|
|
|
(James) Beth gynllwyn wyt ti'n geisio'i wneud? |
|
|
|
(James) Peidiwch â chlebran... beth sy' wedi digwydd?... oes na neb yn promto? |
(1, 0) 95 |
'Does dim synnwyr yn y peth o gwbwl. |
(1, 0) 96 |
Mae'n hen bryd i ti, John, ddysgu dy ran ar ddiwedd yr act yna. |
|
(James) 'Dŷch chi ddim wedi cwpla? |
|
|
|
(John) Fe neidiodd Siân dudalen gyfan yn rywle... |
(1, 0) 103 |
Fe gaiff Neli setlo hynny. |
|
(John) A ble mae Neli? |
|
|
|
(John) Wel, rown i wedi cyrraedd y man yna lle'r wy'n mynd at y lle tân i danio sigaret, a dyma Siân yn torri ar 'y nhraws i cyn imi gael amser i ddweud dim. |
(1, 0) 120 |
'Rown i'n dy weld di'n hir. |
|
(John) 'Roedd y "lighter " yn gwrthod cynneu, a mae'n rhaid cael tân ynddo cyn y galla' i ddweud y llinell nesa' "mae fflam y 'lighter' hwn ges i gennyt ar fy mhenblwydd, Eluned, fel fflam ein cariad ni'n dau." |
|
|
|
(John) Fe dorrodd Siân i mewn, a wyddwn i ddim ble ar y ddaear oeddwn i. |
(1, 0) 131 |
'Roedd yn rhaid i rywun ddweud rhywbeth. |
|
(John) Pam na fuaset ti'n dweud rhyw linell o'r ddrama 'te? |
|
|
|
(John) Chlywais i erioed mo'r geiriau yna o'r blaen. |
(1, 0) 134 |
Pam na fuasai Neli, neu chi Mr. James, yn promto?─dyna lle mae'r bai. |
|
(James) 'Alla'i ddim bod â 'nwylo ym mhopeth. |
|
|
|
(James) Pwy ofynodd i honna ddod? |
(1, 0) 139 |
'Doedd dim angen gofyn arni. |
|
(James) Pwy ishe dod i le fel hyn oedd arni? |
|
|
|
(James) Mae fflam cariad i barhau am byth... yn enwedig mewn drama. |
(1, 0) 149 |
Wel, fe allai fod yn llawer gwaeth, ag os gofynwch chi i fi, Mr. James, mae'r ail act lawer yn rhy hir─'dwy i ddim yn gweld pwynt y gân o gwbwl... nid chi piau hi ychwaith. |
|
(James) Mae'r gân yn draddodiadol... yn eiddo i'r genedl, a chystal hawl gen i 'w defnyddio â neb arall. |
|
|
|
(James) Ag heblaw hynny, rhaid i Gwen gael esgus i newid. |
(1, 0) 152 |
Pam mae'n rhaid iddi newid? |
|
(Gwen) Fe garet ti 'ngweld i'n gwisgo'r un hen ddillad o hyd wrth gwrs. |
|
|
|
(James) Sam yma gynneu fach yn dod heibio ar ganol golygfa garu dyner a gwneud y twrw rhyfedda... dyw hi ddim yn deg â'r chwaryddion eraill... pwy all garu'n effeithiol a swn bwced yn clindarddan yng nghefn y llwyfan? |
(1, 0) 169 |
Dyna beth oedd y swn yna?─ |
(1, 0) 170 |
Fe chwarddodd pawb dros y lle. |
|
(James) Dyna fe... dyna'n hollol yr hyn wy'n geisio bwysleisio─trajedi! a'r bobol yn chwerthin! |
|
|
|
(Gwen) Newidia' i ddim. |
(1, 0) 203 |
Fe fydd yn well i ti wneud. |
|
(Gwen) Digon hawdd i ti siarad─'rwyt ti'n cael pob part crand mewn drama... a dyma'r unig olygfa lle'r wy'n cael cyfle i wisgo rhywbeth smart wedi'i thorri mâs yn glwt. |
|
|
|
(John) Ydyn' oddi ar pan oedden' hw yn y Col. yn Aber. gyda'i gilydd. |
(1, 0) 225 |
Mae hi am ddweud hynny, ond 'dwy' 'i ddim yn credu bod Gwilym wedi gwneud llawer â'r un ferch erioed, a 'rwy'n 'i nabod e'n lled dda. |
|
(Marged) Erbyn meddwl, Neli awgrymodd y'n bod ni'n dod â'r ddrama yma yn y dechrau. |
|
|
|
(Sam) A Siân yn eilo. |
(1, 0) 228 |
Twt! |
(1, 0) 229 |
Fyddai Gwilym ddim yn edrych ddwywaith ar Neli. |
(1, 0) 230 |
'Does dim digon o gymeriad ynddi i ddal dyn am ragor na noson. |
|
(John) Efallai taw dyna'n union beth mae Gwilym yn mo'yn─mae Neli'n damaid bach reit smart. |
|
|
|
(Sam) Fe wnaf fy ngorau, Marged, ond cofia, mae gen' ti dipyn o gystadleuaeth rhwng Neli a Gwen... a Siân. |
(1, 0) 236 |
Fe gnoiff e' 'i dafod ryw ddiwrnod. |
|
(John) Oes copi o'r ddrama gen' ti, Marged? |
|
|
|
(Marged) Fe fuasai llawer un wedi rhoi'r sac i'r lot a'n hala ni i'r cythraul. |
(1, 0) 245 |
Pa gwmni arall fyddai'n barod i chwarae'i ddramâu? |
|
(John) O, dyw hi ddim cynddrwg, yn enwedig petai hi'n cael chwarae teg, a mae Cwmni Aelwyd Rhyd Wen wedi dechrau arni'n barod─dyna un arwydd dda. |
|
|
|
(Marged) Ddeallaist ti erioed mohoni─parodi yw hi, John bach, ar y golygfeydd caru arferol. |
(1, 0) 250 |
Wyt ti ddim wedi newid eto? |
|
(Gwen) Oes ofn arnat ti fy ngweld i ar y llwyfan yn y rhain? |
|
|
|
(Gwen) Oes ofn arnat ti fy ngweld i ar y llwyfan yn y rhain? |
(1, 0) 252 |
Twt, does dim gwahaniaeth gen' i o gwbwl. |
|
(John) Ble mae dy gopi o'r ddrama, Gwen? |
|
|
|
(John) Aiff neb i nôl 'y nghopi drama i, a dwy ddim yn rhy siŵr o'r drydedd act chwaith. |
(1, 0) 267 |
Does dim gwahaniaeth gen' i─dwy fawr ar y llwyfan gyda ti yn honna. |
|
(John) 'Fydda 'i damaid gwell o ofyn i ti te? |
|
|
|
(John) 'Fydda 'i damaid gwell o ofyn i ti te? |
(1, 0) 269 |
'Ddim o gwbwl. |
|
|
|
(John) On'd oes pobol ddilês yn y byd! |
(1, 0) 280 |
Os wyt ti'n mynd i'r llwyfan, Sam, dwed wrth y Capten am roi'r stôl yn y lle iawn. |
(1, 0) 281 |
Fe anghofiodd y cyfan am hynny y tro diwetha'. |
|
(Sam) Fe fyddai'n llawer mwy gweddus i ti fynd i ofalu am rywbeth bach fel 'na dy hunan yn lle taflu'r gwaith i gyd ar ysgwyddau'r hen foi. |
|
|
|
(Sam) Oes un ohonoch chi'n gwybod ble mae'r copi oedd gan Neli? |
(1, 0) 287 |
Gofyn i'r Capten, fe sy'n gofalu am bopeth. |
|
(John) Os cei di afael ar Gwilym, synnwn i fawr na chei di afael ar y copi hefyd. |
|
|
|
(James) Gobeithio na bydd e ddim yn hir—mae'r dorf yn dechrau mynd yn anhywaith. |
(1, 0) 295 |
Beth am araith y Cadeirydd? |
(1, 0) 296 |
Pwy yw 'e? |
|
(James) Rhyw Ficer o'r cylch—ond 'rwy'n deall nad yw'e wedi cyrraedd. |
|
|
|
(Gwen) Fe af i i edrych am rywun nawr ar unwaith. |
(1, 0) 303 |
Aros, Gwen. |
(1, 0) 304 |
Mr. James, peidiwch â gadael iddi wneud ffyliaid ohonom i gyd... 'dyw hi ddim yn iawn iddi ganu a hithau yn y ddrama. |
|
(Gwen) Pam lai? |
|
|
|
(Sam) 'Wela'i ddim byd o'i le yn hynny, ag mae'n rhaid cael rhywun i lanw'r bwlch. |
(1, 0) 308 |
Gofala di am dy fusnes dy hunan. |
(1, 0) 309 |
Rwyt ti bob amser yn ceisio codi'i llewys hi. |
(1, 0) 310 |
Fe fyddai'n ffitiach gwaith o lawer i ti fynd i edrych am y copi 'na. |
|
(James) Nawr! |
|
|
|
(John) Fe 'allan' hw'u dwy egluro'n llawer gwell na mi. |
(1, 0) 318 |
Pediwch â gwrando a arno, Mr. James. |
(1, 0) 319 |
'Dwy-i ddim ond yn meddwl am y'n henw da ni fel cwmni. |
(1, 0) 320 |
Ag heblaw hynny, 'dyw Gwen ddim wedi newid 'i gwisg eto. |
|
(James) Wel nag yw wrth gwrs. |
|
|
|
(Price) A chwithau? |
(1, 0) 363 |
Siân Ifans. |
|
(James) Fel roeddwn i'n... |
|
|
|
(Price) Pwy sy'n canu? |
(1, 0) 372 |
Fe fynnodd y bitsh fach ddangos 'i hunan! |
|
(James) Un o'r merched sy'n canu, Mr. Price. |
|
|
|
(Sam) Diflannwch i rywle. |
(1, 0) 411 |
Dyna beth dwl oedd iddi ganu fel 'na. |
|
(Sam) Llongyfarchiadau, Gwen—fe genaist yn ardderchog. |
|
|
|
(Price) Meddyliwch am rywbeth, rhaid plesio'r dorf. |
(1, 0) 422 |
'Roeddwn i'n meddwl inni ddod yma er mwyn y ddrama! |
|
(Sam) Ble mae bocs y "make up," Mr. James? |
|
|
|
(Sam) Wyt ti'n gwybod pwy fu yma gynneu, Sian? |
(1, 0) 440 |
Pwy? |
|
(Sam) Fe gei di dri chynnig. |
|
|
|
(Sam) Fe gei di dri chynnig. |
(1, 0) 442 |
Nid Gwilym? |
|
(Sam) 'Roedd e'n holi amdanat ti, ond fe ddaeth Neli o rywle a'i ddwyn e' bant. |
|
|
|
(Sam) {Mynd Sam dan chwerthin yn gellweirus. Ch.} |
(1, 0) 446 |
Yr hen gythraul fach! |
|
(John) Mae nhw'n hoffi rhywbeth fel 'na lawer yn well na'r ddrama 'i hunan. |
|
|
|
(Marged) 'Fuost ti ddim yn gwrando, Siân? |
(1, 0) 452 |
Rown i'n gallu clywed llawn digon o'r fan yma. |
|
|
|
(Price) A phwy fu wrth y "make-up?" |
(1, 0) 478 |
Fe fethodd y colurwr swyddogol ddod. |
|
(Price) Y beth? |
|
|
|
(James) Gorfu i mi wneud y gwaith er nad wy'n rhyw lawer o law arni. |
(1, 0) 490 |
Dyma Raglen i chi, Mr. Price. |
|
(Price) Diolch, diolch yn fawr. |
|
|
|
(Price) Fe fyddai'n help i enw da y cwmni ac yn symbyliad inni allu eich gwahodd chwi yma rywdro eto. |
(1, 0) 538 |
Oes rhyw dreuliau arnoch chi yma? |
|
(Price) Mae'r neuadd am ddim wrth gwrs—ati hi y mae'r elw. |
|
|
|
(Price) Pob hwyl a phob lwc i chwi. |
(1, 0) 566 |
Esgusodwch fi, Mr. Price—ga' i'r rhaglen? |
|
(Price) Chi piau hi wrth gwrs! |
|
|
|
(Gwen) Fe gaiff Mr. James wybod 'i hanes hi. |
(1, 0) 605 |
Ble mae Sam? |
(1, 0) 606 |
Rŷm ni'n aros amdano. |
|
(James) Fan hyn 'rwyt ti, Siân? |
|
|
|
(James) Mae'r cyrten ar godi. |
(1, 0) 610 |
'Rwy'n edrych am Sam. |
|
(James) Mae Sam ar y llwyfan nawr. |
|
|
|
(Gwen) Hmmmmmm!... ble wyt |ti| wedi bod! |
(1, 0) 654 |
Dyma beth yw golygfa hardd. |
|
|
(1, 0) 656 |
Maddeuwch i mi am aflonyddu arnoch chi. |
|
(Gwen) {Yn hunanfeddiannol a gwawr o sbeit.} |
|
|
|
(Gwen) Miss Jane Evans. |
(1, 0) 660 |
'Rwy'n credu 'n bod ni wedi cwrdd o'r blaen diolch. |
(1, 0) 661 |
'Dyw hi ddim yn bryd i ti fynd ar y llwyfan, Gwen? |
|
(Gwen) 'Rwy'n gofalu am fy "nghue," diolch. |
|
|
|
(Gwilym) Wyddwn i ddim y'ch bod chithau yn y cwmni, Siân. |
(1, 0) 664 |
Mae llawer o'ch hen ffrindiau chi yma—'ddigwyddodd Gwen ddim dweud fy mod i'n perthyn iddyn' nhw? |
|
(Gwilym) Wel... naddo. |
|
|
|
(Gwilym) Wel... naddo. |
(1, 0) 666 |
Na Neli? |
|
(John) {A'i ben rownd y cornel. De.} |
|
|
|
(John) Dere' mlaen, Gwen. |
(1, 0) 669 |
Dyna beth rhyfedd... 'roedd Gwen yn gwneud 'i gorau i ddangos 'i hunan ar y llwyfan gynneu a dyma hi nawr heb yr un awydd ogwbwl. |
|
(John) Dere 'mlaen, mae'n hen bryd i ni fynd i mewn! |
|
|
|
(John) Dere 'mlaen, mae'n hen bryd i ni fynd i mewn! |
(1, 0) 672 |
Mae'n amlwg fod yn rhaid tynnu Gwen oddiwrthych chi—mae'n glynnu fel aderyn bach wrth y Gwcw. |
|
(Gwilym) 'Rŷm ni'n hen gyfarwydd—wedi bod yn y Col. gyda'n gilydd. |
|
|
|
(Gwilym) Mae hi a fi fwy fel brawd a chwaer na dim arall. |
(1, 0) 675 |
'Rown i'n meddwl hynny pan ddes i mewn nawr. |
(1, 0) 676 |
Beth yw'ch barn chi ohoni'n canu? |
|
(Gwilym) Canu? |
|
|
|
(Gwilym) Canu? |
(1, 0) 678 |
Nid dyna pam y daethoch chi i gefn y llwyfan? |
|
(Gwilym) 'Wyddwn i ddim taw hi oedd yn canu. |
|
|
|
(Gwilym) Efallai y bydd yn well i mi fynd rhag ofn i'ch prodiwsor chi fy nal i yma. |
(1, 0) 681 |
'Does dim angen i chi ofni ( Yn nesu ao) Gwilym, pam na chefais i ateb i'm llythyr? |
(1, 0) 682 |
GwrLyx: Palythyr? |
(1, 0) 683 |
SIÂN (yn cydio yn ei law): Dewch nawr—fe wyddoch chi'n iawn. |
(1, 0) 684 |
Fe anfonais i lythyr atoch chi i'r ysgol yn dweud y byddwn i gyda'r cwmni heno. |
(1, 0) 685 |
' GwiLyM: 'Chefais i'r un gair o gwbwl. |
(1, 0) 686 |
SIAN: Ellwch chi ddim fy nhwyllo i. |
(1, 0) 687 |
GwiLyM: 'Dwy'i ddim yn eich twyllo chi Siân—pam y dylwn i? |
(1, 0) 688 |
Meddwl oeddwn i efallai nad oeddech chi am fy ngweld i ogwbwl. |
(1, 0) 689 |
Maddeuwch i mi am eich camfararnu. |
|
(Gwilym) 'Does dim byd iddi faddau. |
|
|
|
(Gwilym) 'Does dim byd iddi faddau. |
(1, 0) 691 |
Profwch hynny. |
|
(Gwilym) Profi hynny? |
|
|
|
(Gwilym) Beth sy'n eich blino chi? |
(1, 0) 695 |
Dewch... un cusan. |
|
(Neli) Mae'n bryd i ti fod ar y llwyfan, Siân. |
|
|
|
(James) Maen' hw'n aros amdanat. |
(1, 0) 703 |
Wedi'r ddrama, Gwilym... cofiwch. |