Macbeth

Ciw-restr ar gyfer Y Ddewines Gyntaf

 
(1, 1) 8 Pa bryd y down ni eto'n tair
(1, 1) 9 Ai mewn taranau, mellt a glaw?
(Yr Ail Ddewines) Pan ddarffo hwrli-bwrli'r ffair,
 
(Y Drydedd Ddewines) Cyn bod yr haul yn cilio draw.
(1, 1) 13 Ym mha lannerch?
(Yr Ail Ddewines) Ar y tyno.
 
(Y Drydedd Ddewines) Â Macbeth i gyfwrdd yno.
(1, 1) 16 Dyma fi, Lwyd Gath y Coed!
(Yr Ail Ddewines) Geilw'r Llyffant.
 
(Duncan) Y peth a gollodd ef, fe'i henillodd Macbeth urddasol.
(1, 3) 66 Palo y buost ti, chwaer?
(Yr Ail Ddewines) Yn lladd moch.
 
(Y Drydedd Ddewines) A thithau, chwaer?
(1, 3) 69 Gwraig morwr oedd a'i glin yn llawn o gnau,
(1, 3) 70 A hithau'n cnoi a chnoi, gofynnais "dyro beth;"
(1, 3) 71 "Dos ymaith, wrâch," medd hithau'r faeden lwth.
(1, 3) 72 I Aleppo'r aeth ei gŵr, yn feistr ar y Teigr;
(1, 3) 73 Ond yno hwyliaf gyda hoel,
(1, 3) 74 Ac wedyn, fel llygoden foel,
(1, 3) 75 Mi wnâf, mi wnâf ac mi wnâf.
(Yr Ail Ddewines) Codaf iti chwa.
 
(Yr Ail Ddewines) Codaf iti chwa.
(1, 3) 77 Dyna dda!
(Y Drydedd Ddewines) Ac i minnau un.
 
(Y Drydedd Ddewines) Ac i minnau un.
(1, 3) 79 Gennyf i mae'r llall fy hun,
(1, 3) 80 Chwythant ar y pyrth i gyd
(1, 3) 81 Gwyddant bob rhyw borth o'r byd
(1, 3) 82 Ar ei gwmpas oll y sydd.
(1, 3) 83 Bydd ef mor grin â'r gweiryn rhos,
(1, 3) 84 Ni ddaw cwsg na dydd na nos
(1, 3) 85 Ar ei amrant i roi saib,
(1, 3) 86 Dyn a roed fydd dan ei raib;
(1, 3) 87 Blin wythnosau, naw gwaith naw,
(1, 3) 88 Nychu bydd yn brudd mewn braw;
(1, 3) 89 Er nad eith ei long i lawr,
(1, 3) 90 Hyrddir gan y dymestl fawr,
(1, 3) 91 Gwelwch beth sy gennyf i.
(Yr Ail Ddewines) Dangos, dangos di!
 
(Yr Ail Ddewines) Dangos, dangos di!
(1, 3) 93 Bawd y gŵr y boddwyd ef
(1, 3) 94 Wrth ddychwelyd tua thref.
(Y Drydedd Ddewines) Tabwrdd, tabwrdd draw!
 
(Macbeth) Lleferwch, os medrwch, pa beth ydych chwi?
(1, 3) 114 Henffych, Macbeth!
(1, 3) 115 Henffych, Bendefig Glamis!
(Yr Ail Ddewines) Henffych, Macbeth!
 
(Banquo) Os gellwch chwilio hadau amser, a dywedyd pa ronyn a dyf a pha'r un ni thyf, lleferwch wrthyf innau, nad wyf yn deisyf nac yn ofni na'ch cariad na'ch cas.
(1, 3) 125 Henffych!
 
(Y Drydedd Ddewines) Henffych!
(1, 3) 129 Llai na Macbeth, a mwy.
(Yr Ail Ddewines) Nid mor hapus, eto llawer hapusach.
 
(Y Drydedd Ddewines) Fe genhedli di frenhinoedd, er ne bych frenin dy hun; felly, hanffoch well, Macbeth a Banquo.
(1, 3) 132 Banquo a Macbeth, hanffoch well!