| (Venutius) Pa le mae byddin Rhufain wedi mynd? | |
| (Venutius) At swn y brwydro, ddyliwn i. | |
| (1, 1) 7 | Ond rhaid cael dau i frwydro! Dichon fod |
| (1, 1) 8 | Caradog, er ei ymffrost, wedi ffoi |
| (1, 1) 9 | Heb daro ergyd, a Cesar ar ei ol yn ymlid. |
| (Venutius) Na! Na! Nid Cradog fyddai Cradog felly! | |
| (Venutius) Dyheu wyf fìnnau am gael cym'ryd rhan. | |
| (1, 1) 16 | Gwell f'asai iti aros yn dy lys dy hun |
| (1, 1) 17 | Na theithio'n mhell i ymladd Rhufain gref. |
| (Venutius) Taw! Taw! Ynghwmni'r merched ddylet fod! | |
| (Venutius) Tyr'd! Brysia! Gad i ninnau gym'ryd rhan! {Yn cychwyn myned tua R 3.} | |
| (1, 1) 24 | Na! F'arglwydd! Aros! Gall gwŷr Cesar fod |
| (1, 1) 25 | O'n blaen! A beth wnawn ni ein dau yn erbyn llu? |
| (Venutius) {Yn troi ar Vellocatus.} Ai ofn sydd arnat, dwed? Y llwfryn gwael! | |
| (1, 1) 29 | Yr un dyn byw—ond ti, fy Arglwydd dewr. {Yn moesgrymu'n wasaidd.} |
| (Venutius) Paham yr oedi ynte, ddyn? | |
| (Venutius) Paham yr oedi ynte, ddyn? | |
| (1, 1) 31 | Wel, addaw wneuthum wrth dy wraig cyn dod |
| (1, 1) 32 | Na chaffet ruthro yn ddiraid i berygl. |
| (Venutius) {Yn sychlyd a gwawdlyd.} Ni welais arni gymaint arwydd ofn | |
| (1, 1) 42 | Da fyddai gennyf beidio'th weled mwy. |
| (1, 1) 43 | Mae gwên dy wraig, Aregwedd, yn fwy swyn |
| (1, 1) 44 | Na cholli'm gwaed dros Brydain na Venutius. {Yn rhodio ol a blaen.} |
| (1, 1) 45 | Pe caffai Rhufain fuddugoliaeth fawr, |
| (1, 1) 46 | Caradog ei orchfygu, Venutius ei ladd, |
| (1, 1) 47 | Cysurwn i Aregwedd. {Yn rhwbio ei ddwylaw mewn mwynhad.} Codai'm seren |
| (1, 1) 48 | Fry i'r entrych—a byddwn ben, nid gwas! |
| (1, 1) 50 | Daw'r rhyfel tuag yma! Ymguddio raid! |
| (Cesar) Gwaefì! A raid i Cesar ffoi! | |
| (Cesar) A'r gwarth ar Cesar daflwyd heddyw! | |
| (1, 1) 73 | Caradog yn fuddugol! Cesar ffodd! |
| (1, 1) 74 | Os delir ef, ffarwel i bob rhyw obaith |
| (1, 1) 75 | I'm gael bod yn rhywbeth gwell na chludydd arfau |
| (1, 1) 76 | I Venutius falch! Rhaid gwylio'r cyfle, |
| (1, 1) 77 | Troi'r erlidwyr ffwrdd o'r llwybr hwn {yn cyfeirio ei law y ffordd yr aeth Cesar} |
| (1, 1) 78 | Gymerwyd 'nawr gan Cesar! Ust! Venutius yw! |
| (Venutius) le, Cesar ydoedd! Ond pa ffordd yr aeth? {Edrych o gwmpas.} | |
| (Venutius) Ha! Dyma olion traed ryw ffoedigion! Dowch! {Cyfeirio a'i fys at ol traed, ac yn cychwyn tua L 3.} | |
| (1, 1) 83 | Ffordd yma yr aeth Cesar! {Cyfeirio ei gledd at L 1.} Nid yw'n mhell! |
| (1, 1) 84 | Dowch daliwn ef! |