Drama un-act
Ⓗ 1941 Eic Davies
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



AMSER: Tua 1941.

GOLYGFA

Yr ochr arall i'r llwyfan oddi wrth y gynulleidfa. Digwydd y chwarae heno mewn neuadd fawr, ac y mae digon o le felly y tu hwnt i'r llwyfan inni gynnal drama arall. Dyna'r ddrama a welwn ni─y ddrama answyddogol.

Y mae lle i fynd a dod yn y cefn Ch. a De. Llenni sydd yn y cefn. Ychydig iawn o ddodrefn a welir─rhyw gadair fan hyn, bocs fan draw, rhywbeth i eistedd arno pan fo dyn yn aros ei dro i fynd ar y llwyfan. Y mae digon o ystafelloedd bach yn y neuadd lle gallasai'r chwaryddion ymgasglu rhwng y chwarae, ond y mae'r cyfan wedi'i feddiannu heno, a gofru i'r cwmni wneud ar ystafell fach a chefn y llwyfan.

Yn ystod dechrau a diwedd a ddrama chwaraeir "y ddrama swyddogol," ond mae'n amhosibl i ni ddeall gair ohoni. Y mae'n amlwg eu bod nhw ar y llwyfan yn gallu clywed yn lled dda, yn enwedig os bydd tawelwch.

Pan gyfyd y llen dyma ni'n dal Marged yn eistedd ar focs hir─ Bl. De─yn trin ei hewinedd, a James yn y cefn canol yn sbio trwy blygiad y llenni. A barnu wrth y wên sydd ar ei wyneb, y mae'n mwynhau'r olygfa yn fawr iawn. Yn sydyn, daw bwced ar hedfan o'r chwith i ganol y llwyfan, a Sam mewn "pyjamas" a "dressing gown." yn ei ddilyn i'r llawr.

James

Beth gynllwyn wyt ti'n geisio'i wneud? Pwy all actio yn y fath dwrw?

Sam

(Gan ei hel ei hunan at ei gilydd.) Sori... fe slipes. Daio'r dressing gown yma... dyna'r ail waith heno. (Yn codi'r bwced a mynd allan D.)

James

'Dyw'r bachgen yna ddim cwarter call ambell waith... sarnu'r cyfan... a golygfa garu o bopeth!

Marged

(Gan chwerthin.) Mae'r "dressing gown " yna lawer yn rhy hir iddo.

James

Pam na allai ofalu cael un ddigon byr?

Marged

Fe yw'r unig un sy'n ceiso'ch helpu chi, Mr. James; (James 'nôl at y llenni) mae'r lleill yn rhy ddiogllyd i ddim.

James

Sh! Ah! Da iawn, da iawn eich dau. (Troi at Marged.) Roeddwn i'n gwybod y byddai'r cusan yna'n mynd i lawr yn dda. 'Does dim fel cusan ar lwyfan i dwymo'r gwaed ifanc.

Marged

A mae'n dipyn o help hefyd i newid lle. Roedd y sefyllfa'n mynd braidd yn static cyn i chi gynnwys hwnna, Mr. James.

Gwen

(Gan ddod o'r Ch.) Mae'r dyn-wrth-y-rhaff yn gofyn faint o'r act yma sy' ar ôl eto, Mr. James?

James

Rhyw ddwy dudalen a hanner. 'Rwy' wedi dweud wrtho am gadw llygad ar Neli.

Gwen

'Dyw hi ddim yna.

James

Ddim yna! Ydy' hi ddim yn promto?

Gwen

'Dwy ddim wedi'i gweld hi ar ôl diwedd yr act gynta'.

James

Wel, pwy sy'n promto yn yr ochor nawr' te'?

Gwen

Neb am 'wn i, os nad yw Sam yr ochor draw.

James

Nag yw, neno dyn... sarnu popeth mae hwnnw. Fe'i taflodd i hunan â bwced i ganol y llwyfan yma gynneu fach gan wneud y mwstwr rhyfedda'. 'Roedd y lle'n debycach o lawer i ben gwaith na chefn llwyfan.

Marged

'Does dim synnwyr bod rhaid inni dyrru ar bennau'n gilydd fan hyn a digon o ystafelloedd yn y Neuadd.

James

Nawr, nawr... 'dŷch chi damed gwell o glebran. Mae'r Fyddin wedi cymryd y lle, a rhaid gwneud y gorau o'r gwaetha'. Gwen, cer di i gymryd lle Neli.

Gwen

'Alla'i ddim... 'rwy' i fod i fynd mewn nawr ─golygfa'r gân.



Myned Gwen. Ch.

James

Wel, dyma beth ofnadwy! Ble all y sgennes na fod wedi mynd? Mae'n gwybod yn eitha' da fod John yn colli'i "gues " yn yr ail act o hyd.

Marged

'Does dim dibynnu arni o gwbwl.

James

Ond fe ddylai bod digon o synnwyr yn y ferch i beidio gadael 'i lle heb roi gwybod, beth bynnag oedd yn galw. Rhaid i fi fynd eto, spo.

Marged

Na, fe af i. Rhowch y copi i mi.

James

Ble mae'ch un chi?

Marged

'Rwy wedi'i golli e yn rhywle... 'i adael e ar y tram ar ôl y practis Nos Wener, 'rwy'n meddwl.

James

'Does dim copi wedi bod gennych chi oddi ar hynny?

Marged

Fe ges i fenthyg copi Sam.

James

Sam? A beth wnaeth hwnnw? 'Ddysgodd e' mo'i ran erioed.



Dyfod Sam. De.

Sam

(Yn dal ei ddressing gown i fyny fel gwraig 'slawer dydd yn codi i phaish wrth fynd i'r môr.) Beth gaf i wneud â'r rhaglenni? Mae lot o rai sbâr heb 'u gwerthu.

James

O paid â'm boddran i am hynny nawr.



Mynd Sam De yn swta. Clywir peth chwerthin a chwibanu o'r gynulleidfa.

James

Beth ar wyneb daear sy'n bod nawr eto?

John

(Gan weiddi drwy'r llenni.) Cue! Cue!

James

Dyna fe... fe wyddwn i... ble mae Neli?

John

Cue! Cue!



Marged yn rhedeg allan. Ch.

James

(Gan droi'r tudalennau yn wyllt.) Wn i ddim ble maen' hw!



Dyfod Sam. De.

Sam

Mae'r boi 'na am wybod shwd gyrten ŷch chi'n mo'yn, Mr. James.



Dyfod Gwen. Ch.

Gwen

Ydych chi am imi ganu'r tri phennill, Mr. James?

James

Peidiwch â chlebran... beth sy' wedi digwydd?... oes na neb yn promto?



Clywir swn curo dwylo yn y pellter. Dyfod Siân. Ch. yn wyllt ei thymer, a John yn ei dilyn.

Siân

'Does dim synnwyr yn y peth o gwbwl. Mae'n hen bryd i ti, John, ddysgu dy ran ar ddiwedd yr act yna.

James

'Dŷch chi ddim wedi cwpla?

John

Ydym,

James

Ond 'dyw'r ail act ddim ar ben?

John

Mae ar ben am heno, ta beth.

Gwen

Ond, 'dwy' í ddim wedi bod mewn eto!

John

Fe neidiodd Siân dudalen gyfan yn rywle...

Siân

Fe gaiff Neli setlo hynny.

John

A ble mae Neli? Fe fum i'n crwydro rownd i'r llwyfan gan weiddi, "Cue, Cue" a ches i ddim cue eto. 'Rown i'n meddwl y'ch bod chi a hi yn promto, Mr. James?

James

Ond y bachgen ofnadwy... 'dŷch chi ddim wedi cwpla'r act! Mae Gwen heb fod i mewn eto, a'r gân heb i chanu!

John

Fe ddaeth y cyrten i lawr o rywle, a fe'i diweddwyd hi felly.

James

Ar ganol yr Act!

John

Ddim ar 'i chanol hi'n hollol. 'Dwy' ddim yn credu bod rhagor na dwy dudalen ar ôl... a'r gân, wrth gwrs.



Dyfod Marged. Ch.

James

Ble'r oeddet ti?

John

'Rown i ymhobman. Fe es i rownd i'r llwyfau i geisio cael "cue" o ryw le ond...

James

Na, nid hynny 'rwy'n feddwl... faint o'r ddrama adawsoch chi allan? Beth oeddet ti'n wneud pan anghofiest ti?

John

Wel, rown i wedi cyrraedd y man yna lle'r wy'n mynd at y lle tân i danio sigaret, a dyma Siân yn torri ar 'y nhraws i cyn imi gael amser i ddweud dim.

Siân

'Rown i'n dy weld di'n hir.

John

'Roedd y "lighter " yn gwrthod cynneu, a mae'n rhaid cael tân ynddo cyn y galla' i ddweud y llinell nesa' "mae fflam y 'lighter' hwn ges i gennyt ar fy mhenblwydd, Eluned, fel fflam ein cariad ni'n dau." Allwn i ddim dweud hynny'n hawdd iawn, 'allwn i, a dim tân ynddo o gwbwl?

James

"Amateurs!" 'Dych chi ddim ond "amateurs!" Pam na fuaset ti'n 'i guddio fe fel hyn ag esgus bod tân ynddo?

John

Ond y mae'n rhaid i'r dorf weld y fflam cyn y credan' hw.

James

'Ddim o gwbwl... awgrymu yw dy waith di ar y llwyfan.

John

Wel, doedd genny' ddim awgrymo o fflam, 'ta' beth.

James

Cer ymlaen─beth ddigwyddodd wedyn?

John

Fe dorrodd Siân i mewn, a wyddwn i ddim ble ar y ddaear oeddwn i.

Siân

'Roedd yn rhaid i rywun ddweud rhywbeth.

John

Pam na fuaset ti'n dweud rhyw linell o'r ddrama 'te? Chlywais i erioed mo'r geiriau yna o'r blaen.

Siân

Pam na fuasai Neli, neu chi Mr. James, yn promto?─dyna lle mae'r bai.

James

'Alla'i ddim bod â 'nwylo ym mhopeth. Ble mae Neli? Mae Mari fach Huws lawer yn well na hi. Pwy ofynodd i honna ddod?

Siân

'Doedd dim angen gofyn arni.

James

Pwy ishe dod i le fel hyn oedd arni? Mae 'na draddodiad drama yma. Os byddwn ni'n gwneud rhywbeth gartre' 'dyw hi-byth yn rhydd, ond os bydd trip i rywle, mae gyda ni.

Sam

'Dŷm ni damed gwell o goethan nawr. Mae'r peth wedi digwydd, a fe all ddigwydd eto. Petawn i yn y'ch lle chi, Mr. James, fe newidiwn y lighter 'na am focs o fatshus... fe ellwch ddibynnu ar y rheini.

James

Matshyn! Elli di ddim cymharu fflam matshyn â fflam cariad! Mae fflam cariad i barhau am byth... yn enwedig mewn drama.

Siân

Wel, fe allai fod yn llawer gwaeth, ag os gofynwch chi i fi, Mr. James, mae'r ail act lawer yn rhy hir─'dwy i ddim yn gweld pwynt y gân o gwbwl... nid chi piau hi ychwaith.

James

Mae'r gân yn draddodiadol... yn eiddo i'r genedl, a chystal hawl gen i 'w defnyddio â neb arall. Ag heblaw hynny, rhaid i Gwen gael esgus i newid.

Siân

Pam mae'n rhaid iddi newid?

Gwen

Fe garet ti 'ngweld i'n gwisgo'r un hen ddillad o hyd wrth gwrs.

Marged

Wel, pwy dynnodd y cyrten lawr?

John

'Wn i ddim, os nad y dyn sy'n gofalu amdano. 'Dyw e'n deall dim o'r ddrama─Sais yw 'e... 'Ches i ddim mwy o ollyngdod erioed na'i weld e'n dod lawr, 'ta beth,

James

Marged, ewch i edrych amdano.



Marged yn mynd. Ch.

James

Fe gawn ni setlo'r mater hwn ar unwaith, nawr ag am byth... 'rŷch chi wedi sarnu'r ddrama... mae pob gair yn yr act yna'n bwysig... wedi treulio oriau i feddwl drosti a dyma'r tâl rwy'n gael. Mae pob baich ar f'ysgwyddau i, ysgrifennu, cyfarwyddo, gofalu am y llwyfan, coluro, promto, popeth... hyd yn oed dysgu rhan rhywun arall os aiff e'n dost. 'Does dim yn cael 'i wneud oni bydda'i wrth law, dim yw dim. Rhaid y'ch tolach chi o hyd fel rhyw lot o blant bach. 'Dwy ddim yn mo'yn y gwaith, 'does dim siâp wedi bod ar y cwmni oddi ar y dechrau... fe ddylai rhywun fod yma yn gofalu am y llwyfan, rhywun arall wrth y golau, colurwr yn perthyn i'r cwmni, dau neu dri yn promto ac yn helpu, a phob un a'i galon yn 'i waith. Mae'r theatrau bach Saesneg yn gallu gwneud hynny, ag edrychwch ar y graen sy' ar 'u gwaith nhw. Mae digon o frwdfrydedd ynddyn' hw i godi cartre' i'r ddrama, a ddaw byth yr un llewyrch ar y ddrama Gymraeg cyn y gwnawn ninnau'r un peth. Does gennych chi ddim parch at ddrama... Sam yma gynneu fach yn dod heibio ar ganol golygfa garu dyner a gwneud y twrw rhyfedda... dyw hi ddim yn deg â'r chwaryddion eraill... pwy all garu'n effeithiol a swn bwced yn clindarddan yng nghefn y llwyfan?

Siân

Dyna beth oedd y swn yna?─ Fe chwarddodd pawb dros y lle.

James

Dyna fe... dyna'n hollol yr hyn wy'n geisio bwysleisio─trajedi! a'r bobol yn chwerthin! 'Dŷn 'hw ddim yn cael cyfle iddi deall hi.

Gwen

Mae ambell bwl bach o chwerthin yn help i ysgafnhau'r awyrglch. 'Allan' hw ddim eistedd yn llonydd am ddwy awr heb rywfaint o chwerthin.

James

Rŷch chi'n iawn, Gwen, ond rhaid cadw'r chwerthin i'r mannau priodol. Maen' hw yma yn y ddrama'n barod. 'Does dim amgen 'u creu nhw.

Sam

Wel, os ŷch chi'n meddwl parhau gyda'n cwmni ni, Mr. James, 'rwy'n credu y byddai'n llawer gwell i chi ysgrifennu Comedi─mae deunydd Comedi reit dda ynom ni.



Dyfod Marged. Ch.

Marged

Mae'n dweud wrthych chi am ddod iddi weld e, Mr. James. Mae wrthi'n brysur yn gosod y llwyfan yn 'i le ar gownt y drydedd act.

James

Diolch bod rhywun yn gofalu.

Marged

Ag os cymrwch chi air o gyngor gen' i, peidiwch â phoeni gormod arno; 'roedd e'n credu bod yr act wedi cwpla gan nad oedd neb yn dweud dim a John a Siân yn edrych mor anesmwyth.

James

'Doedd dim bai ar y dyn erbyn meddwl. Fe âf i rownd i ddiolch iddo nawr, ag i weld bod y llwyfan yn iawn. Paratowch chwithau bob un ohonoch. 'Rwyt ti, Gwen, heb newid dy wisg.

Gwen

Fe garwn 'i chadw hi nawr gan na chefais i gyfle iddi gwisgo yn niwedd yr ail act.

James

Elli di ddim gwneud gwaith tŷ mewn gwisg smart fel 'na!

Gwen

Mae wedi 'i gwneud yn arbennig erbyn heno. Dewch, gadewch i mi 'i dangos hi. 'Dyw hi ddim yn deg bod Siân yn cael gwisgo dillad crand o hyd, a minnau mewn rhyw hen ddillad-bob-dydd.

James

Welais i ddim creadur mwy direswm na merch! Nid ar yr hewl wyt ti nawr ond mewn drama!

Sam

Beth am y rhaglenni, Mr. James?─mae Miss Puw yn aros.

James

O dwed wrthi am 'u cadw nhw hyd ddiwedd y ddrama─mae genny' ormod ar fy meddwl nawr. A Gwen, paid anghofio newid.



Myned James. De.

Sam

Fe garwn i gael mynd mâs o'r pethach fflimsi hyn ta p'un. Brr... 'rwy bron â sythu. Mae'r lle 'ma fel sgubor.

Gwen

Newidia' i ddim.

Siân

Fe fydd yn well i ti wneud.

Gwen

Digon hawdd i ti siarad─'rwyt ti'n cael pob part crand mewn drama... a dyma'r unig olygfa lle'r wy'n cael cyfle i wisgo rhywbeth smart wedi'i thorri mâs yn glwt.

John

Trueni hefyd, a thithau wedi mynd i'r holl drafferth!

Gwen

'Does dim angen i ti wawdio.

John

Efallai nad â dy waith di'n ofer i gyd. Wrth gwrs, 'fyddi di ddim yn edrych cystal yn y llwyd olau ag o flaen y footlights," yn enwedig pan fo "make-up" yn gymaint o help. Ond, dere di, fe gei di ddeng munud fach gydag 'e cyn inni fynd 'nôl, os nad yw Neli wedi cael gafael arno.

Gwen

Neli... a dyna ble mai hi?

John

'Synnwn i fawr, Gwen fach. Mae tipyn o ben ar honna... trip bach am ddim... Gwen a'i dwylo ynghlwm gyda'r ddrama... Doedd y gwaith promto yn ddim ond esgus.

Gwen

O, fe dyna'i llygaid hi mâs.



Allan yn wyllt. Ch.

Sam

Pam oedd eisiau iti son am Gwilym, nawr o bob amser? Dyna ti wedi 'i chwpla hi am y nos.

Marged

Nis yma mae Gwilym yn byw?

John

Ie, ie.

Marged

Gwilym Ifans─roedd e'n arfer bod yn athro P.T. yn Reading?

John

Dyna fe.

Marged

Ydy' e' a Gwen yn ffrindiau 'te?

John

Ydyn' oddi ar pan oedden' hw yn y Col. yn Aber. gyda'i gilydd.

Siân

Mae hi am ddweud hynny, ond 'dwy' 'i ddim yn credu bod Gwilym wedi gwneud llawer â'r un ferch erioed, a 'rwy'n 'i nabod e'n lled dda.

Marged

Erbyn meddwl, Neli awgrymodd y'n bod ni'n dod â'r ddrama yma yn y dechrau.

Sam

A Siân yn eilo.

Siân

Twt! Fyddai Gwilym ddim yn edrych ddwywaith ar Neli. 'Does dim digon o gymeriad ynddi i ddal dyn am ragor na noson.

John

Efallai taw dyna'n union beth mae Gwilym yn mo'yn─mae Neli'n damaid bach reit smart.

Marged

A dyma lle mae Gwilym yn byw! Os gweli di 'e Sam, dwed wrtho y carwn i gael gair ag e' cyn mynd 'nôl.

Sam

Fe wnaf fy ngorau, Marged, ond cofia, mae gen' ti dipyn o gystadleuaeth rhwng Neli a Gwen... a Siân.



Myned Sam. Ch.

Siân

Fe gnoiff e' 'i dafod ryw ddiwrnod.

John

Oes copi o'r ddrama gen' ti, Marged?

Marged

Nag oes... fe'i collais i e' yn y tram wrth fynd adre' Nos Wener.

John

Paid gadael i'r Capten wybod neu fe fydd hynny'n sen arall arno.

Marged

Mae e' yn gwybod─bu'n rhaid imi ddweud wrtho gynneu.

John

'Bwdodd 'e?

Marged

Naddo, chwarae teg. A dweud y gwir, mae'n rhy dyner o lawer gyda ni. Fe fuasai llawer un wedi rhoi'r sac i'r lot a'n hala ni i'r cythraul.

Siân

Pa gwmni arall fyddai'n barod i chwarae'i ddramâu?

John

O, dyw hi ddim cynddrwg, yn enwedig petai hi'n cael chwarae teg, a mae Cwmni Aelwyd Rhyd Wen wedi dechrau arni'n barod─dyna un arwydd dda. Y peth gwanna' ynddi yw'r olygfa garu rhyngom ni'n dau yn yr ail act.

Marged

Ddeallaist ti erioed mohoni─parodi yw hi, John bach, ar y golygfeydd caru arferol.



Dyfod Gwen. Ch.

Siân

Wyt ti ddim wedi newid eto?

Gwen

Oes ofn arnat ti fy ngweld i ar y llwyfan yn y rhain?

Siân

Twt, does dim gwahaniaeth gen' i o gwbwl.

John

Ble mae dy gopi o'r ddrama, Gwen?

Gwen

Fe'i rhos i 'e i'r Neli 'na.

John

Mae'n mynd â'r cwbwl oddi arnat ti heno─cer i chwilio amdano i fì.

Gwen

Pwy oedd dy forwyn fach di'r llynedd? Cer iddi ôl e' dy hunan.

John

Dere nawr─falle y bydd yn help i ti ddod o hyd i Gwilym hefyd.



Marged yn mynd allan. Ch.

John

O Marged, wyt ti'n mynd i'r llwyfan?

Marged

Pam?

John

Mae 'nghopi i yn y bocs wrth y drws─dere â fe i fi, dyna ferch dda.

Marged

'Fydda 'i ddim yn ôl am sbel, John bach.



Myned Marged. Ch.

John

Wel dyna beth mawr! Aiff neb i nôl 'y nghopi drama i, a dwy ddim yn rhy siŵr o'r drydedd act chwaith.

Siân

Does dim gwahaniaeth gen' i─dwy fawr ar y llwyfan gyda ti yn honna.

John

'Fydda 'i damaid gwell o ofyn i ti te?

Siân

'Ddim o gwbwl. (Mae wrthi ers amser yn trin ei hewinedd.)



Dyfod Sam. Ch.

Sam

Fan hyn ŷch chi o hyd, y tacle?

John

O Sam, ga'i fenthyg dy gopi di o'r ddrama?

Sam

'Dwy' ddim yn rhy siŵr o 'mhart.

John

Dere bach'an, 'does gen'ti ddim ond rhyw ddwy linell i gyd.

Sam

'Dwy'ddim yn mynd i ollwng gafael ar hwn nawr ta' p'un.

John

Wel, mae nghopi i yn bocs wrth y...

Sam

Cer iddi nôl 'e dy hunan.

John

On'd oes pobol ddilês yn y byd!

Siân

Os wyt ti'n mynd i'r llwyfan, Sam, dwed wrth y Capten am roi'r stôl yn y lle iawn. Fe anghofiodd y cyfan am hynny y tro diwetha'.

Sam

Fe fyddai'n llawer mwy gweddus i ti fynd i ofalu am rywbeth bach fel 'na dy hunan yn lle taflu'r gwaith i gyd ar ysgwyddau'r hen foi. 'Dwyt ti, Gwen, ddim wedi newid dy wisg?

Gwen

Fy musnes i yw hynny.

Sam

O wel, ddweda'i ddim rhagor. Oes un ohonoch chi'n gwybod ble mae'r copi oedd gan Neli?

Siân

Gofyn i'r Capten, fe sy'n gofalu am bopeth.

John

Os cei di afael ar Gwilym, synnwn i fawr na chei di afael ar y copi hefyd.

James

(Yn rhuthro i mewn. De.) Rhagor o drwbwl nawr eto—mae rhaff y cyrten wedi torri.

John

Clymwch hi.

James

Mae'n amhosibl gweithio rhaff a chwlwm arni. Fe aeth un o'r bechgyn i edrych am raff newydd. Gobeithio na bydd e ddim yn hir—mae'r dorf yn dechrau mynd yn anhywaith.

Siân

Beth am araith y Cadeirydd? Pwy yw 'e?

James

Rhyw Ficer o'r cylch—ond 'rwy'n deall nad yw'e wedi cyrraedd. Petai rhywun yma i ganu, neu i adrodd neu rywbeth.

Gwen

Fe alla' i ganu'r gân oedd i fod yn niwedd yr ail act.

James

Fyddai hynny ddim yn syniad drwg o gwbwl! Rhaid inni gael rhywun i dy gyflwyno di, ag i egluro pam y mae'r drydedd act mor hir cyn dechrau.

Gwen

Fe af i i edrych am rywun nawr ar unwaith.

Siân

Aros, Gwen. Mr. James, peidiwch â gadael iddi wneud ffyliaid ohonom i gyd... 'dyw hi ddim yn iawn iddi ganu a hithau yn y ddrama.

Gwen

Pam lai? Dwyt ti ddim ond yn eiddigus am na elli di ganu dy hunan.

Sam

'Wela'i ddim byd o'i le yn hynny, ag mae'n rhaid cael rhywun i lanw'r bwlch.

Siân

Gofala di am dy fusnes dy hunan. Rwyt ti bob amser yn ceisio codi'i llewys hi. Fe fyddai'n ffitiach gwaith o lawer i ti fynd i edrych am y copi 'na.

James

Nawr! Nawr! Nid dyma'r amser i gweryla.

John

Mr. James bach! Petaech chi'n gwybod y cyfan, fe wnai blot drama heb 'i ail i chi.

James

Beth yw dy feddwl di, John?

John

Fe 'allan' hw'u dwy egluro'n llawer gwell na mi.

Siân

Pediwch â gwrando a arno, Mr. James. 'Dwy-i ddim ond yn meddwl am y'n henw da ni fel cwmni. Ag heblaw hynny, 'dyw Gwen ddim wedi newid 'i gwisg eto.

James

Wel nag yw wrth gwrs. Ewch iddi newid hi ar unwaith.

Gwen

Fe gei di dalu am hyn! (Allan. Ch.)

Sam

Mae dy lond di o wenwyn, Siân. (Allan ar ôl Gwen.)



Dyfod Marged. De.

Marged

'Dŷch chi ddim wedi dechrau'r drydedd act eto? Mae'r dorf yn mynd yn anhywaith ag yn disgwyl.



Dyfod Sam a'r Parchedig Artemus Price. Ch.

Sam

Dyma fe fan hyn, Mr. Price. Y Parchedig Artemus Price—mae am gael gair â chi, Mr. James. (Allan. Ch.)

Price

Sut ydych chi, Mr. James? Mae'n dda gen'i gwrdd â chwi. Maddeuwch imi am roi fy nhraed ar dir sanctaidd fel petai, ond y mae'r dorf yn dechrau mynd ychydig yn anesmwyth ac yn disgwyl am y third act, yn disgwyl am awchus hefyd. Mae'n dda, yn dda odiaeth, er nad wyf i wedi cael cyfle i weld fawr o ddim ar wahân i ddiwedd y second act. Angladd wedi 'nghadw i... hen aelod o'r eglwys yn cael ei gladdu heddiw yn Rhydymwyn, ag yr oedd yn rhaid i mi fod yno o barch i'r hen gyfaill. Trueni i'r ddau beth daro ar draws ei gilydd ynte? Fe aeth un o'r brodyr yn hirwyntog a minnau'n colli'r bws yn y fargen.



Eisoes y mae James wedi [...] Price ac y mae'n ceisio cael gair i mewn bob hyn a hyn ynglŷn â'r "speech," ond does' dim gobaith ganddo.

Price

'Dedd yr un arall yn dod wedyn am ddwy awr. Fe gerddais i Bontyrhyd ac yn ffodus iawn fe ddaeth cyfaill heibio yn ei gar pan oeddwn i ar fynd i chwilio amserau'r trên. Roeddwn i wedi meddwl y byddai'n rhaid i mi ffonio neu anfon teligram i ddweud nad allwn i ddod o gwbwl, ond fe arbedais y draul honno a chael lifft yn y fargen. A phan glywodd e' mai myfì oedd y gŵr gwâdd yma heno fe aeth allan o'i ffordd a dod â mi bob cam at ddrws y Neuadd. Ag fel y dywedais i, Mr. James, 'dwy-i ddim wedi cael ond darn o'r Second Act, ag yr oedd hwnnw'n flasus, yn flasus dros ben. Mae dwy act ar ôl, onid oes?

James

Oes, ond y mae...

Price

Dim esgusodion, dim o gwbwl. Mae'r darn bach a welais i eisioes wedi profi eich gallu chwi. Ag y mae gennych chwi gwmni, Mr. James, cwmni o actorion sy'n gwybod eu gwaith. Mae yma adnoddau gwerth eu meithrin a'u disgyblu, ag yn cael eu disgyblu hefyd. Mae graen ar y gwaith. Digon hawdd canfod bod gweledigaeth, awdurdod, ag ufudd-dod yn cyd-dynnu yn y cwmni hwn. Ac mae'n rhaid eu cael... cymerwch ddiwedd y Second Act 'ma, yr actio tawel... munud llawn ohono fel y gwelais i droeon ar y London stage—yr anesmwythyd oedd yn dilyn yr olygfa garu ddwys, a'r llen wedyn yn disgyn fel ergyd o wn i gloi'r cyfan. Dyna beth oedd darlun!... hawdd gweld bod cynnwrf yng ngwaed y bachgen ifanc—dyma fe ynte?

James

John... Mr. John Roberts. Ychydig bach cyn i chi...

Price

Mae'n dda gen'i gwrdd â chwi, 'machgen i. Daliwch ati... mae gennych chwi dalent, gwnewch fawr ohoni, peidiwch â'i chladdu. Pwy ŵyr na chawn eich gweld chwi rywdro yn rhoi Cymru ar y map... ar y Sgrîn. A chwithau?

Siân

Siân Ifans.

James

Fel roeddwn i'n...

Price

(Gan gydio yn ei llaw a'i dal o hyd wrth siarad â hi.) Siân... Siân Ifans... enw Cymraeg tlws yn gweddu ei berchennog i'r dim. Fe garwn i fod yn fachgen ifanc un waith eto i gael y fraint o chware gyferbyn â chwi yn y Gomedi brydferth hon. A gyda llaw, Mr. James, gadewch i mi eich llongyfarch ar iaith y ddrama—Cymraeg glân heb ddim maswedd yn unlle.



Clywir Gwen yn canu "Ffarwel i Blwy' Llangower".

Price

Ust! Pwy sy'n canu?

Siân

Fe fynnodd y bitsh fach ddangos 'i hunan!



Mynd Sian yn chwryn a John a Marged yn ei dilyn. Ch.

James

Un o'r merched sy'n canu, Mr. Price.

Price

Un o ferched y ddrama?

James

Ie.

Price

Mae Act Three wedi dechrau felly?

James

Na—dyna oeddwn i am egluro i chi gynneu. Mae rhaff y cyrten wedi torri a fe awgrymodd rhywun fod Gwen yn canu i lanw'r bwlch. 'Roeddwn i'n deall y'ch bod chi heb gyrraedd neu fe fuaswn wedi gofyn i chi siarad─mae gennych chi araith?

Price

Rhyw bwt bach... dim llawer. Byddai'n chwith iddynt droi adre' heb air oddi wrth Gadeirydd.

James

Pa bryd y carech chi siarad—ar y diwedd neu rhwng y drydedd a'r bedwaredd act?

Price

Rhwng y ddwy act rwy'n meddwl. Bydd pobl yn codi o'u seddau ac yn rhuthro i ddal eu cerbydau ar y diwedd. Fe garwn-i gael gwrandawiad lled dda, achos mae dau neu dri phwynt arbennig gennyf i'w pwysleisio. Ag yn naturiol fe fyddant yn disgwyl gair oddi wrth yn awdur wedi'r ddrama. Dowch rownd i'r llwyfan i wrando ar yr eneth yma—mae yn canu'n brydferth.



Myned Price a James. De. Dyfod Neli a Gwilym ymhen ychydig. Ch.

Neli

Dyna beth od—rhaid 'u bod nhw heb gwpla'r ail act!

Gwilym

Pwy sy'n canu 'te?

Neli

Cân yn yr ail act yw hi. Ond ble mae pawb? Aros funud—fe af i rownd i'r ochor i weld, Gwilym.

Gwilym

Fe ddof innau hefyn.

Neli

Na paid er mwyn popeth—fe fydd y gynddaredd wyllt ar y Capten os gwel 'e rywun ond aelod o'r cwmni yn agos i'r llwyfan.



Gwilym yn ei chofleidio a'i chusanu. Dyfod Sam. De.

Sam

Hm... y tu hwnt i'r llenni y mae'r ddrama i fod, Neli.



Gwilym a Neli yn datgofleidio.

Sam

Ble yn y byd wyt ti wedi bod?

Neli

Ydy'r Capten yn winad?

Sam

Mae pris pert ar dy groen di 'merch i. Paid gadael iddo dy weld di nes bo'r act nesa wedi dechrau. Diflannwch i rywle.



Myned Gwilym a Neli. Ch. Mae'r gân wedi cwplâu. Clywir curo dwylo a banllefau. Dyfod Siân. De.

Siân

Dyna beth dwl oedd iddi ganu fel 'na.



Dyfod Gwen. Ch.

Sam

Llongyfarchiadau, Gwen—fe genaist yn ardderchog.



Dyfod Price a James. De.

Price

(Gan roi'i fraich am ei hysgwydd.) Campus, fy ngeneth i, campus! Dowch, mae'r dorf yn gweiddi am ragor. Rhowch un gân fach arall iddynt.

Gwen

'Wn i ddim beth fyddai'n taro.

Price

(Gan ei harwain allan. De.) Meddyliwch am rywbeth, rhaid plesio'r dorf.

Siân

'Roeddwn i'n meddwl inni ddod yma er mwyn y ddrama!

Sam

Ble mae bocs y "make up," Mr. James?

James

Y blwch coluro, wyt ti'n feddwl?

Sam

Gelwch chi 'e beth fynnoch chi.

James

Pam?



Clywir Gwen yn dechrau canu "Merch y Melinydd".

Sam

Fe ddaeth rhywun o'r cefn a dweud bod angen tipyn bach o ddu dan fy llygaid i.

James

Rho weld. Gallet, fe allet wneud â thamaid bach hefyd. Dere â'r blwch i fi o'r rŵm fach—'does him posib troi yno.



Dyfod Marged. De.

Marged

Mae'r dyn am dy help di gyda'r rhaff, Sam.

Sam

'Does gen' i ddim amser nawr. Gofyn i John.

James

Fe ddof i Marged. Aros i fi ddod 'nôl Sam cyn gwneud dim i dy wyneb.



Myned James a Marged. De.

Sam

Wyt ti'n gwybod pwy fu yma gynneu, Sian?

Siân

Pwy?

Sam

Fe gei di dri chynnig.

Siân

Nid Gwilym?

Sam

'Roedd e'n holi amdanat ti, ond fe ddaeth Neli o rywle a'i ddwyn e' bant. Roedd 'i llygaid hi'n disglerio fel dwy seren fach. (Mynd Sam dan chwerthin yn gellweirus. Ch.)

Siân

Yr hen gythraul fach!



Mae'n symud yn anesmwyth... yn cymryd "compact" o'i bag ac yn powdro'i thrwyn a rhoi 'i gwallt yn daclus. Erbyn hyn y mae'r canu wedi cwplâu. Clywir cymeradwyaeth y dorf a daw John a Marged. De.

John

Mae nhw'n hoffi rhywbeth fel 'na lawer yn well na'r ddrama 'i hunan.

Marged

'Fuost ti ddim yn gwrando, Siân?

Siân

Rown i'n gallu clywed llawn digon o'r fan yma. (Codi ac allan. Ch.)

Marged

'Dyw hi ddim yn teimlo'n dda mae'n amlwg!

John

Mae'n gallu bod yn eitha' hen sgram fach pan fynn hi.



Dyfod Price a James. De.

Marged

Ydy'r drydedd act ar ddechrau 'nawr, Mr. James?

James

Wel, dyw'r cyrten ddim yn barod eto, a 'roedd Mr. Price a minnau yn ceisio penderfynnu a fyddai'n well iddo roi 'i araith nawr yn lle aros i ddiwedd y drydedd act. John, cer i roi help llaw iddyn' hw.



Myned John. De.

Marged

Ydych chi 'n mynd i siarad 'te, Mr. Price?

James

Os na bydd y llwyfan...

Price

Gwnaf i ar unwaith. (Gan gymryd llyfryn o'i boced.) Nawr, oes rhywbeth arbennig y carech i mi ei gynnwys? Rŷch chi'n dod yma er mwyn yr Institute, wrth gwrs, heb ddim tâl?

James

Dim ond y treuliau.

Price

Dyna fe, dim ond eich treuliau. Arhoswch chi... chi yw'r awdur a chi hefyd fu'n prodiwsio. Pwy yw'r Stage Manager? Rhaid enwi'r rhain i gyd achos y mae eu hanner heb brynnu rhaglen. Efallai mai dyna pam; y mae'n rhaid i ni'r Cymry gael Cadeirydd. Welwch chi byth Gadeirydd yn y dramâu Saesneg yma.

James

Wel, fi yw'r llwyfenydd hefyd, ond 'does dim angen ichi son am hynny.

Price

Oes. Rhaid cael y cyfan. A phwy fu wrth y "make-up?"

Siân

Fe fethodd y colurwr swyddogol ddod.

Price

Y beth?

Marged

Colurwr—gair 'rŷm ni wedi'i fathu. Mae'n swnio dipyn bach yn well ynghanol geiriau Cymraeg na "make-up man."

Price

Colurwr! Gair da... rhaid egluro hwnna iddynt. Ie, gair da dros ben yw e'. Fe glywais alw'r peth yn "weddnewid" rywdro, ond y mae hynny braidd yn rhy Feiblaidd, er mai fi sy'n dweud hynny. Wel nawr, pwy oedd y make-up man yma?



Dyfod John. De.

James

Enw MrGerallt Rhys sydd ar y rhaglen, ond fel y dywedodd Siân, fe fethodd â dod ar y funud ola'. Gorfu i mi wneud y gwaith er nad wy'n rhyw lawer o law arni.

Siân

Dyma Raglen i chi, Mr. Price.

Price

Diolch, diolch yn fawr.

James

Er mwyn enw da, Mr. Price, efallai na byddai ond yn deg i chi ddweud taw rhywun arall fu wrth y gwaith, heb enwi neb.

Price

Na, na, rhaid eich henwi chwi. Chwi fu wrthi, a chwi sy'n haeddu'r clod. Ond y mae gormod o waith ar eich hysgwyddau chwi, Mr. James. Trueni na buasech chwi wedi ceisio help gan y Social Service nawr. Roedd rhyw gwmni Saesneg o'r cwm arall yma yr wythnos ddiwethaf am dair noson yn olynol, a dyn yn dyfod bob nos i ofalu am y "make-up" 'ma ac yn cael ei dalu hefyd gan y Council. 'Roedd gwaith da ganddo hefyd... Ond arhoswch chwi, 'wela i mo'ch henw chwi yn y Rhaglen ymhlith yr actors, Mr. James. Beth yw ystyr y make-up—y blew yma sydd ar eich hwyneb chwi?

James

Fe drawyd un o'r chwaryddion yn sal yn sydyn iawn echnos, a bu'n rhaid i mi ddysgu'r rhan. Rhan fach yw hi, a 'rwy'n gwybod y ddrama bron i gyd ar gof—wedi darllen rhan pob un yn 'i dro pan na ddigwyddai ddod i bractis.

Price

'Does gyda chwi ddim understudies? Beth yw'r gair Cymraeg am understudy—dewch nawr, chwi bobol glyfar y colegau?

John

'Fu dim galw am air Cymraeg amdano yn ein cwmni ni. 'Doedd neb yn barod i gymryd y gwaith a dim pwrpas bathu un wedyn.

Price

Go dda! Go dda!—ond fe ddylech gael understudy i bob part, Mr. James. Nawr un gair bach am yr olygfa eto. Pan ddeuthum-i i mewn 'roeddwn i'n methu'n lân â deall beth oedd wedi digwydd. 'Roedd y llwyfan yn edrych fel cegin ond bod dim celfi yno, dim ond bocs yma a thraw a'r muriau'n sobr o noeth. Dim sôn am yr hen luniau teuluol. 'Wyddoch chi, Mr. James, mae'n hawdd gweld pwy sydd ynglŷn â'n dramâu ni oddi wrth y lluniau a'r celfi fydd ar y llwyfan. Mae llun hen Domos Ifans y Gôf wedi bod mewn pob math o ddrama yma. Mae'n dal i chwarae yn ei lun er ei fod ef wedi ei gladdu ers blynyddoedd A phan ddeuthum i mewn heno 'roeddwn i'n teimlo fel petawn i mewn rhyw le dieithr. Fe gefais dipyn o sioc ac ofni'r gwaethaf hyd nes i ryw wraig ddweud wrthyf mai golygfa tŷ ar ganol "Spring cleaning" oedd hi.

James

(Gan chwerthin.) Mae llawer wedi bod yn holi ynglŷn â'r olygfa, Mr. Price. Does dim byd arbennig yn y ddrama yn galw am hynnw.

Price

O, mi welaf, 'roeddech chwi am gael tipyn bach o newid o'r hen olygfeydd.

James

Na... dyma'r rheswm yn syml chi, Mr. Price. 'Does dim gwahaniaeth pa mor dda y bo eich drama chi, 'chewch chi neb iddi chware hi os bydd galw am olygfa grand neu newid golygfeydd yn ystod y ddrama. Mae rhai o'r drâmau gorau a sgrifennwyd yn Gymraeg heb 'u gweld na'u cyhoeddi am y rheswm syml hwn. Mae'n ddigon naturiol... festri capel fydd y neuadd gan amlaf a 'does dim cyfleusterau yno. 'Dyw sêl y cyhoeddwyr dros y ddrama ddim yn mynd mor ddwfn â'r boced chwaith. Fe euthum i gam ymhellach yn hon gan y gwyddwn i y byddai'n rhaid i mi fod yn Geidwad y Celfi hefyd pe ddigwyddai i'n cwmni ni 'i gwneud hi o gwbwl a minnau'n cyfarwyddo. Gan nad oes angen celfi ar ystafell sydd ar hanner 'i spring cleano' fe fyddai'n arbed llawer iawn o drafferth i mi... 'does him angen cludo hen soffa neu gadair esmwyth neu ford, na gofalu bod tân yn y grat, dim ond benthyca dau neu dri bocs sebon heb eisiau i chi fynd ar y'ch gliniau ar ofyn neb.

Price

Go dda! Go dda! Angen yw mam pob dyfais, wyddoch chi.

John

Wrth gwrs mae Mr. James wedi gwneud patent o'r syniad neu fe fydd yn torri mâs fel y frech ymhlith yr hen awduron.

Price

Dan gof, Mr. James, beth am hawlfraint y ddrama?

James

Dwy gini yw honno, Mr. Price.

Price

Ie, dwy gini fydd drama Gymraeg wreiddiol fel rheol ynte? Mae dramâu o'r Saesneg wrth gwrs yn werth mwy, ag y mae eitha' gwerth dwy gini yn hon—mae'n bedair act, onid yw? Ond hyn oeddwn i am ofyn i chwi... nawr 'rwy'n gwybod i chwi fod yn garedig dros ben─dod yma bob cam o Gaerdydd am ddim, a rhoi'r elw i'r Institute, ond fe fyddai'n beth da pe gallwn i ddweud wrthynt nawr eich bod yn rhoi'r hawlfraint am y ddrama, neu gyfran ohono, yn ôl at yr Institute. Fe fyddai'n help i enw da y cwmni ac yn symbyliad inni allu eich gwahodd chwi yma rywdro eto.

Siân

Oes rhyw dreuliau arnoch chi yma?

Price

Mae'r neuadd am ddim wrth gwrs—ati hi y mae'r elw. 'Dwy' ddim yn meddwl bod neb ond yr Electrician yn cael ei dalu—Sais yw hwnnw ag y mae'n un o'r swyddogion.

Marged

Beth am yr argraffu?

Price

Jones y Printer tu wrth hwnnw—fe s'yn gwneud y gwaith bob tro.

John

Ydy' e wedi gostwng rhywfaint ar y draul neu'n gwneud y gwaith am ddim?

Price

O'dyw e' ddim yn gwneud y gwaith yn rhad—allech chi ddim disgwyl iddo roi ei lafur yn rhad. Fe fyddai'n anodd gofyn iddo ostwng hefyd—'roedd hi braidd yn lletchwith welwch chi ag yntau'n perthyn i Bwyllgor y Neuadd. Hwy fu'n gyfrifol am eich gwahodd chwi yma.

James

Oes aelwyd o'r Urdd yma, Mr. Price, neu gangen o'r Blaid Genedlaethol?

Price

Mae Aelwyd gan yr Urdd, 'rwy'n meddwl, rhyw gwtsh newydd 'i agor mewn rhyw hen siop. Wn i ddim am y Welsh Nationalists.

Marged

Oes, mae cangen o'r Blaid yma, Mr. James.

James

Rhannwch y ddwy gini rhyngddyn' 'hw, Mr. Price.

Price

Rhyngddynt?

James

Ie, rhowch gini i'r Blaid, a gini i'r Urdd. Efallai y byddech chi mor garedig â gwneud hynny'n bersonol?

Price

'Rwy'n gweld nad ydych chwi'n gwybod am y cylch yma'n ddigon da, Mr. James. Os cymerwch chi gyngor gen' i fe rowch y cyfan i'r Urdd, neu gwell fyth, i'r Institute. Rhaid i chwi gofio am eich henw da, Mr. James, a'r dramâu sydd heb eu sgrifennu gennych.

James

'Does gen'i fawr o awydd gwneud ffortiwn o'r drama, Mr. Price, ag hyd y gwela' i fawr o obaith chwaith. Rhannwch chi nhw fel 'rown i'n dweud a pheidiwch â sôn gair wrth neb.



Dyfod Gwen. De.

Gwen

Mae popeth yn barod i'r drydedd act nawr, Mr. James.

Price

Efallai y byddai'n well i mi ohirio fy araith fach i tan ddiwedd yr act felly?

James

Dyna fyddai orau.

Price

Wel, mi af i y tu hwnt i'r llen. Pob hwyl a phob lwc i chwi.

Siân

Esgusodwch fi, Mr. Price—ga' i'r rhaglen?

Price

Chi piau hi wrth gwrs! Mae 'nghof i'n chware triciau dwl.



Myned Price. Ch.

Marged

Glywsoch chi shwd cheek!

James

Dowch ymlaen, pawb ar y llwyfan am y drydedd act... Siân, Marged, Sam,... ble mae Sam?... Ewch un ohonoch chi i edrych am Sam.

John

Os yw hwnna'n mynd i glebran yn hir fe gollwn ni'r tram ola' o'r dre.

James

Fe ffonia i at Mrs. James i ddod â'r car i gwrdd â'r bws os byddwn ni'n hwyr iawn. Mlaen â chi i'r llwyfan.



Myned Siân, Marged (De) a John, Ch.

James

A Gwen, bydd di'n barod ar y chwith. Wel, 'tawn i byth—dwyt ti ddim wedi newid dy wisg!

Gwen

'Ches i ddim amser, Mr. James—fe ddaeth rhyw bobol oedd yn adnabod mam at ddrws y llwyfan a allwn i ddim 'u hala nhw bant yn ddiseremoni.

James

'Dwy i ddim wedi pregethu wrthych chi ganwaith nad oes neb i ddod ar y llwyfan nes bo'r ddrama drosodd?



Dyfod John Ch. dan chwerthin, a Sam yn ei ddilyn. Mae dau gylch du am lygaid Sam.

Sam

Beth sy'n dy gorddi di?

James

Wel tawn i'n ateb y Farn! Beth wyt ti wedi bod yn 'i wneud i dy lygaid?

Sam

Pam? Dim ond tipyn bach o ddu iddi dangos nhw lan.

James

Tipyn bach! Dere iddi glanhau nhw ar unwaith cyn i neb dy weld di.



Myned Sam a James. Ch.

John

Trueni na chawsai fynd ar y llwyfan fel 'na.



Dyfod Neli. De.

John

Helo! Dyma meiledi wedi dod nôl.

Neli

Ydych chi ar ddechrau'r drydedd act?

John

'Dŷm ni ddim wedi cwpla'r ail eto.

Neli

Ble mae James?

John

Yn glanhau Sam. Gwell i ti fynd i dy le ar unwaith cyn y daw e'n ôl.

Gwen

Ble wyt ti wedi bod?



Mynd Neli dan wenu'n faleisus. Ch.

Gwen

Fe gaiff Mr. James wybod 'i hanes hi.



Dyfod Siân. De.

Siân

Ble mae Sam? Rŷm ni'n aros amdano.



Dyfod James. Ch.

James

Fan hyn 'rwyt ti, Siân? Mae'r cyrten ar godi.

Siân

'Rwy'n edrych am Sam.

James

Mae Sam ar y llwyfan nawr.



Myned Siân. De.

James

John, 'does gennyt ti ddim iddi wneud ar ddechrau'r act yma, cer i wneud gwaith Neli.

Gwen

Mae hi wedi dod nôl o'r diwedd.

James

Ble mae hi i mi gael gafael arni?

John

Gadewch iddi nawr—mae hi wrth 'i gwaith.

Gwen

Sh! Mae'r cyrten wedi codi.

James

Bydd yn barod John wrth y chwith.

John

Peidiwch chi ag ordro ffilm star amboitu.

James

Ffilm star myn asgwrn i! Bant â thi dy le.

John

(Wrth fynd. De.) Mae hen ddigon o amser.

James

A Gwen, 'rwy'n wedi dweud digon wrthych chi am y wisg 'na!

Gwen

'Does gen' i ddim amser iddi newid hi nawr.

James

Dyma'r tro ola y byddwch chi mewn drama gen i!

Gwen

Mr. James bach, 'rwy' wedi'ch clywed chi'n dweud hynna gannoedd o weithiau erbyn hyn.



Dyfod John. De.

John

Dowch ar unwaith, Mr. James—maen' hw am i chi roi pip ar y golau.



Mynd John a James. De. Dyfod Gwilym ymhen ysbaid. Ch.

Gwilym

Hylo Gwen! 'Wyddwn i ddim dy fod ti gyda'r cwmni.

Gwen

'Ddwedodd Neli ddim?

Gwilym

Neli?... na... ddigwyddodd hi ddim son.

Gwen

'Rwyt ti wedi'i gweld hi te?

Gwilym

Do, fe gefais air gyda di gynneu.

Gwen

Dim ond gair?

Gwilym

Eitha' sgwrs a dweud y gwir... Ond wyddwn i ddim dy fod ti yma. Rwyt ti yn edrych yn hardd. (Yn ceisio'i chofleidio.)

Gwen

Nawr, nawr, fe af i 'nôl Neli i ti

Gwilym

Gwen fach, paid bod yn ffol. 'Rwyt ti'n gwybod yn iawn nad oes a fynnwy'i ddim â Neli.

Gwen

Dyna pam y bu hi allan cyhŷd?

Gwilym

Paid siarad dwli.



Yn gafael ynddi a'i chusanu. Ni chaiff fawr o drafferth.

Gwen

Hmmmmmm!... ble wyt ti wedi bod!



Cofleidio a chusanu. Dyfod Sian. De.

Siân

Dyma beth yw golygfa hardd.



Datgofleidio.

Siân

Maddeuwch i mi am aflonyddu arnoch chi.

Gwen

(Yn hunanfeddiannol a gwawr o sbeit.) Mr. Gwilym Evans. Miss Jane Evans.

Siân

'Rwy'n credu 'n bod ni wedi cwrdd o'r blaen diolch. 'Dyw hi ddim yn bryd i ti fynd ar y llwyfan, Gwen?

Gwen

'Rwy'n gofalu am fy "nghue," diolch.

Gwilym

Wyddwn i ddim y'ch bod chithau yn y cwmni, Siân.

Siân

Mae llawer o'ch hen ffrindiau chi yma—'ddigwyddodd Gwen ddim dweud fy mod i'n perthyn iddyn' nhw?

Gwilym

Wel... naddo.

Siân

Na Neli?

John

(A'i ben rownd y cornel. De.) Dere' mlaen, Gwen.

Siân

Dyna beth rhyfedd... 'roedd Gwen yn gwneud 'i gorau i ddangos 'i hunan ar y llwyfan gynneu a dyma hi nawr heb yr un awydd ogwbwl.



Dyfod John a dwyn Gwen ymaith. De.

John

Dere 'mlaen, mae'n hen bryd i ni fynd i mewn!

Siân

Mae'n amlwg fod yn rhaid tynnu Gwen oddiwrthych chi—mae'n glynnu fel aderyn bach wrth y Gwcw.

Gwilym

'Rŷm ni'n hen gyfarwydd—wedi bod yn y Col. gyda'n gilydd. Mae hi a fi fwy fel brawd a chwaer na dim arall.

Siân

'Rown i'n meddwl hynny pan ddes i mewn nawr. Beth yw'ch barn chi ohoni'n canu?

Gwilym

Canu?

Siân

Nid dyna pam y daethoch chi i gefn y llwyfan?

Gwilym

'Wyddwn i ddim taw hi oedd yn canu. Efallai y bydd yn well i mi fynd rhag ofn i'ch prodiwsor chi fy nal i yma.

Siân

'Does dim angen i chi ofni ( Yn nesu ao) Gwilym, pam na chefais i ateb i'm llythyr? GwrLyx: Palythyr? SIÂN (yn cydio yn ei law): Dewch nawr—fe wyddoch chi'n iawn. Fe anfonais i lythyr atoch chi i'r ysgol yn dweud y byddwn i gyda'r cwmni heno. ' GwiLyM: 'Chefais i'r un gair o gwbwl. SIAN: Ellwch chi ddim fy nhwyllo i. GwiLyM: 'Dwy'i ddim yn eich twyllo chi Siân—pam y dylwn i? Meddwl oeddwn i efallai nad oeddech chi am fy ngweld i ogwbwl. Maddeuwch i mi am eich camfararnu.

Gwilym

'Does dim byd iddi faddau.

Siân

Profwch hynny.

Gwilym

Profi hynny? Sut? Beth sy'n eich blino chi?

Siân

Dewch... un cusan.



Dyfod Neli. Ch.

Neli

Mae'n bryd i ti fod ar y llwyfan, Siân.



Dyfod James. De.

James

Siân! Beth gynllwyn wyt ti'n wneud yma? Maen' hw'n aros amdanat.



Sian, gan fynd. De.

Siân

Wedi'r ddrama, Gwilym... cofiwch.

James

Pwy ŷch-chi? Pa fusnes sydd gennych chi i fod yng nghefn y llwyfan yn ymyrraeth â'r ddrama?

Gwilym

Esgusodwch fi, dod yma i chwilio am y Cadeirydd—mae gen' i neges.

James

Meddyliwch am well esgus y tro nesa'—dyna'r ffordd allan.



Myned Gwilym. Ch.

Neli

Fe ddylasai fod cywilydd arnoch chi—siarad â gwr bonheddig fel petai e'n rhyw gorgi.

James

Paid gwneud cam ag e. Pam nad wyt ti wrth dy waith?

Neli

Fe ddes i edrych am Siân,—'roedd yn bryd iddi fynd i'r llwyfan.

James

Peth od i ti feddwl am hynny a thithau'n gwybod taw'r ochor draw 'roedd hi i ddod mewn.

Neli

Os ŷch chi'n ceisio awgrymu fy mod i'n dweud d celwydd...

James

'Dwy'n awgrymu dim byd. Fe gawn ni setlo dy driciau di am heno o flaen y Pwyllgor.

Neli

(Gan daflu'r llyfr mewn tymer.) Cadwch eich hen ddrama! 'Welsoch chi byth mohono 'i yn gwneud dim byd eto. Cerwch a phromtwch y'ch hunan. {Allan yn wyllt. Ch.

James

Trueni hefyd—mae deunydd da ynddi pe gellid 'i ffrwyno.



Dyfod John. De.

John

Ble mae Neli? Pam nad yw hi'n promto? Mae rhywun i fynd ar y llwyfan.

James

(yn chwilio'r llyfr.) Dyma beth ofnadwy! Pan af i o'r golwg mae rhywbeth yn sicir o fynd o'i le. Cer ar unwaith a dwed wrthynt am beidio â gadael y cyrten lawr eto.



Myned John. De.

James

Dyna beth yw cawl. Pam na all pobol ofalu am 'u gwaith? Fe gaiff y lot y sac am hyn... Sarnu'r ddrama!... Pwy all fod wedi colli 'i "gue" nawr eto? Neli! Neli!... neb wrth law pan fo eisiau...



John yn rhuthro i mewn o'r dde, a Sam dwmbwl dambal o'r chwith i ganol y llwyfan. Y ddau yn gweiddi.

John

Dewch 'mlan Capten—aros am y'ch entri chi maen' hw.



John yn cipio James ymaith. De.

Sam

(Gan anwylo'i goes ar ei eistedd ar ganol y llwyfan.) O daro'r blwmin dressing gown 'ma. (Mae'n cefsio codi ond yn syrthio'n ol eilwaith.) O nghoes fach i, 'rwy wedi 'i thorri hi, ydw reit i wala, a finne fodi fynd mewn nawr hefyd!



LLEN CYFLYM

Drama un-act