Toriad Dydd

Ciw-restr ar gyfer Ysgolfeistr

(Tad) Where's that crotyn tonight agen?
 
(Tad) Rhoi Tomi ni ymhlith y Saeson i ddysgu Cymrag... ar f'ened i!
(1, 0) 266 Nos dda Mrs. Jones.
(Mam) Nosweth dda, Mr. Pritchard.
 
(Mam) Dewch mewn.
(1, 0) 269 Nos dda, Mr. Jones.
(Tad) {dipyn yn sychlyd} Nosweth dda.
 
(Mam) {yn sychu cadair â'i ffedog} Dewch ymlan, Mr. Pritchard, eisteddwch.
(1, 0) 272 Na, eistedda i ddim, diolch ichi.
(1, 0) 273 Mae genni neges arbennig yma heno a rwy mewn tipyn o frys, gan fod genni sawl man arall i fynd iddo.
(Tad) O'r gora, Mr. Pritchard, ond cyn mynd at y neges yna, 'rwy am gal gair gyda chi ar fater arall.
 
(Tad) O'r gora, Mr. Pritchard, ond cyn mynd at y neges yna, 'rwy am gal gair gyda chi ar fater arall.
(1, 0) 275 le?
(Tad) Pam ych chi wedi dodi Tomi ni ymhlith y Saeson i ddysgu Cymrag?
 
(Tad) D'oes dim synnwyr yn y peth.
(1, 0) 282 Yn ara bach, Mr. Jones, yn ara bach.
(1, 0) 283 Nid y chi na'r wraig rwy wedi ddodi yn yr adran Saesneg i ddysgu Cymraeg, ond Tomi.
(Tad) Wel, mae Tomi'n fab i ni, yn enw'r bendith.
 
(Tad) Wel, mae Tomi'n fab i ni, yn enw'r bendith.
(1, 0) 285 Fe all hynny fod, ond 'd yw e'n deall dim nag yn medru siarad dim Cymraeg ond yr hyn y mae e wedi ei ddysgu yn yr ysgol.
(Mam) {yn ddwys} Ond Mr. Pritchard, Cymro yw Tomi bach ni.
 
(Mam) {yn ddwys} Ond Mr. Pritchard, Cymro yw Tomi bach ni.
(1, 0) 287 Ie, ie: Cymro yw Tomi.
(1, 0) 288 Pan gychwynwyd dysgu Cymraeg yn yr ysgol roedd genni broblem ddyrus iawn i'w hwynebu.
(1, 0) 289 Roedd genni rai plant yn medru siarad Cymraeg yn rhydd ac yn rhwydd.
(1, 0) 290 Yr oedd yna ereill yn deall yr iaith ond heb fedru ei siarad hi.
(1, 0) 291 Roedd yna nifer wedyn yn Gymry o ran gwaed, a Tomi yn eu plith, heb fedru siarad na deall Cymraeg, a Saeson bach uniaith oedd y gweddill o aelwydydd hollol Saesneg.
(1, 0) 292 Doedd genni ddim i'w wneud ond casglu'r plant oedd yn medru siarad neu ddeall yr iaith at ei gilydd a gwneud dosbarth ohonynhw, a gosod y gweddill, yn Gymry ac yn Saeson mewn adran arall.
(Tad) Felny, ynte, ymhlith y Saeson y bydd Tomi, tra bydd e'n yr ysgol.
 
(Tad) Felny, ynte, ymhlith y Saeson y bydd Tomi, tra bydd e'n yr ysgol.
(1, 0) 294 Y mae hynny yn dibynnu i raddau mawr arnoch chi a Mrs. Jones.
(1, 0) 295 Rwy am wneud bargen â chi'ch dau heno.
(1, 0) 296 Y mae genni rai degau o blant yn dod o aelwydydd tebig i hon, a phob un ohonynhw mewn adran Saesneg.
(1, 0) 297 Rwy wedi bod eisoes yn gweld rhai o'r rhieni a gwneud cytundeb â nhw.
(1, 0) 298 Siaradwch chi Gymraeg â Thomi ar yr aelwyd, ac ymhen y flwyddyn, neu lai na hynny falle, mwy na thebig y galla'i ddodi Tomi mewn adran Gymraeg.
(Tad) Wel, mae yna reswm yn yr hyn ych chi'n ddweud, Mr. Pritchard, ond wedi'r cwbl, pwy wnaeth Sais o [Olwen]?
 
(Tad) Ie, yr ysgol wnaeth Saeson o'n plant ni.
(1, 0) 304 Ni gydnabyddwn i'r ysgol fod ar fai, ar fai mawr hefyd, ond ar yr un pryd, 'd allwch chi'ch dau ddim dweud eich bod chi'n hollol rydd, oherwydd y mae yna rieni, heb fod yn ddim gwell Cymry na chi, sydd wedi llwyddo i gadw'r iaith ar yr aelwyd.
(Tad) Oes y mae yna rai.
 
(1, 0) 310 Ydych chi'n sylweddoli beth ddywedsoch chi nawr wrth Tomi? "Put them sticks by there."
(Tad) {heb ddeall} Pam, beth sydd o'i le yn hynny?
 
(Tad) {heb ddeall} Pam, beth sydd o'i le yn hynny?
(1, 0) 312 Tommy, get me your home-work book.
(1, 0) 313 I want to see that exercise I marked for you this morning.
 
(1, 0) 315 Gwrandewch: Dyma frawddeg o stori fach a ysgrifennodd Tomi neithiwr, "And the fairy told the little girl, 'Don't leave them flowers by there'."
(Tad) Beth sy' o'i le, Mr. Pritchard.
 
(Tad) A b-y—by, dyna'r ffordd i spelian by.
(1, 0) 321 Oh, y mae'r ddau air wedi'u spelio'n iawn.
(Tad) Wel, beth sy o'i le, ynte?
 
(Tad) Wel, beth sy o'i le, ynte?
(1, 0) 323 Wyddoch chi ddim?
(Tad) Na wn i.
 
(Mam) Na finne chwaith.
(1, 0) 326 Fe'ch creda i chi'n rhwydd.
(1, 0) 327 Petawn i'n sgrifennu brawddeg Gymraeg anghywir fan hyn nawr, mwy na thebig y gallech chi ei chywiro hi, heb fedru rhoi llawer o reswm dros hynny, ond fe fyddech yn teimlo ei bod hi'n anghywir a gwybod beth fydde'n iawn.
(1, 0) 328 Welwch chi, y mae yna un peth nad ych chi'ch dau erioed wedi ei sylweddoli, sef yw hynny, bod eich Cymraeg chi'n ddigon gwell na'ch Saesneg chi.
(Tad) {yn betrus} Cymrag Marged a fi'n well na'n Sisnag ni!
 
(Tad) {yn betrus} Cymrag Marged a fi'n well na'n Sisnag ni!
(1, 0) 330 Ydi, yn anrhaethol well.
(1, 0) 331 Gwrandewch nawr o ddifri.
(1, 0) 332 Y mae yna ddigon o Saesneg gwael yn yr ardal yma gan bobl heb fedru yr un gair o Gymraeg, 'd oes mo'r help am hynny—ond pan fo Cymry glân fel chi yn llabyddio'r Saesneg yng nghlyw'r plant ar yr aelwyd, y mae hynny'n fwy na alla i ei ddal.
(1, 0) 333 Nid felly y mae hi bob amser, mi wn, ond dyna'r gwir yn aml iawn.
(Tad) 'R ych chi'n llym, Mr. Pritchard.
 
(Tad) 'R ych chi'n llym, Mr. Pritchard.
(1, 0) 335 Falle mod i, ond dwy i ddim yn anheg.
(1, 0) 336 Siaradwch chi Gymraeg â Thomi ar yr aelwyd a fe wnewch ddwy gymwynas bwysig â mi.
(1, 0) 337 Yn gyntaf, fe fyddwch yn help i'r athro sy'n ceisio dysgu Cymraeg iddo, ac yn help mawr hefyd.
(1, 0) 338 Yn ail, fe fydd gyda ni lai o waith yn yr ysgol i gywiro a diddymu gwallau mewn Saesneg y mae Tomi yn eu codi yma ar yr aelwyd gyda chi.
(1, 0) 339 'R wyn mynd nawr, ond beth am y fargen yna?
(Tad) {wedi eiliad o feddwl} O'r gore, y mae'n fargen.
 
(Tad) {wedi eiliad o feddwl} O'r gore, y mae'n fargen.
(1, 0) 341 A chithe Mrs. Jones?
(Mam) Ydi, y mae hi yn fargen.
 
(Mam) Ydi, y mae hi yn fargen.
(1, 0) 343 Diolch yn fawr i chi.
(Mam) Mr. Pritchard, glywsoch chi am yr hen wraig yna sy'n cerdded yr hewl gyda'r hwyr ac yn mynd o dŷ i dŷ?
 
(Mam) Mr. Pritchard, glywsoch chi am yr hen wraig yna sy'n cerdded yr hewl gyda'r hwyr ac yn mynd o dŷ i dŷ?
(1, 0) 345 O do, fu hi yma?
(Mam) Naddo, a dwy i ddim am i gweld hi chwaith.
 
(Mam) Chwilio am blant y mae hi bob amser, medde nhw.
(1, 0) 348 Does dim rhaid i chi ofni'r hen wraig, Mrs. Jones, os daw hi yma.
(1, 0) 349 Mwy na thebig y daw hi, oherwydd y mae hi wedi fy nilyn i i lawer man yn ddiweddar.
(1, 0) 350 Peidiwch â'i gwrthod hi.
(1, 0) 351 Y mae hi'n hofl iawn o blant.
(1, 0) 352 Nos dda nawr.