| (Mari) Hei! | |
| (Ifan) Efallai y byddai'n well i ti fynd; fe ddof i lawr i'r sgwâr cyn gynted ag y gallaf heb i Mari fy ngweld. | |
| (1, 0) 87 | 'Dydw i ddim ond am dy weld di am ddwy funud; rhaid i fi ddal y bus tri i Dreharri. |
| (1, 0) 88 | Ble mae Gwilym? |
| (Ifan) 'Wn i ddim; mae e'n arfer dod i mewn tua phedwar i gael ei de. | |
| (Ifan) 'Wn i ddim; mae e'n arfer dod i mewn tua phedwar i gael ei de. | |
| (1, 0) 90 | 'Wyt ti'n meddwl y gallwn i ei weld am bum munud cyn amser y bus? |
| (Ifan) Mae'n bosib ei fod yn yr offis fach yna sy' gan Hopkins yn y Billiard Hall, ond 'elli di byth a bod yn siŵr ble bydd e. | |
| (1, 0) 94 | 'Elli di gadw |secret|? |
| (1, 0) 95 | Fe'th dalaf yn dda ond i ti sgwaro Gwilym drosof. |
| (Ifan) Beth sy'n bod? | |
| (Ifan) Beth sy'n bod? | |
| (1, 0) 97 | Fe wyddost fy mod i wedi entro'r milgi am y |Silver Cup| yn Nhreharri nos yfory? |
| (Ifan) 'Rown i'n meddwl gofyn i ti a allwn i fentro rhoi swllt arno. | |
| (1, 0) 101 | Swllt! |
| (1, 0) 102 | Os galla i gael pethau fel rwy' am, fe elli fentro rhoi dy grys arno. |
| (1, 0) 103 | Dyna paham yr wyf am dy help di. |
| (Ifan) Beth alla i wneud? | |
| (Ifan) Beth alla i wneud? | |
| (1, 0) 105 | Mae'r ci yna sydd gan Harri Tycrwn wedi mynd yn gloff. |
| (1, 0) 106 | Nawr, dim ond y ci cythrel yna sydd gan Hopkins sydd arna i ofn. |
| (1, 0) 107 | Rhaid i Gwilym wneud yn siŵr na fydd hwnnw ar ei orau. |
| (1, 0) 108 | Fe ŵyr sut. |
| (1, 0) 109 | Ac yna fe elli di a minnau, a Gwilym o ran hynny, wneud ffortiwn yn olreit. |
| (Ifan) {Yn codi.} | |
| (Ifan) Ond 'wnaiff Gwilym ddim o hynny. | |
| (1, 0) 112 | Pam lai? |
| (1, 0) 113 | Mae Hopkins yn gwneud hynny'n aml, a Gwilym sy'n edrych ar ôl y cŵn iddo. |
| (Ifan) Rhaid i ti ei weld dy hunan. | |
| (Ifan) Ti wyddost dy fod yn torri'r gyfraith? | |
| (1, 0) 118 | Torri'r gyfraith i gythrel! |
| (1, 0) 119 | Nid dyma'r tro cynta i ti na minnau wneud arian wrth wneud hyn. |
| (1, 0) 120 | Faint o arian sy' gen ti wrth law? |
| (Ifan) Does gen i 'run geiniog nawr─'does gen i ddim digon i gael dybaco heddiw. | |
| (Ifan) Efallai y gallaf gael gafael ar hanner coron erbyn fory. | |
| (1, 0) 126 | Hanner coron! |
| (1, 0) 127 | Dyma dy gyfle di, fachgen─cyfle na weli di mo'i debyg eto─fe gei |6 to 1| yn erbyn fy nghi i hyd nes y daw'r hanes allan nad yw ci Harri yn treio. |
| (1, 0) 128 | A mae Harri wedi addo cadw'r peth yn ddistaw. |
| (1, 0) 129 | Mae yntau hefyd am wneud ceiniog. |
| (1, 0) 130 | Fe ddylit roi pum punt o leiaf. |
| (Ifan) Pum punt! | |
| (Ifan) Ble ar y ddaear hon wyt ti'n feddwl y gallaf ì gael gafael ar bunt, heb sôn am bum punt? | |
| (1, 0) 133 | Dy fusnes di yw hynny. |
| (1, 0) 134 | Os na fydd gen ti swm go lew ar fy nghi i cyn hanner dydd fory, 'rwyt ti'n fwy o blydi ffŵl nag a feddyliais ì erioed. |
| (Ifan) Ust! | |
| (Ifan) Fe glyw Mari. | |
| (1, 0) 138 | 'Rwy'n mynd. |
| (1, 0) 139 | Cofia, 'rwy'n dibynnu arnat ti i setlo Gwilym. |
| (1, 0) 140 | Dyna dy siâr di o'r fargen. |
| (Ifan) Ond beth os na wnaiff e? | |
| (Ifan) Ond beth os na wnaiff e? | |
| (1, 0) 142 | Wrth gwrs y gwnaiff e os gwêl e siawns i wneud arian. |
| (1, 0) 143 | Paid â bod mor ddwl─mae e wedi bod yn glerc i Hopkins am ddigon o amser i ddysgu'r gêm i gyd. |
| (1, 0) 145 | Mae e'n wahanol i ti. |
| (1, 0) 146 | Y peth sy'n rhyfedd amdanat ti yw bod dy wreiddiau di yn y capel o hyd─yn methu anghofio dy fod wedi dy fagu yn y Band of Hope a'r seiat─a ffat lot o les mae nhw wedi bod i ti. |
| (1, 0) 147 | 'Roedden nhw'n ddigon da tra oedd digon o waith yn y lle yma, ond faint o fara a chaws a chwrw gest ti allan ohonyn nhw wedi i ti fynd ar y dôl? |
| (Ifan) 'Dydw i ddim yn hoffi dy glywed di'n siarad fel yna, Wat. | |
| (Ifan) Wedi'r cwbl... | |
| (1, 0) 150 | Nagwyt, mi wn. |
| (1, 0) 151 | Wel, os yw'n well gen ti, gwaria dy arian ar gadw pregethwyr a ffeiradon neu'r bobl yna sydd ar hyd y lle yma yn ceisio gwneud beth mae nhw'n alw'n |Social Service|. |
| (1, 0) 152 | |Social Service|, myn uffern i! |
| (1, 0) 153 | 'Dyw'r bobl yna ddim yn gwybod beth yw bod yn |social|. |
| (1, 0) 154 | Mae'n well gen i gadw milgi. |
| (Mari) Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen yma? | |
| (Mari) Gellid meddwl bod yma ddechrau diwygiad wrth glywed yr holl bregethu. | |
| (1, 0) 158 | Dim ond taro i mewn i ddal pen rheswm â Ianto, Mrs. Hughes, a'r ddadl yn mynd dipyn yn boeth─dim byd o'i le, dim byd o'i le, Mrs. Hughes. |
| (Mari) Rhyw sgêm newydd neu'i gilydd sut i wneud arian! | |
| (Mari) Neu'n i tebyg sut i gael ffyliaid i golli arian, ac Ifan i fod yn un o'r ffyliaid. | |
| (1, 0) 161 | Os dilynith e fy nghyngor i... |
| (Mari) Os difynith e dy gyngor di, fe fydd arian y dôl i gyd ym moliau'r milgwn cyn i mi weld yr un ddimai ohonynt. | |
| (Gwilym) Dim ond dreifio Mrs, Hopkins i lawr... | |
| (1, 0) 177 | Y clerc yn actio fel |chauffeur|, ai e? |
| (1, 0) 178 | Ond cyn i ti fynd i newid, Gwilym, dere lawr yr hewl gen ì am funud. |
| (1, 0) 179 | 'Rwy'n gorfod dal y bus tri, a rwy' am dy weld di. |
| (Gwilym) 'Does gen i ddim amser nawr, Wat. | |
| (Mari) {Yn gwthio IFAN o'r stôl ac ail-ddechrau ar yr esgidiau.} | |
| (1, 0) 186 | Mae'n rhaid i mi dy weld nawr, Gwilym. |
| (1, 0) 187 | 'Wnaiff hi ddim o'r tro bore 'fory. |
| (1, 0) 188 | 'Fyddi di ddim munud, a 'fyddi di ddim ar dy golled. |
| (1, 0) 189 | Fe all dy feistres aros munud i ti. |