| (1, 0) 23 | O'r andras! |
| (1, 0) 24 | A oedd yn rhaid i ti ddod i mewn i'r ystafell hon a minnau wedi cael tipyn o lonyddwch am dro? |
| (Geinor) Oeddech chi'n breuddwydio? | |
| (Geinor) Oeddech chi'n breuddwydio? | |
| (1, 0) 26 | Nawr y cysgais i a dyna tithau... |
| (Geinor) Breuddwydio am y cornel clyd yna sydd yn y "Prince of Wales" yn Nhre-cyll. | |
| (Geinor) Breuddwydio am y cornel clyd yna sydd yn y "Prince of Wales" yn Nhre-cyll. | |
| (1, 0) 28 | E! |
| (1, 0) 29 | Beth ddwedaist ti? |
| (Geinor) A'r barmaid yna sy'n bowdwr a lipstic i gyd yn dod a pheth yfed i chi. | |
| (Geinor) A'r barmaid yna sy'n bowdwr a lipstic i gyd yn dod a pheth yfed i chi. | |
| (1, 0) 31 | Dwn i ddim am beth yr wyt ti'n siarad. |
| (Geinor) Ydych chi'n drwm eich clyw y pnawn yma. | |
| (Geinor) Am danoch chi'n llymeitian yn y "Prince... | |
| (1, 0) 35 | Geinor, Geinor, rwy'n dymuno arnat... |
| (Geinor) Rydw i wedi cael siom fawr ynoch chi, Nwncwl─fedrai i ddim dweud faint o siom. | |
| (Geinor) Rydw i wedi cael siom fawr ynoch chi, Nwncwl─fedrai i ddim dweud faint o siom. | |
| (1, 0) 37 | Celwydd yw'r cwbl, dim ond celwydd. |
| (1, 0) 38 | Pobl y lle yma'n llunio stori fy mod yn yfed oherwydd fy mod yn mynd i Dre-cyll ambell waith. |
| (Geinor) Wel, does dim gwahaniaeth gen i─fe ellwch droi i mewn i bob tafarn yn y lle o'm rhan i... | |
| (Geinor) {Symud at y ffenestr frensh.} | |
| (1, 0) 43 | Geinor, aros, aros ferch. |
| (Geinor) Beth sy'n bod? | |
| (1, 0) 46 | Ond dwyt ti ddim yn credu'r storïau yma am dy Nwncwl, wyt ti? |
| (Geinor) Fe fyddai'n anodd iawn gen i eu chredu onibai i mi eich gweld trwy ffenestr y "Prince of Wales" neithiwr â'm llygaid fy hun. | |
| (Geinor) Fe fyddai'n anodd iawn gen i eu chredu onibai i mi eich gweld trwy ffenestr y "Prince of Wales" neithiwr â'm llygaid fy hun. | |
| (1, 0) 48 | Fy ngweld i! |
| (1, 0) 49 | Doeddwn i ddim yn agos i'r lle neithiwr. |
| (Geinor) O! | |
| (Geinor) Dwedwch, ydy modryb yn yr ardd? | |
| (1, 0) 55 | Pa amser oedd hyn? |
| (Geinor) Beth? | |
| (Geinor) O, rywbryd rhwng chwech a saith. | |
| (1, 0) 59 | Ond, doeddwn i ddim yno, rwy'n ei ddweud wrthyt. |
| (Geinor) Dyna ddiwedd arni ynte. | |
| (Geinor) Dyna ddiwedd arni ynte. | |
| (1, 0) 61 | Wyt ti ddim yn fy nghredu? |
| (Geinor) Nac ydw, Nwncwl. | |
| (Geinor) Dim ond fi ac Arthur sy'n gwybod. | |
| (1, 0) 66 | Oedd crwt Mari'r Siop gyda thi? |
| (Geinor) Oedd. | |
| (Geinor) Oedd. | |
| (1, 0) 68 | Dyna ddiwedd arni, nawr. |
| (1, 0) 69 | Mae Mari yn sicr o ddweud wrth dy fodryb. |
| (Geinor) Na ofidiwch, Nwncwl bach, ni ddywed Arthur air wrth neb. | |
| (Geinor) Beth petai modryb wedi digwydd edrych i mewn drwy ffenestr y bar neithiwr. | |
| (1, 0) 74 | Paid, paid a dychmygu'r fath beth. |
| (Geinor) Wel, meddyliwch chi am hynny y tro nesaf y trowch i mewn yno. | |
| (Geinor) Fe fyddai'n ddigon o sioc i modryb ddod i wybod eich bod chi'n mynd i mewn i'r ""Prince of Wales" heblaw... | |
| (1, 0) 77 | Cadw di'r peth yn ddistaw, ac fe gofia i amdanat ti, Geinor. |
| (Geinor) Reit. | |
| (Geinor) Ble mae modryb? | |
| (1, 0) 82 | Mae hi a dy fodryb Jane wedi mynd i weld Ann, Tŷ-gwyn─fe aethant â thipyn o gawl a rhyw lintach o gig iddi. |
| (1, 0) 83 | Fe fyddai'n well gan Ann druan beidio â gweld eu hwynebau, ond y mae'n rhaid iddynt gael meddwl eu bod yn fenywod mawr yn y lle. |
| (Geinor) Ble mae'r Ianci? | |
| (Geinor) Ble mae'r Ianci? | |
| (1, 0) 85 | Ust. |
| (1, 0) 86 | Ddylet ti ddim galw hynna arno. |
| (1, 0) 87 | Dydy e ddim yn leicio'r enw Ianci. |
| (Geinor) O'r gorau. | |
| (Geinor) Ble mae Carnolyn R. Rees, Ysw., Chicago? | |
| (1, 0) 90 | Mae rhyw fusnes ymlaen ganddo yntau hefyd. |
| (1, 0) 91 | Ddwedodd e'r un gair amdano, ond mae rhyw haearn ganddo yn y tân y pnawn yma. |
| (Geinor) Wel, gobeithio y gall e wneud y lle hwn yn debycach i Chicago, beth bynnag. | |
| (Geinor) Mari Jones yn dweud bod Arthur wedi mynd am dro, chi yn cysgu yn nhraed eich sanau, Modryb Sara a Modryb Jane yn cario cawl ar hyd y lle, Carnolyn R. Rees yn meindio ei fusnes ei hun a neb yn barod i'm helpu i i dreulio'r pnawn braf yma. | |
| (1, 0) 94 | Ble mae Demetrius? |
| (1, 0) 95 | Ydy e ddim yn y golwg yn rhywle? |
| (1, 0) 96 | Fe dreuliai fe brynhawn yn dy gwmni gyda phleser. |
| (Geinor) Gwnâi, efallai, ond chaiff e mo'r cyfle. | |
| (Geinor) Gwnâi, efallai, ond chaiff e mo'r cyfle. | |
| (1, 0) 98 | Fe wnait wraig dda i bregethwr, Geinor─Mrs. Demetrius Jones! |
| (Geinor) Os ydych chi yn mynd i siarad felna, fe af innau i sôn am y "Prince of Wales." | |
| (Geinor) Os ydych chi yn mynd i siarad felna, fe af innau i sôn am y "Prince of Wales." | |
| (1, 0) 100 | Nawr, rwy'n begian arnat, Geinor. |
| (1, 0) 101 | |Rhaid| i ti beidio â |meddwl| amdano. |
| (1, 0) 102 | Mae clustiau gan y muriau. |
| (Geinor) Rhaid i chithau beidio â sôn am Demetrius bach hefyd. | |
| (Geinor) Rwy'n fodlon i chi fy mhryfocio am bopeth arall, ond nid amdano ef. | |
| (1, 0) 105 | Dydw i ddim am dy wneud yn wraig pregethwr os nad wyt ti am fod. |
| (Geinor) Dydw i ddim am fod, a dyna ddigon ar y pwnc yna. | |
| (Geinor) Mae'r cadoediad wed dechrau; ond i chi beidio â sôn am Demetrius fe gadwa innau oddi wrth bwnc y "barmaid." | |
| (1, 0) 109 | Diolch am hynny. |
| (Geinor) {Yn gweld drôr yn y ddesg ag allweddau ynddo] | |
| (Geinor) {Yn symud at y drôr.} | |
| (1, 0) 114 | Hei! |
| (1, 0) 116 | Hei! |
| (1, 0) 117 | Fy nrôr i ydy hwnna. |
| (1, 0) 118 | Aros. |
| (1, 0) 120 | Mae'n hercian i dynnu'r allweddau o'i dwylo gan gloi'r drôr ac yna yn codi'r droed sydd heb esgid gan dynnu tintac allan ohoni.} |
| (1, 0) 121 | Pwy ddiawl adawodd hon... |
| (Mrs. Morgan) Rydw i wedi dweud digon wrthych am beidio ag iwsio iaith felna. | |
| (1, 0) 129 | Iaith! |
| (1, 0) 130 | Fe fyddai unrhyw angel yn defnyddio'r un iaith petai e'n rhoi ei droed ar ben tintac. |
| (Mrs. Morgan) Beth oeddech chi'n ei wneud yn droednoeth? | |
| (Mrs. Morgan) Beth oeddech chi'n ei wneud yn droednoeth? | |
| (1, 0) 132 | Beth ydych chi'n peidio ag edrych ar ôl y tŷ yma'n iawn yn lle cario cawl ar hyd y pentre? |
| (1, 0) 133 | Colli tintacs ar hyd yr holl le gynnau! |
| (Mrs. Morgan) Does dim eisiau'r holl sŵn am rywbeth bach felna. | |
| (Mrs. Morgan) Does dim eisiau'r holl sŵn am rywbeth bach felna. | |
| (1, 0) 135 | Peth bach, ddwetsoch chi! |
| (1, 0) 136 | Mae blaen y tintac yna wedi mynd hanner modfedd i mewn i'n nhroed i. |
| (1, 0) 137 | Synnwn i fawr na aeth hi a thipyn o'r hosan i mewn gyda hi a dyna "blood-poisoning." |
| (1, 0) 138 | Ie, peth bach fydd e pan fydd fy nhroed i wedi chwyddo fel casgen. |
| (Mrs. Morgan) Tynnwch eich hosan. | |
| (Mrs. Morgan) Rwyt yn gwybod lle... | |
| (1, 0) 142 | Dydych chi ddim yn mynd i gael rhoi ïodin arno. |
| (1, 0) 143 | Beth gwell fyddwch chi? |
| (1, 0) 144 | Mae'r drwg hanner modfedd i mewn, a faint o les fydd ïodin ar y croen. |
| (Geinor) A gaf i ymofyn yr ïodin, modryb? | |
| (Geinor) A gaf i ymofyn yr ïodin, modryb? | |
| (1, 0) 146 | Na chei. |
| (1, 0) 147 | Does arna i ddim o'i eisiau. |
| (Mrs. Morgan) O'r gorau. | |
| (Mrs. Morgan) Walter, a fuoch chi yn Nhre-cyll, neithiwr? | |
| (1, 0) 158 | Fi! |
| (1, 0) 159 | Fi! |
| (1, 0) 160 | Yn Nhre-cyll! |
| (1, 0) 161 | Ni fuais i'n agos i'r lle. |
| (1, 0) 162 | Mae pwy bynnag a ddwedodd wrthych chi yn dweud celwydd. |
| (1, 0) 163 | Celwydd noeth! |
| (Mrs. Morgan) Ni ddwedodd neb wrthyf. | |
| (Mrs. Morgan) Gofyn oeddwn i? | |
| (1, 0) 166 | O, gofyn aie! |
| (1, 0) 167 | Wel, beth oedd pwynt y gofyn? |
| (Mrs. Morgan) Eisiau cael gwybod a welsoch chi Geinor yno. | |
| (Mrs. Morgan) Eisiau cael gwybod a welsoch chi Geinor yno. | |
| (1, 0) 169 | Na welais i ddim ohoni. |
| (1, 0) 170 | Sut gallwn i? |
| (1, 0) 171 | Doeddwn i ddim yno fy hunan. |
| (Mrs. Morgan) Fe glywais y pnawn yma bod Geinor yno gyda mab Mari Jones, y Siop. | |
| (Mrs. Morgan) Fe glywais y pnawn yma bod Geinor yno gyda mab Mari Jones, y Siop. | |
| (1, 0) 173 | Oedd. |
| (1, 0) 174 | Yr oedd hi hefyd. |
| (Mrs. Morgan) O! | |
| (Mrs. Morgan) Sut gwyddech chi? | |
| (1, 0) 177 | E! |
| (1, 0) 178 | O... y... fe'i gwelais yn cerdded ar hyd y ffordd tua Thre-cyll. |
| (Mrs. Morgan) Mae'n rhaid i ni roi stop ar y ffrenshibaeth yna. | |
| (Mrs. Morgan) Rhaid i ni ofalu na wêl Mr. Jones hi yng nghwmni mab Mari Jones neu dyna ddiwedd ar y cwbl. | |
| (1, 0) 181 | Diwedd ar beth? |
| (Mrs. Morgan) Diwedd ar y matsh rhyngddi a Mr. Jones. | |
| (1, 0) 184 | Sara, dydw i ddim yn mynd i'ch gadael chi a Jane i wneud i Geinor briodi Demetrius Jones na neb arall os nad yw hi am. |
| (Mrs. Morgan) Gadewch chi i fi a Jane edrych ar ôl Geinor. | |
| (Mrs. Morgan) Fe wna i yr hyn sydd orau er ei lles hi. | |
| (1, 0) 189 | A dydy fy marn i yn cyfri dim? |
| (Mrs. Morgan) Dim. | |
| (Mrs. Morgan) Ond y mae'n rhaid i chi ein helpu ni. | |
| (1, 0) 193 | O! rwy'n ddigon da i helpu, hefyd. |
| (Mrs. Morgan) Rydych chi'n cael mwy o berswâd arni na neb arall. | |
| (Mrs. Morgan) Fe wrendy arnoch chi lle na wrendy hi arna i na Jane. | |
| (1, 0) 196 | O, oes, y mae ganddi dipyn o olwg ar ei hen Nwncwl. |
| (Mrs. Morgan) Wel, ceisiwch ganddi fod yn neis i Mr. Jones pan fydd e'n galw a dwedwch wrthi nad yw hi damaid gwell o geisio cael mynd i Lundain i fod yn actres─na chaiff hi ddim─na fodlonwn i na Jane fyth i hynny. | |
| (1, 0) 200 | Ond beth gwell fydda i i ddweud hynny. |
| (1, 0) 201 | Mae'n gwybod yn iawn nad oes gen i ddim hawl ar yr arian. |
| (1, 0) 202 | Mae'r holl bentre yn gwybod. |
| (1, 0) 203 | Fi wedi safio a chrafu i grynhoi arian yn Llundain a chithau wedi mynnu'r hawl iddynt bob dimai. |
| (1, 0) 204 | Rwy'n sport y pentre. |
| (1, 0) 205 | Dallaf i ddim seinio siec fy hunan. |
| (Mrs. Morgan) Nawr, Walter, dydyn ni ddim yn mynd ar ôl hen stori felna eto. | |
| (Mrs. Morgan) Nawr, Walter, dydyn ni ddim yn mynd ar ôl hen stori felna eto. | |
| (1, 0) 207 | Digon hawdd i chi siarad. |
| (1, 0) 208 | Fi sy'n gorfod dioddef. |
| (1, 0) 209 | Fi sydd heb arian poced. |
| (1, 0) 210 | A'r cwbwl oherwydd i mi gael un anlwc a cholli deucant ar y "Stock Exchange." |
| (Mrs. Morgan) Does yna'r un pwrpas i sôn am y'peth... | |
| (Mrs. Morgan) Does yna'r un pwrpas i sôn am y'peth... | |
| (1, 0) 212 | Wyddoch chi nad oes gen i'r un geiniog yn fy mhoced nawr. |
| (1, 0) 213 | Dyn yn werth ei filoedd yn gorfod dibynnu ar haelioni ei wraig am arian poced! |
| (Mrs. Morgan) Os cewch chi berswâd ar Geinor fe godaf eich lwans i chweugain yr wythnos. | |
| (Mrs. Morgan) Os cewch chi berswâd ar Geinor fe godaf eich lwans i chweugain yr wythnos. | |
| (1, 0) 215 | Beth yw chweugain? |
| (Mrs. Morgan) Mae'n fwy na hanner coron. | |
| (Mrs. Morgan) Mae'n fwy na hanner coron. | |
| (1, 0) 217 | Hanner coron yr wythnos! |
| (1, 0) 218 | Dyna i gyd rwy'n ei gael. |
| (1, 0) 219 | Ac y mae Pensiwn Hen Bobol yn chweugain! |
| (Mrs. Morgan) Pwy sy'n talu am eich bwyd a'ch dillad? | |
| (Mrs. Morgan) Pwy sy'n talu am eich bwyd a'ch dillad? | |
| (1, 0) 221 | Pwy safiodd yr arian? |
| (1, 0) 222 | Dwedwch hynny. |
| (1, 0) 223 | Pwy fu'n slafio ac yn meddwl am ddim ond am reteiro am flynydde. |
| (1, 0) 224 | Ac i beth? |
| (1, 0) 225 | I dreio byw ar hanner coron yr wythnos. |
| (Mrs. Morgan) Y chi achosodd y cwbl. | |
| (Mrs. Morgan) Onibai am hynny buasech wedi colli'r cwbl. | |
| (1, 0) 229 | Ond feddyliais i erioed bod gen i wraig a fyddai mor annynol â rhoi dim ond hanner coron yr wythnos i mi. |
| (Mrs. Morgan) Rwy'n cynnig chweugain i chi os gwnewch chi'r hyn yr ydw i am. | |
| (Mrs. Morgan) Rwy'n cynnig chweugain i chi os gwnewch chi'r hyn yr ydw i am. | |
| (1, 0) 231 | Wna i ddim ohono dan bunt. |
| (Mrs. Morgan) O'r gorau, os gwnewch chi addo siarad â hi y pnawn yma. | |
| (Mrs. Morgan) O'r gorau, os gwnewch chi addo siarad â hi y pnawn yma. | |
| (1, 0) 233 | Pryd y mae'r codiad i ddechrau? |
| (Mrs. Morgan) Pan fydd Geinor wedi addo bod yn wraig i Mr. Jones. | |
| (Mrs. Morgan) Pan fydd Geinor wedi addo bod yn wraig i Mr. Jones. | |
| (1, 0) 235 | A beth os na wnaiff hi addo? |
| (Mrs. Morgan) Yna fe fydd yn rhaid i chi fyw ar eich hanner coron. | |
| (Geinor) Buwyd yn trafod y sefyllfa ariannol, do fe, Nwncwl? | |
| (1, 0) 247 | E! |
| (1, 0) 248 | Sut gwyddost ti? |
| (Geinor) O, fe glywais y geiriau "hanner coron yr wythnos" yn fflotio allan drwy'r ffenestr. | |
| (Geinor) O, fe glywais y geiriau "hanner coron yr wythnos" yn fflotio allan drwy'r ffenestr. | |
| (1, 0) 250 | Ydy pawb yn y pentre yn gwybod, Geinor? |
| (Geinor) Ydynt, bawb am wn i. | |
| (Geinor) Pam nad ewch chi ar streic, Nwncwl? | |
| (1, 0) 253 | Haws dweud na gwneud. |
| (1, 0) 254 | Fi wnaeth y cawl, weld di. |
| (Geinor) Ie, fe glywais; gamblo! | |
| (Geinor) Ie, fe glywais; gamblo! | |
| (1, 0) 256 | Roeddwn ar y pryd yn ofni na wellwn i ddim o'r dwymyn ac ar awr wan fe seiniais y weithred yn rhoi pob hawl ar yr arian i'th fodryb, a dyma fi, hanner coron yr wythnos. |
| (Geinor) Wel, fe allai fod yn swllt, oni allai? | |
| (Geinor) Byddai hynny yn fwy nag yr ydw i'n ei gael. | |
| (1, 0) 259 | Ond fe elli di wella pethau'n rhwydd. |
| (Geinor) O! | |
| (Geinor) Sut? | |
| (1, 0) 262 | Dwed di'r gair ac fe fyddi'n Mrs. Demetrius Jones cyn gynted ag y gellir cyhoeddi'r gostegion. |
| (Geinor) Does gennych chi ddim cof da, oes e, Nwncwl? | |
| (1, 0) 266 | Oni ddwedais i wrthyt ti am beidio â sôn... |
| (Geinor) Do, ac fe addawsoch chithau beidio â son am Demetrius bach, hefyd. | |
| (Geinor) Do, ac fe addawsoch chithau beidio â son am Demetrius bach, hefyd. | |
| (1, 0) 268 | Dy les di oedd gen i mewn golwg. |
| (Geinor) Ydych chwi yn dweud y gwir i gyd, Nwncwl? | |
| (Geinor) Ydych chwi yn dweud y gwir i gyd, Nwncwl? | |
| (1, 0) 270 | Wel, nac ydw, efallai ond... |
| (Geinor) Onid dilyn ordors o H.Q. ydych chi? | |
| (Geinor) Onid dilyn ordors o H.Q. ydych chi? | |
| (1, 0) 272 | Mae yn hen bryd i ti roi heibio'r syniad o fynd i Lundain. |
| (Geinor) Dyna un pwnc arall nad yw i gael ei drafod rhyngom. | |
| (Geinor) Dyna un pwnc arall nad yw i gael ei drafod rhyngom. | |
| (1, 0) 274 | Os ei ymlaen fel hyn, ni fydd gennym yr un pwnc i sôn amdano─bydd yn rhaid i ni fod yn fud yng nghwmni'n gilydd. |
| (Geinor) Fe allwn bob amser sôn am y cwestiwn mawr y lwans wythnosol. | |
| (Geinor) Meddyliwch beth fydd hynny yn ei olygu i chi yn lle ceisio fy mherswadio i aros yn y pentre hwn dan wab modryb a phriodi gwidman sydd wedi reteirio ar arian ei wraig gyntaf. | |
| (1, 0) 279 | Rwy'n gweld na fydda i damaid gwell o siarad â thi. |
| (Geinor) Dim un tamaid. | |
| (Geinor) Dim un tamaid. | |
| (1, 0) 281 | Rwyt wedi etifeddu penstiffrwydd dy fam ac elfen dy dad am actio. |
| (1, 0) 282 | Ond cofia, welodd e druan erioed mo'i enw mewn llythrennau llachar. |
| (1, 0) 283 | Digon tenau fu eu bywyd hwy a'th un dithau nes i ti ddod i fyw at dy fodryb Jane. |
| (Geinor) Nid arian yw'r cwbl, Nwncwl. | |
| (Geinor) Nid arian yw'r cwbl, Nwncwl. | |
| (1, 0) 285 | Nage, efallai. |
| (1, 0) 286 | Ond y mae arian yn llawer. |
| (1, 0) 287 | Petait yn gorfod byw ar hanner coron yr wythnos o arian poced... |
| (Geinor) Arian neu beidio, i Lundain i ddysgu bod yn actres yr wyf yn mynd beth bynnag a ddywed modryb a phawb arall. | |
| (Geinor) Arian neu beidio, i Lundain i ddysgu bod yn actres yr wyf yn mynd beth bynnag a ddywed modryb a phawb arall. | |
| (1, 0) 289 | Rwyt yr un ffunud â'th fam; rwy'n cofio fel petai ddoe am dy fodryb yn pregethu wrthi cyn iddi briodi─roedd y cwbl fel dŵr ar gefn hwyad. |
| (Geinor) Y peth sy'n fy ngwneud yn ynfyd yw bod Dcmetrius bach yn gwneud i modryb garu drosto. | |
| (Geinor) Buasech yn disgwyl bod gwidman fel efe, wedi cael profiad, yn gallu gwneud ei garu ei hunan. | |
| (1, 0) 292 | Fe wnâi ond i ti roi hanner cyfle iddo. |
| (Geinor) Rydw i wedi rhoi digon o gyfle iddo. | |
| (Geinor) Rwyf wedi cael digon ar ei garu ac am gyfle i roi stop arno am byth. | |
| (1, 0) 300 | Ust, gwrando. |
| (1, 0) 301 | Mae rhywun yn siarad â'th fodryb. |
| (1, 0) 302 | Pwy sydd yna? |
| (Geinor) {Yn mynd i'r ffenestr i edrych.} | |
| (Geinor) Dwedwch wrthyf i, rydw i wedi meddwl gofyn i chwi sawl gwaith, a fu rhywbeth rhwng Modryb Jane a'r Ianci cyn iddo fynd i'r America. | |
| (1, 0) 307 | Da thi, paid â'i alw wrth yr enw yna. |
| (Geinor) Beth alwaf i arno? | |
| (Geinor) Ond, dwedwch, a fu rhywbeth rhyngddynt? | |
| (1, 0) 311 | Roeddent yn dipyn o gyfeillion. |
| (Geinor) Wel, os yw e wedi dod yn ôl yma i'w hymofyn, mae'n rhaid i mi edrych i mewn i'w "gredentials." | |
| (Geinor) Mae Modryb Jane yn llawer rhy neis i briodi pob un sydd wedi gwneud arian yn America. | |
| (1, 0) 314 | Gwylia di dy gamre. |
| (1, 0) 315 | Nid dyn i chwarae ag ef yw Rhys. |
| (1, 0) 316 | Un gwyllt iawn oedd e cyn mynd i America. |
| (Geinor) A oedd e'n siarad ac yn bragio cymaint yr amser hwnnw? | |
| (Geinor) A oedd e'n siarad ac yn bragio cymaint yr amser hwnnw? | |
| (1, 0) 318 | Ddim cymaint efallai, ond ni ellid ei alw yn grwt distaw, diymhongar o bell ffordd. |
| (Geinor) Dwedwch, Nwncwl, beth achosodd i Modryb Sara i ofyn iddo aros yma? | |
| (Geinor) Dwedwch, Nwncwl, beth achosodd i Modryb Sara i ofyn iddo aros yma? | |
| (1, 0) 320 | Wel, roedd e'n eitha cyfeillgar â'i theulu hi pan oedd yn fachgen. |
| (1, 0) 321 | Ac, wrth gwrs, mae dy fodryb yn hoffi cwmni dynion ariannog. |
| (Geinor) Nid eisiau ei gadw yn weddol agos at Modryb Jane, ai e? | |
| (Geinor) Nid eisiau ei gadw yn weddol agos at Modryb Jane, ai e? | |
| (1, 0) 323 | Beth wn i? |
| (1, 0) 324 | Dydw i ddim yn gwybod ei chyfrinachau. |
| (1, 0) 325 | Gofyn iddi─dyma hi'n dod. |
| (Mrs. Morgan) {Wrth ddod î mewn.} | |
| (Geinor) Rockfeller, nid John Rockfeller. | |
| (1, 0) 352 | Bedyddiwyd ef yn Rhys Rees─yn America yn rhywle y cafodd e afael ar yr enw Carnolyn. |
| (Mrs. Morgan) Beth bynnag, mae'n fachgen sydd wedi gwneud yn dda iawn yno. | |
| (Mrs. Morgan) Chi'n gweld, mae e'n ddyn â digon o arian ac y mae amser ei hunan ganddo. | |
| (1, 0) 365 | Mae rhyw fusnes neu'i gilydd ymlaen ganddo y pnawn yma. |
| (1, 0) 366 | Fe wrthododd ddweud ble'r oedd yn mynd? |
| (Geinor) {Wrth y ffenestr.} | |
| (Rees) Rwyf wedi bod am dro ar hyd llwybrau ieuenctid. | |
| (1, 0) 378 | Dwed wrthyf i, Rhys, ydy hi yn arfer yn America i gario morthwyl yn lle ffon wrth gerdded? |
| (Rees) Na, na, ond yr ydw i wedi cerdded llawer â hwn yn fy llaw─hwn ddaeth â ffortiwn i mi. | |
| (Rees) Wel, efallai, pwy a ŵyr? | |
| (1, 0) 383 | Ond beth yw amcan y morthwyl? |