| (Medfedenco) Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser? | |
| (1, 0) 238 | Rwy'n ei chofio hi'n actio yn fendigedig yn ffair fawr Poltafa yn 1873, digon o ryfeddod di-ha-fal! |
| (1, 0) 239 | A fyddwch chi cystal â deud wrtha i ble mae'r comedian Tsiadin, Pafel Semionits Tsiadin y dyddiau hyn? |
| (1, 0) 240 | 'Doedd na neb tebyg iddo am actio Raspliwieff, 'roedd o'n well na'r gorau, yn well na Sadoffski ei hun. |
| (1, 0) 241 | Ble mae o rwan, foneddiges fwyn? |
| (Arcadina) Be dach chi'n holi am bobol oedd yn byw cyn i Noah fynd i'r arch? | |
| (1, 0) 245 | Pashca Tsiadin! |
| (1, 0) 246 | Chewch chi neb fel y fo heddiw. |
| (1, 0) 247 | Mae'r ddrama wedi cael codwm, Irina Nicolaiefna. |
| (1, 0) 248 | 'Roedd derw nerthol yn y dyddiau hynny, chewch chi ddim ond eu bonion nhw heddiw. |
| (Dorn) Ychydig o dalentau disglair a geir yn yr oes hon, ond mae safon actio wedi codi cryn dipyn. | |
| (Dorn) Ychydig o dalentau disglair a geir yn yr oes hon, ond mae safon actio wedi codi cryn dipyn. | |
| (1, 0) 250 | Fedra i ddim cyd-weld â chi fan yna, ond o ran hynny, matter o chwaeth ydi'r cwbl; |de gustibus aut bene aut nihil|. [1] |
| (Arcadina) {Wrth ei mab.} | |
| (Dorn) Mae ei olwg o yn gneud i ryw ias oer fynd drwydda i. | |
| (1, 0) 383 | Iago, machgen i, tyn y cyrten na i fyny. |
| (Nina) {Wrth Trigorin.} | |
| (Arcadina) Peidiwch â deud pethau fel yna, cyn gynted ag y clyw rhywun yn ei ganmol, mae o'n mynd yn llipa ac yn hurt. | |
| (1, 0) 395 | Rhywbryd erstalwm yn yr opera yn Mosco, 'rwy'n cofio'n dda, canodd yr enwog Silfa y |do| uchaf, a'r noson honno, fel pe tae o bwrpas, roedd canwr bas o gôr ein plwy ni yn eistedd ar ymyl y galeri, ac ar drawiad, dyma lais o'r galeri gryn wythawd yn is: "Bravo Silfa' nes synnu'r holl dŷ. |
| (Dorn) Ac ehedodd angel distawrwydd dros y lan. | |
| (1, 0) 427 | Madam! |
| (Sorin) Dacw'r ci'n cyfarth eto. | |
| (Sorin) Da chi, deudwch wrth y gwas am ei ollwng o. | |
| (1, 0) 431 | Thâl hynny ddim, mae arna i ofn i'r lladron fynd i'r sgubor a dwyn yr ŷd. |
| (1, 0) 433 | Ie, gryn wythawd "Bravo, Silfa", nid cantwr, ond aelod distadl o'r côr. |
| (Medfedenco) Be di cyflog aelod o'r côr? | |
| (Dorn) 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.' | |
| (2, 0) 611 | Dyma nhw. |
| (2, 0) 612 | Bore da. |
| (2, 0) 614 | Mae'n dda gin i eich gweld i gyd yn iach. |
| (2, 0) 616 | Mae'r wraig acw yn deud eich bod chi'n meddwl mynd i'r dre gyda'ch gilydd, ydi hyna'n wir? |
| (Arcadina) Ydi, 'rydym yn meddwl mynd. | |
| (Arcadina) Ydi, 'rydym yn meddwl mynd. | |
| (2, 0) 618 | H-m-m. |
| (2, 0) 619 | Rhagorol iawn, ond sut yr ewch chi yno, foneddiges barchus? |
| (2, 0) 620 | Mae nhw'n cario'r ŷd heddiw a'r gweision i gyd yn gweithio, a lle cewch chi geffylau, os ca i fod mor hy â gofyn? |
| (Arcadina) Sut y gwn i? | |
| (2, 0) 624 | Ceffylau cerbyd, yn wir! |
| (2, 0) 625 | Ond, ble ca i goleri iddyn nhw, ble ca i goleri, 'rwy'n gofyn ichi. |
| (2, 0) 626 | Mae peth fel hyn yn an-ni-odd-ef-ol. |
| (2, 0) 627 | 'Rwy'n barod i fynd ar fy ngliniau gerbron eich talentau chi, foneddiges barchus; ac i aberthu deng mlynedd o mywyd er eich mwyn, ond fedra i ddim rhoi ceffylau ichi. |
| (Arcadina) Ond mae rhaid imi fynd, welais i rioed y fath beth. | |
| (Arcadina) Ond mae rhaid imi fynd, welais i rioed y fath beth. | |
| (2, 0) 629 | Foneddiges barchus, wyddoch chi ddim am ofalon ffarmwr. |
| (Arcadina) {Yn wyllt.} | |
| (2, 0) 635 | Dyma fi'n mynd heddiw, chwiliwch am rywun arall yn stiward ichi. |
| (Arcadina) 'Run fath bob ha, yn cael f'insyltio yma bob ha! | |
| (3, 0) 1159 | Mae gennyf yr anrhydedd o hysbysu, gyda gofid, fod y cerbydau yn barod! |
| (3, 0) 1160 | Mae'n bryd ichi gychwyn, foneddiges barchus; bydd y tren i mewn bum munud wedi dau. |
| (3, 0) 1161 | A newch chi gymwynas â mi? |
| (3, 0) 1162 | Peidiwch ag anghofio gadael inni wbod ble mae'r actor Swsdatseff. |
| (3, 0) 1163 | Ydi o'n fyw ac iach? |
| (3, 0) 1164 | Mi fyddem yn cael glasiad hefo'n gilydd ers talwm. |
| (3, 0) 1165 | 'Doedd na neb tebyg iddo am actio yn 'Rhaib y Post.' 'R wy'n cofio'r tragedian enwog Ismailoff yn actio gydag o yn Elisofetgrad. |
| (3, 0) 1166 | 'D oes dim brys, foneddiges barchus, mae gynnoch chi bum munud eto. |
| (3, 0) 1167 | 'Roedd y ddau yn cymyd rhan dau fradwr mewn melodrama rywbryd, a phan ddatguddiwyd y brad, dyma Ismailoff yn lle deud 'Dyma ni yn y ddalfa' yn deud 'Dyma ni yn yr helfa'. |
| (3, 0) 1169 | 'Yn yr helfa.' |
| (Polina) {Â basged yn ei llaw.} | |
| (Iago) Bendith yr Arglwydd ar eich pen! | |
| (3, 0) 1199 | Mi fyddai'n dda gynno ni gael pwt o lythyr. |
| (3, 0) 1200 | Da y boch, Boris Alecsiefits! |
| (Arcadina) Ble mae Constantin? | |
| (4, 0) 1420 | 'Rydym ni i gyd wedi heneiddio ar ôl y gwynt a'r glaw arnom; ond 'rydych chi'n fengach na rioed, foneddiges fwyn, jecad olau, sioncrwydd pert... a... a... |
| (Arcadina) Dyna chi wrthi hi'n ffalsio eto, yr hen ŵr atgas ichi. | |
| (4, 0) 1455 | O, ie, 'ceffylau, mynd adre' unwaith eto. |
| (4, 0) 1457 | Gellwch farnu eich hun, mae'n nhw newydd fod yn y stesion; 'does dim modd eu gyrru nhw allan eto heno. |
| (Masia) Ond mae gynnoch chi geffylau erill. | |
| (Medfedenco) (Exit.) | |
| (4, 0) 1473 | Gadwch iddo gerdded, nid general ydi o. |
| (Polina) {Yn curo'r bwrdd.} | |
| (Masia) Deg! | |
| (4, 0) 1501 | Peidiwch bod ar gimint o frys. |
| (Arcadina) Mi ges i'r fath dderbyniad yn Charcoff, nefoedd fawr, mae mhen i'n troi hyd y dydd hwn. | |
| (Arcadina) {Yn dangos ei brooch iddynt.} | |
| (4, 0) 1509 | Wel, dyna rywbeth yn wir. |
| (Masia) Hanner cant. | |
| (Polina) Dyna Costia yn canu piano, arwydd ei fod yn ddigalon. | |
| (4, 0) 1515 | Mae o'n ei chael hi'n arw yn y papurau newydd. |
| (Masia) Dau ar bymtheg a thrigain. | |
| (4, 0) 1542 | Mae'ch bethma chi yma'n ddigon diogel. |
| (Trigorin) Be dych chi'n feddwl? | |
| (Trigorin) Be dych chi'n feddwl? | |
| (4, 0) 1544 | Wedi i Constantin Gafrilits saethu gwylan, mi ddaru'ch ofyn imi ei stwffio hi ichi. |
| (Trigorin) 'Dwy'n cofio dim am y peth. | |
| (Arcadina) Bravo, bravo! | |
| (4, 0) 1559 | Bravo! |
| (Arcadina) Mae hwn yn sgubo popeth o'i flaen ym mhobman. | |
| (4, 0) 1732 | Dyma'r beth-ma hwnnw o'n i'n sôn amdano. |
| (4, 0) 1734 | Chi ofynnodd i mi. |