Macbeth

Cue-sheet for Y Rhingyll

(Y Ddewines Gyntaf) Pa bryd y down ni eto'n tair
 
(Malcolm) Hwde, gyfaill dewr, dyro wybod i'r Brenin sut olwg oedd ar yr ymryson pan ddois ti oddi yno.
(1, 2) 31 Mor amheus â dau nofiwr blin wedi ymaflyd y naill yn y llall ac o'r herwydd yn tagu eu medr.
(1, 2) 32 Y mae Macdonald ddidrugaredd, cymwys i fod yn wrthryfelwr fyth, am fod holl ddrygau natur arno'n heidio, yn cael digonedd o wŷr arfog o bob math o ynysoedd y Gorllewin, a Ffawd, gan wenu ar eì felltigedig waith, yn edrych hithau fel cyffoden bradwr.
(1, 2) 33 Ond rhy wan yw'r cwbl.
(1, 2) 34 Dyma Macbeth ddewr—a gwych yr haeddai ef yr enw hwnnw—yn herio Ffawd, ac â'i gleddyf, a hwnnw'n mygu gan waed, fel ffefryn dewrder ei hun, yn naddu ei lwybr trwodd a dyfod wyneb yn wyneb â'r cnaf.
(1, 2) 35 Ac ni roes iddo nawdd na'i adael ychwaith, cyn ei agor o geg i geudod, a dodi ei ben ar frig ein muriau ni.
(Duncan) O, gâr dewr a gwrda teilwng!
 
(Duncan) O, gâr dewr a gwrda teilwng!
(1, 2) 37 Ond, fel y bydd ystormydd dinistriol a tharanau arswydus yn torri o'r lle bo'r haul yn dechrau tywynnu, felly, o'r fan lle'r oedd cysur fel pe'n dyfod, dyna anghysur yn ymchŵyddo eto.
(1, 2) 38 Dal di, Frenin Alban, dal ar hyn: Nid cynt y gorfu cyfiawnder ac arfau dewrder i'r cnafon hyn ymddiried yn eu sodlau nad dyma'r Arglwydd o Norwy, o weld y cyfle, yn dechrau rhuthr newydd ag arfau gloywon a rhagor o ddynion.
(Duncan) Oni pharodd hynny ddigalonni'n Capteiniaid Macbeth a Banguo?
 
(Duncan) Oni pharodd hynny ddigalonni'n Capteiniaid Macbeth a Banguo?
(1, 2) 40 Do, fel y bydd adar to yn digalonni eryrod, neu ysgyfarnog yn digalonni llew.
(1, 2) 41 A dywedyd y gwir, rhaid cydnabod eu bod fel magnelau wedi eu gorlwytho ag ergydion dwbl.
(1, 2) 42 Felly, yr oeddynt yn dwbl ddyblu eu hergydion ar y gelyn; naill ai bod eu bryd ar ymdrochi mewn gwaed, neu ynteu beri cofio Golgotha arall—ni fedraf adrodd—'rwy'n gwanhau a'm clwyfau'n llefain am gynhorthwy.