| (Robin) Ac yn fwy na hynny mae'r achos hwn yn garreg filltir yn hanes brwydr yr unigolyn. | |
| (1, 0) 363 | Yn eisiau, llanc cryf, gweithgar i gario allan o'r siop. | 
| (1, 0) 364 | Un parod ei wên a pharod ei wasanaeth sy'n nabod yr ardal yn dda ac yn fodlon gweithio gyda'r nos ac ar Sadyrna'. | 
| (1, 0) 365 | Rhoddir tal yn ôl y cyfrifoldeb y rhoddwn arno. | 
| (1, 0) 367 | Yn eisiau, llanc cryf... | 
| (Sami) {Sy'n dangos cryn ddiddordeb erbyn hyn.}| Sgiwsiwch fi, miss... | |
| (Sami) {Sy'n dangos cryn ddiddordeb erbyn hyn.}| Sgiwsiwch fi, miss... | |
| (1, 0) 369 | Noswaith dda...beth alla i wneud i chi? | 
| (Sami) Mi rydach chi isho hogyn meddech chi... | |
| (1, 0) 372 | Llanc cryf, gweithgar sy' gen i isho. | 
| (Sami) Wel, mi rydw i'n gryf. | |
| (Sami) Mi fedra'i... | |
| (1, 0) 378 | Mi rwyt ti wedi gadael yr ysgol, debyg? | 
| (Sami) Do, ers talwm. | |
| (Sami) Do, ers talwm. | |
| (1, 0) 380 | A be' fuost ti'n ei wneud ers hynny? | 
| (Sami) Y... dim byd lot. | |
| (1, 0) 384 | Rwan, elli di ddeud wrtha i lle mae'r ty yma pe taswn i eisiau i ti fynd a neges yno ar gefn dy feic? | 
| (Sami) {Yn cymryd y cerdyn.} | |
| (Sami) Ond... ond 'does genno'i ddim beic... | |
| (1, 0) 387 | Beic y siop fyddi di'n 'ddefnyddio siŵr iawn. | 
| (Sami) Ond dydach chi ddim yn dallt... | |
| (1, 0) 390 | Beth na fedra i mo'i ddallt? | 
| (Sami) Fedra i... wel, fedra i ddim reidio beic... | |
| (Sami) Fedra i... wel, fedra i ddim reidio beic... | |
| (1, 0) 392 | Ddim reidio beic! | 
| (1, 0) 393 | Llanc dy oed ti yn methu mynd ar gefn beic! | 
| (1, 0) 394 | Mi rwyt ti yn tynnu 'nghoes i, yn dwyt? | 
| (1, 0) 395 | Gwylia di... | 
| (Sami) Nachdw! | |
| (Sami) 'Na'th neb brynu un i mi erioed... a 'doedd 'run o'r plant eraill yn gadael i mi gael tro ar eu beicia' nhwtha chwaith. | |
| (1, 0) 402 | Dwi'n gweld. | 
| (1, 0) 403 | Wel, darllen hwnna beth bynnag i mi gael gweld os wyt ti'n gw'bod lle mae o. | 
| (1, 0) 406 | Wel, darllen o. | 
| (Sami) Ond dydach chi ddim yn dallt. | |
| (Sami) Ond dydach chi ddim yn dallt. | |
| (1, 0) 408 | Be nad ydw i'n ei ddallt 'tro yma? | 
| (Sami) Ond... 'fedra i ddim darllen. | |
| (Sami) Ond... 'fedra i ddim darllen. | |
| (1, 0) 410 | Ddim... ddim darllen. | 
| (1, 0) 412 | Ond be' fuost ti'n ei wneud yn yr ysgol 'ta? | 
| (1, 0) 413 | E? | 
| (Sami) Ond... mi 'roeddan nhw'n fy ngyrru i i'r gornel. | |
| (Sami) Ond... mi 'roeddan nhw'n fy ngyrru i i'r gornel. | |
| (1, 0) 415 | Hogyn drwg ia? | 
| (1, 0) 416 | Hogyn drwg oeddat ti yn yr ysgol. | 
| (Sami) Nhw oedd yn... | |
| (Sami) Nhw oedd yn... | |
| (1, 0) 418 | Wel, dwi ddim isho hogyn drwg yn fy siop i. | 
| (1, 0) 419 | Dwi isho un cyfrifol, un sy'n barod ei wên a'i wasanaeth. | 
| (1, 0) 420 | Yn eisiau, llanc cryf, gweithgar sy'n medru reidio beic a darllen. |