|
|
|
|
(1, 0) 22 |
Hylo, Dici! |
|
(Dici) {O'r tuallan.} |
|
|
|
(Dici) Hylo, Twm! |
(1, 0) 25 |
Ydi'r cwrw gen ti? |
|
(Dici) Ydi, siwr. |
|
|
|
(Dici) Ydi, siwr. |
(1, 0) 27 |
Wel, brysia 'ta, machgen i, brysia! |
|
|
(1, 0) 35 |
Mae dy "shar" di yn y badell ffrio. |
(1, 0) 36 |
Estyn y cwrw 'na i mi, Dici. |
|
(Dici) A─! |
|
|
|
(Dici) Ych chi wedi gosod y "lines " nos, Twm? |
(1, 0) 44 |
Ydw. |
|
|
(1, 0) 46 |
Mae' nhw wedi 'u clymu wrth fôn y pren helyg ymhen isa'r pwllyn. |
|
(Dici) {Yn bryderus.} |
|
|
|
(Dici) Mae'r ast fach yn anesmwyth iawn. |
(1, 0) 50 |
Ydi. |
(1, 0) 51 |
Dodais hi yn y cart o'r golwg rhag ofn i Jenkins y Cipar neu Powel y Polis ddod heibio. |
|
(Dici) {Yn ei chysuro megis creadur rhesymol.} |
|
|
|
(Dici) Ble mae'r asyn? |
(1, 0) 59 |
Mae e' wedi 'i rwymo lawr yna wrth y bont. |
(1, 0) 60 |
Galw arno i gael gweld os yw e' yno. |
|
(Dici) {Yn galw.} |
|
|
|
(Dici) Nedi! |
(1, 0) 64 |
Gwrando arno─ar 'ngair i─yn dy ateb di 'nol cystal ag unrhyw Gristion mewn trowsus. |
(1, 0) 65 |
Y ffordd wyt ti'n gallu trafod creaduriaid─wel─mae tu hwnt i mi. |
|
(Dici) {Yn llwytho ei blat o'r badell ffrio.} |
|
|
|
(Dici) Ia─a mae gen i eitha ffordd o drafod stêc a winwns hefyd. |
(1, 0) 68 |
"Hold on," Dici bach, cymer bwyll, 'machgen i. |
(1, 0) 69 |
Gad dipyn ar ol yn y badell ffrio, da ti! |
|
(Dici) {Yn anfodlon.} |
|
|
|
(Dici) Gadael peth? |
(1, 0) 72 |
Ia─rhag ofn. |
(1, 0) 73 |
Ti wyddost yr enw sydd i ni fel potsiars. |
(1, 0) 74 |
Wel, os digwydd i rywun busnesllyd ddod y ffordd hyn, yna fe fydd y badell ffrio ar y tân mewn wincad, {yn dynwared y weithred} a dyma ni, Twm Tincer a Dici Bach Dwl, yn batrwm o ddau dincer teidi yn cael tamad gonest o swper ar fin y ffordd. |
|
(Dici) {Yn amheus.} |
|
|
|
(Dici) Wel─falle y byddai pobl yn barod i gredu hynny, falle─ |
(1, 0) 78 |
'D yw 'r hen regen yr yd 'na ddim yn gweld rhyw lawer yn y syniad chwaith, feddyliwn i. |
(1, 0) 79 |
Welaist ti Price pan o't ti nol y cwrw? |
|
(Dici) Do. |
|
|
|
(Dici) Gofynnodd i mi roi hwn i chi. |
(1, 0) 83 |
Ynghylch y samwn, debig. |
|
|
(1, 0) 85 |
"Castle Hotel, Pontewyn. |
(1, 0) 86 |
Cyfrinachol. |
(1, 0) 87 |
Annwyl Twm Tincer, Gair bach i ddweyd bod popeth wedi ei drefnu ar gyfer y luncheon mae Mr. Venerbey-Jones yn ei roi i'r offeiriadon sy'n dod yma yfory i agor ysgoldy newydd Eglwys Dewi Sant." |
|
|
(1, 0) 89 |
Venerbey-Jones! |
(1, 0) 90 |
Fe garwn i pe bai'r 'ffeiradon 'na'n rhoi luncheon iddo fe ac yn dechreu drwy arllwys dos dda o wenwyn llygod i lawr corn gwddw'r hen gythraul! |
|
(Dici) Clywch, clywch, Twm! |
|
|
(1, 0) 94 |
"Yma yn y Castle y bydd y wledd a chofia fy mod yn dibynnu arnat ti am y samwn ac y talaf ddeg ceiniog y pound am dano. |
(1, 0) 95 |
Yn gywir, Robert Price." |
|
(Dici) Deg ceiniog y pound? |
|
|
(1, 0) 99 |
Fe gadwa' i hwn rhag ofn iddo geisio gwadu'r pris. |
(1, 0) 100 |
'Rym ni wedi addo dal samwn iddo fe, Dici, ac fe gaiff un hefyd. |
(1, 0) 101 |
Lawr 'na ym mhwllyn Venerbey-Jones {yn cyfeirio i'r cefn} mae samwns gora'r afon. |
(1, 0) 102 |
Weli di, Dici, mae'r cymylau'n crynhoi. |
(1, 0) 103 |
Ardderchog! |
(1, 0) 104 |
Bydd yn ddigon tywyll i ni gyda hyn. |
(1, 0) 105 |
Mae'r gwynt wedi troi i'r gorllewin. |
|
(Dici) Ydi wir. |
|
|
|
(Dici) Dere lawr at yr afon, Twm; alla' i ddim dal yn hwy. |
(1, 0) 113 |
Ia. |
(1, 0) 114 |
Gwelli ni baratoi. |
(1, 0) 115 |
Cladda dy swper, Dici. |
|
(Dici) {Yn gorffen ei swper.} |
|
|
|
(Dici) Oes gennych chi ddefnydd ffagal? |
(1, 0) 120 |
Oes, fe guddiais i bopeth sydd eisieu tu cefn i'r clawdd 'ma. |
|
|
(1, 0) 122 |
Pren, clwtyn a pharaffin. |
|
|
(1, 0) 124 |
A dyma'r dryfer. |
|
(Dici) {Yn clustfeinio.} |
|
|
|
(Dici) {Mae'n gogwyddo ei ben i wrando.} |
(1, 0) 128 |
Beth glywi di? |
|
(Dici) Swn traed. |
|
|
|
(Dici) Swn traed. |
(1, 0) 130 |
Ble? |
|
(Dici) {Yn cyfeirio i'r aswy.} |
|
|
|
(Dici) Jenkins y Cipar sy 'na, Twm. |
(1, 0) 134 |
Fe? |
(1, 0) 135 |
Y mawredd annwyl! |
(1, 0) 136 |
Gad i ni guddio rhain. |
|
|
(1, 0) 138 |
Dwed wrth yr ast fach am fod yn dawel. |
|
(Dici) Reit. |
|
|
|
(Dici) {Chwibana'n isel a rhybuddiol.} |
(1, 0) 141 |
Dici bach, 'r wyt ti'n gallu spotio cipar neu blisman filltir o ffordd. |
(1, 0) 142 |
Ble felldith mae'r badell ffrio 'na? |
(1, 0) 143 |
A! |
|
|
(1, 0) 145 |
Eistedd lawr, Dici, da ti, ac edrych mor ddiniwed ag y galli di. |
(1, 0) 146 |
Maent yn eistedd yn dawel o bob tu'r tân gan ymddangos yn batrwm o ddiniweidrwydd, |
|
(Dici) {Yn sibrwd.} |
|
|
(1, 0) 150 |
Wyt, Dici, 'rwyt ti yn llygad dy le. |
(1, 0) 151 |
Fe ddylsa Dafis Ty Isha fod wedi cynnig mwy na chwe cheiniog am gyweirio'r hen fwced 'na. |
|
|
(1, 0) 154 |
O, Jenkins y Cipar! |
(1, 0) 155 |
Noswaith dda, Jenkins. |
|
(Dici) Noswaith dda, Mistar Jenkins. |
|
|
|
(Jenkins) Beth wyt ti'n wneud yma, Twm Tincer? |
(1, 0) 162 |
Ffrio stêc a winwns. |
|
|
(1, 0) 164 |
Winwns pwy? |
(1, 0) 165 |
Fy winwns i. |
(1, 0) 166 |
Winwns Dici. |
(1, 0) 167 |
Ein winwns ni! |
|
(Jenkins) Yn wir? |
|
|
|
(Jenkins) Yn wir? |
(1, 0) 169 |
Beth ych chi'n feddwl, Jenkins? |
(1, 0) 170 |
Beth ych chi'n awgrymu? |
|
(Jenkins) 'Dwy' i'n awgrymu dim. |
|
|
|
(Jenkins) Venerbey-Jones. |
(1, 0) 175 |
Pwy sy ar 'i hen dir e'? |
|
(Dici) Ia─pwy sy arno? |
|
|
|
(Dici) Ia─pwy sy arno? |
(1, 0) 177 |
Y ffordd fawr yw hon, ontefe? |
|
(Jenkins) Falle hynny. |
|
|
|
(Jenkins) A mae'r gêm sy arno yn perthyn i Mr. Venerbey-Jones. |
(1, 0) 181 |
Gall hynny fod. |
|
(Jenkins) Pob pysgodyn yn yr afon yma am filltir a hanner─Mr. Venerbey-Jones pia hwnnw. |
|
|
|
(Jenkins) Pob pysgodyn yn yr afon yma am filltir a hanner─Mr. Venerbey-Jones pia hwnnw. |
(1, 0) 183 |
Chi sy'n dweud hynny. |
|
(Jenkins) Ia; ac ar y stad yma, perthyn i Mr. Venerbey-Jones mae pob creadur asgellog, pluog a blewog. |
|
|
|
(Jenkins) Paid ti anghofio hynny. |
(1, 0) 186 |
Fe wn i beth sy'n bod, Jenkins. |
(1, 0) 187 |
Mae'ch meistr wedi bod yn achwyn nad oes gennych ddigon o blwc i wneud cipar da. |
|
(Jenkins) Beth? |
|
|
|
(Jenkins) Beth? |
(1, 0) 189 |
O!─rwy' i wedi clywed! |
(1, 0) 190 |
A dyma chi'n awr yn dechre dihuno ac yn dod i boeni dau dincer diwyd a gonest. |
|
(Jenkins) O, ia, par pert ych chi. |
|
|
(1, 0) 194 |
Sipsiwns? |
(1, 0) 195 |
Sipsiwns ddwedsoch chi? |
|
(Dici) Cwilydd iddo, Twm─a chitha'n Fethodist hefyd. |
|
|
|
(Jenkins) Ac am danat ti, Twm Tincer, dy le di yw'r 'jail'─a bydd yn bleser mawr gen i dy gael di yno. |
(1, 0) 201 |
Wnewch chi byth mo hynny, Jenkins; 'rych chi wedi treio'n galed am ugain mlynedd. |
|
(Jenkins) 'Rwy'n sicr o'ch cael chi un o'r dyddiau nesa' yma─y ddau o honoch chi. |
|
|
|
(Jenkins) A nawr, cyn i mi fynd adre', 'rwy' i am eich cael chi oddiar y stad yma. |
(1, 0) 204 |
'Rym ninnau'n bwriadu symud oddiyma pryd y mynnwn ni, Jenkins, a dim eiliad cyn hynny. |
|
(Dici) Na, dim eiliad cyn hynny, Twm. |
|
|
|
(Dici) Na, dim eiliad cyn hynny, Twm. |
(1, 0) 206 |
'Rwy'i bron â chredu mai chi ddylai 'i chychwyn hi, Jenkins, rhag ofn i mi golli gafael ar y badell ffrio 'ma. |
|
(Jenkins) Wel, cofiwch 'rwy' i wedi rhoi rhybudd teg i chi. |
|
|
|
(Jenkins) Wel, cofiwch 'rwy' i wedi rhoi rhybudd teg i chi. |
(1, 0) 208 |
Diolch i chi am ddim, Jenkins. |
(1, 0) 209 |
Noswaith dda, a melys bo'ch hun. |
|
(Jenkins) Yr hen dacle isel─rodneys─Yh! |
|
|
|
(Dici) Os oes na greadur mwy ffiaidd ar y ddaear 'ma na wenci, cipar yw hwnnw. |
(1, 0) 215 |
'Rym ni wedi addo samwn i Price─Jenkins neu beidio. |
|
(Dici) 'Roedd e'n dweyd 'i fod e'n mynd tua thre. |
|
|
|
(Dici) Mae'r lleuad yn mynd, Twm. |
(1, 0) 224 |
O'r gora, fe'i mentrwn hi. |
(1, 0) 225 |
Fe ddo' i â'r taclau mas eto. |
|
(Dici) {Yn symud ol a blaen yn gynhyrfus ac yn chwerthin yn llon.} |
|
|
(1, 0) 236 |
Dyma'r clwtyn, dyma'r pren a'r paraffin; gwna ffagal. |
|
(Dici) {Yn arllwys paraffin ar y clwtyn.} |
|
|
|
(Dici) Nawr am y paraffin. |
(1, 0) 240 |
Oes matches gen ti? |
|
(Dici) {Yn dangos blwch.} |
|
|
|
(Dici) Oes, digon. |
(1, 0) 243 |
O'r gora 'ta. |
|
(Dici) Ha, ha, ha! |
|
|
|
(Dici) O'r mawredd, Twm, baswn i'n siwr o dorri 'nghalon a marw. |
(1, 0) 254 |
Wel, machgen i, gobeithio 'rwy' i na fydd yr un o honom ni yn y jail cyn brecwast bore fory. |
|
|
(1, 0) 256 |
Dere mlaen. |
|
(Dici) {Yn troi'n chwim i'r dde.} |
|
|
|
(Dici) Mae rhywun arall yn dod nawr. |
(1, 0) 260 |
Darro'r bobol 'ma! |
(1, 0) 261 |
Chaiff dyn ddim llonydd i fynd ymlaen a'i waith. |
|
|
(1, 0) 263 |
Ble mae'r badell ffrio 'na? |
|
|
(1, 0) 265 |
Pwy sy 'na nawr, Dici? |
|
(Dici) {Yn gwrando.} |
|
|
|
(Dici) Diawch, Twm, ciwrat yw e'. |
(1, 0) 272 |
Ciwrat? |
|
(Dici) Ie, a het silk ar 'i ben e' a legins am 'i goese'. |
|
|
|
(Dici) Ie, a het silk ar 'i ben e' a legins am 'i goese'. |
(1, 0) 274 |
Ciwrat? |
(1, 0) 275 |
Yr amser hyn o'r nos? |
(1, 0) 276 |
Oes 'na ryw berigl tybed? |
(1, 0) 277 |
Eistedd lawr, Dici bach, a threia edrych fel petae'n ddydd Sul. |
|
(Esgob) Beth sydd yma? |
|
|
(1, 0) 290 |
Noswaith dda. |
|
(Dici) {Yn codi ei law at ei dalcen.} |
|
|
|
(Esgob) A fyddwch chwi cystal â dywedyd wrthyf os ydwyf rywle'n agos i'r Ficerdŷ? |
(1, 0) 294 |
Tŷ Mr. Owen Matthews ych chi'n feddwl? |
|
(Esgob) Nage. |
|
|
|
(Esgob) Mr. Lewis Pugh. |
(1, 0) 297 |
Pugh? |
(1, 0) 298 |
Ond mae fe'n byw yn y cwm arall. |
|
(Esgob) {Wedi arswydo.} |
|
|
(1, 0) 311 |
Ond oedd 'na neb yn cwrdd â chi, syr? |
|
(Esgob) Nac oedd. |
|
|
|
(Dici) Twm, falle y leiciai'r gwr bonheddig eiste' lawr? |
(1, 0) 318 |
Eisteddwch chi, syr, a chroeso. |
|
(Esgob) Diolch yn fawr iawn. |
|
|
|
(Esgob) O diar! |
(1, 0) 333 |
Wedi cerdded am ddwy awr a'r bag mawr trwm 'na? |
|
|
(1, 0) 335 |
Dici, rhaid iddo gael beth sy' ar ol o'r stêc a'r winwns 'na. |
|
(Dici) {Yn galonnog.} |
|
|
|
(Esgob) Na'n wir, 'charwn i ddim eich amddifadu chwi─ |
(1, 0) 340 |
Peidiwch a son, syr. |
(1, 0) 341 |
'Rym ni wedi cymryd ein swper ni. |
(1, 0) 342 |
Estyn y plat 'na, Dici. |
|
(Dici) Dyna fe, Twm, y grafi a chwbl. |
|
|
(1, 0) 356 |
Yh─Dici─ |
|
(Dici) Mae'n olreit, Twm. |
|
|
|
(Esgob) Ac yn awr, a gaf fi ofyn eich henwau chwi, fy nghymwynaswyr? |
(1, 0) 371 |
Wel, Twm Tincer mae' nhw 'ngalw i. |
|
(Dici) Dici Bach Dwl yw'r enw sy gennyn' nhw arno' i, syr. |
|
|
|
(Esgob) Wel, allaf i byth anghofio'r cwmni diddan yma ar fin y ffordd. |
(1, 0) 377 |
Fyswn i ddim yn dweyd wrth bawb, tawn i'n eich lle chi, syr. |
|
(Dici) Na. |
|
|
(1, 0) 383 |
Ynh─hym─ |
|
(Dici) Peidiwch bod ag ofn, Twm. |
|
|
|
(Dici) Ond gallwch chi weld wrth wyneb y gwr bonheddig fod 'i galon e' yn 'i lle. |
(1, 0) 386 |
I fod yn onest â chi, falle dylswn i ddweyd un peth wrthoch chi, syr. |
(1, 0) 387 |
Wnaiff hi ddim lles ichi, a chitha'n 'ffeirad, i neb eich gweld chi'n eistedd yma fel hyn gyda fi a Dici. |
|
(Esgob) Ond 'rwy'n mwynhau fy hun yma; fel hyn gyda chwi a Dici. |
|
|
|
(Dici) 'Rhoswch, chi, syr, 'rhoswch chi funud. |
(1, 0) 464 |
Ciwrat neu beidio, syr, wnaiff hi mo'r tro i chi wrando gormod ar Dici Bach Dwl. |
(1, 0) 465 |
Ar brydiau fe allai wneud eitha gang o botsiars o'r Deuddeg Apostol 'u hunain. |
|
(Dici) Ych chi'n leicio tipyn o sport, syr? |
|
|
(1, 0) 474 |
Dici, Dici! |
|
(Dici) Ond, Twm, 'dych chi ddim yn gweld? |
|
|
(1, 0) 545 |
Ond fe fu bron â'ch cael chi, syr. |
|
(Dici) Am fod yn garedig 'rown i. |
|
|
|
(Dici) 'Rhoswch funud syr, os ych chi'n leicio brithyllod. |
(1, 0) 553 |
Bachden digon teidi yw Dici, syr, ond wrth gwrs mae'n rhaid cyfaddef bod na dipyn bach o wendid yn 'i ben e'. |
|
(Esgob) Gwendid? |
|
|
|
(Esgob) 'Rydwyf yn ei hoffi'n fawr iawn, |
(1, 0) 558 |
Mae ofn yn 'i galon y caiff e' 'i ddal un o'r nosweithiau 'ma. |
(1, 0) 559 |
Mae' nhw'n son am 'i ddodi e' yn y wyrcws. |
|
|
(1, 0) 561 |
Wrth gwrs, syr, ar ol yr hyn mae fe wedi ddweyd wrthoch chi heno, 'r ych chi'n gwybod digon i'n dodi ni yn llaw'r polis. |
|
(Esgob) Nac ofnwch ddim, fy nghyfaill. |
|
|
|
(Esgob) Gwell─gwell i mi beidio. |
(1, 0) 573 |
'Dwyt ti ddim yn deall, Dici? |
(1, 0) 574 |
Mae'r gwr bonheddig yn yr Eglwys. |
(1, 0) 575 |
Der' a nhw i fi, Dici. |
(1, 0) 576 |
Fe wna' i o'r gora â nhw. |
|
|
|
(Esgob) Naddo, nid yn hollol felly. |
(1, 0) 586 |
Ficer, falle? |
|
(Esgob) Bum yn ficer hefyd. |
|
|
|
(Dici) Esgob? |
(1, 0) 593 |
Wel, ar fy─ |
|
(Esgob) {Yn frysiog.} |
|
|
|
(Esgob) Esgob Canolbarth Cymru. |
(1, 0) 597 |
Ond all Esgob ddim crwydro'r ffyrdd gefn nos fel dafad ar goll. |
(1, 0) 598 |
Pam na ewch chi i aros gyda Mr. Venerbey-Jones, syr? |
(1, 0) 599 |
Fe yw'r gwr mawr ffordd hyn. |
|
(Esgob) Venerbey-Jones? |
|
|
|
(Esgob) Diolch yn fawr i chwi am eich holl garedigrwydd. |
(1, 0) 604 |
O, peidiwch a son. |
(1, 0) 605 |
Cymrwch yr ail dro ar ol i chi groesi'r bont lawr fanna. |
|
(Esgob) Diolch. |
|
|
|
(Dici) Eich Anrhydedd? |
(1, 0) 620 |
Nage. |
(1, 0) 621 |
Mae' nhw'n dweyd hynny am faer cyffredin. |
|
(Dici) Fe wn i beth wy' i'n mynd i'w alw e'. |
|
|
|
(Dici) Fe wn i beth wy' i'n mynd i'w alw e'. |
(1, 0) 623 |
Beth? |
|
(Dici) Ei Fawredd Grasol. |
|
|
|
(Dici) Ei Fawredd Grasol. |
(1, 0) 625 |
'Dyw hynny ddim yn ffol, wir, Dici. |
|
(Dici) {Yn awyddus.} |
|
|
(1, 0) 629 |
Ie, dyma'r ffagal. |
|
|
(1, 0) 631 |
Beth yw'r swn 'na? |
|
(Dici) Dim ond Ei Fawredd Grasol. |
|
|
|
(Dici) Mae fe wedi tarfu'r asyn. |
(1, 0) 634 |
'Rwy'n gobeithio nad yw'r hen foi ddim wedi cwympo i'r afon. |
(1, 0) 635 |
Nawr te, Dici. |
|
(Dici) {Yn orfoleddus.} |
|
|
|
(Dici) O darro, Twm─fe leiciwn i ddawnsio bob cam o'r ffordd at yr afon. |
(1, 0) 642 |
Gan bwyll, boi bach, gan bwyll! |
(1, 0) 643 |
Dere mlaen. |
|
(Jenkins) {Yn sibrwd ac yn amneidio ar rywrai tuallan.} |
|
|
(1, 0) 788 |
Darro! |
|
(Dici) {Gyda gollyngdod.} |
|
|
|
(Dici) Twm? |
(1, 0) 799 |
Wel? |
|
(Dici) Mae Jenkins y Cipar draw fanna. |
|
|
|
(Dici) Mae Jenkins y Cipar draw fanna. |
(1, 0) 801 |
Jenkins? |
|
(Esgob) {Yn llidiog.} |
|
|
|
(Dici) Powel y Polis yw e'. |
(1, 0) 806 |
Mae rhywun tu cefn i mi hefyd, Dici─mae' nhw wedi cauad o'n cwmpas ni. |
|
(Dici) Gaf fi guddio'r samwn? |
|
|
(1, 0) 809 |
Na, paid. |
(1, 0) 810 |
Falle nag yn' nhw ddim wedi ei weld e' eto. |
|
(Dici) Beth wnawn ni? |
|
|
|
(Dici) Beth wnawn ni? |
(1, 0) 812 |
Wn i ddim. |
|
(Dici) Mae' nhw'n dod tuag yma. |
|
|
|
(Esgob) 'R ydwyf yn cashau y dyn yna. |
(1, 0) 816 |
Diawch, Dici. |
(1, 0) 817 |
Mae 'mhocedi i'n llawn o frithyllod hefyd. |
|
(Esgob) T-t-t! |
|
|
|
(Esgob) T-t-t! |
(1, 0) 819 |
Ia, a mae llythyr Price gen i yn rhywle. |
|
(Dici) Mae' nhw'n cauad arnom ni. |
|
|
|
(Dici) Mae' nhw'n cauad arnom ni. |
(1, 0) 821 |
Dyma jail i fi, a'r wyrcws i titha, Dici. |
|
(Dici) Y Wyrcws? |
|
|
|
(Esgob) Os bu i chwi droseddu â'ch dwylaw, pechais innau yn fy nghalon; felly waeth i mi orffen yr hyn a ddechreuais. |
(1, 0) 834 |
Beth ych chi am wneud? |
|
(Esgob) Dileu'r dystiolaeth. |
|
|
|
(Esgob) A'i ollwng dros y pysgodyn─fel hyn. |
(1, 0) 843 |
Ac wedyn? |
|
(Esgob) Ei lapio am y pysgodyn─fel hyn. |
|
|
(1, 0) 846 |
Dici! |
|
(Esgob) A dodi'r cyfan yn fy mag─fel hyn. |
|
|
(1, 0) 852 |
Dyma Jenkins. |
|
|
(1, 0) 854 |
Gwnawn, syr, fe ddown ni i'ch hebrwng chi i dy Mr. Lewis Pugh, gyda phleser. |
|
(Esgob) Dyma chwi eto, mi welaf. |
|
|
(1, 0) 859 |
Yn yr afon? |
|
(Jenkins) Ia─a gole gen ti. |
|
|
(1, 0) 863 |
'Nol het y gwr bonheddig yma o'r dwr. |
|
(Jenkins) Het? |
|
|
(1, 0) 908 |
Bydd ein pethau ni'n ddigon saff, Dici, nes i ni ddod 'nol. |
(1, 0) 909 |
A nawr, f' Arglwydd, fe fydd yr asyn yn y cart mewn wincad; ac yna, f' Arglwydd, fe rown ni lifft i chi dros y bryn i dŷ Mr. Lewis Pugh, f' Arglwydd. |
|
(Esgob) Diolch i chwi, Twm. |
|
|
|
(Dici) Noswaith dda, Mistar Jenkins. |
(1, 0) 917 |
Noswaith dda, Jenkins. |
(1, 0) 918 |
A chymrwch air o gyngor yn garedig gen i; 'rych chi'n un o'r rheiny sy'n codi'n rhy gynnar. |