| 1 | Pell ac agos yma dewch, |
| 2 | Hanes Pobun heddiw cewch; |
| 3 | Dowch ynghyd, dowch ynghyd, |
| 4 | Bawb i gyd, mae'n bryd, |
| 5 | mae'n bryd. |
| (Hlin) Y Prolog | |
| (Hlin) Y Prolog | |
| 7 | Gostegwch bawb yr ennyd hon |
| 8 | I wrando'r hyn a roir ger bron! |
| 9 | Rhyw fath ar chwarae moesol yw, |
| 10 | Sef "Galwad Pobun ger bron Duw," |
| 11 | Cewch weled drwyddo ar ei hyd |
| 12 | Y modd y byddwn yn y byd, |
| 13 | A'n hoedl a'n llafur am y sala; |
| 14 | Bydd glir y chwedl a theg ei gwala; |
| 15 | Ar ddull y chwarae, gwerth a fydd, |
| 16 | A thano hefyd llawer sydd |
| 17 | A'ch dwg i weled a chymhwyso |
| 18 | I chwi'r ddysgeidiaeth a gynhwyso. |