a1a2a3a4

Yr Wylan (1952)

Anton Tsiechoff [Антон Чехов]
cyf. Thomas Hudson-Williams, gol. Samuel Jones

Ⓗ 1952 Thomas Hudson-Williams
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


ACT I

Parc ar ystad Sorin. Llwybr llydan yn arwain i bendraw'r parc at lyn; ar draws y llwybr gwelir llwyfan wedi ei chodi'n frysiog ar gyfer drama; felly ni welir y llyn. Llwyn o goed o boptu'r llwyfan. Cadair neu ddwy a bwrdd. Y mae'r haul newydd fachlud. Iago a'r gweithwyr eraill y tu ôl i'r llen. Clywir sŵn eu morthwylion a'u peswch. Daw Masia a Medfedenco o'r chwith; maent wedi bod am dro.

Medfedenco

Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser?

Masia

Fel arwydd o alar, mae mywyd i'n drist.

Medfedenco

Sut y gall hynny fod? (Yn feddylgar.) Fedra i ddim dallt. Rydych yn iach, 'dydi'ch tad ddim yn gyfoethog, mae'n wir, ond mae gynno fo ddigon at ei fyw, mae'n gletach o lawer arna i, dwy bunt a chweswllt yn y mis o gyflog, a rhaid iddyn nhw gael rhan o'r rheini at fy mhensiwn; ond 'dydw i ddim yn gwisgo du.

Masia

'Does dim a nelo arian â'r peth. Gall y tlawd fod yn hapus.

Medfedenco

Digon gwir ar bapur; ond nid fel yna y mae hi pan driwch chi fyw; dyna fi a mam a dwy chwaer a mrawd bach yn gorfod byw ar ddwy bunt a chweswllt y mis. Rhaid cael bwyd a llyn, debyg? Te a siwgr a baco; go gyfyng yntê?

Masia

(Â'i llygad ar y llwyfan.) Mi fydd y ddrama yn dechrau cyn hyn.

Medfedenco

Bydd. Mi fydd Zarietsnaia yn actio, a Chonstantin Galfrilofits ydi'r awdur. Mae nhw'n caru ei gilydd, a bydd eneidiau'r ddau yn llifo ynghyd yn eu hymdrech i roi mynegiant i'r un campwaith; on'd oes dim a FIX dynn ein heneidiau ni at ei gilydd. 'Rwy'n eich caru, fedra i ddim aros yn y tŷ yn fy hiraeth amdanoch; byddaf yn cerdded pedair milltir bob dydd i gael golwg arnoch a phedair milltir yn ôl, ond 'rydych chi yn hollol ddidaro. Debyg iawn, 'does gin i ddim arian, ac mae gin i deulu mawr. Sut y gellir disgwyl i eneth briodi dyn, ac yntau heb ddigon o fwyd yn y tŷ.

Masia

Lol i gyd. (Cymer bins o snisin.) Rwy'n teimlo'ch cariad i'r byw ond fedra i mo'ch caru chi, dyna'r cwbl. (Gan estyn y blwch.) Cymwch binsiad.

Medfedenco

Na, fydda i ddim.



Distawrwydd.

Masia

Mae'n fwll, cawn ddrycin yn y nos. 'Rydych chi fyth a hefyd yn athronyddu, ac yn sôn am arian. Yn eich barn chi, 'does dim mwy truenus na thlodi, ond yn fy marn i, mae'n ganmil gwell i ddyn wisgo carpiau a hel cardod o dŷ i dŷ na ─ ond fedrwch chi ddim dallt peth fel 'na.



Sorin a Treplieff yn dod i mewn.

Sorin

(A'i bwys ar ei ffon.) Neith byw yn y wlad mo'r tro i mi o gwbl, a debyg iawn, na i byth ddygymod ag o. Es i'r gwely ddeg o'r gloch neithiwr, a chysgais tan naw o'r gloch y bore ma, ac wedi'i holl gysgu mae fy mennydd yn glynud wrth esgyrn fy mhen ac felly yn y blaen. (Chwardd.) Ac ar ôl cinio es i gysgu wedyn, megis ar ddamwain, ac rwan rwy'n llipa fel hen gadach ac wedi byddaru mewn gair.

Treplieff

Digon gwir, rhaid i chi gael byw yn y dre. (Gwêl Masia a Medfedenco.) Pan fydd yn amser dechrau, mi ddon i ddeud wrthoch chi, ddylech chi ddim bod yma rwan; byddwch cystal â gofyn i'ch tad ddweud wrth y gwas am ollwng y ci, rhag iddo gyfarth. Chysgodd fy chwaer ddim munud drwy'r nos.

Masia

Deudwch air eich hunan wrth fy nhad, na i ddim. (Wrth Medfedenco.) Dowch, awn draw.

Medfedenco

(Wrth Treplieff.) Cofiwch adael inni wbod mewn pryd.



Exit.

Sorin

Hynny yw, bydd y ci yn udo trwy'r nos heno eto. Ches i rioed fyw yn y wlad yn ôl fy ffansi, dyna'r gwir amdani. Yn yr hen ddyddiau, byddwn yn cael mis o wyliau ac yn dwad yma i orffwys ac felly yn y blaen, ond 'roedd hi mor annifyr yma, 'roedd arna i eisiau mynd o ma ben bore wedyn. (Chwardd.) Roedd yn dda gin i gael mynd i ffwrdd, ond 'rwan, wedi imi gadw noswyl, 'does gin i unlle i fynd, mewn gair. Ond licio neu beidio, rhaid imi fyw yma.

Iago

(Wrth Treplieff.) Constantin Gafrilits, rydym ni'n mynd i ymdrochi.

Treplieff

O'r gorau, cofiwch fod yn eich lle mhen deng munud. (Edrych ar ei wats.) Rhaid dechrau'n bur fuan.

Iago

Fyddwn ni ddim yn hir.

Treplieff

(Â'i lygad ar y llwyfan.) Welwch chi, dyma'r theatr, y llen a'r ddwy wing a gwagle mawr tu draw. Dim decoration. Cewch weld y llyn o flaen eich llygaid draw ar y gorwel. Codir y llen hanner awr wedi wyth pan gyfyd y lleuad.

Sorin

Ardderchog.

Treplieff

Os bydd Zarietsnaia yn hwyr, collir yr effect, wrth gwrs. Mi ddylai fod yma rwan. Mae ei thad a'i mam-yng-nghyfraith yn ei chadw hi'n gaeth iawn, prin y ceith fynd allan o'r tŷ, mae'r lle fel jail iddi. (Yn twtio cadach gwddf ei ewythr.) Mae'ch gwallt a'ch barf yn flêr iawn; mi ddylid eu torri nhw, wir.

Sorin

(Yn trin ei farf.) Dyna drasiedi fy mywyd i. Pan oeddwn i'n ddyn ifanc, byddwn yn edrych fel pe bawn i wedi cael tropyn, ac felly yn y blaen. Fyddai'r merched byth yn fy licio i. (Eistedd.) Pam y mae fy chwaer mor ddrwg ei hwyl?

Treplieff

Pam? O, mae wedi llyncu mul. (Eistedd wrth ymyl Sorin.) Gwenwyn sydd arni. Fedr hi mo niodde i na'r sioe chwaith, am mai Zarietsnaia ac nid hi sydd yn actio. Dda gynni hi mo'r ddrama, mae'n ei FIX chasáu hi.

Sorin

(Yn chwerthin.) Dim perig, wir.

Treplieff

Fedr hi ddim diodde meddwl mai Zarietsnaia, ac nid hi, sydd yn cael tipyn o glod ar stage fechan fel hon. (Edrych ar ei wats.) Mae mam yn psychological curiosity, dyna be di hi. Mae gynni hi ddigon o dalent, 'does dim dwywaith am hynny, mae'n wraig ddeallus, gall ochneidio uwch ben llyfr, gall adrodd holl ganeuon Necrasof, gall weini ar y cleifion, mae'n dyner fel angel pryd hynny, ond well i chwi beidio rhoi gair da i actres fel Eleanora Dwse o'i blaen hi. Ow, ow! Chewch chi FIX ganmol neb ond hi, rhaid sgwennu amdani hi, a bloeddio mewn gorfoledd am ei hactio yn y Ferch a'r Camelia neu Ferw Bywyd. Ond os nad oes yna glod iddi hi feddwi arno mewn lle dinad-man fel hwn, mae hi'n sorri ac yn pwdu ac yn bigau i gyd, ac arnom ni i gyd, ei gelynion hi, mae'r bai. Ac y mae'n ofergoelus, mae arni hi ofn tair cannwyll a thri ar ddeg o bopeth. Mae gynni hi saith mil o bunnoedd yn y banc yn Odessa, 'rwy'n siŵr o hynny, ond gofynnwch iddi am fenthyg arian, a dyna hi'n dechrau crio.

Sorin

Rydych chi'n credu na licith hi mo'ch drama. Byddwch dawel, mae'ch mam yn eich addoli chi.

Treplieff

(Yn pigo blodeuyn ac yn tynnu ei ddail bob yn un.) Ydi hi'n fy ngharu i? Ydi, nag ydi, ydi, nag ydi, ydi, nag ydi. (Chwardd.) Welwch chi, 'dydi mam ddim yn fy ngharu i, nag ydi, wrth gwrs. Mae arni hi eisiau byw, caru, a gwisgo dillad golau, ond 'rydw i'n bump ar hugain oed ac yn gneud iddi hi gofio nad ydi hi ddim yn eneth ifanc. Os na fydda i yno, 'dydi hi ddim ond deuddeg ar hugain; dowch â fi i mewn, a dyna hi'n dair a deugain, ac yn fy nghasau i am hynny. Mi ŵyr hefyd nad ydw i'n cymeradwyo drama'r oes hon, mae hi yn caru drama'r oes hon, ac yn tybied ei bod hi'n gwasanaethu dynoliaeth ac yn llaw forwyn i'r gelfyddyd sanctaidd. Ond yn fy marn i, 'dydi drama'r oes ddim ond routine a rhagfarn. Pan gyfyd y llen yn y golau gneud i ddatguddio stafell a thri phared iddi, wele'r talentau anfarwol, offeiriaid y gelfyddyd sanctaidd, yn dangos inni sut y bydd pobol yn bwyta, yn yfed, yn caru, yn cerdded ac yn gwisgo. Pan geisiant dynnu gwres o'u darluniau a'u hymadroddion ystrydebol, ceir gwers dila, eiddil, hawdd i'w deall, addas i fywyd beunyddiol y teulu; pan welaf hyn i gyd dro ar ôl tro, y ffurf yn newid ond yr un hen beth ffiaidd yn aros yr un, yr un, yr un hen beth, byddaf yn rhedeg ac yn rhedeg fel y rhedodd Guy de Maupassant o olwg y Tŵr Eiffel rhag ofn i'w hylltra di-chwaeth ei yrru o'i go.

Sorin

Ond fedrwn ni ddim gwneud heb y ddrama.

Treplieff

Rhaid cael ffurfiau newydd, heb ffurfiau newydd fedr neb neud dim, byddai'n well rhoi'r gorau iddi hi. (Edrych ar ei wats.) Rwy'n caru mam yn ddwys, ond 'dydi hi ddim yn byw fel y dylai, mae'n mynd o gwmpas gyda'r llenor na, mae gormod o sôn amdani hi yn y papur newydd, ac mae hyna'n peri blinder i mi, ac y mae tipyn bach o wenwyn arna i hefyd, teimlad naturiol iawn. Mae'n ddrwg gin i fod mam yn actres enwog, byddwn yn hapusach tae hi'n wraig gyffredin di-enw. Ystyriwch fy nghyflwr truenus a diflas, gorfod eistedd wrth ei hymyl ynghanol twr o enwogion y byd, artistiaid a llenorion o bob math a minnau'n neb ac yn cael bod yno yn unig am fy mod yn fab fy mam. Pwy ydw i? Beth ydw i? Dois o'r coleg cyn gorffen fy nghwrs ─ "dan bwys amgylchiadau nad oeddwn yn gyfrifol amdanynt" chwedl gwŷr y wasg, heb dalent, heb geiniog, ac ar fy mhasport "gweithiwr o Cieff", dyna oeddwn i, "Gweithiwr o Cieff" oedd fy nhad hefyd er ei fod yn actor enwog, a phan fyddai'r bobol fawr yn ei pharlwr hi mor fuan â dal sylw arna i, teimlwn eu bod yn fy mesur o'm corun i'm sowdwl ac yn fy nirmygu fel creadur gwael a diddim, ac yr oedd hynny'n rhoi poen imi, wrth gwrs.

Sorin

Ar draws popeth sut ddyn ydi'r llenor yna? 'Dw i ddim yn ei ddallt o, chewch chi ddim gair o'i ben o.

Treplieff

Dyn deallus, syml, eitha clên hefyd, ond bydd yn aml iawn yn y felan. 'Dydi o ddim yn ddeugain oed, ond mae'n cael llond i fol o glod y byd, am ei waith o fel llenor, 'dwn i ddim sut i roi'r peth mewn geiriau; mae'n swynol, mae'n llawn talent, ond rywsut, 'does ar neb eisiau darllen Trigorin wedi darllen Tolstoi a Zola.

Sorin

'Rwy'n hoff iawn o lenorion. Roedd gin i ddau nod unwaith, priodi a bod yn llenor, a ches i'r un o'r ddau. Mae bod yn llenor bach well na dim, wedi'r cwbl.

Treplieff

(Yn clustfeinio.) Mi glywa i sŵn traed. Fedra i ddim byw hebddi hi. Mae hyd yn oed sŵn ei throed yn brydferth. O! 'Rwy'n hapus, 'rwy bron wedi gwirioni. (Rhed i gyfarfod Nina) Fy hudoles, breuddwyd fy nghalon!

Nina

(Yn gynhyrfus.) 'Dw i ddim yn hwyr, na, debyg iawn, 'dw i ddim yn hwyr?

Treplieff

(Yn cusanu ei dwylo.) Na, na...

Nina

'Dw i wedi bod mor anesmwyth trwy'r dydd, wedi dychryn, ofn i nhad fy nghadw yn y tŷ, ond mae o a mam-yng-nghyfraith wedi mynd allan. Mae'r awyr yn goch a'r lleuad ar fin codi ac mi yrrais i'r ceffylau, mi yrrais i nhw, do. (Chwardd.) 'Rydw i mor falch.

Sorin

(Yn chwerthin.) Mae dagrau yn ei llygad hi, oes wir. FIX Ha, ha, thâl peth fel na ddim.

Nina

O, dim o gwbl, welwch chi fedra i ddim cael ngwynt. Rhaid imi fynd mhen hanner awr, mae'r amser yn brin. Na, na, da chi, peidiwch â gneud imi aros. Ŵyr nhad ddim mod i yma.

Treplieff

Yn wir, mae'n hen bryd inni ddechrau. Heliwch nhw i gyd yma.

Sorin

Mi a i FIX nôl nhw ac felly yn y blaen, y munud yma. (Â allan dan ganu.) "Dau Filwr ifanc gynt yn Ffrainc". Ron i'n canu rywbryd ers talwm, a dyma J.P yn deud wrtha i, "Mae gynnoch chi lais nerthol, syr", ac wedi meddwl tipyn dyma fo'n deud wedyn: "ond hen lais go gas ydi o hefyd".



Chwardd ac â allan.

Nina

Mae nhad a'i wraig yn gwrthod gadael imi ddwad yma. Mae nhw'n deud mai pobol go rydd ydych chi, ac y mae arnyn nhw ofn imi fynd yn actres ─ mae rhywbeth yn fy nhynnu i at y llyn fel gwylan. 'Rydych chi'n llond fy nghalon i.



Edrych o'i hamgylch.

Treplieff

Does na neb ond ni yma.

Nina

Ond mae rhywun fan acw...

Treplieff

Na, 'does na neb yna.



Cusanu.

Nina

Pa goeden ydi honna?

Treplieff

Llwyfen.

Nina

Pam mae hi mor dywyll?

Treplieff

Mae'n nosi a phopeth yn troi'n ddu. Peidiwch â mynd adra'n gynnar, 'rwy'n crefu arnoch.

Nina

Fedra i ddim aros.

Treplieff

Ond be tawn i'n dwad acw, Nina? Mi safa i drwy'r nos yn yr ardd â'm llygad ar eich ffenast chi.

Nina

Na, rhaid ichi beidio, rhag i'r gwyliwr eich gweld chi. 'Dydi Trysor ddim yn eich nabod chi ac mi fydd yn cyfarth.

Treplieff

'Rwy'n eich caru chi.

Nina

Isht, isht.



Sŵn traed.

Treplieff

Pwy sy na? Chi, Iago?

Iago

Ie fi.

Treplieff

Ewch i'ch llefydd. Mae'n bryd dechrau. Dacw'r lleuad yn codi.

Nina

Ydi, mae o.

Treplieff

Oes gynnoch fethylated spirit a brwmstan? Pan welir y ddau lygad coch, rhaid cael oglau brwmstan. (Wrth Nina.) Ewch, mae popeth yn barod, a ydych chi wedi cynhyrfu?

Nina

Ydw, yn arw iawn. Waeth gin i am eich mam, 'does arna i mo'i hofn hi. Ond mae Trigorin yma. Mae arna i ofn, mae arna i gywilydd actio o'i flaen o. Llenor enwog! Ydi o'n ifanc?

Treplieff

Ydi.

Nina

A'r straeon gwych sy gynno fo!

Treplieff

(Yn sych.) Dwn i ddim am hynny, ddarllenais i monyn nhw.

Nina

Mae'n anodd actio'ch drama chi. 'Does na ddim cymeriadau byw.

Treplieff

Cymeriadau byw, wir! Rhaid mynegi bywyd nid fel y mae, nid fel y dylai fod, ond fel yr ymddengys mewn breuddwyd.

Nina

Does na ddim digon o symudiad yn eich drama chi, dim yn digwydd, dim ond areithiau. Yn y marn i rhaid cael cariad mewn drama, mae hynny'n anhepgor.



Exit Nina a Treplieff. Polina a Dorn yn dod i mewn.

Polina

Mae'n damp yma. Ewch i nôl eich glosiars.

Dorn

'Rwy'n teimlo'n ddigon cynnes.

Polina

Fyddwch chi byth yn ofalus, 'rydych chi'n gyndyn dros ben. Mi wyddoch yn eitha da, doctor, nad ydi aer y nos ddim yn dda ichi, ond 'rydych chi'n licio mhoeni i, mi ddaru'ch eistedd ar y teras neithiwr o bwrpas.

Dorn

(Yn canu.) "O paid â dweud fod ieuenctid wedi darfod."

Polina

'Roeddych chi'n cael gormod o flas ar eich sgwrs hefo Irina Nicolaiefna, dyna pam na ddaru'ch ddim sylwi ar yr oerfel. Mae hi'n eich plesio chi'n tydi?

Dorn

'Rwy'n bymtheg a deugain.

Polina

Twt lol, waeth pa mor hen ydi'r dyn. 'Rydych chi'n dal eich oedran yn dda, ac y mae'r merched yn ddigon parod i'ch canlyn chi.

Dorn

Ond be fynnwch chi?

Polina

Rydych chi'r dynion bob amser yn barod i fynd ar eich gliniau o flaen actres, ydych, bob un ohonoch.

Dorn

(Yn canu.) "O'th flaen 'rwy'n dyfod eto." Os ydi artist yn plesio'r byd yn fwy na siopwr, er enghraifft, wel fel yna y dylia hi fod, tipyn o idealism, ynte?

Polina

'Roedd y merched bob amser yn eich caru chi, a'u breichiau am eich gwddw chi. Idealism oedd hyna hefyd, debyg?

Dorn

(Yn codi ei ysgwyddau.) Wel, mi oeddwn yn boblogaidd ymhlith y merched, ond y doctor medrus oedden nhw yn ei garu, nid y dyn. Fel y cofiwch, fi oedd y fydwraig orau yn yr ardal ryw bymtheng mlynedd yn ôl. Ac 'rydw i wedi bod yn ddyn gonest drwy f'oes.

Polina

(Yn cydio yn ei law.) 'Nghariad i!

Dorn

Sh-t, mae nhw'n dwad.

Shamraieff

(Yn dod i mewn.) Rwy'n ei chofio hi'n actio yn fendigedig yn ffair fawr Poltafa yn 1873, digon o ryfeddod di-ha-fal! A fyddwch chi cystal â deud wrtha i ble mae'r comedian Tsiadin, Pafel Semionits Tsiadin y dyddiau hyn? 'Doedd na neb tebyg iddo am actio Raspliwieff, 'roedd o'n well na'r gorau, yn well na Sadoffski ei hun. Ble mae o rwan, foneddiges fwyn?

Arcadina

Be dach chi'n holi am bobol oedd yn byw cyn i Noah fynd i'r arch? Sut y gwn i?

Shamraieff

(Yn ochneidio.) Pashca Tsiadin! Chewch chi neb fel y fo heddiw. Mae'r ddrama wedi cael codwm, Irina Nicolaiefna. 'Roedd derw nerthol yn y dyddiau hynny, chewch chi ddim ond eu bonion nhw heddiw.

Dorn

Ychydig o dalentau disglair a geir yn yr oes hon, ond mae safon actio wedi codi cryn dipyn.

Shamraieff

Fedra i ddim cyd-weld â chi fan yna, ond o ran hynny, matter o chwaeth ydi'r cwbl; de gustibus aut bene aut nihil. [1]



Treplieff yn dod i mewn.

Arcadina

(Wrth ei mab.) Mhlentyn annwyl i, pryd byddan nhw'n dechrau?

Treplieff

Mewn hanner munud, mam, peidiwch â cholli'ch mynedd.

Arcadina
(Yn adrodd brawddeg o Hamlet.)
"Fy Mab, peraist imi syllu ar fy nghalon, ac och!
Y fath ddoluriau gwaedlyd a marwol a welais o'i mewn.
Nid oes iachawdwriaeth imi!"

Treplieff
(Yng ngeiriau Hamlet.)
"A pham y syrthiaist ti i bwll aflendid a cheisio cariad yn nyfnderoedd camwedd?"



Clywir corn tu ôl i'r llen.

Treplieff

Foneddigion a boneddigesau, dechreuwn, sylwch a gwrandewch. Dyma ddechrau.



Gan daro'r llawr â'i ffon. Mewn llais uchel.

Treplieff

Chwi gysgodion, sanctaidd, hen, fydd yn lledu eich adenydd dros y llyn liw nos, bwriwch drymder cwsg ar ein hamrantau fel y breuddwydiom am yr hyn a ddigwydd ymhen dau gan mil o flynyddoedd.

Sorin

Ond fydd na ddim yn bod ymhen dau gan mil o flynyddoedd.

Treplieff

O'r gorau, gadewch inni freuddwydio am y dim hwnnw.

Arcadina

Breuddwydiwn ta.



Y llen yn codi.

Nina

Mae dynion, llewod, eryrod a phetris, ceirw corniog, gwyddau, pryfed cop, pysgod mud, sêr, y môr ac ymlusgiaid na aller y llygad eu canfod, mewn gair, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, wedi cyflawni eu cylch truenus, ac wedi diffodd ─ aeth weithian filoedd o oesau heibio, a'r ddaear heb greadur byw yn trigo arni, a hithau'r loer, druan, yn cynnau ei llusern yn ofer. Ni chlywir mwyach ysgrech yr aran yn deffro ar y weirglodd na'r chwilod mân yn sio ar ddail y waglwyf. Oer! oer! gwag, gwag, ofnadwy, ofnadwy, ofnadwy! Aeth pob corff byw yn llwch, troes tragwyddol fater hwy oll yn gerrig, yn ddŵr ac yn gymylau, a'u heneidiau oll wedi llifo ynghyd. Enaid y byd wyf i, ynof i mae Enaid Alecsandr Fawr, enaid Cesar, enaid Shakespeare, enaid Napoleon a phryfyn distatlaf y llwch; yn fy mherson i crynhowyd holl reddfau'r byw, ac adnewyddaf bob bywyd ynof i fy hun.



Ymddengys goleuadau gwibiog Jac y Lantern yn y niwl.

Arcadina

(Yn ddistaw bach.) Modern iawn, yn wir.

Treplieff

(Yn ymbilgar.) O, mam!

Nina

Nid oes neb byw ond myfi. Unwaith yn y can mlynedd agoraf fy ngenau, dyrchafaf fy llais yn drist yn y diffeithwch, ac nid oes neb a'm clyw. A chwithau, oleuadau gwelwon, ni chlywch fy llef, fe'ch cenhedlir gan y corsydd lleidiog cyn toriad dydd, a chrwydrwch hyd y wawr, heb feddwl, heb ewyllys, heb symudiad byw. Ac wele'r diafol, tad tragwyddol fater, rhag i fywyd dreiddio hyd atoch, bob munud awr yn symud yr atomau o'ch mewn, megis yn y cerrig â'r dŵr, a chwithau'n newid agwedd yn ddi-baid, yn ddi-dor; yn yr holl greadigaeth nid erys ond un enaid yn ddigyfnewid a pharhaus. (Distawrwydd.) Fel carcharor a fwriwyd i waelodion pydew gwag, ni wn ym mha le yr wyf, na pha beth a ddaw; un peth yn unig sydd hysbys imi yn yr ymdrech gyndyn greulon â'r diafol, pennaeth holl alluoedd mater, tynghedwyd i'm gorchfygu, ac yna gwelir mater ac enaid yn cyd-lifo yn un mewn cytgord, a sefydlir teyrnas rhyddid y byd. Ond ni ddaw hyn i fod am oesau, filoedd hir, wedi i'r lloer a FIX Siriws disglair, a'r ddaear raddol droi yn llwch, o'r dyddiau hyn i hynny, braw, braw!



Distawrwydd. Ymhen y llyn ymddengys dau bwynt coch.

Nina

Wele fy ngwrthwynebwr cadarn, y diafol, yn FIX nesáu; gwelaf ei lygaid erchyll, coch.

Arcadina

Oglau brwmstan! Oes eisiau brwmstan?

Treplieff

Oes.

Arcadina

(Yn chwerthin.) O, ie, i roi mynd ar y ddrama, yntê?

Treplieff

Mam!

Nina

Mae'n unig heb gwmni dyn.

Polina

(Wrth Dorn.) Dyna chi wedi tynnu'ch het. Rhowch hi am eich pen rhag ofn ichi gael annwyd.

Arcadina

Tynnu ei het i'r diafol, tad tragwyddol fater, a ddaru'r doctor.

Treplieff

(Yn ffyrnig, gan godi ei lais.) Mae'r ddrama ar ben. Llen?

Arcadina

Pam 'rydych chi mor ddig?

Treplieff

Dyna ddigon! I lawr â'r llen! (Yn curo'r llawr â'i draed.) I lawr â'r llen! (Y llen yn disgyn.) Arna i mae'r bai, anghofiais mai gan yr ychydig etholedigion yn unig y mae'r hawl i sgwennu a chwarae drama. Torrais y monopoly, mi ─ mi ─



Exit.

Arcadina

Be sy arno fo?

Sorin

Irina bach, nid dyna'r ffordd i drin dyn ifanc balch fel y fo.

Arcadina

Ond be ddeudais i?

Sorin

'Roeddych yn rhy gas o lawer.

Arcadina

Ond mi ddeudodd o ei hun mai tipyn o ddireidi oedd y cwbl, ac mi goeliais innau hynny.

Sorin

Ond...

Arcadina

Mae'n ymddangos ei fod o wedi cyfansoddi campwaith, os gwelwch chi'n dda. Cawsom sioe a phwff o frwmstan, nid fel tipyn o ddireidi ond fel math o ddemonstration, mae'n debyg; 'roedd o am roi gwers inni, i ddangos sut y dylid cyfansoddi a sgwennu drama a'i hactio; gormod o beth, yn wir; mae o fyth a hefyd yn pigo ac yn pwnio; mae'n ddigon i godi cyfog ar unrhyw ddyn. Dyna i chi fachgen larts, mae o'n stimiau i gyd.

Sorin

Ond ceisio rhoi tipyn o hwyl ichi oedd yr hogyn.

Arcadina

O, aie, felly wir, ond pam y dewisodd o destun mor ddiarth a disgwyl inni wrando ar hen stynt fodern fel yna? Ond o ran hynny yr wy'n ddigon parod i wrando ar lol er mwyn yr hwyl, ond pa hawl sy gynno fo i sôn am ffurfiau newydd ac oes newydd yn gwawrio ar gelfyddyd? Yn y marn i, "does yma ddim ffurfiau newydd o gwbl, dim ond tymer ddrwg.

Trigorin

Mae pawb yn sgwennu fel y myn ac fel y gall.

Arcadina

Pob croeso iddo sgwennu fel y myn ac fel y gall, ond iddo adael llonydd i mi.

Dorn

"Yr wyt yn ffromi, dad y duwiau."

Arcadina

Nid tad y duwiau ydw i, ond gwraig gyffredin. Dw i ddim wedi ffromi; ond mae'n ddrwg gin i weld dyn ifanc yn gwastraffu ei amser fel hyn, mae mor ddwl. 'Don i ddim yn meddwl bod yn gas.

Medfedenco

'Does dim dichon ysgaru enaid a mater, 'dydi'r enaid ei hun, mae'n debyg, ddim ond cyfuniad o atomau materol. (Yn fywiog, wrth Trigorin.) Eitha peth, wyddoch chi, fyddai sgwennu drama a'i hactio, i ddangos sut y mae dyn fel fi yn byw. Bywyd caled ydi bywyd athro, ie, bywyd caled iawn.

Arcadina

Digon gwir; ond gadwch inni sôn am rywbeth heblaw'r ddrama ac atomau ar noson mor ardderchog â heno. Ust! Glywch chi nhw'n canu? (Yn gwrando'n astud.) Clws, yntê?

Polina

'Rochor arall i'r llyn y maen nhw.



Distawrwydd.

Arcadina

(Wrth Trigorin.) Steddwch wrth f'ymyl i. Rhyw bymtheg mlynedd yn ôl, yma ar y llyn clywid miwsig a chân bron drwy'r nos. Yr oedd chwech o dai draw fan acw ar y lan. 'Rwy'n cofio'r miri a'r twrw a'r saethu a'r cerddi ─ ein ffrind y doctor (gan gyfeirio at Dorn) oedd eilun calon trigolion yr holl dai 'cw, fo oedd ceffyl blaen y pryd hynny. Gall ddenu pawb heddiw, wrth gwrs, ond yn yr hen ddyddiau 'roedd o tu hwnt! Ond mae nghydywybod yn dechrau brathu; pam y daru i mi frifo'r hogyn druan? 'Rwy'n anesmwyth. Costia, nghariad i, Costia!

Masia

Mi a i i chwilio amdano fo.

Arcadina

Ie, ewch, os gwelwch chi'n dda.

Masia

Hei! Constantin Gafrilofits! Hei! Hei!



Exit.

Nina

(Yn dod i mewn.) Dyna bopeth ar ben, rhaid inni ddwad allan debyg. Dydd da i chi.



Cusanu Arcadina a Polina.

Sorin

Bravo, bravo.

Arcadina

Bravo, bravo! Cawsom wledd. 'Roeddych yn dda, mi fyddai'n bechod i eneth fel chi a'r llais ardderchog na aros yn y wlad. Rhaid bod gynnoch chi dalent; ydych chi'n clywed? Mae'n ddyletswydd arnoch fynd ar y stage.

Nina

Ie, dyna mreuddwyd i. (Ag ochenaid.) Ond ddaw o byth yn wir.

Arcadina

Pwy ŵyr? O, dyma Trigorin, Boris Alecsiefits Trigorin.

Nina

Mae'n dda gin i... (Yn swil a ffwdanus.) Mi fydda i'n darllen llawer ar eich llyfrau chi.

Arcadina

Peidiwch â bod yn swil, nghariad i. Er ei fod mor enwog, mae o'n ddyn digon syml. Welwch chi, mae o'n swil ei hun.

Dorn

Mae'n bryd iddyn nhw godi'r cyrten. Mae ei olwg o yn gneud i ryw ias oer fynd drwydda i.

Shamraieff

Iago, machgen i, tyn y cyrten na i fyny.



Y llen yn codi.

Nina

(Wrth Trigorin.) Drama ryfedd, yntê?

Trigorin

Dydw i ddim yn ei dallt hi, ond 'roedd yn bleser edrych arni, 'roeddych yn actio â'ch holl enaid. (Distawrwydd.) Rhaid bod digon o bysgod yn y llyn acw.

Nina

Oes.

Trigorin

'Rydw i'n hoff iawn o bysgota, wn i am ddim mwy difyr nag eistedd ar y lan gyda'r hwyr â'm llygad ar y fflôt.

Nina

Ond i'r sawl a brofodd win melys awduriaeth, mi ddylai popeth arall yn y byd golli ei flas, debygwn i.

Arcadina

(Yn chwerthin.) Peidiwch â deud pethau fel yna, cyn gynted ag y clyw rhywun yn ei ganmol, mae o'n mynd yn llipa ac yn hurt.

Shamraieff

Rhywbryd erstalwm yn yr opera yn Mosco, 'rwy'n cofio'n dda, canodd yr enwog Silfa y do uchaf, a'r noson honno, fel pe tae o bwrpas, roedd canwr bas o gôr ein plwy ni yn eistedd ar ymyl y galeri, ac ar drawiad, dyma lais o'r galeri gryn wythawd yn is: "Bravo Silfa' nes synnu'r holl dŷ.



Distawrwydd.

Dorn

Ac ehedodd angel distawrwydd dros y lan.

Nina

Mae'n bryd imi fynd. Nos dawch.

Arcadina

Ond pam 'rydych chi'n mynd mor gynnar? Neith yr un ohonom ni adael ichi fynd.

Nina

Mae tada'n fy nisgwyl i.

Arcadina

Un rhyfedd ydi o, mewn difri calon. (Yn ei chusanu.) Wel, 'does dim i'w wneud. Piti garw fod rhaid ichi fynd.

Nina

Taech chi'n gwbod mor drwm mae nghalon i wrth fynd!

Arcadina

Rhaid i rywun fynd gyda chi, ta, fy mhwt clws i.

Nina

(Yn frawychus.) O, na, na!

Sorin

Da chi, rhoswch.

Nina

Fiw imi aros, Piotr Nicolaiefits.

Sorin

Rhoswch am un awr bach, ac felly yn y blaen.

Nina

(Wedi ystyried. Dan grio.) Fedra i ddim.



Exit.

Arcadina

Wir, mae'r eneth yn anlwcus iawn. Mae nhw'n deud fod ei mam hi wedi gadael ei holl eiddo i'r gŵr, do, bob dimai goch, ac rwan 'does gin yr hogan druan ddim ar ei helw, ac mae ei thad wedi gneud ei wyllys a gadael popeth i'w wraig, yr hen gena gynno fo!

Dorn

Ie, bwystfil o ddyn ydi ei thada hi, rhaid gneud hyna o gyfiawnder iddo fo beth bynnag.

Sorin

Mae'n well i ninnau ei throi hi hefyd. Mae gwayw yn y nghoesau i. Mae'n damp yma.

Arcadina

Mae nhw fel sglodion, prin y medrwch chi symud. Dowch, yr hen greadur anniddan.



Yn gafael yn ei fraich.

Shamraieff

(Yn rhoi ei fraich i'w wraig.) Madam!

Sorin

Dacw'r ci'n cyfarth eto. (Wrth Ilia.) Da chi, deudwch wrth y gwas am ei ollwng o.

Shamraieff

Thâl hynny ddim, mae arna i ofn i'r lladron fynd i'r sgubor a dwyn yr ŷd. (Wrth Medfedenco.) Ie, gryn wythawd "Bravo, Silfa", nid cantwr, ond aelod distadl o'r côr.

Medfedenco

Be di cyflog aelod o'r côr?



Exit pawb ond Dorn.

Dorn

(Ar ei ben ei hun.) Digon tebyg nad ydw i ddim yn dallt neu mod i wedi mynd o ngho; ond mi gefais i flas ar y ddrama. Mae na rywbeth yni hi; pan soniodd yr hogan am unigedd a phan welwyd llygaid cochion y diafol, roedd fy nulo i'n crynu a minnau wedi cynhyrfu. Ffres, diniwed, diddichell... ond dyma fo; mi dduda i air mwyn wrtho fo.

Treplieff

(Yn dod i mewn.) Does na neb yma.

Dorn

'Rydw i yma.

Treplieff

Mae Masia yn chwilio amdana i, ym mhob congol o'r parc. Fedra i ddim diodde'r grydures.

Dorn

Constantin Gafrilofits, hoffais eich drama yn fawr; drama ryfedd ydi hi, chlywsom ni mo'r diwedd, ond gnaeth argraff dda iawn arnom. Rydych yn ŵr talentog, rhaid ichi fynd ymlaen.



Treplieff yn gwasgu ei law ac yn ei gofleidio'n wyllt.

Dorn

Ow, 'rydych chi'n nerfau i gyd. Dagrau yn eich llygaid ─ Dyma sydd gin i i'w ddweud; dewis testun o faes yr idea haniaethol, da iawn; mi ddylai pob gwaith celfyddyd fynegi meddwl o ryw fath neu'i gilydd. Nid oes dim yn brydferth ond yr hyn sy'n ddifrifol. 'Rydych chi'n llwyd iawn!

Treplieff

Mynd ymlaen, ddeudsoch chi?

Dorn

Ie; ond rhaid ichi fynegi rhywbeth pwysig a thragwyddol. Fel y gwyddoch, mi welais lawer tro ar fy myd, ac yr wy'n berffaith fodlon ar fy mywyd; ond pe cawn i deimlo f'enaid yn esgyn i'r uchelder, fel y caiff yr artist wedi creu, mi ddirmygwn f'amdo cnawdol a phopeth a berthyn iddo ac esgynnwn o'r ddaear i'r goruchleoedd.

Treplieff

Esgusodwch fi, ble mae Nina?

Dorn

Mae hi wedi mynd adre.

Treplieff

(Yn dorcalonnus.) Be na i? Mae arna i eisiau ei gweld hi, rhaid imi gael ei gweld hi. Rhaid imi fynd.

Dorn

Byddwch dawel, gyfaill.

Treplieff

Ond 'rydw i'n mynd, beth bynnag, rhaid imi fynd.

Masia

Dowch i'r tŷ, mae'ch mam yn galw, mae hi'n anesmwyth.

Treplieff

Deudwch wrthi mod i wedi mynd allan. Da chi, gadwch lonydd imi, 'rwy'n crefu arnoch i gyd. Peidiwch â dwad ar f'ôl i.

Dorn

Rwan, rwan, thâl hyna ddim, nid fel yna y dylid...

Treplieff

(Â'i ddagrau'n llifo.) Nos dawch, Doctor. Diolch yn fawr i chi.



Exit.

Dorn

Ieuenctid, ieuenctid!

Masia

Pan fydd dim mwy i'w ddeud, "ieuenctid, ieuenctid" dyna gewch chi gan bawb.



Cymer bins o snisin. Dorn yn cipio'r blwch snisin a'i luchio i'r llwyn.

Masia

Rhoswch.

Dorn

Wel?

Masia

Mae gin i rywbeth i'w ddeud wrthoch chi. (Yn gynhyrfus.) Dw i ddim yn caru nhad, ond mae rhywbeth yn fy nhynnu atoch chi, 'rwy'n teimlo â'm holl galon eich bod chi'n agos ata i. Helpwch fi neu mi naf rywbeth dychrynllyd i ddifetha mywyd i gyd, waeth gin i be ddaw ohona i, fedra i ddal ddim mwy.

Dorn

Ond sut medra i'ch helpu chi?

Masia

'Rwy'n diodde, 'dwyr neb faint. (Yn sibrwd â'i phen ar ei fynwes.) 'Rwy'n caru Constantin.

Dorn

Mae pawb yn nerfau i gyd; o'r fath gariad! O, 'r llun hudol. (Yn dyner.) Be fedra i neud, mhlentyn i, be fedra i neud, be fedra i neud?

Notes

a1a2a3a4