Macbeth

Ciw-restr ar gyfer Y Rhingyll

(Y Ddewines gyntaf) Cyfwrdd eto, bryd y daw
 
(Malcolm) Dyro i'r brenin wybod am y drin fel y gadewaist hi.
(1, 2) 27 Mor amheus oedd hi a dau nofiedydd blin a ymaflo ynghyd, gan dagu eu medr.
(1, 2) 28 Y mae Macdonald draws —sy gymwys wrthryfelwr fyth, am fod lluosog ddrygau natur arno'n heigio—yn caffael o ynysoedd y gorllewin ddigonedd o arfogion o bob math; a Ffawd, gan wenu ar ei gyfrgoll gad, yn edrych fel cyffoden bradwr: eithr rhy wan yw'r cwbl;
(1, 2) 29 oblegid, Macbeth ddewr—a gwych yr haeddai ef yr enw hwnnw—gan herio Ffawd, ac â'i chwyfiedig gledd yn mygu gan ei waedlyd waith, fel anwylyd dewrder ei hun, torrodd ei lwybr trwodd, onid oedd wyneb yn wyneb â'r cnaf;
(1, 2) 30 ac ni roes iddo nawdd, na'i adael ychwaith, onid agorodd ef o geg i geudod, a dodi ei ben ar gopa'n muriau ni.
(Duncan) O gâr dewr a theilwng wrda!
 
(Duncan) O gâr dewr a theilwng wrda!
(1, 2) 32 Ond, fel y bydd ystormydd dinistriol a tharanau arswydus yn torri o'r lle y bo'r haul yn dechreu llewyrchu, felly o'r fan yr oedd cysur fel pe'n dyfod, y mae anghysur yn ymchwyddo.
(1, 2) 33 Dal, di, Frenin Alban, dal ar hyn: Nid cynt y gorfu cyfiawnder âg arfau dewrder i'r cnafon hyn roi ymddiried yn eu sodlau, nag y bu i'r arglwydd Norwyaidd, o ganfod cyfle, âg arfau gloewon ac â dynion ragor, ddechreu rhuthr newydd.
(Duncan) Oni pharodd hynny ddigalonni'n capteiniaid Macbeth a Banguo?
 
(Duncan) Oni pharodd hynny ddigalonni'n capteiniaid Macbeth a Banguo?
(1, 2) 35 Do, fel y bydd adar y to yn digalonni eryrod, neu ysgyfarnog yn digalonni llew.
(1, 2) 36 O thraethaf wir, rhaid dywedyd eu bod fel magnelau a orlwythwyd âg ergydion dwbl; felly dwbl ddyblasant eu hergydion ar y gelyn;
(1, 2) 37 oddieithr fod eu bryd ar ym drochi mewn archollion gwaedlyd, neu beri cof am Golgotha arall, ni fedraf adrodd—ond gwanhau yr wyf, a'm clwyfau 'n llefain am gynhorthwy.