| (Gwyn) Gwell i chwi gydio yn îy mraich i, Simon Jones. | |
| (Simon) Gynneuaist ti y gole yn y festri? | |
| (0, 1) 103 | Do. |
| (0, 1) 104 | Dewch i mewn. |
| (Simon) Wel, be sy gennyt ti i ddweud, Wil bach? | |
| (Simon) Yr wyt yn ŵr da am glecs ynghylch y corau yma. | |
| (0, 1) 107 | Ma hi i fod off yma heno. |
| (0, 1) 108 | Ha! Ha! |
| (0, 1) 109 | Off yma heno. |
| (Simon) Be gest ti i feddwl hynny? | |
| (Simon) Pup, pup. | |
| (0, 1) 112 | Wel, mae Mari Isaac a Martha Jenkins wedi bod yn cerdded o un tŷ i'r llall drwy y dydd, a ma gwallt nhw yn sefyll ar wrych er ys amser. |
| (Simon) Be ti'n whalu, bachan? | |
| (Simon) Pup, pup. | |
| (0, 1) 116 | Mae Mari Isaac yn dweud os nad yw Telorydd yn cael arwain y Côr Cenedlaethol y bydd yma ddiain o row. |
| (Simon) Pup, pup. | |
| (Simon) Chlywais i erioed ffashwn beth. | |
| (0, 1) 119 | Martha Jenkins yn dweud os nad yw Shanko yn cael arwain y côr, y bydd "fireworks" yn y cyfarfod heno, |