Noson o Farrug

Ciw-restr ar gyfer Tad

(Jane) Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch a hel meddylia.
 
(1, 0) 67 Mae min yr awel yn torri fel rasal heno: roedd hi'n oer erwinol yn yr ardd 'na rwan,
(Elin) Mae hi'n galed ar bob crwydryn digartref ' ar noson fel heno.
 
(1, 0) 70 Mae'r crwydriaid, fel rheol, yn derbyn 'u haeddiant: y nhw, mi wranta, sy'n gyfrifol am 'u cyflwr.
(1, 0) 71 Jane, 'dwyt ti ddim bron dwyn y smwddio na i ben?
(1, 0) 72 Does dim ond rhyw awr ne ddwy rhyngom ni a bore Saboth, wyddost.
(Jane) Rwyf bron wedi gorffen.
 
(1, 0) 75 Does dim fel darfod gwaith y tŷ yn brydlon nos Sadwrn i fod yn barod i'r Sul.
(Jane) Yma y bydd y pregethwr fory yntê yn cael cinio a thê?
 
(Jane) Yma y bydd y pregethwr fory yntê yn cael cinio a thê?
(1, 0) 77 Ie.
(Elin) Pwy ydi'r pregethwr fory, William?
 
(Elin) Pwy ydi'r pregethwr fory, William?
(1, 0) 79 Ezra Davis, Llanllios.
(Jane) {Dan bacio'r taclau smwddio.}
 
(Jane) Does gen i fawr o feddwl o Ezra Davis, waeth gen i pwy glywo.
(1, 0) 82 Jane, 'dalla i d'aros di yn siarad yn fychanus am ddynion da.
(Jane) Da ne beidio, un poenus ydi o i aros mewn tŷ beth bynnag.
 
(Jane) Da ne beidio, un poenus ydi o i aros mewn tŷ beth bynnag.
(1, 0) 84 Be sy o'i le arno?
(Jane) Dim, am wn i, ond i fod o'n ofnadwy o barticlar hefo'i fwyd.
 
(Jane) Pam na fedar o fyta fel rhyw ddyn arall─byta popeth, yn lle pigo fel cyw iar?
(1, 0) 87 Paid a beio dyn am rhyw fân betha fel yna.
 
(1, 0) 89 Fe ddarllena chydig adnodau, ac wedyn mi awn i orffwys.
(1, 0) 90 Leiciech chi ddarllen heno, Elin?
(Elin) Na, mae'n well gen i beidio heno.
 
(Elin) Na, mae'n well gen i beidio heno.
(1, 0) 92 Pam?
(1, 0) 93 Ydych chi ddim yn dda heno?
(Elin) Ydw, cystal ag arfar, ond mod i'n methu peidio meddwl am y cre'duriaid tlawd sy allan yn yr oerfel yr hwyr 'ma.
 
(Elin) Ydw, cystal ag arfar, ond mod i'n methu peidio meddwl am y cre'duriaid tlawd sy allan yn yr oerfel yr hwyr 'ma.
(1, 0) 95 Oes rhyw ran y leiciech chi i mi ei darllen?
(Elin) Darllenwch y ddameg ola yn y bymthegfed o Luc.
 
(Elin) Darllenwch y ddameg ola yn y bymthegfed o Luc.
(1, 0) 97 O'r gore.
(1, 0) 98 Jane, ddaru ti folltio'r drws?
(Jane) Naddo.
 
(Elin) Paid a'i folltio fo 'rwan, ngeneth i.
(1, 0) 102 Pam?
 
(1, 0) 104 Bolltia fo fel arfar.
 
(1, 0) 108 "Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab, a'r ieuengaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da, ac efe a rannodd iddynt ei fywyd."
 
(1, 0) 110 "Ac ar ol ychydig o ddyddiau y mab ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd ac a gymerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon."
(Elin) 'Rhoswch funud, Wiliam, 'rwy'n meddwl i mi glywed sŵn curo.
 
(Elin) 'Rhoswch funud, Wiliam, 'rwy'n meddwl i mi glywed sŵn curo.
(1, 0) 113 Ddylai dim gael torri ar y darllen.
(Elin) Ond mae hi'n oer iawn i gadw neb i aros heno y tu allan.
 
(Elin) Ond mae hi'n oer iawn i gadw neb i aros heno y tu allan.
(1, 0) 116 Jane, gwell agor y drws efallai: hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory.
(Jane) Pwy sydd yna?
 
(1, 0) 128 Elin, steddwch i lawr, a pheidiwch a chyffroi'ch hunan.
(Elin) Wiliam, Wiliam! sut y medra i beidio, a Dic bach wedi dwad adre ar ol blynyddoedd o fod í ffwrdd.
 
(1, 0) 132 Wraig! rhag cwilydd i chi adrodd geiria mor gysegredig uwchben creadur fel acw {gan gyfeirio ei fys ato}, sy wedi dwyn gwarth ardal gyfa arno ni; 'nacw sy'n gyfrifol am ddwyn y bedd flynyddoedd yn nês atoch chi, ei fam, ac ataf innau ei dad.
(1, 0) 133 Ai mab yw'r un a gurodd hoelion i eirch ei rieni?
(Elin) O, Wiliam! mi lladdwch o â'ch geiriau brathog!
 
(1, 0) 138 Na wna.
(Elin) Wiliam!
 
(Elin) Dic ydi o! yr unig fab sy gynno ni!
(1, 0) 141 Na, dydi o ddim yn fab i mi bellach: mi fu 'y mab i farw chwe blynedd yn ol pan y gadawodd i gartref mewn gwarth.
(1, 0) 142 Jane, mae'n bryd i ti fynd i dy wely.
(Elin) Aros, Jane bach, mae'n siwr fod ar Dic eisio bwyd.
 
(Dic) Mi â i ffwrdd ben bore fory ond i mi gael gorffwys heno.
(1, 0) 157 Na, 'dei di'r un cam o'r tŷ 'ma tan fore Llun: rwyt ti wedi torri digon ar y Saboth y blynyddoedd dwaetha; thorri di mono fory o'r tŷ yma: os dyna dy fwriad, gwell i ti fynd oddiyma heno nesa.
(1, 0) 158 Cofia, un o'r ddau beth─aros yma tan fore Llun, neu fynd heno.
(1, 0) 159 Rwan, Elin, mi'ch helpiaf chi tua'r llofft.