| (Robin) Ac yn fwy na hynny mae'r achos hwn yn garreg filltir yn hanes brwydr yr unigolyn. | |
| (Clerc) P.C. Davies? | |
| (1, 0) 102 | Dwi'n oer! |
| (1, 0) 237 | Na...na...agoes. |
| (1, 0) 238 | Gadwch lonydd i fi... dwi ddim isio. |
| (Clerc) Pam? | |
| (1, 0) 243 | Dwi... dwi am fynd i'r clas-rwm. |
| (Un o'r plant) {Gan ei dynnu'n ôl i lawr.} | |
| (Clerc) Titsiars pet ynte Sami? | |
| (1, 0) 259 | Na...na. |
| (Clerc) Dal bag i Miss Robyts, agor drws i Miss Robyts, rhoi llyfra allan i Miss Robyts, hel llyfra fewn i Miss Robyts, dod a bloda i Miss Robyts. | |
| (Plant) Titsiars' pet! | |
| (1, 0) 264 | Wnes i 'rioed... naddo... NADDO! |
| (Clerc) Atebwch fi! | |
| (1, 0) 292 | Ia... y... ia, Miss Robyts. |
| (Clerc) Gadewch i mi weld. | |
| (1, 0) 302 | Nagoes, Miss Robyts. |
| (Clerc) Ac mi wyddoch chi lle mae'r tŷ bach? | |
| (Clerc) Ac mi wyddoch chi lle mae'r tŷ bach? | |
| (1, 0) 304 | Yndw, miss. |
| (Clerc) Wel, pam 'ta? | |
| (Clerc) Wir, dydi'r ddynas 'na ddim ffit i edrach ar ôl ci heb sôn am hogyn bach. | |
| (1, 0) 308 | Nain? |
| (Clerc) Nain wir. | |
| (Clerc) Mi fydd yn rhaid i mi ei riportio hi a mynd a thi i'r cartra' lle cei di ofal go iawn. | |
| (1, 0) 312 | Ond mae tŷ nain yn gynnas. |
| (P.C. Davies) Mi wnaeth Sami dynnu stumia hyll arnoch chi rwan. | |
| (1, 0) 317 | Na...addo. |
| (Clerc) Ow, yr hen hogyn bach drwg ─ mi ddysga i di... | |
| (Clerc) Ow, yr hen hogyn bach drwg ─ mi ddysga i di... | |
| (1, 0) 319 | Ond mae o'n deud clwydda! |
| (Clerc) (Gan droi at P.C. Davies) | |
| (Clerc) Rwan dos i'r gornal... | |
| (1, 0) 332 | Ond dwi'n oer yn y gomal, Miss... |
| (Plant) Sami bach yn oer! | |
| (Plant) C'nesu! | |
| (1, 0) 346 | Dwi'n chwilio... dwi'n chwilio... |
| (Plant) Poethi! | |
| (1, 0) 350 | Dwi wedi'i chyrraedd hi! |
| (Siopwraig) Noswaith dda...beth alla i wneud i chi? | |
| (1, 0) 370 | Mi rydach chi isho hogyn meddech chi... |
| (Siopwraig) {Yn bendant.} | |
| (Siopwraig) Llanc cryf, gweithgar sy' gen i isho. | |
| (1, 0) 373 | Wel, mi rydw i'n gryf. |
| (1, 0) 374 | Sbiwch. |
| (1, 0) 376 | A dwi wedi arfer codi petha trwm... a... a ma' nain yn deud na welodd hi fy math i am dorri coed. |
| (1, 0) 377 | Mi fedra'i... |
| (Siopwraig) Mi rwyt ti wedi gadael yr ysgol, debyg? | |
| (Siopwraig) Mi rwyt ti wedi gadael yr ysgol, debyg? | |
| (1, 0) 379 | Do, ers talwm. |
| (Siopwraig) A be' fuost ti'n ei wneud ers hynny? | |
| (Siopwraig) A be' fuost ti'n ei wneud ers hynny? | |
| (1, 0) 381 | Y... dim byd lot. |
| (1, 0) 382 | Anodd cael gwaith wyddoch chi... ond, mi ron i'n gneud dipyn o gwmpas y ty adra... |
| (Siopwraig) {Yn sgwennu ar gerdyn.} | |
| (1, 0) 386 | Ond... ond 'does genno'i ddim beic... |
| (Siopwraig) Beic y siop fyddi di'n 'ddefnyddio siŵr iawn. | |
| (Siopwraig) Beic y siop fyddi di'n 'ddefnyddio siŵr iawn. | |
| (1, 0) 388 | Ond dydach chi ddim yn dallt... |
| (Siopwraig) {Yn siarp.} | |
| (Siopwraig) Beth na fedra i mo'i ddallt? | |
| (1, 0) 391 | Fedra i... wel, fedra i ddim reidio beic... |
| (Siopwraig) Ddim reidio beic! | |
| (Siopwraig) Gwylia di... | |
| (1, 0) 396 | Nachdw! |
| (1, 0) 397 | NACHDW! |
| (1, 0) 398 | Dwi'n deud y gwir. |
| (1, 0) 400 | Fuodd gen i erioed feic. |
| (1, 0) 401 | 'Na'th neb brynu un i mi erioed... a 'doedd 'run o'r plant eraill yn gadael i mi gael tro ar eu beicia' nhwtha chwaith. |
| (Siopwraig) Dwi'n gweld. | |
| (Siopwraig) Wel, darllen o. | |
| (1, 0) 407 | Ond dydach chi ddim yn dallt. |
| (Siopwraig) Be nad ydw i'n ei ddallt 'tro yma? | |
| (Siopwraig) Be nad ydw i'n ei ddallt 'tro yma? | |
| (1, 0) 409 | Ond... 'fedra i ddim darllen. |
| (Siopwraig) Ddim... ddim darllen. | |
| (Siopwraig) E? | |
| (1, 0) 414 | Ond... mi 'roeddan nhw'n fy ngyrru i i'r gornel. |
| (Siopwraig) Hogyn drwg ia? | |
| (Siopwraig) Hogyn drwg oeddat ti yn yr ysgol. | |
| (1, 0) 417 | Nhw oedd yn... |
| (Siopwraig) Wel, dwi ddim isho hogyn drwg yn fy siop i. | |
| (1, 0) 427 | Tybad fedrwch chi ddeud wrtha i... |
| (Inspector) Helo, ymgeisydd ar gyfer y swydd ia? | |
| (Inspector) Helo, ymgeisydd ar gyfer y swydd ia? | |
| (1, 0) 429 | Ia, dyna chi. |
| (Inspector) Enw? | |
| (1, 0) 432 | Samuel Jones. |
| (Inspector) Profiad blaenorol? | |
| (Inspector) Profiad blaenorol? | |
| (1, 0) 434 | E? |
| (Inspector) Fuest ti'n g'neud y math yma o waith o'r blaen? | |
| (Inspector) Fuest ti'n g'neud y math yma o waith o'r blaen? | |
| (1, 0) 436 | Fi oedd yn carthu cwt y ci adra... |
| (Inspector) Paid ti a meiddio a chymharu ein tai bach ni a chwt dy gi di adra 'ngwas i. | |
| (Inspector) Wyt ti'n debol i le fel'na, 'ddyliet ti? | |
| (1, 0) 441 | Dwi ddim yn gwbod... |
| (Inspector) Fedri di ddelio efo fandaliaeth? | |
| (1, 0) 444 | Dwn 'im. |
| (1, 0) 445 | Dwn 'im. |
| (Inspector) Fedri di ddarllen y sgwennu ar y wal? | |
| (Inspector) Fedri di ddarllen y sgwennu ar y wal? | |
| (1, 0) 447 | Na fedra. |
| (Inspector) Fedri di son am y gwahaniaeth rhwng papur meddal a phapur sglein? | |
| (Inspector) Fedri di son am y gwahaniaeth rhwng papur meddal a phapur sglein? | |
| (1, 0) 449 | Na fedra. |
| (Inspector) Fedri di... | |
| (Inspector) Fedri di... | |
| (1, 0) 451 | Na fedra! |
| (1, 0) 452 | Na fedra! |
| (Doctor) Rwan agor dy geg a deud "A". | |
| (1, 0) 461 | A. |
| (Doctor) Yr argian fawr, mi roedd hwnna'n swnio'n wag. | |
| (Doctor) Tria fo eto. | |
| (1, 0) 464 | Aaa. |
| (Doctor) Mm. | |
| (Doctor) Wyt ti wedi gweld doctor o'r blaen, Sami? | |
| (1, 0) 467 | Naddo, 'rioed. |
| (Doctor) Mae gen i lythyrau gan athrawon ysgol fan hyn ac un gan dy blismon pentra di ac yn ôl be' maen nhw'n ddeud, mi ddylat ti fod wedi gweld un ers blynyddoedd. | |
| (Doctor) Be' ydi dy broblem di, Sami? | |
| (1, 0) 470 | Dim byd... dim byd, dwi'n iawn. |
| (Doctor) Be' wyt ti'n da yn fa'ma 'ta? | |
| (Doctor) Be' wyt ti'n da yn fa'ma 'ta? | |
| (1, 0) 472 | Isho mynd i'r armi. |
| (Doctor) Methu cael job, ia? | |
| (1, 0) 477 | Na... na wna. |
| (Doctor) Paid a dychryn. | |
| (Doctor) Rwan agor... | |
| (1, 0) 482 | Na wna'. |
| (1, 0) 483 | 'Wna' i ddim. |
| (Doctor) Ond pam? | |
| (Doctor) Be 'di'r matar? | |
| (1, 0) 486 | Mi faswn i'n oer wedyn yn baswn. |
| (Doctor) Oes gen ti ofn bod yn oer 'ta? | |
| (1, 0) 489 | Oes, mae gen i. |
| (1, 0) 490 | 'Gen i ofn bod yn y gornel hefyd achos dwi'n unig yn y gornel a mae rhywun yn oer os ydi o ar ei ben ei hun. |
| (Doctor) Hym. | |
| (Catherine) Wel, be' ti'n mynd i'w wneud am y peth, e? | |
| (1, 0) 546 | E? |
| (Catherine) I'w cha'l hi i ddod allan efo ti siŵr iawn. | |
| (Catherine) I'w cha'l hi i ddod allan efo ti siŵr iawn. | |
| (1, 0) 548 | E? |
| (Catherine) Gwranda. | |
| (Catherine) Rwan tria di o... | |
| (1, 0) 568 | Y? |
| (Catherine) {Yn famol.} | |
| (Catherine) Ty'd rwan Sami bach. | |
| (1, 0) 571 | Haia... pwsi... |
| (Catherine) {Yn chwerthin efo'r lleill.} | |
| (Catherine) Faint ydi dy oed di Sami? | |
| (1, 0) 576 | E? |
| (Catherine) Faint ydi dy oed di'r lembo? | |
| (Catherine) Faint ydi dy oed di'r lembo? | |
| (1, 0) 578 | Y... y... tua... y... ugain oed. |
| (Catherine) {Yn ei ddynwared.} | |
| (Catherine) Y... y... newydd droi ugain... y... dest iawn... ydi o wchi... | |
| (1, 0) 581 | Ia. |
| (Megan) Mi rwyt ti'n ddyn felly yn dwyt? | |
| (Anwen) Hei, am funud ─ os wyt ti'n ddyn... pam nad wyt ti efo'r dynion eraill? | |
| (1, 0) 585 | Y? |
| (Megan) Yn y rhyfel? | |
| (Catherine) Felly pam nad wyt ti yn yr armi 'ta, 'mlodyn gwyn i? | |
| (1, 0) 589 | 'Nes... nes i fethu'r test. |
| (Megan) Methu'r medical ia? | |
| (Megan) Methu'r medical ia? | |
| (1, 0) 591 | Ia..a. |
| (Catherine) {Yn famol gan fynd y tu ôl iddo a'i dynnu'n ol ar ei mynwes.} | |
| (Catherine) Deud ti be rwan 'ngwas bach annwyl i. | |
| (1, 0) 595 | Am bod fi'n... |
| (Catherine) {Yn gas.} | |
| (Anwen) 'Fasat ti ddim yn gw'bod pa ffor'i ddal gwn. | |
| (1, 0) 601 | Na, am bod fi'n... |
| (Catherine) Mi fasat ti'n lladd yn hogia ni. | |
| (1, 0) 616 | Yy? |
| (Sarjant) Mi rydan ni wedi dod i dy ricriwtio di i'r Hôm Gards. | |
| (Sarjant) Myn yffarn i ─ mae'r rheiny'n cymryd rhywbeth. | |
| (1, 0) 619 | Ond... ond dwi'n... |
| (Sarjant) Cau di dy geg y dwat, neu mi fydda i'n stwffio'r ffon 'ma i fyny dy dwll a wriglo dy glustiau. | |
| (P.C. Davies) Ti oedd yn codi'r cynnwrf. | |
| (1, 0) 662 | Na...nage. |
| (1, 0) 663 | Nhw oedd yn fy ricriwtio i. |
| (P.C. Davies) Dy ricriwtio di? | |
| (Doctor) Dyma ti Sami, gwisga hon. | |
| (1, 0) 683 | Ond mae hi'n wyn. |
| (Doctor) Wrth gwrs ei bod hi ─ mae popeth yn wyn mewn 'sbyty. | |
| (Doctor) Cofia paid â phoeni, a phaid â meddwl. | |
| (1, 0) 697 | Ond... ond mae pob man yn wyn. |
| (1, 0) 699 | Mae pob man yn wyn... doctor mewn gwyn... |
| (1, 0) 702 | ...y fi mewn gwyn... gwlau gwyn... waliau gwyn... |
| (1, 0) 704 | Mae pob man yn wyn! |
| (1, 0) 706 | Gwyn fel eira... gwyn fel rhew... fel ffrij... a dwi'n oer... |
| (1, 0) 708 | Dwi'n oer, dwi'n oer. |
| (1, 0) 709 | OER! |
| (1, 0) 710 | OER! |
| (Clerc) {Gan daro'r bwrdd yn bwysig ac urddasol.} | |
| (1, 0) 724 | ...i'r ffrij! |