a1, g1

Caradog (1904)

Beriah Gwynfe Evans

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 1

YR OLYGFA GYNTAF. GORCHFYGU CESAR.
Yr Olygfa,—Coedwig.
Swn brwydro i'w glywed. Llefau uchel. Cledd thariannau'n cyd-daro. Yna yn distewi. Venutius, Brenin y Brigantwys, a Vellocatus, ei gludydd arfau, yn dod i fewn—L 2.

Venutius
Pa le mae byddin Rhufain wedi mynd?
Dylasem erbyn hyn fod wedi dod
At swn y brwydro, ddyliwn i.

Vellocatus
Ond rhaid cael dau i frwydro! Dichon fod
Caradog, er ei ymffrost, wedi ffoi
Heb daro ergyd, a Cesar ar ei ol yn ymlid.

Venutius
Na! Na! Nid Cradog fyddai Cradog felly!
Mae brwydro iddo ef yn anadl ffroen!
Fel blysia baban yfed llaeth y fron
Dyhea Cradog gael bod gledd ynghledd
A'r balch Rufeiniwr sydd yn treisio Prydain!
Dyheu wyf fìnnau am gael cym'ryd rhan.

Vellocatus
Gwell f'asai iti aros yn dy lys dy hun
Na theithio'n mhell i ymladd Rhufain gref.

Venutius
Taw! Taw! Ynghwmni'r merched ddylet fod!
Nid maes y gwaed yw'r dewis fan i ti.
Gwell gennyt chwareu â merch nac ymladd dyn.


Swn y brwydro yn ail gychwyn.

Venutius
Clyw! (Yn codi ei law, a gwrando.) Dacw swn y brwydro, Vellocatus.
Tyr'd! Brysia! Gad i ninnau gym'ryd rhan! (Yn cychwyn myned tua R 3.)

Vellocatus
Na! F'arglwydd! Aros! Gall gwŷr Cesar fod
O'n blaen! A beth wnawn ni ein dau yn erbyn llu?

Venutius
(Yn troi ar Vellocatus.) Ai ofn sydd arnat, dwed? Y llwfryn gwael!
Pe gwypwn hynny rho'wn it' dynged llwfryn. (Yn tynnu ei gledd allan.)

Vellocatus
(Yn cilio yn ol.) Ni fu erioed ar Vellocatus ofn
Yr un dyn byw—ond ti, fy Arglwydd dewr. (Yn moesgrymu'n wasaidd.)

Venutius
Paham yr oedi ynte, ddyn?

Vellocatus
Wel, addaw wneuthum wrth dy wraig cyn dod
Na chaffet ruthro yn ddiraid i berygl.

Venutius
(Yn sychlyd a gwawdlyd.) Ni welais arni gymaint arwydd ofn
O'm plegid i o'r blaen!


Swn y brwydro'n cryfhau.

Venutius
Clyw swn y brwydro'r dyn! Gwŷr Prydain a
Gwŷr Rhufain gledd ynghledd!
Rhaid i Venutius gym'ryd rhan, a rhoi
Ei gledd o blaid ei wlad! (Yn tynnu allan ei gledd.) Hwre dros Brydain!


Rhuthra allan.—R 3.

Vellocatus
(Yn esgus ei ganlyn, yna yn troi yn ol.) Dos! Ffolddyn! Dos i Annwn ddofn, os mynni!
Da fyddai gennyf beidio'th weled mwy.
Mae gwên dy wraig, Aregwedd, yn fwy swyn
Na cholli'm gwaed dros Brydain na Venutius. (Yn rhodio ol a blaen.)
Pe caffai Rhufain fuddugoliaeth fawr,
Caradog ei orchfygu, Venutius ei ladd,
Cysurwn i Aregwedd. (Yn rhwbio ei ddwylaw mewn mwynhad.) Codai'm seren
Fry i'r entrych—a byddwn ben, nid gwas!


Swn y brwydro'n agoshau. Yntau'n gwrando.

Vellocatus
Daw'r rhyfel tuag yma! Ymguddio raid!


Yn ymguddio. Os bydd lle i ymguddio, megys ffug goeden tua Dd, ymguddied fan honno; os amgen yn y gongl Dg modd y gallo gilio allan drwy L3, a dod yn ol pan fydd eisieu. Nifer o Filwyr Rhufeinig yn dod i fewn—R 2, yn ffoi allan—L 1. Vellocatus yn edrych allan yn wyliadwrus o'i ymguddfan. Claudius Cesar a dau o'i fìlwyr yn ei gynorthwyo yn dod i fewn—R 3. Safant ennyd. Gallant sefyll fel hyn: Milwr 1, De; Cesar Dd; Milwr 2, Cc.

Cesar
Gwaefì! A raid i Cesar ffoi!

Milwr 1
(Ymafla yn mraich Cesar, gan ei dynu ymlaen, Milwr 1, Bf; Cesar Be; Milwr 2, Cd.) Rhaid! Rhaid! O Cesar! Neu'th garcharu gan
Caradog a'i Brydeinwyr milain, erch!

Milwr 2
Clywch eto swn y brwydro'n agoshau! (Yn codi ei law, troi ei ben yn ol, a gwrando.)


Swn y brwydro i'w glywed yn amlycach ac yn nes.

Cesar
Rhaid imi droi yn ol i gynorthwyo'm gwŷr. (Yn ysgwyd ei hun i rhydd.)
Os Cesar ffy, a'i fyddin mewn enbydrwydd,
Beth ddywed Rhufain, a beth ddwed y byd!
Dyledswydd Cesar ydyw marw gyda'r lleng. (Yn troi yn ol hyd Dc, Milwr 1 yn ei ddilyn.)

Milwr 1
Na! Na! (Yn ymaflyd yn mraich Cesar.) O Cesar, paid! Gall Rhufain fforddio'n rhwydd
I golli lleng o filwyr! Ond pe cai
Un Cesar ei garcharu, byddai clod
Ein Rhufain fawr dros byth dan warth!

Cesar
Gwir! Gwir! Ymladdwyr ffyrnig yw'r Prydeiniaid hyn.
Doethineb, ac nid gwarth, yw ffoi yn awr.

Milwr 2
Mae'n bryd! (Yn cyfeirio ei law tua R 3.) Can's agoshau mae'r gelyn eto!

Cesar
Wel, awn ynte! (Yn cychwyn hyd Be. Yna yn troi yn ol a'i wyneb tua R 2. Yn tynnu ei gledd a'i ysgwyd yn fygythiol) Ond myn y duwiau oll,
Myn einioes Cesar hefyd, fe ddaw'r dydd
Ca Prydain wylo gwaed am y sarhad
A'r gwarth ar Cesar daflwyd heddyw!


Y tri yn myned allan yn frysiog trwy L 3. Vellocatus yn dod i'r golwg ac yn edrych ar eu hol.

Vellocatus
Caradog yn fuddugol! Cesar ffodd!
Os delir ef, ffarwel i bob rhyw obaith
I'm gael bod yn rhywbeth gwell na chludydd arfau
I Venutius falch! Rhaid gwylio'r cyfle,
Troi'r erlidwyr ffwrdd o'r llwybr hwn (yn cyfeirio ei law y ffordd yr aeth Cesar)
Gymerwyd 'nawr gan Cesar! Ust! Venutius yw!


Yn ymguddio yn L 2. Venutius a Milwyr Prydeinig yn dod i fewn—R 2. Safant tua Cd.

Venutius
le, Cesar ydoedd! Ond pa ffordd yr aeth? (Edrych o gwmpas.)
Ha! Dyma olion traed ryw ffoedigion! Dowch! (Cyfeirio a'i fys at ol traed, ac yn cychwyn tua L 3.)


Vellocatus yn ymddangos yn L 1, yn chwifio eí gledd noeth.

Vellocatus
Ffordd yma yr aeth Cesar! (Cyfeirio ei gledd at L 1.) Nid yw'n mhell!
Dowch daliwn ef!

Venutius
A welaist ef! Hwre! Awn! Daliwn Cesar!


Ant allan ar ol Vellocatus trwy L 1. Milwyr Rhufeinig eraill yn dod $ fewn—R 3, gan edrych yn ddychrynedig wysg eu cefnau, a ffoi allan—L 2. Milwyr Prydeinig â'u cleddyfau noeth yn erlid yr un llwybr. Genwissa, Merch Cesar, yn dod i fewn—R 2, yn llesg a dychrynedig.

Genwissa
Och fì! Pa beth, pa beth a wnaf!
Fy nhad ar ffo—a llengoedd Rhufain fawr
Yn orchfygedig! Minnau—beth a wnaf!


Tra yn siarad, rhodia ol a blaen o Ca i Ag ac yna i Ed lle y syrthia. Yn yr ymddiddan wedyn saif Afarwy tua Cc a'i wyr tu ol iddo; saif Venutius tua Bf a'i wyr tu ol iddo yntau; bydd Genwissa felly o hyd yngolwg y gynulleidfa.

Genwissa
Ni feiddiaf ffoi y ffordd yr aeth fy nhad:
Anwaraidd lu sy'n erlyn ar ei ol!
Nis beiddiaf fyn'd yn ol—os aros wnaf
Daw'r gelyn ar fy ngwarthaf. O'r duwiau mawr!
O dacw hwynt yn dod!


Syrthia i'r ddaear mewn llewyg. _ Afarwy, Brawd Caradog, a Milwyr Prydeinig yn dod i fewn—R 2. Wunutios a'i gymdeithion yn dychwelyd—L 1. Yn cyfarfod.

Venutius a'i Filwyr
(Yn cyfarch Afarwy.) Afarwy D'wysog! Henffych!

Afarwy
(Yn cyfarch yn ol.) Ac iti, Venutius ddewr. Pa hanes sydd?


Genwissa yn dadebru; yn codi ei phen, a gwrando.

Venutius
Diangodd Cesar ar ein gwaethaf oll!
Mae bellach yn ei wersyll wrth y môr.

Genwissa
(Yn codi ar ei gliniau a phlethu ei dwylaw mewn diolch.) I'r duwiau y bo'r diolch!

Afarwy
Ha! Pwy yma sy'n ymguddio!


Yn troi, canfod Genwissa; mynd ati. Yna yn troi o'r neilldu mewn dychryn.

Afarwy
Y duwiau drugarhaont! Genwissa yw!
Rhaid imi ffugio fel na'm hadwaen i!


Yn troi yn ol at Genwissa; ymaflyd yn ei llaw, a'i chodi ar ei thraed, gan siarad yn swrth wrthi.

Afarwy
Wel! Dyma 'sglyfaeth ryfel, onide!

Genwissa
(Mewn llais crynedig ofnus.) Ai ti yw Pennaeth y Prydeinwyr hyn?

Afarwy
(Yn swrth iawn.) Ti ddwedaist. Felly 'rwyf. A thi?

Genwissa
Genwissa, merch i Cesar ydwyf fì.

Afarwy
(Yn ddirmygus.) Merch Cesar, ïe? Gwena'r duwiau arnaf!

Genwissa
(Yn ymbilgar.) Na wna i'm niwed! Pridwerth mawr a gei
Gan Cesar am i'w ferch gael mynd yn rhydd.

Afarwy
Cawn weled yn y man. (Yn troi oddiwrthi at Venutius.)
(Wrth Venutius:) Wel, gefnder mwyn,
Rwy'n diolch iti am yr hyn a wnest.
Caradog ga ro'i diolch gwell iti.

Venutius
Nid wyf yn crefu unrhyw ddiolch gwell
Na gwneud fy rhan dros ryddid Prydain gu.

Afarwy
A gwnaethost hynny heddyw'n ddewr fel cynt.
Urddasol gennad ddylai fyn'd ar frys
A'r newydd i Caradog ddarfod i
Ni heddyw daro llengoedd Cesar falch
Yn glîn a borddwyd. Yntau wedi ffoi.

Genwissa
Gwae fi! O dywell ddydd!

Afarwy
Fod Cesar yn ei wersyll yn ddiogel.

Genwissa
(Yn plethu ei dwylaw a chodi ei gwyneb tua'r nef.) I'r duwiau y bo'r diolch!

Venutius
(Yn sisial, wincio, a chyfeirio at Genwissa.) A'i ferch, y Dywysoges, yn garchares?

Afarwy
(Yn sisial nol, gan godi ei fys.) Na sonia air am dani!
(Wrth ei filwyr:) A chwithau, ewch yn ol tua gwersyll Prydain!


Venutius a'r Milwyr oll yn cyfarch Afarwy. Yna yn myned allan—R 1—dan ganu CAN Y MILWYR. Gwel y gerddoriaeth, hysbysiad ar yr amlen.

Venutius a'i Filwyr
Prydain sy'n rhydd!
Cesar ar ffo!
Cyrff Rhufain sydd
Yn llenwi'r fro!
Mawl Caradog seiniwn ni
Am orchfygu pob rhyw lu!

Afarwy
(wrth Genwissa) Bu'r duwiau'n dda i'th roddi di i mi!

Genwissa
(Yn syrthio ar ei gliniau, a phlethu dwylaw mewn ymbil.) O! dwg fi at fy nhad! Mae dychrynfeydd
Y goedwig hon, a'r brwydro gwaedlyd erch
Yn peri braw i'm calon wan... O! dwg fì at fy nhad!

Afarwy
'Rwyt ti'n anghofìo mai carchares wyt!

Genwissa
O! Bennaeth mwyn ——

Afarwy
Na ddwed y gair! Nid oes 'run pennaeth mwyn
Ymhlith penaethiad Prydain heddyw!
Mae gormes creulawn Rhufain wedi gwneud
I fwynder ffoi o galon pob Prydeiniwr!

Genwissa
(Yn codi.) Na! Na! Nid felly chwaith! Can's gwn fod un
Pe gallwn gyrraedd ato, fyddai'n fwyn imi! (Yn troi ymaith dan wylo.)

Afarwy
Yn fwyn i ti! Rufeines! Gelyn Prydain!

Genwissa
(Yn troi yn ol gan estyn allan ei dwylaw yn ymbilgar.) Ond ti wnei am bridwerth fy rhyddhau yn wir!

Afarwy
Na! Na wnaf byth! Rhy werthfawr wyt imi.

Genwissa
Cei bridwerth mawr os dygi fi yn ol
I freichiau'm tad!

Afarwy
Beth am fy mreichiau i? (Yn dal ei freichiau allan ati; hithau'n cilio'n ol.)
Yw Cesar yn gyfoethog? Mi yn fwy!
Rhy fach holl gyfoeth Rhufain i dy brynu di.

Genwissa
Yr adyn! Feiddi di fy nghadw i,
A minnau'n ferch i Cesar?

Afarwy
(Yn wawdlyd.) Merch Cesar, wir! Ychydig iawn o ofn
'Run Cesar sydd ym Mhrydain heddyw.

Genwissa
(Yn fygythiol.) Ond mae ym Mhrydain un a wna iti
Ofìdio it' erioed wneud cam â mi!

Afarwy
Pwy ydyw ef, atolwg?

Genwissa
Afarwy D'wysog, Brawd Caradog yw,
A chyfaill gynt imi yn Rhufain draw.

Afarwy
Afarwy? Twt! Nid wyf yn malio clec fy mawd (yn clecian ei fysedd)
Am dano ef! Rhyw goegyn llys, a llwfryn gwael——

Genwissa
(Yn torri ar ei draws, gan daro ei throed ar lawr.) Afarwy'n llwfr! Dewraf, urddasolaf un
O holl benaethiaid Prydain yw efe.
Ac O! (Yn troi ymaith dan wylo.) Na chawn ei weled 'nawr!

Afarwy
(Yn rhoi ei law ar ei hysgwydd.) Genwissa dlos! Mae'r duwiau da yn rhoi
Iti'th ddymuniad! Gwel! Edrych ar Afarwy. (Yn gwthio ei helm yn ol oddiar ei ben.)

Genwissa
(Yn troi i edrych yn ei wyneb.) Afarwy! Diolch fyth i'r duwiau da am hyn. (Yn hanner llewygu; yntau yn ei dal.)

Afarwy
A b'le, atolwg, oedd dy lygaid di
Na fuaset yn fy adwaen? Neu, a yw
Afarwy wedi mynd yn llwyr o'th gof?

Genwissa
(Yn pwyso ei phen ar ei fynwes.) O! Na! Afarwy! Na! Ti wyddost well! (Yn ymryddhau o'i freichiau gan nesu gam yn ol a throi ato.)
Nid anghof wyt, nac anghof fyddi chwaith!
Ond dychryn oedd yn dal fy nghalon wan,
A minnau'n ddall gan ofn!

Afarwy
A minnau'n anystyriol yn parhau
Dy ofn mor hir! O maddeu im'! (Yn estyn ei ddwylaw allan yn ymbilgar tuag ati; ymaflyd yn, a chusanu ei llaw.)

Genwissa
Gwna'r hyn a geisiaf gennyt, ynte.

Afarwy
(Yn plygu glin.) Gwnaf, hyd fy medd.

Genwissa
Atolwg, bydd ddifrifol ennyd fer.

Afarwy
(Yn codi ac ymddangos yn ffug-ddifrifol.) Ni fu'r un Derwydd ar Faen Llog erioed
Yn fwy difrifol nag yw Afarwy—bob amser.

Genwissa
(Yn chwerthin.) Ti ddwedaist! 'Run wyt o hyd, mi welaf.

Afarwy
Wel, ïe'n siwr! A fynnet imi fod yn rhywun arall?

Genwissa
Na ato'r duwiau! Er mae'n anhawdd dweyd
Beth ydwyt mewn gwirionedd!

Afarwy
A gaf fì ddweyd?

Genwissa
Wel, dwed, ynte.

Afarwy
(Plygu glin, ymaflyd yn ei llaw.) Ffyddlonaf, mwyaf ufydd was iti, Genwissa!

Genwissa
Beth, eto?

Afarwy
Eto? ïe, ac eto ddengwaith wed'yn!
Ddoe, heddyw, foru, eleni, a'r flwyddyn nesaf,
A phob ryw awr, a dydd, a blwydd o'm hoes!

Genwissa
(Yn troi ei gwyneb ymaith.) Pe gallwn gredu hyn!

Afarwy
(Codi; rhoi ei law ar ei hysgwydd.) Ti a'i gwyddost yn dy galon.


Troi yn ol, y ddau yn wynebu eu gilydd gan ymaflyd yn nwylaw eu gilydd.

Genwissa
Gwn; mi a'i gwn, neu mae fy nghalon ffol
Yn twyllo'm pen sy'n ffolach fyth.


Safant ennyd. Try Afarwy ei olwg draw. Genwissa yn edrych yn ddiysgog arno.

Genwissa
Wel?

Afarwy
(Yn codi ochenaid, ac yn troi yn ol ati.) Mae'r amser wedi dod imi dy ddwyn
Yn ol i wersyll Cesar.

Genwissa
(Yn edrych lawr.) A raid it' wneud?

Afarwy
Rhaid! Rhaid! Er mwyn anrhydedd Prydain rhaid im' wneud!

Genwissa
(Yn codi ei phen ac edrych yn ei lygaid.) A rhwydd yw gennyt fy rhoi 'nol i'm tad?

Afarwy
(Ymaflyd yn ei llaw.) Y weithred fwyaf anhawdd wnes erioed.

Genwissa
(Yn gwenu.) A'r iawn? Pa swm a geisi'n iawn gan Cesar?

Afarwy
(Yn taflu ei llaw ymaith a throi ffwrdd.) Dim darn o arian Cesar byth!

Genwissa
Mor ddiwerth felly yw merch Cesar gennyt ti.

Afarwy
(Yn troi'n ol.) Ti wyddost well! Er cyfoethoced Cesar,
Mor oludog Rhufain, nis gallai'r ddau yn un
Ro'i pris cyfartal im' am danat ti!

Genwissa
Ac eto'm rhoddi fyny wnei am ddim.

Afarwy
F'anrhydedd a'm gorfoda i wneud hyn.
Cha'r un Rhufeiniwr balch droi bys mewn gwawd
At frawd Caradog! Ond y rhyfel sydd
Yn gwneud im' dynnu cledd yn erbyn Cesar
A glodd fy nhafod rhag i hwnnw ddweyd
Yr hyn a leinw'm calon 'nawr a byth,
A'r peth na weddai im' ei ddweyd tra mi
Yn ymladd fel yr wyf, ac fel y gwnaf,
Yn erbyn Cesar. Tyr'd, Dywysoges fwyn.
Genwissa anwyl gynt—Merch Cesar 'nawr,
Dy arwain wnaf yn ol i law dy dad.
Merch Cesar farna 'rhyn ddymunwn ddweyd,
A'r hyn a ddywedaswn, ïe'n hyf
Ynghlust Genwissa, ac i'w chalon hi,
Pe na bae'r rhyfel yn ei chadw hi
Yngwersyll gelyn Prydain.

Genwissa
(Yn rhoi ei llaw ar ei fraich.) Afarwy! O! Afarwy! Mi a wn!
A'th barchu 'rwyf yn fwy am beidio dweyd
Yr hyn a hoffai'm calon it' i'w ddweyd!
Gweddiaf ar y duwiau am i'r dydd
Gael gwawrio'n fuan pan y gelli ddweyd
'Rhyn ddwed fy nghalon sy'n dy galon di,
A phan y gall fy nhafod innau ro'i heb sen
Yr ateb fynnai'm calon 'nawr ei ro'i!


Ymaflant yn nwylaw eu gilydd, safant ennyd gan syllu yngwyneb y naill y llall.

Afarwy
Wel, tyred! Awn i wersyll Cesar!


Ant allan—L 1. Llen yn syrthio.

a1, g1