Drama un-act

Adar o'r Unlliw (1928)

John Oswald Francis

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.



O safle'r gynulleidfa y rhoddir holl gyfarwyddiadau'r llwyfan.

Ar hyd ffrynt y llwyfan rhed ffordd wledig. Yn y cefndir y mae allt o goed wedi ymwisgo ag irddail haf. Rhwng yr allt a'r ffordd mae clawdd glas isel ac ynddo, oddeutu canol y llwyfan, adwy a llwybr yn arwain ohoni drwy'r allt i'r afon gerllaw. Gwelir goleu'r lleuad yn y coed ac ym mharthau pellaf y llwyfan.

Gerllaw'r adwy, ar fin y ffordd, y mae tân coed yn cynneu. O bobtu'r tân y mae bocs cyfleus i eistedd arno. O'r neilltu, mae bocs arall a ddefnyddir fel ystorfwrdd. Arno gorwedd tryblith o blatiau, cyllyll, ffyrc, dau gwpan tin, sypynnau o ddefnyddiau'r arlwy a llusern. Ar y llawr yn agos i'r tân mae llusern arall a phadell ffrio yn cynnwys stêc a winwyn. Teifl y tân a'r ddau lusern, ffrwd o oleuni ar y rhan hon o'r llwyfan.

Pan gwyd y llen, gwelir TWM TINCER yn eistedd ar y bocs ar y dde, yn bwyta ei swper o'r plat sydd ar ei lin. Dyn canol oed ydyw TWM, garw'r olwg arno a diraen ei wisg. Wrth ei weld yn syllu'n drist ar ei gwpan gwag, sylweddolir ar unwaith ei fod heb ddim i'w yfed. Sych ei blat a thusw o laswellt o'r clawdd a gloewa ef a darn o bapur. Yna tania ei bibell ac ymollwng i'w mwynhau.

Clywir DICI BACH DWL yn canu ar yr aswy.

Twm

Hylo, Dici!

Dici

(O'r tuallan.) Hylo, Twm!

Twm

Ydi'r cwrw gen ti?

Dici

Ydi, siwr.

Twm

Wel, brysia 'ta, machgen i, brysia!



Daw DICI BACH DWL i mewn o'r aswy yn cario torth o fara a jar galwyn. Llanc ifanc ydyw, ei wisg yn wladaidd a charpiog a chanddo hen het feddal am ben toreth o wallt anghryno. Dengys ei wyneb syn fod ei feddwl hytrach yn bwl. Er hynny nid oes ynddo ddim i beri atgasedd; i'r gwrthwyneb mae'n ennyn tosturi a thynerwch. Dic (Yn ffroeni.) Diawch, Twm, mae oglau hyfryd ar y stêc a'r winwns 'na.

Twm

Mae dy "shar" di yn y badell ffrio. Estyn y cwrw 'na i mi, Dici.



Gesyd DICI 'r dorth gyda'r pethau eraill ar y bocs ac estyn y jar i TWM. Mae yntau'n arllwys llond cwpan o'r cwrw ac yn ei yfed yn awchus. Mae DICI yn dal y badell ffrio wrth ben y tên gan fwynhau'r arogl.

Dici

A─! Hym! Hyfryd! Ych chi wedi gosod y "lines " nos, Twm?

Twm

Ydw. (Yn cyfeirio at gefn y llwyfan.) Mae' nhw wedi 'u clymu wrth fôn y pren helyg ymhen isa'r pwllyn.



Clywir ci yn cwyno'n isel ar y dde.

Dici

(Yn bryderus.) Mae'r ast fach yn anesmwyth iawn.

Twm

Ydi. Dodais hi yn y cart o'r golwg rhag ofn i Jenkins y Cipar neu Powel y Polis ddod heibio.

Dici

(Yn ei chysuro megis creadur rhesymol.) Gorwedd di yn dawel, Fflos fach. Bydd yn saffach ini. (Dechreua'r ast gyfarth yn llon wrth glywed ei lais.) Taw dy swn! (Distawa'r ast ar unwaith.) Ble mae'r asyn?

Twm

Mae e' wedi 'i rwymo lawr yna wrth y bont. Galw arno i gael gweld os yw e' yno.

Dici

(Yn galw.) Nedi!



Mae'r asyn yn nadu o'r dde.

Twm

Gwrando arno─ar 'ngair i─yn dy ateb di 'nol cystal ag unrhyw Gristion mewn trowsus. Y ffordd wyt ti'n gallu trafod creaduriaid─wel─mae tu hwnt i mi.

Dici

(Yn llwytho ei blat o'r badell ffrio.) Ia─a mae gen i eitha ffordd o drafod stêc a winwns hefyd.

Twm

"Hold on," Dici bach, cymer bwyll, 'machgen i. Gad dipyn ar ol yn y badell ffrio, da ti!

Dici

(Yn anfodlon.) Gadael peth?

Twm

Ia─rhag ofn. Ti wyddost yr enw sydd i ni fel potsiars. Wel, os digwydd i rywun busnesllyd ddod y ffordd hyn, yna fe fydd y badell ffrio ar y tân mewn wincad, (yn dynwared y weithred) a dyma ni, Twm Tincer a Dici Bach Dwl, yn batrwm o ddau dincer teidi yn cael tamad gonest o swper ar fin y ffordd.

Dici

(Yn amheus.) Wel─falle y byddai pobl yn barod i gredu hynny, falle─



Clywir swn rhegen yr yd o'r pellter ar yr aswy.

Twm

'D yw 'r hen regen yr yd 'na ddim yn gweld rhyw lawer yn y syniad chwaith, feddyliwn i. Welaist ti Price pan o't ti nol y cwrw?

Dici

Do. (Yn estyn nodyn iddo.) Gofynnodd i mi roi hwn i chi.

Twm

Ynghylch y samwn, debig. (Yn darllen wrth oleu un o'r llusernau.) "Castle Hotel, Pontewyn. Cyfrinachol. Annwyl Twm Tincer, Gair bach i ddweyd bod popeth wedi ei drefnu ar gyfer y luncheon mae Mr. Venerbey-Jones yn ei roi i'r offeiriadon sy'n dod yma yfory i agor ysgoldy newydd Eglwys Dewi Sant." (Yn ffyrnig.) Venerbey-Jones! Fe garwn i pe bai'r 'ffeiradon 'na'n rhoi luncheon iddo fe ac yn dechreu drwy arllwys dos dda o wenwyn llygod i lawr corn gwddw'r hen gythraul!

Dici

Clywch, clywch, Twm! 'Does gen i ddim ond ceiniog a dimai yn y byd─ond fe rown nhw'n galonnog am gael dal y botel wrth 'i ben e'.

Twm

(Yn parhau i ddarllen.) "Yma yn y Castle y bydd y wledd a chofia fy mod yn dibynnu arnat ti am y samwn ac y talaf ddeg ceiniog y pound am dano. Yn gywir, Robert Price."

Dici

Deg ceiniog y pound? Diawch Twm, dyna arian da!

Twm

(Yn dodi y llythyr yn ei boced.) Fe gadwa' i hwn rhag ofn iddo geisio gwadu'r pris. 'Rym ni wedi addo dal samwn iddo fe, Dici, ac fe gaiff un hefyd. Lawr 'na ym mhwllyn Venerbey-Jones (yn cyfeirio i'r cefn) mae samwns gora'r afon. Weli di, Dici, mae'r cymylau'n crynhoi. Ardderchog! Bydd yn ddigon tywyll i ni gyda hyn. Mae'r gwynt wedi troi i'r gorllewin.



Clywir si'r gwynt yn y coed.

Dici

Ydi wir. Glywch chi e'? Gwynt y gorllewin─hen wynt iawn am gario cymylau. Dere di â difon o gymylau gen ti, 'rhen wynt. Dyna dyna, gyrr nhw i fyny i sau llygaid yr hen leuad. Dere lawr at yr afon, Twm; alla' i ddim dal yn hwy.

Twm

Ia. Gwelli ni baratoi. Cladda dy swper, Dici.

Dici

(Yn gorffen ei swper.) 'Rwy'n 'i gladdu e', Twm. 'Rwy'i wedi 'i gladdu e'. Oes gennych chi ddefnydd ffagal?

Twm

Oes, fe guddiais i bopeth sydd eisieu tu cefn i'r clawdd 'ma. (Yn eu hestyn.) Pren, clwtyn a pharaffin. (Yn codi tryfer.) A dyma'r dryfer.

Dici

(Yn clustfeinio.) Hist! (Mae'n gogwyddo ei ben i wrando.)

Twm

Beth glywi di?

Dici

Swn traed.

Twm

Ble?

Dici

(Yn cyfeirio i'r aswy.) Yn y coed. Jenkins y Cipar sy 'na, Twm.

Twm

Fe? Y mawredd annwyl! Gad i ni guddio rhain. (Cuddia'r taclau potsio.) Dwed wrth yr ast fach am fod yn dawel.

Dici

Reit. (Chwibana'n isel a rhybuddiol.)

Twm

Dici bach, 'r wyt ti'n gallu spotio cipar neu blisman filltir o ffordd. Ble felldith mae'r badell ffrio 'na? A! (Cwyd y badell ffrio ac eistedd i lawr gan ei dal wrth ben y tân.) Eistedd lawr, Dici, da ti, ac edrych mor ddiniwed ag y galli di. Maent yn eistedd yn dawel o bob tu'r tân gan ymddangos yn batrwm o ddiniweidrwydd,

Dici

(Yn sibrwd.) Dyma fe.

Twm

(Yn hyglyw.) Wyt, Dici, 'rwyt ti yn llygad dy le. Fe ddylsa Dafis Ty Isha fod wedi cynnig mwy na chwe cheiniog am gyweirio'r hen fwced 'na.



Daw JENKINS Y CIPAR i mewn o'r aswy─gwr talgryf, canol oed, wedi ymwisgo yn ol dull cyffredin dynîon o'r alwedigaeth honno.

Twm

(Yn ffugio syndod.) O, Jenkins y Cipar! Noswaith dda, Jenkins.

Dici

Noswaith dda, Mistar Jenkins. TwM (Yn serchog.) Cymryd tro bach ar ol swper?

Jenkins

'Dwy' i am ddim o'ch sebon chi 'ch dau. Beth wyt ti'n wneud yma, Twm Tincer?

Twm

Ffrio stêc a winwns. (Yn ffyrnig.) Winwns pwy? Fy winwns i. Winwns Dici. Ein winwns ni!

Jenkins

Yn wir?

Twm

Beth ych chi'n feddwl, Jenkins? Beth ych chi'n awgrymu?

Jenkins

'Dwy' i'n awgrymu dim. 'Rwy' i am ddweud beth sy gen i'n eitha plaen. 'Rwy' i am dy weld di, a'r Dici Bach Dwl 'ma, yn 'i chychwyn hi oddiar dir Mr. Venerbey-Jones.

Twm

Pwy sy ar 'i hen dir e'?

Dici

Ia─pwy sy arno?

Twm

Y ffordd fawr yw hon, ontefe?

Jenkins

Falle hynny. Ond mae'r tir o bobtu yn perthyn i Mr. Venerbey-Jones. A mae'r gêm sy arno yn perthyn i Mr. Venerbey-Jones.

Twm

Gall hynny fod.

Jenkins

Pob pysgodyn yn yr afon yma am filltir a hanner─Mr. Venerbey-Jones pia hwnnw.

Twm

Chi sy'n dweud hynny.

Jenkins

Ia; ac ar y stad yma, perthyn i Mr. Venerbey-Jones mae pob creadur asgellog, pluog a blewog. Paid ti anghofio hynny.

Twm

Fe wn i beth sy'n bod, Jenkins. Mae'ch meistr wedi bod yn achwyn nad oes gennych ddigon o blwc i wneud cipar da.

Jenkins

Beth?

Twm

O!─rwy' i wedi clywed! A dyma chi'n awr yn dechre dihuno ac yn dod i boeni dau dincer diwyd a gonest.

Jenkins

O, ia, par pert ych chi. 'Does gan y polis mo'r syniad lleia' am yr holl felldith ych chi'n gyflawni─yn cysgu yn y cart yna fel pac o sipsiwns.

Twm

(Wedi ei dramgwyddo.) Sipsiwns? Sipsiwns ddwedsoch chi?

Dici

Cwilydd iddo, Twm─a chitha'n Fethodist hefyd.

Jenkins

Yn y wyrcws y dylet ti fod, y llechgi bach.

Dici

Nage. Yfi y tu fewn i hen wal fawr─dim byth!

Jenkins

Ac am danat ti, Twm Tincer, dy le di yw'r 'jail'─a bydd yn bleser mawr gen i dy gael di yno.

Twm

Wnewch chi byth mo hynny, Jenkins; 'rych chi wedi treio'n galed am ugain mlynedd.

Jenkins

'Rwy'n sicr o'ch cael chi un o'r dyddiau nesa' yma─y ddau o honoch chi. A nawr, cyn i mi fynd adre', 'rwy' i am eich cael chi oddiar y stad yma.

Twm

'Rym ninnau'n bwriadu symud oddiyma pryd y mynnwn ni, Jenkins, a dim eiliad cyn hynny.

Dici

Na, dim eiliad cyn hynny, Twm.

Twm

'Rwy'i bron â chredu mai chi ddylai 'i chychwyn hi, Jenkins, rhag ofn i mi golli gafael ar y badell ffrio 'ma.

Jenkins

Wel, cofiwch 'rwy' i wedi rhoi rhybudd teg i chi.

Twm

Diolch i chi am ddim, Jenkins. Noswaith dda, a melys bo'ch hun.

Jenkins

Yr hen dacle isel─rodneys─Yh!



A ymaith ar yr aswy.

Dici

(Yn gwylio Jenkins yn mynd.) Ach yfi! Os oes na greadur mwy ffiaidd ar y ddaear 'ma na wenci, cipar yw hwnnw.

Twm

'Rym ni wedi addo samwn i Price─Jenkins neu beidio.

Dici

'Roedd e'n dweyd 'i fod e'n mynd tua thre. Sh! Ydi, mae e'n mynd 'nol drwy'r allt. Dewch mlaen, Twm. Nawr am dani. Alla' i ddim aros rhagor. Ych chi ddim yn teimlo'r afon yn eich tynnu chi, ia'n tynnu a thynnu? Mae'r lleuad yn mynd, Twm.

Twm

O'r gora, fe'i mentrwn hi. Fe ddo' i â'r taclau mas eto.



Daw a'r taclau potsio allan. Mae'r lleuad yn araf ddiflannu tu cefn i'r cymylau.

Dici

(Yn symud ol a blaen yn gynhyrfus ac yn chwerthin yn llon.) Ha, ha, ha! Noswaith dda i ti'r hen ddyn yn y lleuad. Ffarwel, chi'r ser bach gwynion! Ac os digwydd i chi bipo mas, 'rwy'n gobeithio na welwch chi ddim llai na samwn un pound ar bymtheg─ Ha, ha! Ho, ho!

Twm

(Yn estyn y taclau i Dici.) Dyma'r clwtyn, dyma'r pren a'r paraffin; gwna ffagal.



Mae TwM yn trin y dryfer, tra mae DICI yn rhwymo'r clwtyn am y pren.

Dici

(Yn arllwys paraffin ar y clwtyn.) Nawr am y paraffin.

Twm

Oes matches gen ti?

Dici

(Yn dangos blwch.) Oes, digon.

Twm

O'r gora 'ta.

Dici

Ha, ha, ha! Tryfer a ffagal unwaith eto─ O, dyna'r pryd 'rwy' i wrth modd. O darro, alla' i ddim dweyd wrthoch chi, Twm, ond mae fel pe bai llond 'nghalon i o adar bach yn canu. (Yn dawnsio ychydig.) Alla' i ddim bod yn llonydd─na alla' wir. (Yn ddisymwth yn tristhau.) Ond, Twm, mae'r son 'ma am fy nodi i yn y wyrcws yn fy nychryn i'n ofnadw. Tasa' nhw'n 'nodi i yn y wyrcws, Twm, a tasa rhywun yn dod ata' i ar noson fel hon a dweyd y gair "samwns "─dim ond yn dawel fach─ O'r mawredd, Twm, baswn i'n siwr o dorri 'nghalon a marw.

Twm

Wel, machgen i, gobeithio 'rwy' i na fydd yr un o honom ni yn y jail cyn brecwast bore fory. (Yn symud tuag at gefn y llwyfan.) Dere mlaen.

Dici

(Yn troi'n chwim i'r dde.) 'Rhoswch. Mae rhywun arall yn dod nawr.

Twm

Darro'r bobol 'ma! Chaiff dyn ddim llonydd i fynd ymlaen a'i waith. (Mae'n cuddio y taclau potsio unwaith eto.) Ble mae'r badell ffrio 'na? (Eistedd fel o'r blaen wrth y tân.) Pwy sy 'na nawr, Dici?

Dici

(Yn gwrando.) 'Dwy' i ddim yn nabod swn 'i droede'. Dyn diarth yw e'. (Syll i'r tywyllwch.) Dyma fe. Diawch, Twm, ciwrat yw e'.

Twm

Ciwrat?

Dici

Ie, a het silk ar 'i ben e' a legins am 'i goese'.

Twm

Ciwrat? Yr amser hyn o'r nos? Oes 'na ryw berigl tybed? Eistedd lawr, Dici bach, a threia edrych fel petae'n ddydd Sul.



Maent eto yn ymddangos fel dau dincer diniwed yn paratoi swper ar fin y ffordd. Fel peth priodol i'r amgylchiad, mae TWM yn dechreu mwmian emyn Cymreig heb fod yn rhyw sicr iawn o'r nodau. Mae DICI yn ymuno ag ef.

Daw ESGOB CANOLBARTH CYMRU i mewn ar y dde, yn cerdded yn lluddedig ac yn cario bag. Mae llwch y fordd ar ei wisg esgobyddol. Hen foneddwr hynaws ydyw'r ESGOB a chanddo wyneb serchog iawn. Saif am ennyd gan syllu drwy a thros ei spectol fel un byr iawn ei olwg.

Esgob

Beth sydd yma? A, diolch byth, dynion byw o'r diwedd! Noswaith dda i chwi, gyfeillion.

Twm

(Yn ddidaro.) Noswaith dda.

Dici

(Yn codi ei law at ei dalcen.) Noswaith dda, syr.

Esgob

A fyddwch chwi cystal â dywedyd wrthyf os ydwyf rywle'n agos i'r Ficerdŷ?

Twm

Tŷ Mr. Owen Matthews ych chi'n feddwl?

Esgob

Nage. Mr. Lewis Pugh.

Twm

Pugh? Ond mae fe'n byw yn y cwm arall.

Esgob

(Wedi arswydo.) Beth?

Dici

Ydi, syr─bedair milltir oddiyma.

Esgob

Pedair milltir? O diar, diar, diar! Alla' i byth mo'u cerdded nhw.

Dici

Colli'ch ffordd ddaru chi, syr?

Esgob

Ie siwr. Cyrhaeddais Bontewyn gyda'r tren olaf, ac yr wyf wedi bod yn crwydro am dros ddwy awr. (Yn sychu ei dalcen.) Rwyf wedi diffygio'n llwyr.

Twm

(Yn gosod y badell ffrio i lawr wrth weld bod yr Esgob yn hollol ddidwyll.) Ond oedd 'na neb yn cwrdd â chi, syr?

Esgob

Nac oedd. Y gwir yw, ysgrifennais at fy nghyfaill Pugh. (Gan dynnu llythyr o'i boced.) Ond 'rwyf newydd ddod o hyd i'r llythyr yn fy llogell.



Mae cyflwr YR ESGOB a'i diriondeb yn dechreu ennill serch TWM a DICI.

Dici

Twm, falle y leiciai'r gwr bonheddig eiste' lawr?

Twm

Eisteddwch chi, syr, a chroeso.

Esgob

Diolch yn fawr iawn. 'Rydwyf yn teimlo braidd yn lluddedig.

Dici

(Yn cynnig ei focs ei hun.) Dyma chi, syr. Cymrwch spel. Mae'ch traed chi'n siwr o fod wedi blino.



Eistedda'r ESGOB gydag ochenaid o ollyngdod.

Esgob

(Yn ffroeni.) Wel yn wir, mae yma, oes yn siwr─arogl hyfryd.

Dici

Y badell ffrio, syr─stêc a winwns.

Esgob

(Yn awchus.) Stêc a─ddywedsoch chi stêc a winwyn? (Yn ochneidio'n hiraethus.) O diar!

Twm

Wedi cerdded am ddwy awr a'r bag mawr trwm 'na? (Yn fawrfrydig ar unwaith.) Dici, rhaid iddo gael beth sy' ar ol o'r stêc a'r winwns 'na.

Dici

(Yn galonnog.) Rhaid, siwr iawn, Twm.

Esgob

(Yn protestio'n ffurfiol ond yn wanaidd.) Na'n wir, 'charwn i ddim eich amddifadu chwi─

Twm

Peidiwch a son, syr. 'Rym ni wedi cymryd ein swper ni. Estyn y plat 'na, Dici.



Mae Dici 'n dal plat a TwM yn arllwys arno gynnwys y badell ffrio.

Dici

Dyna fe, Twm, y grafi a chwbl. (Yn rhoi'r plat i'r Esgob.) Dyna chi, syr. Nawr, tafellan o fara.

Esgob

Diolch i chwi, diolch yn fawr i chwi. Yr ydych yn garedig dros ben. Y gwir yw 'rydwyf bron newynu. (Dechreua fwyta'n awchus.)

Dici

Leiciech chi ddiferyn o gwrw, syr?

Esgob

(Yn gwenu o foddhad.) Cwrw?

Twm

(O'r neilltu, heb fod yn sicr o ddaliadau'r Esgob ar gwestiwn dirwest.) Yh─Dici─

Dici

Mae'n olreit, Twm. Perthyn i'r Eglwys nid i'r capel mae'r gwr bonheddig. (Yn arllwys llond cwpan o gwrw.)

Esgob

Bid siwr! Y Fam Eglwys, syniadau eangach ac ysbryd mwy goddefgar. (Yn cymryd y cwpan gan Dici.) Diolch, fy machgen i. Wel, iechyd da i chwi!

Twm a Dici

Iechyd da, syr.

Esgob

(Yn llonni.) A! Hym─rhagorol! 'Rwyf yn ddyn newydd. Ac yn awr, a gaf fi ofyn eich henwau chwi, fy nghymwynaswyr?

Twm

Wel, Twm Tincer mae' nhw 'ngalw i.

Dici

Dici Bach Dwl yw'r enw sy gennyn' nhw arno' i, syr.

Esgob

Dici Bach D─? (Yn deall amnaid Twm at ei ben.) Yh, ie─felly! Wel, allaf i byth anghofio'r cwmni diddan yma ar fin y ffordd.

Twm

Fyswn i ddim yn dweyd wrth bawb, tawn i'n eich lle chi, syr.

Dici

Na. Chi'n gweld, syr, mae enw drwg i ni─rywsut.

Esgob

Enw drwg?

Dici

Ia, am botsio, syr.

Twm

(Yn ceisio ei rybuddio.) Ynh─hym─

Dici

Peidiwch bod ag ofn, Twm. Ond gallwch chi weld wrth wyneb y gwr bonheddig fod 'i galon e' yn 'i lle.

Twm

I fod yn onest â chi, falle dylswn i ddweyd un peth wrthoch chi, syr. Wnaiff hi ddim lles ichi, a chitha'n 'ffeirad, i neb eich gweld chi'n eistedd yma fel hyn gyda fi a Dici.

Esgob

Ond 'rwy'n mwynhau fy hun yma; fel hyn gyda chwi a Dici.

Dici

(Yn synedig.) Yn mwynhau, syr?

Esgob

Ydwyf. Rhaidi mi egluro i mi ddod ar fy union o Gynhadledd yn Llandrindod.

Dici

Beth mae' nhw'n wneud mewn c'nadledd, syr?

Esgob

(Gydag atgofion diflas.) Beth mae' nhw'n wneud 'machgen i? Gwneud areithiau, a rheiny'n faith iawn gan mwyaf. Dynion rhagorol, wrth gwrs, cwbl ddiargyhoedd, dynion ag y mae gennyf y parch dyfnaf iddynt. Ond yn awr, ar ol treulio pedwar diwrnod yn ddifwlch gyda'r saint, mae'n amheuthyn i gael eistedd fel hyn yn ymgomio â chwpwl o bechaduriaid. (Yn edrych oddiamgylch.) Wedi holl ffwdan y Gynhadledd, mae'n brofiad hyfryd i mi i fod yma, a dim ond tri ohonom wrth ein hunain.

Dici

Wrth ein hunain, syr? O, na, 'dym ni ddim wrth ein hunain.

Esgob

(Yn craffu yma ac acw.) Dim wrthym 'ein hunain? Ond─

Dici

Mae' nhw o'n cwmpas ni ym mhobman, syr, yn ein gwylio.

Esgob

Yn ein gwylio?

Dici

Ia, mae'r twllwch yn llawn o lygaid bach disglair.

Esgob

Llygaid yn y tywyllwch? Diar mi!

Dici

Mae 'na wningod wrth yr ugeiniau.

Esgob

(Yn dechreu teimlo diddordeb.) Ie, wrth gwrs,─y cwningod.

Dici

(Yn gwaeddi.) Hip. B-r-r-r! Ffwrdd a chi, 'r cwningod bach! (Yn chwerthin yn isel.) Ffwrdd a nhw, syr, bob un a'i gwt bach i fyny, yn rhedeg fel tae'n ddiwedd y byd arnyn' nhw. Clywir llwynog yn cyfarth yn y pellter ar yr aswy.

Esgob

Dyna gi.

Dici

Ci? Nage, cadno yw hwnna.

Esgob

Yn wir? Cadno?

Dici

Ia, yn snecio fel cysgod ar hyd godre'r allt, yn 'i gwneud hi am ffowls rhywun, siwr gen i.

Esgob

Llygaid yn y tywyllwch─ni feddyliais erioed o'r blaen am danynt. (Yn frwdfrydig.) Nid yn unig mae'n ddymunol yma ond mae─mae yma rywbeth cyfareddol hefyd.



Clywir rhegen yr yd.

Dici

Dyna'r hen regen 'r yd lawr 'na ar y gors. Dim ond iddi ddechreu arni o ddifri, dyn a wyr pryd gwnaiff hi dewi.

Esgob

Mae hynny yn fy atgofio i o Landrindod.

Dici

Ar y fron 'na 'rwy'n eitha siwr fod 'na gwpwl o ddraenogod yn chwilota o gwmpas; a fan hyn, yn y cae llafur mae'r gwichwrs bach.

Esgob

A phwy yw'r gwichwrs bach?

Dici

Y llygod, wrth gwrs. Dyna lle mae' nhw wrthi o hyd yn pigo 'u tamad bach. O, mae gen i olwg fawr ar y gwichwrs bach 'na. Rhyw bigo fy nhamad 'rwy' innau.



Clywir dylluan yn galw gerllaw.

Esgob

Fe wn i beth yw honna; dylluan.

Dici

Ia. (Yn gwaeddi ac yn curo ei ddwylo.) Look out, gwichwrs bach. Mae'r hen gwdihw ar eich ol chi. 'Rwy'n leicio rhoi notis iddyn' nhw, syr.

Esgob

Da machgen i! (Yn ei bryder, cura yntau ei ddwylo.) Tendiwch atoch.

Dici

Ach yfi, yr hen gwdihws na! 'Dyn' nhw damad gwell na Jenkins y Cipar a Powel y Polis.

Esgob

(Yn ymdeimlo a swyn ei amgylchoedd.) Y llygaid bach disglair yna yn gwylio! Mae'r syniad yn gafael mewn dyn.

Dici

(Yn nwyfus ac aiddgar.) Ha, ha, ha! 'R ych chitha'n 'i deimlo fe hefyd. Dyna ysbryd y nos, syr. Mae'r gwynt a'r twllwch yn cymryd gafael ynoch chi.

Esgob

(Braidd yn anesmwyth er ei fwynhad.) Wel, mae rhywbeth yn cymryd gafael ynof; mae hynny'n sicr.

Dici

Ha, ha! 'Rhoswch, chi, syr, 'rhoswch chi funud.

Twm

Ciwrat neu beidio, syr, wnaiff hi mo'r tro i chi wrando gormod ar Dici Bach Dwl. Ar brydiau fe allai wneud eitha gang o botsiars o'r Deuddeg Apostol 'u hunain.

Dici

Ych chi'n leicio tipyn o sport, syr?

Esgob

Sport? Wel, 'r oeddwn yn dipyn o athlete pan oeddwn yn Rhydychen.



Dynesa DICI at YR ESGOB. Mae ei symudiadau didrwst a chwimwth, ynddynt eu hunain, yn llawn cyfaredd. Mae'n fyw drwyddo gan angerdd ei ddyhead hoenus a lledradaidd ac y mae ei lais yn isel a hudolus.

Dici

Falle leiciech chi dipyn o sport yn yr afon heno?

Twm

(O'r neilltu, yn bryderus.) Dici, Dici!

Dici

Ond, Twm, 'dych chi ddim yn gweld? Mae e' bron â bod yn un o honom ni'n barod. Gwrandewch, syr. 'Rwy' i am ddweyd rhywbeth yn eich clust. (Yn sibrwd.) Mae Twm a finna'n mynd ar ol samwn heno.

Esgob

Samwn?

Dici

Ia, lawr 'na ym mhwllyn Venerbey-Jones. (Yn dangos y dryfer a'r ffagl.) Dyma'r taclau. (Yn cynnig y dryfer i'r Esgob.) Nawr, cymrwch chi'r dryfer.

Esgob

Ond, 'machgen i─

Deici

Dim ond esgus, syr. Cymrwch hi.

Esgob

(Yr hen Adda'n deffro ynddo pan afaela yn y dryfer.) Beth gaf fi wneud â hi?

Dici

Bwriwch ein bod ni'n mynd i mewn i'r dwr.

Esgob

(Wedi anghofio ei esgobaeth.) I mewn? Diar mi!

Dici

A dim ond y ffagal yn y twllwch a'r cysgodion mawr, mawr yn chware mic o'n cwmpas ni. A chitha'n disgwyl fel hyn─sh─mor ddistaw â'r marw. Ac yna─dyna'r samwn!

Esgob

Ie, dyna'r samwn.

Dici

Ciwrat neu beidio, meddyliwch am dano. Allwch chi ddim gweld 'i drwyn e'n tynnu at y gole?

Esgob

Ei drwyn─ie! Ac yna?

Dici

Yna dyna chi'n codi'r dryfer─(yn dangos sut)─yn araf a charcus fel hyn.

Esgob

(Yn ei ddynwared.) Fel hyn? Ie. Wel?

Dici

(Yn gostwng ei lais.) Dyna fe'n dod─yn nes ac yn nes. Welwch chi 'i gefn e'n fflachio yn ydwr? Dyna'r man─tu ol i'w ben e'. (Yn uchel.) Nawr! (Yn dangos.) Lawr â'r dryfer. Swish!

Esgob

(Yn ei ddynwared eto.) Swish!

Dici

(Yn dangos eto.) Ac yna, hwb, i fyny ag e' i'r lan.

Esgob

(Yn ei ddynwared.) I'r lan ag e' fel hyn?

Dici

O syr, dyna sport i chi! Sport, syr? Ia'n ddigon da i frenhinoedd y ddaear. Chi ddewch gyda ni?

Esgob

Myfi? Wel yn wir, efallai y─

Dici

Dewch, syr, dewch yn wir, dim ond i'n gweld ni wrthi.

Esgob

Wrth gwrs, pe bai dim ond i hynny─ie. Fel hyn y mae trin y dryfer, meddwch? (Yn ei thrafod.) Swish!



Clywir rhegen yr yd eto.

Esgob

(Yn tristhau'n sydyn.) A-─llais cydwybod a Llandrindod!

Dici

'Rych-chi'n dod gyda ni, syr, ond ych chi? 'R ych chi yn dod?

Esgob

Nac ydwyf, Dici, ddim ar un cyfrif. (Mae yn gollwng y dryfer o'i law.) Sut yn y byd gallwch chwi awgrymu peth o'r fath? Ac i offeiriad o bawb.

Twm

(Yn ddiduedd.) Ond fe fu bron â'ch cael chi, syr.

Dici

Am fod yn garedig 'rown i. Os na ddewch chi ar ol samwn, syr, wel, falle'ch bod chi'n leicio pryd bach o frithyllod?

Esgob

Brithyllod? Ie, maent yn chwaethus iawn i frecwast.

Dici

Twm, y "lines" nos 'na─wrth fon y pren helyg ddwedsoch chi ynte? 'Rhoswch funud syr, os ych chi'n leicio brithyllod.



Brysia trwy'r coed yn y cefn.

Twm

Bachden digon teidi yw Dici, syr, ond wrth gwrs mae'n rhaid cyfaddef bod na dipyn bach o wendid yn 'i ben e'.

Esgob

Gwendid? A phwy o honom a all ymffrostio ei fod yn deall holl ffyrdd Rhagluniaeth? Druan o Dici! 'Rydwyf yn ei hoffi'n fawr iawn,

Twm

Mae ofn yn 'i galon y caiff e' 'i ddal un o'r nosweithiau 'ma. Mae' nhw'n son am 'i ddodi e' yn y wyrcws. (Yn petruso ac yn anesmwyth.) Wrth gwrs, syr, ar ol yr hyn mae fe wedi ddweyd wrthoch chi heno, 'r ych chi'n gwybod digon i'n dodi ni yn llaw'r polis.

Esgob

Nac ofnwch ddim, fy nghyfaill. Gwn ddigon i wneud cymaint â hynny a phobl y buasech yn synnu clywed eu henwau.



Daw DICI yn ol yn cario nifer o frithyllod.

Dici

Dyma nhw, syr. 'Drychwch arnyn' nhw. Brithyllod bach hyfryd, syr─yn syth oddiar y bach. I chi mae' nhw, syr. Cymrwch nhw.

Esgob

'Rydwyf yn ofni mai lladrad yw hyn, Dici.

Dici

Chymrwch chi ddim o honyn' nhw, syr?

Esgob

Gwell─gwell i mi beidio.

Twm

'Dwyt ti ddim yn deall, Dici? Mae'r gwr bonheddig yn yr Eglwys. Der' a nhw i fi, Dici. Fe wna' i o'r gora â nhw. (Cymer y pysgod a rhydd hwy yn ei boced.)

Dici

Wnewch chi fadde i fi am 'u cynnig nhw, syr? 'Rown i'n meddwl falle na fysech chi ddim mor grefyddol ar noson waith. Ciwrat ych chi, syr, ontefe?

Esgob

Wel, fe fum yn giwrat unwaith.

Dici

Unwaith? (Yn llawn cydymdeimlad.) Gesoch chi'r sac, syr?

Esgob

Naddo, nid yn hollol felly.

Twm

Ficer, falle?

Esgob

Bum yn ficer hefyd.

Dici

Wel, beth ych chi nawr, syr?

Esgob

Ar hyn o bryd, yr wyf yn Esgob.

Twm a Dici

(Mewn braw.) Yh─Beth?

Dici

Esgob?

Twm

Wel, ar fy─

Esgob

(Yn frysiog.) H'm─ie. Esgob Canolbarth Cymru.

Twm

Ond all Esgob ddim crwydro'r ffyrdd gefn nos fel dafad ar goll. Pam na ewch chi i aros gyda Mr. Venerbey-Jones, syr? Fe yw'r gwr mawr ffordd hyn.

Esgob

Venerbey-Jones? Nid wyf yn ei hoffi─dyn o dymherau aflednais ydyw. Na, fe af fi ymlaen i'r Ficerdy at Mr. Lewis Pugh. Diolch yn fawr i chwi am eich holl garedigrwydd.

Twm

O, peidiwch a son. Cymrwch yr ail dro ar ol i chi groesi'r bont lawr fanna.

Esgob

Diolch. Wel, fy nghyfeillion. Nos da i chwi 'ch dau.

Twm a Dici

Noswaith dda, syr.



Dechreua'r Esgob symud ymaith gan gario ei fag.

Dici

A gofalwch beidio cwympo i'r afon, syr.

Esgob

Os oes yna afon ar y ffordd y gall dyn fynd iddi, 'rwyf yn bur debig o gael fy hun yn ei chanol hi. Nos da i chwi. Nos da.

Twm a Dici

Noswaith dda, syr.



A'r EsGOB ymaith ar y dde.

Dici

Mawredd, Twm, bydd gennym ni rywbeth i'w ddweyd wrthyn' nhw yn yr efail yfory. Beth yw'r enw sy genyn' nhw ar Esgob, Twm? Eich Anrhydedd?

Twm

Nage. Mae' nhw'n dweyd hynny am faer cyffredin.

Dici

Fe wn i beth wy' i'n mynd i'w alw e'.

Twm

Beth?

Dici

Ei Fawredd Grasol.

Twm

'Dyw hynny ddim yn ffol, wir, Dici.

Dici

(Yn awyddus.) A nawr, Twm, beth am y samwn 'na?

Twm

(Yn estyn y dryfer a'r ffagl ac yn rhoi'r ffagl i Dici.) Ie, dyma'r ffagal. (Yn edrych i'r dde.) Beth yw'r swn 'na?

Dici

Dim ond Ei Fawredd Grasol. Mae fe wedi tarfu'r asyn.

Twm

'Rwy'n gobeithio nad yw'r hen foi ddim wedi cwympo i'r afon. Nawr te, Dici.

Dici

(Yn orfoleddus.) Ha, ha, ha! Tryfer a ffagal a'r afon unwaith eto. (Yn dechreu llamu o lawenydd.) Ha, ha! O darro, Twm─fe leiciwn i ddawnsio bob cam o'r ffordd at yr afon.

Twm

Gan bwyll, boi bach, gan bwyll! Dere mlaen.



Ant ymaith rhwng y coed yn y cefn, a DICI yn chwerthin rhyngddo a'i hun. Erys y llwyfan yn wag am ychydig eiliadau. Daw JENKINS Y CIPAR i mewn o'r aswy yn llechwraidd.

Jenkins

(Yn sibrwd ac yn amneidio ar rywrai tuallan.) Hsh. Sefwch fanna 'ch pedwar. Peidiwch dod i'r golwg nes i mi chwibanu.

Llais

(O'r tuallan yn sibrwd.) Olreit, Jenkins.

Jenkins

(Yn dod ymlaen ac yn sylwi ar y pethau oddeutu'r tân.) A! (Yn dychwelyd i siarad a'i gyfeillion.) Mae' nhw'n bwriadu dod 'nol yma─a physgodyn neu gêm denyn' nhw, gallwch fentro, (Yn plygu ac yn edrych i'r dde.) Hsh! Pwy yw hwnna sydd ar yr heol? Mae e', ydi, mae e'n cario bag. Un o ffrindiau Twm Tincer─potsiar arall lled debig. Rwy'n mynd i drafod hwn fy hunan. Ewch yn ol o'r golwg.



Clywir murmur, yna mae distawrwydd. Mae JENKINS yn plygu'n isel ac yn symud yn y cysgod i fan cyfleus i ymosod ar y dyn sy'n agoshau.

Daw'r ESGOB i mewn o'r dde yn cario ei fag a rhai o'r dillad oedd ynddo. Mae golwg druenus arno─ei ddillad yn wlyb, ei goler yn llipa a brwnt, ei het wedi diflannu. Mae wedi tynnu ei got a charia hi ar ei fraich. Hefyd y mae wedi diosg ei "gaiters" ac ymddengys modfedd neu ddwy o'i "pants" uwchben ei socs glas hen ffasiwn.

Esgob

(Yn murmur wrth ddod i mewn.) Diar, diar, diar! (Yn uchel.) Esgusodwch fi. (Wrtho ei hun.) Wedi mynd!

Jenkins

(Ym ymosod arno.) Dyma fi wedi dy ddal, y dyhiryn!

Esgob

(Wedi ei synnu ac yn gollwng ei bethau.) O! (Yn ceisio ymryddhau.) Gollyngwch fi! Sut y meiddiwch chwi wneud y fath beth?

Jenkins

Dy ollwng, wir? (Yn gafael yn dynnach.) Ollynga' i ddim o dy sort di─y lleidr drwg!

Esgob

Drwg? Lleidr? Myfi? (Yn ceisio ymysgwyd o afael Jenhins.) Ni chlywais erioed y fath─

Jenkins

Bydd yn dawel. Wyt ti'n clywed?

Esgob

Na fyddaf i ddim yn dawel.

Jenkins

Wel ynte, mi wna' i ti. (Yn ei daro.) Nawr ynte!

Esgob

(Wedi colli ei dymer.) Dyrnod! Y Nefoedd fawr─fy nharo i! (Ymysgwyd o afael Jenhins ac yna wyneba ef a'i ddyrnau i fyny yn osgo boxer.) Peidiwch meddwl nad allaf i amddiffyn fy hun. Nid oes arnaf ofn yr un lleban haerllug, nac oes.

Jenkins

(Yn ceisio gafaelyd ynddo drachefn.) Rhaid iti─

Esgob

(Yn ei wthio ymaith.) A! fe leiciech, leiciech chi? (Yn ei daro ac yn ymladd ag ef gan dalu'n ol cystal ag a dderbyn.) Dyna! cymrwch hwnna, y "'blackguard," a hwnna eto. Peidiwch meddwl y gallwch fy nychryn i am mai offeiriad ydwyf.

Jenkins

(Yn gwaeddi mewn syndod.) Beth? (Yn tynnu yn ol.) Offeiriad? Ddwedsoch chi offeiriad?

Esgob

Ie, offeiriad. Oni welwch chwi? Na, efallai na allwch chwi ddim. Syrthiais i'r afon. Ond dewch, gwelwch fy ngholer.

Jenkins

Ia,─coler offeiriad; a'ch ffordd chi o siarad hefyd.

Esgob

A phwy ydych chwi sydd yn beiddio ymddwyn fel hyn? Beth yw eich enw?

Jenkins

Jenkins. Fi yw pen-cipar Mr. Venerbey-Jones.

Esgob

Pw! Hwnacw?

Jenkins

Ffeirad? Wel, wel, wel! (Heb ei lwyr argyhoeddi.) Ond beth yw'r olwg yma sydd arnoch chi?

Esgob

(Yn swta.) Yr olwg arnaf fi?

Jenkins

A'r amser hyn o'r nos hefyd?

Esgob

(Yn llwyr gashau Jenkins erbyn hyn.) Nid eich busnes chwi ydyw hynny, y dyn.

Jenkins

Falle nage. Wel, gwell i mi fynd. Mae'n ddrwg gen i, syr, i mi roi 'nwylo arnoch chi.

Esgob

(Dipyn yn ymffrostgar.) Cawsoch gystal ag a roddasoch, onid do?

Jenkins

Noswaith dda, syr.

Esgob

(Yn swta.) Nos da.



A JENKINS ymaith ar yr aswy. Mae'r ESGOB yn ysgwyd y dwr o'i got ac yn ei gwisgo. Gesyd ei gaiters wrth y tân i sychu. Egyr ei fag a thyn allan ei grys nos sydd yn wlyb iawn. Gwasg y dwr ohono a thaena'r dilledyn ar focs wrth y tân. Fel y mae effeithiau'r drochfa a'r sgarmes yn cilio, daw ei hynawsedd arferol i'r amlwg drachefn. Clywir si'r awel yn y coed ac y mae yntau yn gwrando gyda gwen foddhaus. Clywir dylluan gerllaw.

Esgob

(Yn curo ei ddwylo ac yn gwaeddi.) Tendiwch, y gwichwrs bach! (Yn gwenu ac yn murmur.) Druan o Dici! Ble mae─ (Yn troi yng nghyfeiriad y coed.) Ie, lled debig─yr afon. (Mae'n cofio swyn ymddiddan Dici.) Ffordd mae─ (Cwyd ei law fel pe'n trin y dryfer.) Swish! (Gwena ac yna ochneidia'n eiddigus.) A, wel! (Cwyd a cherdda yn ol a blaen yn anesmwyth, gan ymdrechu yn erbyn yr hudoliaeth ddinistriol.) Myfi? Na, na, na─NA! (Erys i syllu drwy'r coed.) Ond─dim ond eu gwylio. (Yn dynwared trin y dryfer eto.) Swish! Clywir swn rhegen yr yd. (Yn arswydo.) Na, na,─dim am foment!



Cerdda yn ol a blaen eto.

Daw DICI a TWM yn ol, DICI a samwn mawr yn ei law. Gan TWM mae'r dryfer a het yr ESGOB a gafodd yn yr afon. Am foment, nid ydynt yn canfod YR ESGOB, canys yn yr ymdrech i ennill y fuddugoliaeth arno ei hun, mae ef wedi cerdded i'r cysgod. Mae DICI yn agos i'r tân cyn i'r ESGOB sylweddoli eu bod wedi dychwelyd.

Esgob

(Yn llawen.) A!─fy het!

Dici

(Yn frawychus.) O! (Mae'n gollwng y samwn i lawr yn agos i'r tân.)

Twm

(Yn taflu'r dryfer o'r neilltu ar unwaith.) Darro!

Dici

(Gyda gollyngdod.) Dim ond Ei Fawredd Grasol sy 'ma, Twm.

Esgob

Mae'n flin gennyf aflonyddu arnoch chwi eto, ond syrthiais i'r afon. (Yn canfod y samwn.) Beth yw hwn, Dici? Pysgodyn arall?

Dici

(Yn gwenu ac yn berffaith esmwyth.) Wel, chi'n gweld, syr, 'rym ni wedi cael cynnig─ (Yn frawychus.) Twm?

Twm

Wel?

Dici

Mae Jenkins y Cipar draw fanna.

Twm

Jenkins?

Esgob

(Yn llidiog.) Y creadur yna yma eto?

Dici

A mae rhywun wrth y glwyd acw. Powel y Polis yw e'.

Twm

Mae rhywun tu cefn i mi hefyd, Dici─mae' nhw wedi cauad o'n cwmpas ni.

Dici

Gaf fi guddio'r samwn?

Twm

(Yn ei atal.) Na, paid. Falle nag yn' nhw ddim wedi ei weld e' eto.

Dici

Beth wnawn ni?

Twm

Wn i ddim.

Dici

Mae' nhw'n dod tuag yma. la─dyma Jenkins.

Esgob

'R ydwyf yn cashau y dyn yna.

Twm

Diawch, Dici. Mae 'mhocedi i'n llawn o frithyllod hefyd.

Esgob

T-t-t!

Twm

Ia, a mae llythyr Price gen i yn rhywle.

Dici

Mae' nhw'n cauad arnom ni.

Twm

Dyma jail i fi, a'r wyrcws i titha, Dici.

Dici

Y Wyrcws? O, na, na, na! (Wrth yr Esgob.) Allwch chi ddim ein helpu ni?

Esgob

Myfi?

Dici

O syr, meddyliwch am dana' i y tu fewn i'r hen wal fawr 'na.

Esgob

(Yn dod i benderfyniad.) Un foment. Y pysgodyn yma fydd y dystiolaeth yn eich erbyn?

Dici

Ia.

Esgob

(Yn mynd at y bocs yn agos i'r samwn.) Os bu i chwi droseddu â'ch dwylaw, pechais innau yn fy nghalon; felly waeth i mi orffen yr hyn a ddechreuais.

Twm

Beth ych chi am wneud?

Esgob

Dileu'r dystiolaeth. Yn awr ynte. Os eisteddaf i i lawr a chymryd fy nghrys nos─fel hyn. (Yn gwneud felly.)

Dici

Wel?

Esgob

A'i ddal o flaen y tân i sychu─fel hyn.

Dici

Wel?

Esgob

A'i ollwng dros y pysgodyn─fel hyn.

Twm

Ac wedyn?

Esgob

Ei lapio am y pysgodyn─fel hyn.

Twm

(Yn orfoleddus.) Dici!

Esgob

A dodi'r cyfan yn fy mag─fel hyn. (Mae'n cloi'r samwn a'i grys nos yn ei fag.)

Dici

Mae fe'n saff yn 'i fag e─wel tawn i byth o'r fan!

Esgob

Ni faidd yr un cipar chwilio bag esgob.

Twm

(Yn sibrwd.) Dyma Jenkins. (Yn hyglyw.) Gwnawn, syr, fe ddown ni i'ch hebrwng chi i dy Mr. Lewis Pugh, gyda phleser.



Daw JENKINS i mewn o'r aswy.

Esgob

Dyma chwi eto, mi welaf.

Jenkins

Beth oeddet ti'n wneud yn yr afon, gynne fach, Twm Tincer?

Twm

(Yn gyfyng arno am foment.) Yn yr afon?

Jenkins

Ia─a gole gen ti. Beth oeddet ti'n wneud?

Twm

(Yn dangos het yr Esgob.) 'Nol het y gwr bonheddig yma o'r dwr.

Jenkins

Het? (Wrth yr Esgob.) Gollsoch chi 'ch het?

Esgob

Collais fy het, mae hynny'n wir.

Jenkins

Paid ti a meddwl, Twm Tincer, y gelli di 'nhwyllo i â hen stori am het. (Wrth yr Esgob.) A 'rych chi'n ffrind i'r par yma wedi 'r cwbwl. Ia, ffeirad nêt ych chi, siwr o fod. (Yn codi ei law i'w enau i chwibanu.)

Esgob

Os chwibanwch chwi, bydd yn edifar gennych.

Jenkins

Yn edifar? Fydda' i 'n wir? A phwy ych chi, 's gwn i?

Dici

(Yn fawreddog.) Ei Fawredd Grasol, Esgob Canolbarth Cymru.

Jenkins

(Yn synnu.) Esgob?

Esgob

Yn hollol felly. Os ydych yn ameu hynny, gadewch imi weld os oes gennyf rywbeth yn fy llogell. (Yn tynnu dyrnaid o lythyrau o'i boced.) Edrychwch ar y rhai hyn. Maent wedi eu cyfeirio i mi.

Jenkins

(Yn darllen.) "Y Gwir Barchedig Arglwydd Esgob Canolbarth Cymru."

Dici

(O'r neilltu.) Mawredd, Twm─Arglwydd!

Jenkins

(Yn gorfod cydnabod hyn.) Ac yr ych chi 'n esgob, syr?

Esgob

(Yn cymryd y llythyrau yn ol.) 'R ydwyf yn adnabod eich meistr. Gyda llaw, gwahoddiad oddiwrtho i ginio yfory ydyw un o'r llythyrau hyn.

Dici

Beth? Ha, ha, ha! Twm, yn y Castle Hotel. Yn ol a glywa' i mae' nhw'n prynu samwn mawr erbyn y wledd. (Wrth Twm o'r neilltu ac yn edrych ar y bag.) Twm, ha, ha, ha! Y samwn!

Esgob

Mae'n ddiau gennyf, Dici, y carech chwi ennill swllt yn onest. A wnewch chwi gymryd gofal y bag yma i mi?

Dici

Gofalu? (Yn cydio yn y bag yn orfoleddus.) O gwna', fe ofala' i am y bag!

Twm

(Yn codi'r llusernau.) Bydd ein pethau ni'n ddigon saff, Dici, nes i ni ddod 'nol. A nawr, f' Arglwydd, fe fydd yr asyn yn y cart mewn wincad; ac yna, f' Arglwydd, fe rown ni lifft i chi dros y bryn i dŷ Mr. Lewis Pugh, f' Arglwydd.

Esgob

Diolch i chwi, Twm. (Yn oeraidd.) Nos da 'r cipar.

Jenkins

(Yn anfoddog, yn methu gwneud dim er ei fod yn parhau'n ddrwgdybus.) Noswaith dda.

Dici

(Gyda malais.) Noswaith dda, Mistar Jenkins.

Twm

Noswaith dda, Jenkins. A chymrwch air o gyngor yn garedig gen i; 'rych chi'n un o'r rheiny sy'n codi'n rhy gynnar.



Mae'n symud i'r dde.

Esgob

(Yn dilyn Twm.) Ydych, gyfaill, yn rhy gynnar, ydych, yn wir─yn rhy gynnar.



Clywir rhegen yr yd wrthi yn ddygn iawn.

Esgob

(Yn aros ac yn ysgwyd ei law i'w chyfeiriad.) A thithau'n rhy ddiweddar, aderyn glân─yn rhy ddiweddar!



A TWM, YR ESGOB a DICI allan ar y dde.

LLEN

Drama un-act