Coroni Heddwch

Cue-sheet for Y Gŵr Ieuanc

(Y Plentyn) A fydd hi'n hir yn dyfod?
 
(Y Frenhines) Yn llawen y cymeraf yr Orsedd.
(1, 0) 154 Felly o'r diwedd, dyma ben ar fy nhasg innau.
(Y Frenhines) Tasg a wnaed yn dda.
 
(Y Tad) Dywedwch yn awr pa beth a ddymunech gennym.
(1, 0) 171 Na bo rhaid i mi fwyta bara cardod.
(1, 0) 172 Bod i mi gael gweithio tra gallwyf.
(1, 0) 173 Eistedd am ychydig yn awr ac eilwaith yn yr heulwen ac ymddiddan â'm cyfeillion.
(Y Tad) Nid ydych yn gofyn digon.
 
(Y Tad) Bellach gofynnwch y peth a ewyllysio 'ch calon.
(1, 0) 181 A ganiatewch chwi ewyllys fy nghalon?
(Y Dyrfa) Gwnawn!
 
(Y Dyrfa) Yn rhwydd.
(1, 0) 184 Pe mynnech ganiatau i mi ewyllys fy nghalon, rhoddwch i mi wybod na orfydd byth i'r plentyn hwn gerdded y ffordd a gerddais i, rhoddwch i mi wybod nad rhaid byth mwy i ferched wylo am ddynion a fo marw cyn eu hamser, rhoddwch i mi wybod wneuthur ohonof yn wir y dasg a osodasoch arnaf, rhoddwch i mi wybod mai dyma ddiwedd hirfaith alanas goch y byd.
(Y Frenhines) Lleferwch!
 
(1, 0) 193 Cludais hwn fel dy was di, ac eto fel dy was yr wyf yn ei osod wrth dy draed.
 
(1, 0) 195 Dowch, gyfeillion, bellach, tyngwn ffyddlondeb.
 
(1, 0) 197 A'm holl galon, tra bwyf byw, yr wyf yn ymrwymo i ti.