Absalom Fy Mab

Ciw-restr ar gyfer Ahimâs

(Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon
 
(Abisâg) Pa Wyl yw honno?
(2, 1) 1318 Henffych well i'r Brenin!
(2, 1) 1319 Gras a gwrogaeth oddi wrth fy nhad Sadoc.
(Dafydd) Ein cyfarch i fab Sadoc yr Offeiriad!
 
(Ahitoffel) Paham y rhedaist?
(2, 1) 1322 Gweld Joab ar y ffordd
(2, 1) 1323 A chlywed braint ein tŷ gan y Cadfridog.
(2, 1) 1324 A phan aeth yntau rhagddo i dŷ fy nhad
(2, 1) 1325 I lonni ei galon hen â'r fath newyddion,
(2, 1) 1326 Fod Brenin Israel heddiw am anrhydeddu
(2, 1) 1327 Ein cronglwyd ac ymweliad, rhedais yma
(2, 1) 1328 O wir lawenydd i'th hebrwng ar ran Sadoc.
(2, 1) 1329 Croeso, O Frenin mawr, i dŷ fy nhad.
(Dafydd) Tywalltwyd gras ar dy wefusau'n ifanc.
 
(Abisâg) {Gan gynnig tywallt gwin o gostrel i gwpan.}
(2, 1) 1334 Dwfr, deg arglwyddes;—yr wyf tan ddisgyblaeth.
(Ahitoffel) Nid cwrtais yfed dwfr yn Llys y Brenin.
 
(Absalom) Dy enw yw Ahimâs?
(2, 1) 1343 Ie, Dywysog.
(Absalom) Ac oni welais-i di gyda Llanciau Joab,
 
(Absalom) A thaflu gwaywffon ac ymryson ras?
(2, 1) 1347 Do, f'arglwydd; un o Lanciau Joab wyf.
(Absalom) Ac oni welais-i di'n ymryson ras
 
(Absalom) A Chŵsi ddu, gwas Joab?
(2, 1) 1350 Diau, f'arglwydd.
(2, 1) 1351 Cŵsi yw'r rhedwr gorau yng Nghaersalem.
(Absalom) Threchaist-ti mono?
 
(Absalom) Threchaist-ti mono?
(2, 1) 1353 Naddo, syr, ddim eto.
(Absalom) "Ddim eto!" Beth yw ystyr hynny?
 
(2, 1) 1356 'Rwyf
(2, 1) 1357 Ar gwrs ymarfer, ac ni phrofaf win
(2, 1) 1358 Nes trechu'r campwr Cŵsi, caethwas Joab.
(Absalom) Purion uchelgais, ond 'threchi-di mono byth.
 
(Abisâg) A minnau'r eurdlws hwn sydd ar fy mron.
(2, 1) 1375 Yn ffydd fy mrenin fyth ni allaf fethu.
 
(2, 1) 1380 A'th ymddiriedaeth di, arglwyddes fwyn.
(Dafydd) O'r gorau, tywys ni i dŷ dy dad,
 
(Abisâg) Lle trig fy Mrenin, yno y trigaf i.
(2, 2) 1727 Cyfarch ffyddlonaf oddi wrth fy nhad Sadoc,
(2, 2) 1728 Sydd newydd glywed. Archodd fi ar frys
(2, 2) 1729 I redeg yma o'r Cysegr â'r neges hon:
(2, 2) 1730 "Os myn y Brenin weled Arch yr Arglwydd
(2, 2) 1731 Yn arwain allan heddiw ar flaen y llu
(2, 2) 1732 I'r anial gyda'th osgordd, dweded y gair..."
(2, 2) 1733 Mae chwech ohonom a'i cyfrifai'n fraint
(2, 2) 1734 Cael rhoi ein hysgwydd tani, a chario'i bendith
(2, 2) 1735 A bendith Sadoc gyda thi lle'r elych.
(Dafydd) Fy niolch byth i Sadoc ac i'w fab,
 
(Dafydd) Ac yng Nghaersalem mae hi i aros byth.
(2, 2) 1740 Mi a'th ganlynaf, pa le bynnag yr elych.
(Dafydd) Mae gennyf amgen gwaith it, Ahimâs,
 
(Dafydd) Mwy enbyd hefyd.
(2, 2) 1743 Dyro imi'r fraint.
(Dafydd) Aros yn Seion fel rhedegwr Hŵsai.
 
(2, 2) 1750 Fy Mrenin grasol!
(Abisâg) {Gan estyn ei deheulaw.}
 
(2, 2) 1803 Onid oes fantell gennyt erbyn heno?
(Abisâg) {Tan wenu arno.}
 
(2, 2) 1807 Cymer hon,
(2, 2) 1808 Mae min ar nos yr anial.
(Abisâg) {Gŵyra hithau ei phen yn ôl ato'n serchus gan sibrwd yn fwyn iawn.}
 
(3, 1) 2400 Diolch, Frenin da.
(Joab) {Yn saliwtio.}
 
(3, 1) 2413 Abisâg!
(Dafydd) {Yn y distawrwydd.}
 
(Beneia) Buddugoliaeth!
(3, 2) 2596 Heddwch, fy Arglwydd Frenin! Bendigedig
(3, 2) 2597 A fyddo Duw, a ddaeth i'n cymorth heddiw
(3, 2) 2598 Yn erbyn dy elynion. Nid i ni
(3, 2) 2599 Eithr i'w enw Ef y byddo clod
(3, 2) 2600 Y fuddugoliaeth. Acw, yn nrysle'r coed,
(3, 2) 2601 Fe'u lladdwyd wrth y miloedd, ac mae'r gweddill
(3, 2) 2602 Yn rhedeg am eu heinioes rhag meirch Itai
 
(3, 2) 2604 Duw a fendithiodd faner Dafydd heddiw.
(3, 2) 2605 Rhagor...
(Dafydd) {Yn cydio'n ei ddwy ysgwydd.}
 
(Dafydd) Ai diogel Absalom fy mab?
(3, 2) 2609 Ar awr y fuddugoliaeth, 'roedd cythrwfl
(3, 2) 2610 Ymhlith ein milwyr—bloeddio a chroes-floeddio.
(Dafydd) A ddaliwyd y Tywysog yn garcharor?
 
(Dafydd) A ddaliwyd y Tywysog yn garcharor?
(3, 2) 2612 Ni allwn aros dim i weld beth oedd.
(3, 2) 2613 Fe waeddodd y Cadfridog arnaf: "Rhed;
(3, 2) 2614 Brysia â'r fuddugoliaeth at y Brenin!"
(Dafydd) Ein diolch, ffrind... Ac fel y cyntaf un
 
(Dafydd) Gofyn a thi a'i cei, beth bynnag fo.
(3, 2) 2623 Fy Mrenin grasol a haelionus, rho
(3, 2) 2624 Dy delynores fwyn yn briod im.