn gyfan. | |
| (Esther) Blwyddyn gyfan. | |
| (1, 0) 291 | Yr arswyd fawr! |
| (1, 0) 292 | Fel mae'r amser yn mynd. |
| (1, 0) 293 | Blwyddyn wed'soch chi, Esther? |
| (Esther) Ie—heno! | |
| (Esther) Fel arfer. | |
| (1, 0) 302 | Ti elli adael ein harweinydd ni yn llonyd John. |
| (1, 0) 303 | Ŵn i am ddim sy'n siarad yn fwy bychanus am ddyn na'i fod yn ceisio arwain côr â chopi hên nodiant, ac hwnnw yn |upside-down|. |
| (John) Gwell hynny na gweld arweinydd yn arwain yn ffyrnig am bedwar |bar| cyfan heb wybod fod y côr wedi gorffen canu. | |
| (John) Gwell hynny na gweld arweinydd yn arwain yn ffyrnig am bedwar |bar| cyfan heb wybod fod y côr wedi gorffen canu. | |
| (1, 0) 305 | John, paid a dweyd... |
| (Esther) {Yn dychwelyd â dillad John ac yn e rhoddi iddo.} | |
| (John) Nid wyf am golli un côr yn canu. | |
| (1, 0) 314 | Ond fe gollwch y cwpan, mae hynny'n sicr. |
| (Esther) 'Rwy'n credu y byddai'n well i chi fynd, Sam. | |
| (John) Pwy ar y ddaear lâs sy'n mynd i sylwi ar fy nhraed? | |
| (1, 0) 319 | Ti fyddi'n fwy esmwyth ynddynt, fachgen; ac fe fyddi'n sioncach yn dy 'sgidiau goreu i redeg adre' â'r newyddion fod ein côr wedi ennill y cwpan. |
| (John) Yr unig gwpan a gewch chi fechgyn heno yw cwpan wermod. | |
| (1, 0) 324 | Falle mai chi sy'n iawn, Esther. |
| (1, 0) 325 | Dylwn i, fel un o'r côr, fod mewn pryd. |
| (1, 0) 326 | Mae'n ddigon posibl mae'n tro ni fydd y cyntaf. |
| (John) Eitha'da. | |
| (John) A thi wyddost y gair, "A'r cyntaf a fydd olaf." | |
| (1, 0) 329 | Paid ag anghofio sut y trech'som ni chi ar |Hail, Bright Abode|. |
| (John) Do, ond |fluke| oedd y cyfan. | |
| (1, 0) 336 | Beth am hynny? |
| (John) A chi oedd y côr gwaethaf yn y gystadleuaeth. | |
| (John) A chi oedd y côr gwaethaf yn y gystadleuaeth. | |
| (1, 0) 338 | Y dyn! |
| (1, 0) 339 | Sut hynny? |
| (1, 0) 340 | Dim ond ni oedd cystadlu! |
| (John) Ha, ha, dyna fe! | |
| (John) Os ellir ei alw yn llais! | |
| (1, 0) 345 | Pan mae dyn yn eiddigeddus wrthyf, edrychaf ar y cyfan fel |compliment| i mi. |
| (1, 0) 346 | Rwyt ti |yn| dod, John? |
| (John) Collwn i ddim o'r gystadleuaeth heno am gan' punt; na, ddim ar un cyfrif. | |
| (Esther) {Yn mynd allan.} | |
| (1, 0) 355 | Wel, dyma fi'n mynd. |
| (1, 0) 357 | Ond un gair bach cyn cychwyn. |
| (1, 0) 358 | Sylwa heno ar y |march| tua'r diwedd. |
| (1, 0) 359 | Dyna lle bydd cyd-symudiad! |
| (1, 0) 360 | A'r climax ar y diwedd! |
| (1, 0) 361 | Fel hyn. |
| (1, 0) 363 | Fe fydd yn ddigon i wneud y cyfansoddwr droi yn ei fedd. |
| (John) Gan ddychryn? | |
| (1, 0) 366 | Gan ardderchowgrwydd y datganiad. |
| (1, 0) 367 | Ffarwel, John, a chofia ddod. |
| (1, 0) 374 | Mi rown gic i'ch côr chi heno nac anghofiwch mohono byth. |
| (John) Wyddost ti beth, Sam, buaset wedi cael fy lle i yn ein côr ni oni bae un peth. | |
| (John) Wyddost ti beth, Sam, buaset wedi cael fy lle i yn ein côr ni oni bae un peth. | |
| (1, 0) 376 | Pwy sydd yn awyddus am uno â'ch côr |second rate| chi? |
| (John) Ie, dim ond un peth; ie, un peth. | |
| (1, 0) 379 | O'n wir! |
| (1, 0) 380 | A beth yw'r un peth yna, os câf ofyn? |
| (John) Llais. | |
| (Esther) John!! | |
| (1, 0) 384 | Jelws, rwy'n gweld. |
| (1, 0) 385 | Beth bynnag, 'rwy'n agor fy nghêg wrth ganu i'r llais ddod allan. |
| (John) Ha, ha! | |
| (Esther) Peidiwch a sylwi arno, Sam. | |
| (1, 0) 391 | Dywedodd hi hynny, Esther? |
| (Esther) Peidiwch a sylwi ar John, 'rwy'n dweyd. | |
| (John) 'Rwyt ti'n gweld, Sam, fod Esther yn ameu dim. | |
| (1, 0) 394 | Mae'r menywod 'ma yn dweyd pethau ofnadwy tu ol i'n cefnau ni. |
| (John) A'r gwaethaf yw eu bod yn dweyd y gwir, Sam bach. | |
| (Esther) Yn wir, John! | |
| (1, 0) 397 | Diain i, ond mae'r menywod 'ma â chôf aruthrol ganddynt am ein gwendidau ni, y dynion. |
| (1, 0) 398 | Y maent yn wahanol iawn i ni yn hynny. |
| (John) O, sut hynny? | |
| (John) O, sut hynny? | |
| (1, 0) 400 | Pan mae dyn yn clywed rhywbeth, aiff y peth i mewn drwy un glust ac allan trwy'r llall, ond am fenyw—hei! |
| (Esther) Beth am danom ni, Sam? | |
| (Esther) Beth am danom ni, Sam? | |
| (1, 0) 402 | Aiff i mewn trwy'r ddwy glust ac allan ar flaen ei thafod. |
| (Esther) Sam! | |
| (John) Trueni na fuasai dy ganu gystal. | |
| (1, 0) 408 | Ti elli adael y canu i mi—a'r agor fy nghêg i ganu hefyd. |
| (1, 0) 409 | Gall Esther yma dystio fod gennyt dithau wyneb digon agored pan 'rwyt ti'n disturbo'r cymdogion â'th floeddio. |
| (Esther) Gadewch lonydd, eich dau, yn wir! | |
| (Esther) Gadewch lonydd, eich dau, yn wir! | |
| (1, 0) 411 | John ddechreuodd, Esther. |
| (1, 0) 412 | Ond dyma fi'n mynd. |
| (1, 0) 414 | John, machgen i, ar dy waethaf, mi ganaf heno fel yr eos. |
| (John) Glywaist ti 'nawr, Esther? | |
| (Esther) Bydd yr eisteddfod hanner drosodd cyn i un o chi gyrraedd yno. | |
| (1, 0) 419 | O wel, dyma fi'n mynd. |
| (1, 0) 421 | Ond cofia fy ngeiriau, John, bydd |Comrades in|... |
| (Esther) Mae'n ugain munud wedi saith, Sam! | |
| (Esther) Mae'n ugain munud wedi saith, Sam! | |
| (1, 0) 423 | Wel, noswaith dda, Esther. |
| (1, 0) 424 | |So long|, John, mi wela'i dy wyneb hir di nes ymlaen. |
| (Esther) Noswaith dda, Sam. | |
| (Esther) Noswaith dda, Sam. | |
| (1, 0) 427 | O, ie, John, sylwa di fan hyn heno. |
| (Esther) {Yn ei wthio allan.} | |
| (1, 0) 431 | Eitha' da! |
| (1, 0) 432 | Wel, noswaith dda, Esther. |
| (John) {Yn mynd i'r drws, yn ei agor, ac yn galw ar ol SAM.} | |
| (1, 0) 438 | Beth 'nawr? |
| (John) Gwendid eich côr chi yw—yw... | |
| (John) Gwendid eich côr chi yw—yw... | |
| (1, 0) 440 | Yw beth? |
| (John) Nad oes gyda chi ddim |tenors| na |bass| gwerth yr enw. | |
| (John) Nad oes gyda chi ddim |tenors| na |bass| gwerth yr enw. | |
| (1, 0) 442 | Twt, twt! |
| (1, 0) 443 | Lol i gyd! |