Coroni Heddwch

Cue-sheet for Y Tad

(Y Plentyn) A fydd hi'n hir yn dyfod?
 
(Y Plentyn) A fydd hi'n hir yn dyfod?
(1, 0) 8 Ni fedrwn ni ddim dywedyd.
(1, 0) 9 Buom yn disgwyl yn hir.
(1, 0) 10 Gwelwch fod yr Orsedd yn wag.
(Y Fam) Weithiau, byddaf yn ofni na ddaw'r Frenhines byth yn ei hôl atom eto.
 
(Y Plentyn) Ac a ddont hwy i gyd yn eu holau ar ôl cael hyd iddi hi?
(1, 0) 17 Na ddont, ni ddont i gyd yn eu holau.
(Y Plentyn) Paham yr aeth hi i ffwrdd a'n gadael?
 
(Y Plentyn) Paham yr aeth hi i ffwrdd a'n gadael?
(1, 0) 19 Dynion a'i gyrrodd i ffwrdd.
(Y Plentyn) Ond, mi glywais ddywedyd ei bod hi'n brydferth iawn, a bod y byd yn ddedwydd pan fo hi ar ei gorsedd.
 
(Y Plentyn) Sut yr oedd pethau pan oedd y byd yn ddedwydd?
(1, 0) 24 Yr oedd fy mab yn gweithio gyda mi.
(1, 0) 25 Yr oeddwn i yn hen ac yn gwybod pethau, ac yntau yn ieuanc ac yn gryf.
(1, 0) 26 Gweithiem ein dau gyda'n gilydd.
(1, 0) 27 Daw llawenydd mawr i ddynion fo'n gweithio.
(1, 0) 28 A'r llawenydd yw, gweled y peth fo yn eu meddwl o'r diwedd yn cymryd ffurf yng ngwaith eu dwylaw.
(1, 0) 29 Weithiau, byddwn i yn blino, ac yn cofio bod yn rhaid i'm dyddiau gweithio ddyfod i ben, ond byddwn yn edrych ar fy mab, ac yn dywedyd wrthyf fy hun "Pan gymerer fi oddiwrth y dasg, bydd ef yn aros a'i fab ar ei ôl yntau."
(1, 0) 30 Ac yna, byddwn yn gwenu, canys byddwn fodlon.
(1, 0) 31 Peth mawr i ddynion yw gwybod na adewir mo waith y byd heb ei wneuthur.
(1, 0) 32 A chlyw dithau, 'r un bach, pan fo'r orsedd yn wag, bydd dynion yn drist, am fod yn rhaid iddynt ddinistrio.
(Y Plentyn) {Wrth y FAM.}
 
(Y Plentyn) Clywais fod dynion yn dda ac yn ddoeth.
(1, 0) 56 Nac ydynt, yr un bach, dim ond eu bod yn dymuno bod felly.
(1, 0) 57 Weithiau, bydd Balchter yn rhodio yn eu mysg, mewn clog aur, ac yn llefaru geiriau chŵyddedig ac yna, dyna ddiwedd ar ddaioni a doethineb.
(Y Wyryf) {Gan edrych i'r dde.}
 
(Y Wyryf) Dyma un yr adwaenom ei wyneb.
(1, 0) 60 Ie; un fydd yn cerdded mewn lleoedd cyhoeddus.
(Y Fam) Hwyrach bod ganddo newyddion am y Frenhines fawr.
 
(Y Fam) Hwyrach bod ganddo newyddion am y Frenhines fawr.
(1, 0) 64 Syr, da y boch.
(Yr Amheuwr) Da y boch i gyd.
 
(Yr Amheuwr) Canwaith yr a dynion allan ar neges, a chanwaith, pan ddont yn eu holau, gweigion fydd eu dwylaw.
(1, 0) 76 Oni ddont â hi, ni bydd yfory ond megis doe.
(1, 0) 77 Ni bydd diwedd ar golled, ac ofer a fydd gwaith dynion yn dragywydd.
(Yr Amheuwr) Ofer fydd eu gwaith yn dragywydd.
 
(1, 0) 91 Gwelwch dyrfa ar y ffordd.
(Y Fam) Dont y-ffordd yma.
 
(Yr Amheuwr) Y maent yn ddedwydd am awr─ac anghofiant.
(1, 0) 100 Pwl yw fy ngolwg i.
(Y Fam) {Wrth y WYRYF.}
 
(Y Plentyn) Ni wyddwn i y gallai gwŷr a gwragedd fod mor llawen.
(1, 0) 106 Dywedwch─
(1, 0) 107 Pwy sy'n cerdded o'u blaenau?
(Y Wyryf) Rhywun mewn gwisg wen; a'i hwyneb yn dawel a phrydferth.
 
(Y Wyryf) Dacw hi yn gwenu, ac─O─y mae bendith yn ei gwên.
(1, 0) 111 Y Frenhines yw hi.
(Y Fam) Ie, y Frenhines, a'i henw yw Heddwch.
 
(Y Wyryf) O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni, a'u câr, ac a garant.
(1, 0) 115 O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni sy'n adeiladu'r byd yn Deml wrth dy gynllun Di.
(Y Plentyn) O Dduw, diolch y plant bach i Ti.
 
(Y Plentyn) O Dduw, diolch y plant bach i Ti.
(1, 0) 117 Pwy sy'n cerdded yn ochr y Frenhines?
(Y Wyryf) Rhywun yn ei harwain gerfydd ei llaw at yr orsedd.
 
(Y Fam) O, Frenhines, dyna'n gweddi i gyd.
(1, 0) 135 Hebot ti, nid ŷm ni ddim, ac nid yw gwaith ein dwylaw ond llwch.
(Y Frenhines) O, fy mhobl, oni fynnwch chwi gofio?
 
(Y Frenhines) Paham y gyrr dynion fi o'u plith─i ddim ond dysgu eilwaith faint eu hangen amdanaf?
(1, 0) 143 O, Frenhines dawel, fwyn, dyma ni'n dysgu unwaith eto.
(Y Fam) Dyma ni'n dysgu, a mawr yw ein hangen.
 
(Y Frenhines) Daeth ef i'm ceisio ar hyd ffordd gofidiau, lle y mae bob amser waed hyd y cerrig.
(1, 0) 162 O, Ŵr Ieuanc o'r ffordd chwerw, pa beth a rydd yr hen wŷr iti, fel y deui yn dy ôl o'th hynt?
(Y Fam) O, fab rhyw fam druan, drist, pa beth a ofynni gennym ni, a fu'n disgwyl am ein meibion?
 
(Y Plentyn) Os gwelwch yn dda, a gaf i eich cusanu?
(1, 0) 169 Gofynnwch a fynnoch.
(1, 0) 170 Dywedwch yn awr pa beth a ddymunech gennym.
(Y Gŵr Ieuanc) Na bo rhaid i mi fwyta bara cardod.
 
(Y Gŵr Ieuanc) Eistedd am ychydig yn awr ac eilwaith yn yr heulwen ac ymddiddan â'm cyfeillion.
(1, 0) 174 Nid ydych yn gofyn digon.
(1, 0) 175 (Wrth y DYRFA.)
(1, 0) 176 Gyfeillion, ai dyna'r cwbl a haeddodd ef?
(Y Dyrfa) Nage.
 
(Y Dyrfa) Llefared eto.
(1, 0) 179 Aethoch ar hyd ffordd gofidiau a chawsoch ein Brenhines.
(1, 0) 180 Bellach gofynnwch y peth a ewyllysio 'ch calon.