Faust

Ciw-restr ar gyfer Yr Arglwydd

(Blank) Ledrithion gwelwon! wele chwi'n dynesu,
 
(Mephistopheles) Ei drwyn ynghanol pob rhyw dail a dery.
(0, 2) 90 Ai dyna'r cwbl oedd gennyt i'w lefaru?
(0, 2) 91 A ddôi di fyth i achwyn a galaru?
(0, 2) 92 A oes ar wyneb daear ddim yn iawn?
(Mephistopheles) Na, Arglwydd, drwg digymysg yno a gawn.
 
(Mephistopheles) Na allaf boeni mo'r creaduriaid tlodion!
(0, 2) 96 Ai hysbys iti Faust?
(Mephistopheles) Y Doethur?
 
(Mephistopheles) Y Doethur?
(0, 2) 98 Ie, fy ngwas!
(Mephistopheles) Diau! Fe'th wasanaetha'n anghymharol—
 
(Mephistopheles) Ei wyllt anesmwyth galon, nis llonyddant.
(0, 2) 107 Os croes yw ei wasanaeth ef a'i ffyrdd,
(0, 2) 108 Cyn hir fe'i dygaf i'r goleuni drwyddyn;
(0, 2) 109 Fe ŵyr y garddwr, pan fo'r pren yn wyrdd,
(0, 2) 110 Y daw y ffrwyth yn dâl am lafur blwyddyn.
(Mephistopheles) Pa faint a ddeli? Colli wnei er hynny!—
 
(Mephistopheles) I minnau'n dawel fach i'm ffordd ei dynnu—
(0, 2) 114 Cyd ag y byddo fyw'n y byd efô,
(0, 2) 115 Cyhyd ni byddi dithau waharddedig.
(0, 2) 116 Tra brwydro dyn, fe dripia ambell dro.
(Mephistopheles) Diolchaf iti! Am y rhai trengedig,
 
(Mephistopheles) Fel cath ar ôl llygoden, dyna fi!
(0, 2) 122 O'r goreu! bydded iddo fel y mynni!
(0, 2) 123 Dwg di yr ysbryd hwn o'i darddell gynt,
(0, 2) 124 Ac arwain yntau gyda thi, os ffynni,
(0, 2) 125 I rodio ymaith ar dy ddewis hynt,
(0, 2) 126 Â gwêl, gan gywilyddio, yn dy dro,
(0, 2) 127 Fod pob dyn da'n adnabod ffordd uniondeb,
(0, 2) 128 Er brithed fydd ei dueddiadau fo.
(Mephistopheles) Da iawn! Nid hir y pery ei ffyddlondeb,
 
(Mephistopheles) Megys y sarff, fy modryb glodforusaf!
(0, 2) 135 Bydd rydd it ddyfod yma ac ymado,
(0, 2) 136 Cans ni chasëais i mo'th debyg di;
(0, 2) 137 O'r holl ysbrydion hynny ar a wado,
(0, 2) 138 Y castiog ydyw'r lleia'i bwys i mi.
(0, 2) 139 Bydd galiu dyn yn fuan yn dihoeni,
(0, 2) 140 Câr lwyr ddiogi, ac am hyn y bu
(0, 2) 141 Roi iddo ef gydymaith fyth y sy
(0, 2) 142 Yn synnu a swyno, ac, megys diawl, yn poeni.
(0, 2) 143 Ond llawen fyddoch chwi, wir feibion Duw,
(0, 2) 144 Ynghanol y prydferthwch uchel ryw!
(0, 2) 145 Y grym, sy'n gweithio ac yn byw'n ddi baid,
(0, 2) 146 Yn nedwydd rwymyn cariad a'ch llehäo,
(0, 2) 147 Â'r peth a rithlyd wibio ar ei naid,
(0, 2) 148 Gosodwch mewn meddyliau a barhäo!