Coroni Heddwch

Cue-sheet for Y Plentyn

 
(1, 0) 7 A fydd hi'n hir yn dyfod?
(Y Tad) Ni fedrwn ni ddim dywedyd.
 
(Y Wyryf) Ac y maent wedi mynd.
(1, 0) 16 Ac a ddont hwy i gyd yn eu holau ar ôl cael hyd iddi hi?
(Y Tad) Na ddont, ni ddont i gyd yn eu holau.
 
(Y Tad) Na ddont, ni ddont i gyd yn eu holau.
(1, 0) 18 Paham yr aeth hi i ffwrdd a'n gadael?
(Y Tad) Dynion a'i gyrrodd i ffwrdd.
 
(Y Tad) Dynion a'i gyrrodd i ffwrdd.
(1, 0) 20 Ond, mi glywais ddywedyd ei bod hi'n brydferth iawn, a bod y byd yn ddedwydd pan fo hi ar ei gorsedd.
(Y Fam) Bydd, f'anwylyd, bydd y byd yn ddedwydd.
 
(Y Fam) Bydd, f'anwylyd, bydd y byd yn ddedwydd.
(1, 0) 22 Nid wyf i yn cofio'r Frenhines ar ei gorsedd.
(1, 0) 23 Sut yr oedd pethau pan oedd y byd yn ddedwydd?
(Y Tad) Yr oedd fy mab yn gweithio gyda mi.
 
(1, 0) 34 A pha beth yw'ch cof chwithau am yr amser yr oedd y byd yn ddedwydd?
(Y Fam) Cofio yr wyf ddedwydded oedd fy nghartref, a'm llawenydd yn fy ngofal i gyd.
 
(Y Fam) Cofio sŵn eu traed yn dyfod at y drws, ac fel y cawn innau, pan fyddent yn ddigalon, yr hen, hen ddawn gan Dduw, i fedru eu cysuro.
(1, 0) 38 Ac ni byddech y pryd hwnnw yn eistedd yn ddistaw wrth y tân, ac yn ceisio cuddio'r dagrau?
(Y Fam) Na byddwn, yr un bach.
 
(1, 0) 43 A byddech chwithau yn ddedwydd hefyd?
(Y Wyryf) Byddwn, yr un bach.
 
(Y Wyryf) O! chwerw fu'r amser i gariadon, ac y mae llawer fel finnau heb ddim bellach ond atgof.
(1, 0) 53 Gresyn mawr i ddynion yrru'r Frenhines i ffwrdd.
(1, 0) 54 Paham y gwnaethant?
(1, 0) 55 Clywais fod dynion yn dda ac yn ddoeth.
(Y Tad) Nac ydynt, yr un bach, dim ond eu bod yn dymuno bod felly.
 
(Yr Amheuwr) Ie, unwaith eto, y mae'r bobl yn breuddwydio.
(1, 0) 85 Oni ddaw breuddwydion i ben?
(Y Fam) Clywch!
 
(Y Wyryf) Tyrfa o wŷr a gwragedd; ac y maent yn llawen.
(1, 0) 104 O, ydynt, mor llawen.
(1, 0) 105 Ni wyddwn i y gallai gwŷr a gwragedd fod mor llawen.
(Y Tad) Dywedwch─
 
(Y Tad) O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni sy'n adeiladu'r byd yn Deml wrth dy gynllun Di.
(1, 0) 116 O Dduw, diolch y plant bach i Ti.
(Y Tad) Pwy sy'n cerdded yn ochr y Frenhines?
 
(Y Wyryf) Rhywun yn ei harwain gerfydd ei llaw at yr orsedd.
(1, 0) 119 Druan gŵr, mor flinedig yw ei olwg!
(Y Fam) Pwy sy'n ei harwain gerfydd ei llaw at yr Orsedd?
 
(Y Wyryf) O, gariad rhyw eneth unig, pa beth a roddwn ninnau, nad ydym unig mwy?
(1, 0) 165 Gwnaethoch bawb yn llawen.
(1, 0) 166 Os gwelwch yn dda, a gaf i eich cusanu?