Dwy Briodas Ann

Cue-sheet for Walter

(Lowri) Mae Syr John wedi gorffen cinio.
 
(Lowri) Mi fydd yma toc.
(1, 0) 8 Dyro'r te ar y bwrdd penfro o flaen y tân.
(1, 0) 9 Mae hi'n dechrau oeri.
(Lowri) Trueni nad oes dim meistres i'r tŷ yma a'r gaea eto o'n blaen ni.
 
(Lowri) Trueni nad oes dim meistres i'r tŷ yma a'r gaea eto o'n blaen ni.
(1, 0) 11 Pa wahaniaeth wnâi hynny?
(Lowri) Cael ambell ddawns a gwledd.
 
(Lowri) Mae un ohonyn nhw wedi setlo'n ddiweddar yn Llanfechell, wrth ymyl.
(1, 0) 15 Mi wn.
(1, 0) 16 John Elias.
(1, 0) 17 Mab i grefftwr.
(1, 0) 18 Wedi priodi merch i Mr. Broadhead.
(1, 0) 19 Codi'n arw yn y byd.
(Lowri) Pam gebyst na wnaiff y mistar briodi?
 
(Lowri) Pam gebyst na wnaiff y mistar briodi?
(1, 0) 21 Run fath â'i chwaer, Mrs. King?
(Lowri) Mae honno'n dawnsio bob nos yn Bath a'i phriod yn feistr y moesau.
 
(Lowri) Maen nhw'n byw mewn crandrwydd hoenus.
(1, 0) 24 Does arni hi ddim eisiau i'w brawd briodi.
(1, 0) 25 Pan fydd y miri yn Bath a Cheltenham drosodd, mi ddaw hi'n ôl yma yn feistres.
(1, 0) 26 Mi gawn ddawnsio wedyn...
(1, 0) 27 Pwy fu'n glanhau fan yma bore heddiw?
(Lowri) Nid fi.
 
(Lowri) Nid fi.
(1, 0) 29 Ann felly.
(1, 0) 30 Dywed wrth Ann am ddwad yma.
(Lowri) Welaist ti Ann yn dawnsio?
 
(Lowri) Welaist ti Ann yn dawnsio?
(1, 0) 32 Fedr hi?
(Lowri) Mae hi'n troi mor ystwyth â'r tylwyth teg.
 
(Lowri) Mae hi'n troi mor ystwyth â'r tylwyth teg.
(1, 0) 34 Welais i rioed mo'r tylwyth teg.
(Lowri) Paid â brolio anwiredd.
 
(Lowri) Paid â brolio anwiredd.
(1, 0) 36 Ar fy nhwca!
(Lowri) Naddo?...
 
(Lowri) Wel, sbia ar Ann.
(1, 0) 43 Ti fu'n tynnu llwch yma heddiw?
(Ann) Fi oedd i wneud, ond mi anfonodd Mrs. Roberts fi am neges i'r pentre cyn imi orffen.
 
(Ann) Fi oedd i wneud, ond mi anfonodd Mrs. Roberts fi am neges i'r pentre cyn imi orffen.
(1, 0) 45 Rhed dy fys ar hyd y sideboard yma?
(Ann) {Wedi gwneud a gwenu.}
 
(Ann) Dim ond y lle tân a'r llawr.
(1, 0) 51 Rhyw slemp o lanhau.
(Ann) Dydy hynny ddim yn deg, Mr. Walter.
 
(Ann) Mae'r forwyn fach at alwad pawb bob munud.
(1, 0) 55 Be wyt ti'n hornio, 'mechan i?
 
(1, 0) 60 ~
(1, 0) 61 "Gwen ei brest a gwen ei bronna,
(1, 0) 62 Gwen bob man a choch ei bocha".
(Ann) Cilia dy ddwylo, y sbachwr budr!
 
(Ann) Cilia dy ddwylo, y sbachwr budr!
(1, 0) 65 Y mwnci diawl, be haru ti?
(Ann) Chaiff neb holmyn fynd yn hy arna i, Dic Walter.
 
(Ann) Chaiff neb holmyn fynd yn hy arna i, Dic Walter.
(1, 0) 67 Mynd yn hy!
(1, 0) 68 Rwyt ti'n siarad fel pladres o wraig fonheddig.
(Ann) Mae gan forwyn fach ei pharch gystal â gwraig fonheddig.
 
(Ann) Mae gan forwyn fach ei pharch gystal â gwraig fonheddig.
(1, 0) 70 Cau dy hopran, y gnawes gipog, os dyna dy siort di.
(Ann) {Wedi tawelu.}
 
(Ann) Dyna fy siort i.
(1, 0) 74 O'r gorau, mae hi wedi cau arnat ti am le yma.
(1, 0) 75 Mi gei hel dy garcas a ffwrdd a thi bore fory nesa.
(Ann) Holics gwyllt, ie?
 
(Ann) Hawdd imi symud yno.
(1, 0) 80 Heb garictor?
(Ann) Mi ofynna i Mrs. Roberts am garictor.
 
(Ann) Hi ddaru 'nghyflogi i.
(1, 0) 83 Rwyt ti'n lartsh ar y naw, 'nglasan i.
(1, 0) 84 Pam na ofynni di i Syr John?
(Ann) A dweud wrtho pam rydw i'n mynd?
 
(Ann) A dweud wrtho pam rydw i'n mynd?
(1, 0) 86 Capten yn y llynges fu Syr John.
(1, 0) 87 Siawns na chei di gusan ganddo yntau.
(1, 0) 88 Roi di glewtan o ddiolch i Syr John?
(Ann) Nid rhyw glwpa bron torri ar ei draws eisiau cusan ydy Syr John.
 
(Ann) Nid rhyw glwpa bron torri ar ei draws eisiau cusan ydy Syr John.
(1, 0) 90 Pwy sy eisiau dy gusan di, y sili-ffrit?
(Ann) Chi, nid fi, ddwedodd Syr John.
 
(Ann) Chi, nid fi, ddwedodd Syr John.
(1, 0) 92 Rwyt ti'n mynd yn llond y tŷ.
(1, 0) 93 Dos, gloywa hi i'r gegin i olchi'r llestri.
(Ann) {Wedi chwerthin.}
 
(Ann) Mi fydde'r llestri wedi eu gorffen rwan heb i chi anfon amdana i a chael slap am eich gwendid.
(1, 0) 98 Mae'r te'n barod i chi syr.
(1, 0) 99 A gaf i dywallt?
(Syr John) Aros funud...
 
(Syr John) Pwy ydy hon?
(1, 0) 102 Y forwyn fach syr.
(1, 0) 103 Yn ei blwyddyn gynta...
 
(1, 0) 105 Dos, rwan.
(Syr John) Saf fan'na....
 
(Ann) Dowch, mae'ch te chi'n oeri, syr, a'r llestri heb eu golchi...
(1, 0) 247 Mae 'na ddyn yn y drws, syr, yn gofyn am eich gweld chi.
(Syr John) Gŵr bonheddig?
 
(Syr John) Gŵr bonheddig?
(1, 0) 249 Nage, syr.
(1, 0) 250 Methodist.
(Syr John) Clerigwr?
 
(Syr John) Clerigwr?
(1, 0) 252 O nage, syr.
(1, 0) 253 Siopwr, groser, ond ei fod o'n prygawthan pregethu hefyd.
(Syr John) Un o'r pentre?
 
(Syr John) Un o'r pentre?
(1, 0) 255 O Lanfechell.
(1, 0) 256 Dyn dwad, wedi priodi merch i Mr. Broadhead.
(Syr John) Hwnna?
 
(Syr John) Be sy arno'i eisiau?
(1, 0) 260 Gofyn am eich gweld chi.
(1, 0) 261 Ddwedodd o mo'i neges.
(Syr John) 'Tyrd a fo yma.
 
(Syr John) 'Tyrd a fo yma.
(1, 0) 264 John Elias, syr.