| (Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea. | |
| (Jonah) Ac o dipyn i beth, daeth hyd yn oed hynafgwyr ceidwadol Gath Heffer i gymryd sylw ohonof... | |
| (1, 0) 187 | Diar annwyl, Shadrach, chi sydd yna? |
| (1, 0) 188 | Heb eich gweld chi ers talwm. |
| (1, 0) 189 | Sut mae'r iechyd 'rhen ŵr? |
| (Shadrach) Digon symol, Tobias, digon symol. | |
| (Shadrach) Digon symol, Tobias, digon symol. | |
| (1, 0) 191 | Tewch â dweud! |
| (1, 0) 192 | 'Rhen grydcymala' yna'n eich poeni chi o hyd? |
| (Shadrach) Ia, ymhlith petha' eraill—cerrig yn y bustl; diffyg treuliad; pendro—mae pob aflwydd wedi disgyn arna' i'n ddiweddar yma. | |
| (Shadrach) Ia, ymhlith petha' eraill—cerrig yn y bustl; diffyg treuliad; pendro—mae pob aflwydd wedi disgyn arna' i'n ddiweddar yma. | |
| (1, 0) 194 | Gawsoch chi gyngor gan y meddyg? |
| (Shadrach) Do, 'rawn i haws. | |
| (Shadrach) A 'dydw' i 'run gronyn gwell. | |
| (1, 0) 198 | O mi ddowch eto gyda hyn. |
| (Shadrach) 'Wn i ddim fachgen. | |
| (Shadrach) A pheth arall, 'dyw cyflwr y wlad yma fawr o help i godi calon creadur o ddyn. | |
| (1, 0) 203 | Na, mae hynny'n ddigon gwir. |
| (Shadrach) Mynd o ddrwg i waeth bob dydd. | |
| (Shadrach) 'Wn i ddim beth fydd ein diwedd ni. | |
| (1, 0) 206 | Mae gennym le i ddiolch, serch hynny, Shadrach. |
| (1, 0) 207 | Gogoniant yr haul acw'n machlud, er enghraifft. |
| (1, 0) 208 | A chwerthiniad plentyn, a llyfnder gloyw'r grawnwin. |
| (1, 0) 209 | A dyna'r cynhaeaf ardderchof 'r ydy' ni wedi'i gael — mi fu'r Bod Mawr ar flaena'i draed efo ni 'leni. |
| (Shadrach) Ond 'run pryd, mae'r Syriaid felltith yna'n tyrru fel locustiaid i fyny yn y gogledd. | |
| (Shadrach) 'R ydym yn byw dan gwmwl du: fe'n bygythir beunydd gan dân ysol. | |
| (1, 0) 213 | 'R ydym wedi eu taflu nhw'n ôl cyn hyn. |
| (1, 0) 214 | Ac fe wnawn hynny eto ond i ni ddal yn gadarn. |
| (Shadrach) Dal yn gadarn, ia, ond pa obaith sydd o hynny? | |
| (Shadrach) A 'd oes yna 'run llais wedi'i godi yn eu herbyn. | |
| (1, 0) 219 | 'R ydach chi'n edrych braidd ar yr ochor ddu, 'r wy'n ofni, 'rhen ŵr. |
| (Shadrach) Rhaid i ni wynebu ffeithia', Tobias. | |
| (Shadrach) Mae hi'n ddigon digalon ar y Bod Mawr efo rhai o'r hogia' yma sydd ganddo Fo heddiw. | |
| (1, 0) 224 | Wel ydy', 'r ydach chi'n iawn. |
| (1, 0) 225 | Rhai digon dienaid ydyn' nhw at 'i gilydd. |
| (1, 0) 226 | Ond 'wn i ddim be' ddaw o'r Jonah yma. |
| (1, 0) 227 | Mae nhw'n dweud 'i fod o'n hogyn reit addawol. |
| (Shadrach) Pwy, ddywedaist ti? | |
| (Shadrach) Pwy, ddywedaist ti? | |
| (1, 0) 229 | Jonah—wyddoch chi—mab yr hen Amitai pan oedd o. |
| (Shadrach) Felly wir. | |
| (Shadrach) 'D wy' i ddim wedi ei weld o ers tro byd. | |
| (1, 0) 232 | Na, mae o'n myfyrio ar ei ben ei hun i fyny yn y brynia' ers talwm. |
| (1, 0) 233 | Yn byw fel meudwy bron. |
| (1, 0) 234 | Newydd ddechra' mynd o gwmpas i bregethu mae o. |
| (Shadrach) 'Ddaw o byth i 'sgidia'i dad. | |
| (Shadrach) 'Ddaw o byth i 'sgidia'i dad. | |
| (1, 0) 236 | 'Wn i ddim beth am hynny. |
| (1, 0) 237 | 'D oes yna ddim golwg proffwyd arno fo mae'n rhaid i mi gyfadde'. |
| (1, 0) 238 | Ond dyna fo, 'fedrwch chi ddim dweud. |
| (1, 0) 239 | Mae o'n dwad yma nos 'fory 'r wy'n deall. |
| (1, 0) 240 | Mi gawn gyfle ardderchog i'w glywed o'n pregethu... |