|
|
|
(Negeswyr) Gosteg! |
|
|
|
(Harbona) Y Brenin mawr Ahasferus at y Tywysogion, y Rhaglawiaid a'r Llywodraethwyr sy dano ef ar saith ar hugain a chant o daleithiau o'r India hyd at Ethiopia. |
(1, 0) 12 |
Gosteg! |
|
(Harbona) Gan fy mod i, Ahasferus, yn Arglwydd ar genhedloedd lawer ac yn llywodraethu'r holl fyd, mi ewyllysiais lywodraethu'n addfwyn, a gosod fy neiliaid oll mewn bywyd llonydd, a rhoi heddwch hyd eithafoedd yr ymerodraeth. |

(1, 0) 14 |
Heddwch! |
|
(Harbona) Ond mynegodd Haman imi, Haman sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas, Haman ein prif weinidog a'n prif swyddog ni, sy'n rhagorol mewn doethineb a dianwadal ewyllys da─ |
|
|
|
(Harbona) Ond mynegodd Haman imi, Haman sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas, Haman ein prif weinidog a'n prif swyddog ni, sy'n rhagorol mewn doethineb a dianwadal ewyllys da─ |
(1, 0) 16 |
Haman! |
(1, 0) 17 |
Haman dda! |
(1, 0) 18 |
Haman yr Agagiad! |
|
(Harbona) Mynegodd Haman fod cenedl atgas wedi ymgymysgu â holl lwythau'r byd, cenedl sy'n wrthwynebus ei chyfraith i bob cenedl arall, cenedl sy'n torri'n wastad ein gorchymyn brenhinol ni, fel na all undeb ein teyrnasoedd ni ddim sefyll. |

(1, 0) 20 |
Brad! |
(1, 0) 21 |
Brad! |
(1, 0) 22 |
Pa genedl? |
(1, 0) 23 |
Pa genedl? |
(1, 0) 24 |
Brad! |
|
(Harbona) Cenedl yr Iddewon. |
|
|
|
(Harbona) Cenedl yr Iddewon. |
(1, 0) 26 |
Iddewon! |
(1, 0) 27 |
Iddewon!... |
(1, 0) 28 |
Gosteg! |
|
(Harbona) Ninnau'n awr, gan wybod y modd y mae'r genedl hon wedi ymosod i wrthwynebu pob dyn yn wastad, gan ymrafaelio â'r pethau yr ydym ni yn eu gorchymyn, a chan gyflawni pob drygioni a fedront, yr ydym ninnau yn hysbysu ac yn gorchymyn, drwy lythyrau at holl ddugiaid a thywysogion a llywodraethwyr pob talaith o'n hymerodraeth,─ |
|
|
|
(Harbona) Yn enw'r Brenin Ahasferus! |
(1, 0) 32 |
Angau i'r Iddewon!... |
(1, 0) 33 |
Seren Jwda i'r bedd! |