|
|
|
(Medfedenco) Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser? |
|
|
|
(Arcadina) Yn y marn i, "does yma ddim ffurfiau newydd o gwbl, dim ond tymer ddrwg. |
(1, 0) 327 |
Mae pawb yn sgwennu fel y myn ac fel y gall. |
|
(Arcadina) Pob croeso iddo sgwennu fel y myn ac fel y gall, ond iddo adael llonydd i mi. |
|
|
|
(Nina) Drama ryfedd, yntê? |
(1, 0) 387 |
Dydw i ddim yn ei dallt hi, ond 'roedd yn bleser edrych arni, 'roeddych yn actio â'ch holl enaid. |
|
|
(1, 0) 389 |
Rhaid bod digon o bysgod yn y llyn acw. |
|
(Nina) Oes. |
|
|
|
(Nina) Oes. |
(1, 0) 391 |
'Rydw i'n hoff iawn o bysgota, wn i am ddim mwy difyr nag eistedd ar y lan gyda'r hwyr â'm llygad ar y fflôt. |
|
(Nina) Ond i'r sawl a brofodd win melys awduriaeth, mi ddylai popeth arall yn y byd golli ei flas, debygwn i. |
|
|
|
(Nina) Bore da, Boris Alecsiefits. |
(2, 0) 727 |
Bore da ichi, mae'n ymddangos fod rhaid inni fynd i ffwrdd heddiw. |
(2, 0) 728 |
Mae'n ddrwg gin i am hynny, prin y cefais i olwg arnoch chi. |
(2, 0) 729 |
Nid bob dydd y ceith dyn gyfle i gyfarfod â merched ifainc diddorol, mi dw i wedi anghofio sut y byddwn i'n teimlo pan oeddwn i'n ddeunaw oed, ac felly fedra i ddim rhoi darlun cywir o ferched ifainc yn fy straeon. |
(2, 0) 730 |
Mi liciwn fod yn eich sgidiau chi am awr fechan i gael gwbod sut y byddwch yn edrych ar y byd a sut un ydych chi'n gyffredinol. |
|
(Nina) Mi garwn innau fod yn eich sgidiau chithau. |
|
|
|
(Nina) Mi garwn innau fod yn eich sgidiau chithau. |
(2, 0) 732 |
Pam? |
|
(Nina) Imi gael gwbod sut y bydd llenor enwog a thalentog yn teimlo. |
|
|
|
(Nina) Sut ydych chi'n teimlo yn eich enwogrwydd? |
(2, 0) 735 |
Sut? |
(2, 0) 736 |
Fydda i'n teimlo dim, mi gredaf, feddyliais i rioed am y peth. |
(2, 0) 737 |
Rhaid eich bod chi'n fy ngosod yn rhy uchel neu ynte d'oes gan f'enwogrwydd ddim effaith o gwbwl ar fy nheimlad. |
|
(Nina) Ond pan fyddwch yn gweld eich enw yn y papur? |
|
|
|
(Nina) Ond pan fyddwch yn gweld eich enw yn y papur? |
(2, 0) 739 |
Os byddan nhw'n canmol, mi fyddaf wrth fy modd; os bydden nhw'n lladd arna i, byddaf yn ddrwg fy hwyl am ddiwrnod neu ddau. |
|
(Nina) Lle rhyfedd ydi'r byd ma. |
|
|
|
(Nina) Yr ydych chi'n hapus. |
(2, 0) 744 |
Fi? |
(2, 0) 745 |
Mmm! |
(2, 0) 746 |
Digon hawdd ichi siarad am enwogrwydd, a dedwyddwch a bywyd disglair, diddorol, ond i mi 'dydi hyna i gyd ddim ond geiriau teg, mor ddibwys â jam cwsberins, a fydda i byth yn bwyta hwnnw. |
(2, 0) 747 |
'Rydych chi'n ifanc ac yn garedig iawn. |
|
(Nina) Ond y mae'ch bywyd chi'n ardderchog. |
|
|
|
(Nina) |
(2, 0) 750 |
Wela i ddim ardderchog yno fo fy hun. |
|
|
(2, 0) 752 |
Rhaid imi fynd i sgwennu. |
(2, 0) 753 |
Maddeuwch i mi, mae f'amser yn brin. |
|
|
(2, 0) 755 |
Ond dyna chi wedi rhoi'ch bys ar fy nolur a minnau'n dechrau cynhyrfu a cholli nhymer. |
(2, 0) 756 |
Wel, rhaid imi gael bwrw drwyddi hi. |
(2, 0) 757 |
Cymwch fy mywyd ardderchog, disglair – o ble cawn ni ddechrau? |
|
|
(2, 0) 759 |
Meddyliwch am ddyn a chwilen yn ei ben, yn meddwl am y lleuad, deudwch, bob munud awr o'r dydd a nos; mae gennyf innau fy lleuad a'r un hen chwilen yn fy nghosi ddydd a nos; rhaid imi sgwennu, rhaid imi sgwennu, oes, rhaid. |
(2, 0) 760 |
Prin y bydda i wedi gorffen un stori, ac am ryw reswm neu'i gilydd rhaid imi ddechrau ar un arall, ac un arall ar ei hôl hithau ac un arall ar ôl honno. |
(2, 0) 761 |
Rhaid imi sgwennu ar garlam yn ddi-dor, fedra i ddim peidio. |
(2, 0) 762 |
Be sy'n ardderchog yn hyn, 'rwy'n gofyn ichi, bywyd gwyllt a rhyfedd. |
(2, 0) 763 |
Dyma fi, welwch chi, wedi cynhyrfu, eisoes, ac eto'n cofio bob munud awr fod stori heb ei gorffen ar fy nesg yn y tŷ. |
(2, 0) 764 |
Dyma fi'n gweld cwmwl tebyg i biana, a bydd raid imi beidio ag anghofio sôn mewn stori am gwmwl tebyg i biana yn hwylio drwy'r awyr. |
(2, 0) 765 |
Clywaf oglau blodau'r erwain, i lawr ag o yn y llyfr na: 'oglau melys masw', ar gyfer disgrifiad o noswaith haf. |
(2, 0) 766 |
'Rwy'n dal ar bob brawddeg o'ch genau ac o'm genau innau hefyd, yn sylwi ar bob gair ac yn eu cloi yn fy nghadw-mi-gei llenyddol, gall lenwi bwlch ryw ddydd. |
(2, 0) 767 |
Wedi cadw noswyl, byddaf yn rhedeg i'r theatr neu'n mynd i bysgota, gan ddisgwyl cael gorffwys ac anghofio popeth – yn hollol ofer; wele destun newydd yn troi yn fy mhen fel pelen haearn drom, ac yn fy llusgo yn ôl at y ddesg i'r hen gaethiwed blin, i sgwennu, sgwennu, sgwennu. |
(2, 0) 768 |
Cha i byth lonydd, 'rwy'n teimlo mod i'n ysu fy mywyd yn hel mêl o flodau gorau f'oes, yn ei wastraffu ar rywun yn y pellter, yn rhwygo'r blodau eu hunain ac yn sathru eu gwreiddiau dan fy nhraed. |
(2, 0) 769 |
Tybed mod i'n wallgof? |
(2, 0) 770 |
A fydd fy nghyfeillion gorau yn fy nhrin i fel dyn iach? |
(2, 0) 771 |
'Be sy gynnoch chi ar y gweill? |
(2, 0) 772 |
Be gawn ni gynnoch chi nesa?' Yr un hen botas fyth a hefyd. |
(2, 0) 773 |
Mi fydda i'n meddwl weithiau mai twyll ydi eu holl sylw nhw, a'u canmoliaeth a'u brwdfrydedd, ac mi fydd arna i ofn weithiau iddyn nhw afael yn fy ngwegil i'n sydyn a mynd a mi i'r gwallgofdy. |
(2, 0) 774 |
Ac yn nyddiau f'ieuenctid, dyddiau gorau fy mywyd, 'roedd camau cynta fy ngyrfa fel llenor yn un boen hir ac annioddefol; mae llenor ifanc aflwyddiannus yn teimlo'n drwsgl, yn chwithig, ac megis ar ffordd pawb, yn anniddig a'i nerfau'n wan, ond serch hynny fedr o ddim peidio â chanlyn gwŷr y wasg, llenorion ac artistiaid o bob math, a neb yn sylwi arno, nac yn ei gydnabod, ac yntau'n rhy swil i edrych ym myw llygad neb, fel gambler heb geiniog yn ei boced. |
(2, 0) 775 |
Welais i rioed mo'm darllenwyr, ond rywsut mi fyddwn yn tybied eu bod yn elynion imi ac yn f'amau. |
(2, 0) 776 |
Mi fyddai arnaf ofn y gynulleidfa yn y theatr a phan berfformir drama newydd o'm heiddo, byddwn yn meddwl bob tro fod y bobol â phryd golau yn elyniaethol a'r rhai pryd tywyll yn oer a didaro, O! |
(2, 0) 777 |
'Roedd yn ddychrynllyd, yn arteithiol. |
|
(Nina) Ydyn, mae sgwennu'n beth difyr; ac y mae darllen y proflenni'n ddifyr hefyd; ond pan fydd fy ngwaith mewn print tu hwnt i'm cyrraedd, byddaf yn canfod brychau, yn ei gondemnio fel methiant, yn credu mai camgymeriad dybryd oedd cyfansoddi'r fath druth, ac yn ddrwg fy hwyl, wedi laru ar bopeth. |
|
|
|
(Nina) Choelia i mo hyna, llwyddiant sydd wedi'ch difetha chi. |
(2, 0) 782 |
Ond sut llwyddiant? |
(2, 0) 783 |
Fûm i rioed yn fodlon ar fy ngwaith, 'rwy'n ffieiddio fy hun fel llenor. |
(2, 0) 784 |
Byddaf megis mewn llewyg wrth ysgrifennu ac yn methu deall fy ngeiriau fy hun. |
(2, 0) 785 |
'Rwy'n caru'r llyn yma, a'r coed a'r awyr las, ac yn teimlo cyfaredd natur i'r byw. |
(2, 0) 786 |
Mae'n peri imi gynhyrfu fel na fedraf beidio ag ysgrifennu. |
(2, 0) 787 |
Ond 'rwyf yn rhywbeth amgen na disgrifiwr natur, 'rwyf yn ddinesydd yn caru fy ngwlad a'r werin ac yn teimlo fod rhaid imi sôn am y werin a'i dioddefiadau, am hawliau dyn a'i dynged, am wyddoniaeth a phethau cyffelyb. |
(2, 0) 788 |
Rhaid imi siarad am bopeth, ac y mae'r byd yn drech na mi, a minnau'n troi ac yn trosi fel llwynog yng nghanol y cŵn. |
(2, 0) 789 |
Mae bywyd a gwyddoniaeth yn mynd rhagddynt yn rhy gyflym i mi eu dal, ac yr wyf bob amser ar ôl fel hogyn o'r wlad wedi colli'r trên, ac yn teimlo o'r diwedd mai am natur yn unig y gallaf ysgrifennu ac nad yw pob gair arall o'm heiddo ond hoced, ffalster a thwyll. |
|
(Nina) 'Rydych chi'n gweithio'n rhy ddwys ac nid oes gennych amser nac ewyllys i werthfawrogi'ch gwaith. |
|
|
|
(Nina) Pe tawn i'n llenor fel chi, mi gyflwynwn fy holl fywyd i'r werin, ac mi gai'r werin deimlo mai esgyn hyd ataf i yw ei hunig obaith am wynfyd, ac mi'm llusgai mewn cerbyd yn ei gorfoledd. |
(2, 0) 794 |
Ie, mewn cerbyd, fel Agamemnon i'r lladdfa. |
|
(Nina) Ond imi gael bod yn llenores neu'n actres, mi aberthwn bopeth; 'rwy'n barod i oddef adfyd, a chasineb, ac angau a siom, ac i fyw ar fara sych mewn twll dan y to, a chydnabod holl ddiffygion ac amherffeithrwydd fy ngwaith, os caf glod, clod gwirioneddol yn taraddu... |
|
|
|
(Llais Arcadina) Boris Alecsiefits! |
(2, 0) 800 |
Dacw nhw'n galw. |
(2, 0) 801 |
Rhaid imi bacio, mae'n debyg. |
(2, 0) 802 |
'Does arna i ddim eisiau mynd. |
|
|
(2, 0) 804 |
Y fath wynfa! |
|
(Nina) Welwch chi'r tŷ ar ardd cw ar y lan? |
|
|
|
(Nina) Welwch chi'r tŷ ar ardd cw ar y lan? |
(2, 0) 806 |
Gwelaf. |
|
(Nina) Dyna dŷ fy mam druan. |
|
|
|
(Nina) Yna y'm ganwyd i, ac 'rydw i'n nabod pob ynys arno. |
(2, 0) 809 |
Mae hi'n braf arnoch chi yma. |
|
|
(2, 0) 811 |
Be di hwn? |
|
(Nina) Gwylan a saethodd Constantin Gafrilits. |
|
|
|
(Nina) Gwylan a saethodd Constantin Gafrilits. |
(2, 0) 813 |
Deryn braf, yn wir, 'does arna i ddim isio mynd. |
(2, 0) 814 |
Triwch gael gynni hi aros. |
|
|
|
(Nina) Be dych chi'n neud? |
(2, 0) 817 |
O, dim ond nodyn, awgrym testun stori fer ddaeth i mhen i. |
|
|
(2, 0) 819 |
Geneth yn byw ar lan llyn, geneth ifanc fel chi, mae hi'n caru'r llyn fel yr wylan, ac yn ddedwydd a rhydd fel yr wylan. |
(2, 0) 820 |
Dyma ŵr yn digwydd dŵad heibio, ac am nad oes ganddo ddim gwell i'w neud yn ei difa hi fel yr wylan yma. |
|
(Arcadina) {O'r ffenestr.} |
|
|
|
(Arcadina) Boris Alecsiefits, lle'r ydych chi? |
(2, 0) 824 |
Yn dŵad rwan. |
|
(Arcadina) 'Rydym ni'n aros. |
|
|
|
(Masia) 'R ydw i wedi penderfynu un peth: mi dynna i'r cariad ma allan o nghalon i, gnaf, i'r bôn, a'r gwraidd gydag o. |
(3, 0) 836 |
Sut y gnewch chi hynny? |
|
(Masia) Trwy briodi, trwy briodi Simeon Medfedenco. |
|
|
|
(Masia) Trwy briodi, trwy briodi Simeon Medfedenco. |
(3, 0) 838 |
Yr athro? |
|
(Masia) Ie. |
|
|
|
(Masia) Ie. |
(3, 0) 840 |
Wela i mo'r angen. |
|
(Masia) Caru heb obaith, byw am flynyddoedd yn disgwyl i rywbeth ddigwydd – na! |
|
|
|
(Masia) Ac wedi imi briodi fydd na ddim amser i garu, bydd digon o ofalon newydd yn llyncu'r hen; mi ga newid bywyd, beth bynnag, gawn ni lasiad arall? |
(3, 0) 843 |
Fydd hynny ddim yn ormod? |
|
(Masia) Twt, twt! |
|
|
|
(Masia) Dyn clên ydych chi, mae'n ddrwg gin i eich bod chi'n mynd. |
(3, 0) 853 |
'D oes arna i ddim isio mynd. |
|
(Masia) Gofynnwch iddi aros, ta. |
|
|
|
(Masia) Gofynnwch iddi aros, ta. |
(3, 0) 855 |
Na, rosith hi ddim rwan. |
(3, 0) 856 |
Mae'r mab mor wirion. |
(3, 0) 857 |
Dyna fo'n trio saethu ei hun, ac wedyn, meddan nhw, yn mynd i roi sialens i mi. |
(3, 0) 858 |
Ac am ba reswm? |
(3, 0) 859 |
Mae o'n chwythu ac yn chwyrnu ac yn pregethu efengyl ffurfiau newydd - ond neno'r annwyl, mae digon o le i'r hen a'r newydd, 'does dim gofyn ffrae, dybiwn i. |
|
(Masia) Ie, ie, ond gwenwyn sydd yn y gwraidd. |
|
|
|
(Nina) Un ta dwy? |
(3, 0) 875 |
Dwy. |
|
(Nina) {Ag ochenaid.} |
|
|
|
(Nina) Mae arna i isio cyngor. |
(3, 0) 880 |
Fedr neb roi cyngor ichi. |
|
(Nina) Dyma ni'n mynd bawb ei ffordd ei hun. |
|
|
|
(Nina) Mae nhw wedi torri'ch enw arni ar un ochor ac ar yr ochor arall mae teitl eich llyfr chi 'Nos a Dydd.' |
(3, 0) 886 |
Mae hi'n neis. |
|
|
|
(Nina) Meddyliwch amdana i weithiau. |
(3, 0) 889 |
Mi fydde i'n siwr o neud, mi feddylia i amdanoch fel yr oeddech chi ar y diwrnod heulog hwnnw, ydych chi'n cofio, 'r wythnos dwaetha, mewn ffrog wen – mi gawsom sgwrs – a'r wylan wen ar y fainc. |
|
(Nina) {Yn feddylgar.} |
|
|
|
(Arcadina) Nina? |
(3, 0) 900 |
Ie. |
|
(Arcadina) Mae'n wir ddrwg gin i, fynnwn i er dim dorri ar draws eich sgwrs. |
|
|
(3, 0) 905 |
'Nos a dydd, tudalen 121, llinell 11 a 12.' |
|
(Iago) {Yn clirio'r bwrdd.} |
|
|
|
(Iago) Ga i roi'r taclau pysgota i mewn? |
(3, 0) 908 |
Cewch, bydd gofyn amdanyn nhw rywbryd, ond d'oes dim isio'r llyfrau. |
|
(Iago) O'r gorau, syr. |
|
|
(3, 0) 911 |
Tudalen 121, llinell 11 a 12. |
(3, 0) 912 |
Be sy yn y llinellau yna? |
|
|
(3, 0) 914 |
Ydi fy llyfrau i yn y tŷ? |
|
(Arcadina) Ydyn, yn y stydi, yn y cwpwrdd congol. |
|
|
|
(Arcadina) Ydyn, yn y stydi, yn y cwpwrdd congol. |
(3, 0) 916 |
Tudalen 121. |
|
|
(3, 0) 1075 |
Tudalen 121, llinell 11 a 12 – dyma fo. |
|
|
(3, 0) 1077 |
'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd, tyrd, cymer ef.' |
|
(Arcadina) {Yn edrych ar ei wats.} |
|
|
(3, 0) 1082 |
'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd, tyrd, cymer ef.' |
|
(Arcadina) Disgwyl fod popeth yn barod gynnoch chi. |
|
|
(3, 0) 1085 |
O, ydi, ydi. |
|
|
(3, 0) 1087 |
Pam y mae gwaedd calon lân yn codi tristwch ac yn gneud nghalon i'n drwm? |
(3, 0) 1088 |
'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd i, tyrd, cymer ef.' |
|
|
(3, 0) 1090 |
Gadwch inni aros yma tan yfory. |
|
|
(3, 0) 1092 |
Gadwch inni aros. |
|
(Arcadina) Fy nghariad bach i, mi wn i be sy'n eich cadw yma, ond triwch ei goncro fo. |
|
|
|
(Arcadina) 'R ydych wedi meddwi tipyn bach, mae'n bryd ichi sobri. |
(3, 0) 1095 |
Triwch chithau hefyd sobri, triwch fod yn synhwyrol, 'r wy'n crefu arnoch, triwch ystyried y mater fel gwir ffrind imi. |
|
|
(3, 0) 1097 |
'R ydych yn ddigon mawr i neud yr aberth, byddwch yn ffrind imi, rhowch fy rhyddid yn ôl imi. |
|
(Arcadina) {Yn bur gyffrous.} |
|
|
|
(Arcadina) Ydi hi mor ddrwg â hyna arnoch chi? |
(3, 0) 1100 |
Mae rhywbeth yn fy nhynnu ati, a dyna fy mhrif angen, feallai. |
|
(Arcadina) Cariad hogan o'r wlad. |
|
|
|
(Arcadina) 'D ydych chi ddim yn hanner adnabod eich hun. |
(3, 0) 1103 |
Bydd pobol weithiau yn cysgu ar eu traed, felly finnau, wrth siarad wrthoch chi, 'r wy'n cysgu ac yn ei gweld hi yn fy mreuddwyd. |
(3, 0) 1104 |
'R ydw i dan hud breuddwydion melys, rhyfedd, gadwch imi fynd. |
|
(Arcadina) {Yn crynu.} |
|
|
|
(Arcadina) Dynes gyffredin ydw i, cheith neb siarad fel yna wrtha i, peidiwch â mhoeni i, 'r ydych yn fy nychryn i. |
(3, 0) 1108 |
Os mynnwch, gellwch fod yn ddynes anghyffredin – Cariad ifanc, swynol, barddonol, yn fy nghodi i fyd gweledigaethau, 'd oes dim arall yn y byd a all roi'r fath wynfyd. |
(3, 0) 1109 |
Phrofais i rioed y fath gariad. |
(3, 0) 1110 |
Yn fy ienctid ni chefais ddim ond crwydro o offis i offis a chynffoni i bob golygydd a brwydro'n erbyn tlodi, rŵan dyma gariad wedi ymddangos o'r diwedd ac yn galw arnaf – pa synnwyr fyddai imi redeg oddi ar ei ffordd? |
|
(Arcadina) {Yn ddig.} |
|
|
|
(Arcadina) 'R ydych chi o'ch co. |
(3, 0) 1113 |
Gadwch imi fynd. |
|
(Arcadina) 'R ydych i gyd yn f'erbyn i heddiw. |
|
|
(3, 0) 1117 |
'D ydi hi ddim yn dallt, fyn hi ddim dallt. |
|
(Arcadina) Ydw i'n ddigon hen a hyll ichi feiddio siarad wrtha i am ferched erill? |
|
|
|
(Arcadina) Os ewch chi oddi wrtha i hyd yn oed am awr, fedra i ddim byw, mi a i o ngho, fy nghariad rhyfeddol, mawreddus, fy mrenin. |
(3, 0) 1126 |
Mi all rhywyn ddŵad i mewn. |
|
|
|
(Arcadina) Dyna'r gwir syml ichi, newch chi mo ngadael i, newch chi? |
(3, 0) 1141 |
Mae fy wyllys i wedi darfod, fu gin i rioed wyllys rydd – llipa, meddal, ufudd, dyna fy hanes i; sut y gall unrhyw ferch garu'r fath ddyn? |
(3, 0) 1142 |
Ewch â fi gyda chi, peidiwch â gollwng eich gafael am hanner cam. |
|
|
|
(Arcadina) Mi a i ffwrdd fy hun, ac mi gewch chithau ddŵad rwybryd eto, mhen yr wythnos, deudwch, neno'r annwyl, 'd oes ddim brys. |
(3, 0) 1149 |
Na, mi awn i ffwrdd gyda'n gilydd. |
|
(Arcadina) Fel y mynnwch chi, am hynny, awn gyda'n gilydd, ta. |
|
|
|
(Arcadina) Be 'dych chi'n neud? |
(3, 0) 1154 |
Mi glywais enw da'r bore ma, 'Llwyn y Forwyn', mi geith le mewn llyfr rywbryd. |
|
|
(3, 0) 1156 |
Mynd amdani hi, te? |
(3, 0) 1157 |
Mi gawn weld y trên unwaith eto, a'r stesions a'r refreshment rooms a mutton chops a digon o sgwario. |
|
(Shamraieff) {Yn dyfod i mewn.} |
|
|
(3, 0) 1214 |
Mi anghofiais fy ffon. |
(3, 0) 1215 |
Mae hi ar y terrace, mae'n debyg. |
|
|
(3, 0) 1217 |
Chi sy na? |
(3, 0) 1218 |
'R ydym ni ar fin cychwyn. |
|
(Nina) 'R o'n i'n gwbod ein bod am gael gweld ein gilydd. |
|
|
|
(Nina) Mi gawn weld ein gilydd yno. |
(3, 0) 1225 |
Ewch i aros yn y Slafiansci Bazâr, a gadwch imi wbod ar unwaith; 'moltsianoffca, Grocholsci,' dyna'r drecswin. |
(3, 0) 1226 |
Rhaid imi frysio. |
|
(Nina) Hanner munud. |
|
|
(3, 0) 1230 |
'R ydych chi mor glws. |
(3, 0) 1231 |
Mae'n hyfryd meddwl y cawn ni weld ein gilydd yn fuan! |
|
|
(3, 0) 1233 |
Mi ga i weld y llygaid disglair yma unwaith eto, a'r wên dyner, hardd a glendid angylaidd eich wynepryd na all undyn byw fyth eu disgrifio. |
(3, 0) 1234 |
Fy nghariad annwyl i! |
|
|
(4, 0) 1423 |
Sut yr ydych chi, Piotr Nicolaiefits? |
(4, 0) 1424 |
Yn wael eto? |
(4, 0) 1425 |
Mae'n wir ddrwg gin i. |
|
|
(4, 0) 1427 |
Masia Ilinitsna! |
|
(Masia) Mae o'n nghofio i! |
|
|
|
(Masia) Mae o'n nghofio i! |
(4, 0) 1429 |
Wedi priodi? |
|
(Masia) Ydw, ers talwm. |
|
|
|
(Masia) Ydw, ers talwm. |
(4, 0) 1431 |
Yn hapus? |
|
|
(4, 0) 1433 |
Mi ddeudodd Irina Nicolaiefna eich bod chi wedi anghofio'r hen gweryl a'ch dicter. |
|
(Arcadina) {Wrth ei mab.} |
|
|
|
(Treplieff) Diolch yn fawr ichi am eich caredigrwydd. |
(4, 0) 1439 |
Mae'ch darllenwyr yn cofio atoch chi. |
(4, 0) 1440 |
Mae pawb yn Petersburg a Mosco yn teimlo diddordeb mawr yn eich gwaith ac yn holi amdanoch: 'Sut un ydi o; faint ydi ei oed o; pryd golau ai pryd tywyll sy gynno fo?' Mae pawb yn meddwl rywsut nad ydych chi ddim yn ifanc. |
(4, 0) 1441 |
Ŵyr neb mo'ch enw chi, am eich bod yn sgwennu dan ffugenw bob amser. |
(4, 0) 1442 |
Mae na ryw ddirgelwch ynglŷn â chi fel gŵr y mwgwd haearn. |
|
(Treplieff) Ydych chi am aros tipyn? |
|
|
|
(Treplieff) Ydych chi am aros tipyn? |
(4, 0) 1444 |
Na, 'rwy'n meddwl mynd i Mosco yfory. |
(4, 0) 1445 |
Rhaid imi orffen stori, ac mi dw i wedi addo rhywbeth at gasgliad o straeon hefyd. |
(4, 0) 1446 |
Mewn gair, yr un hen hanes. |
|
|
(4, 0) 1448 |
Croeso drwg ges i gin y tywydd a'r gwynt creulon na. |
(4, 0) 1449 |
Os bydd hi'n braf, mi a i i bysgota ar lan y llyn yfory; gyda llaw, rhaid imi fynd i gael golwg ar y fan, ydych chi'n cofio, lle'r actiwyd eich drama chi. |
(4, 0) 1450 |
Mae gin i idea am stori, ond mae f'atgofion am y lle braidd yn gymylog. |
|
(Masia) {Wrth ei thad.} |
|
|
|
(Arcadina) 'Does dim isio iddo fo gymyd sylw ohonyn nhw. |
(4, 0) 1518 |
'Dydi o'n gwneud fawr ohoni hi – mae'n methu taro'r cywair. |
(4, 0) 1519 |
Mae na rywbeth dieithr, annelwig yn ei waith, yn ymylu ar orffwylltra; dim un cymeriad byw! |
|
(Masia) Un ar ddeg! |
|
|
|
(Masia) Deg a phedwar ugain! |
(4, 0) 1527 |
Tawn i'n byw yn y fath blas, wrth lan y llyn, ydych chi'n meddwl y baswn yn sgwennu? |
(4, 0) 1528 |
Mi fyddwn i'n drech na'r hen nwyd ma, nawn i ddim ond pysgota. |
|
(Masia) Wyth ar hugain. |
|
|
|
(Masia) Wyth ar hugain. |
(4, 0) 1530 |
A dal brithyll neu slywen, dyna chi nefoedd ar y ddaear! |
|
(Dorn) Mae gin i feddwl mawr o Constantin Gafrilits. |
|
|
|
(Shamraieff) Mae'ch bethma chi yma'n ddigon diogel. |
(4, 0) 1543 |
Be dych chi'n feddwl? |
|
(Shamraieff) Wedi i Constantin Gafrilits saethu gwylan, mi ddaru'ch ofyn imi ei stwffio hi ichi. |
|
|
|
(Shamraieff) Wedi i Constantin Gafrilits saethu gwylan, mi ddaru'ch ofyn imi ei stwffio hi ichi. |
(4, 0) 1545 |
'Dwy'n cofio dim am y peth. |
|
|
(4, 0) 1547 |
Na, dim o gwbwl. |
|
(Masia) Chwech a thrigain! |
|
|
|
(Masia) Wyth a phedwar ugain! |
(4, 0) 1556 |
Dyna fi wedi ennill, gyfeillion. |
|
(Arcadina) {Yn llon.} |
|
|
(4, 0) 1736 |
'D wy'n cofio dim. |
|
|
(4, 0) 1738 |
'D 'wy'n cofio dim! |