Glyndwr, Tywysog Cymru

Cue-sheet for Tywysog

(Oll) {Yn canu.}
 
(1, 2) 217 Rwy'n mawr obeithio nad yw De Grey wedi dylanwadu ar fy nhad yn erbyn Syr Owen de Glendore.
(Esgob) Mae gan eich Gras syniad uchel am Glyndwr?
 
(Esgob) Mae gan eich Gras syniad uchel am Glyndwr?
(1, 2) 219 I mi y patrwn yw o Farchog dewr a chywir.
(Esgob) Ai nid felly Arglwydd Grey?
 
(Esgob) Ai nid felly Arglwydd Grey?
(1, 2) 221 Na!
(1, 2) 222 Grey, rhyw gadnaw cyfrwys yw.
(1, 2) 223 Ust!
(1, 2) 224 Dacw de Glendore!
 
(1, 2) 227 Croesaw i Westminster, Syr Owen de Glendore!
(Glyndwr) {Yn moesgrymu.}
 
(1, 2) 232 Cymro tlawd aie?
(1, 2) 233 Dywedir fod Glyndwr yn wr cyfoethog, a gwychder Sycharth yn rhagori ar eiddo Westminster!
(1, 2) 234 Pa beth a ddywed Iorwerth Llwyd?
 
(1, 2) 241 Ie!
(1, 2) 242 Anghofiais fod y cyfreithiwr Seisnig, mab Iarlles Lincoln, wedi ymgolli ym Mardd Teulu Sycharth.
(1, 2) 243 Ond pa beth a ddywedi di, pa un bynnag ai fel cyfreithiwr ai fel bardd, am dlodi'r Cymro hwn wrth ochr cyfoeth Llunden?
(Iolo) Ni thal i mi, eich Gras, ddweyd dim am wychder Llunden, ond am Sycharth gallaf ddweyd:
 
(1, 2) 251 Ie!
(1, 2) 252 Mi goeliaf mai lle i dorri syched sy bwysig i'r bardd!
(1, 2) 253 Gair yn eich clust, Syr Owen!
(Dafydd Gam) {Yn ffyrnig.}
 
(Glyndwr) Ond, p'run a fydd Glyndwr yn 'sglyfaeth iddo sy'n gwestiwn arall!
(1, 2) 297 Ie'n bwyllog, Arglwydd Grey!
(1, 2) 298 Mae parch i lys dy deyrn, heb son am glod Glyndwr fel un o brif farchogion dewra'i oes, yn gwahardd i ti ddweyd iddo gael ei alw yma i'w hela gennyt ti na'r un ci arall.
(Brenin) Fy mab!
 
(1, 2) 325 Fy Nhad!
(Brenin) {Yn ysgwyd llaw ei fab ymaith, yna'n eistedd.}
 
(Barnwr) Mae'n rhaid i lw y Sais orbwyso eiddo'r Cymro ymhob llys drwy'r wlad.
(1, 2) 349 Fy Arglwydd Frenin!
(1, 2) 350 Na foed i ni lychwino enw'n gwlad drwy bwyso ar lythyren cyfraith ffol, anghyfiawn, os yw honno'n bod.
(Barnwr) Mae hi yn bod ar lyfr deddfau Lloegr heddyw!
 
(Barnwr) Mae hi yn bod ar lyfr deddfau Lloegr heddyw!
(1, 2) 352 Wel, cywilydd i lyfr deddfau Lloegr, ynte, ddwedaf fi.