Absalom Fy Mab

Ciw-restr ar gyfer Bathseba

(Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon
 
(1, 0) 564 Solomon!
 
(1, 0) 566 Disgyn ar frys o uchel fainc y Brenin!
(Beneia) {Yn wên i gyd.}
 
(Beneia) Heb unrhyw fwriad drwg.
(1, 0) 570 Gadfridog Joab,
(1, 0) 571 Nid ti a ddwedodd wrtho?
(Joab) {Gan syllu i'r ardd.}
 
(1, 0) 575 Ar unwaith, ymddiheura i'r Cadfridog!
(Joab) {Gan droi ati.}
 
(1, 0) 587 Dweud wrth ba fab twysog?
(Solomon) Wrth Meffiboseth yma. _ Mae o'n gloff,
 
(1, 0) 594 Tŷ Saul! Tŷ Saul! Pa hyd y'n blinir ganddynt?
(1, 0) 595 Pa hyd bydd Gorsedd Dafydd mewn enbydrwydd?
(Beneia) Dyma'r cyw olaf un o nyth y neidr.
 
(1, 0) 606 Ai yn gloff y'th aned?
(Meffiboseth) Nage, arglwyddes:—Maddau 'mod i'n eistedd
 
(Abisâg) Frenhines deg;—ymbil am einioes crefftwr.
(1, 0) 628 A phwy wyt ti sy'n gofyn imi ymbil?
(Abisâg) Dy wasanaethferch Abisâg, f'arglwyddes,
 
(1, 0) 637 Myn enw Belial! Ai rhy wag oedd tŷ
(1, 0) 638 Y gordderch wragedd, fel bod rhaid wrth hon
(1, 0) 639 O ardal Sŵnem eto i'w gysuro?
(1, 0) 640 Clyw'r ffolog, dos yn ôl i dŷ dy dad.
(1, 0) 641 Aeth Brenin Israel yn hen, —yn hen, yn hen!
(1, 0) 642 Mae'i waed o'n oer. Mae'n cysgu wrtho'i hunan.
(1, 0) 643 'Does iddo ddim diddanwch mewn llancesi!
 
(1, 0) 648 Beth a ddwedaist?
(Joab) Nid gordderch yw, ond telynores gywrain
 
(1, 0) 654 Ni wyddwn i.
(Joab) O garedigrwydd daeth,
 
(Joab) Sydd ar ei ysbryd blin, os myn y nef.
(1, 0) 660 Maddau, fy mhrydferth. Gwelaf nad oes dichell
(1, 0) 661 Yn nwfn y llygaid hyn. Maddau, yn wir,
(1, 0) 662 Im fod mor fyrbwyll. {Yn anwesu ei phen.} O mor dlws dy wallt.
(1, 0) 663 Cymer y freichled hon yn anrheg gennyf.
 
(Abisâg) Ni cheisiaf wobr.
(1, 0) 666 Ond gwisg hi'n arwydd cymod.
(Abisâg) {Yn ei gwisgo.}
 
(Abisâg) Byth nid ymedy â'm braich, Frenhines Israel.
(1, 0) 669 Cyfod. Rhaid imi dy gofleidio di.
 
(1, 0) 675 Mi wnaf, fy nhlos. Boed hynny'n iawn brenhinol
(1, 0) 676 Am y sarhad. A phan gyfodo'r Brenin
(1, 0) 677 Mi blediaf drosto.
(Meffiboseth) {Y cael ei faglau a chyfodi i ddiolch.}
 
(1, 0) 686 Cei fyw, fachgennyn dewr, os caf fi ffafr
(1, 0) 687 Y Brenin heddiw. Dywed Abisâg,
(1, 0) 688 Pa gân o salmau Dafydd a ddewisaist
(1, 0) 689 I'w chanu iddo'n gyntaf yn ei lys
(1, 0) 690 Er bwrw'i flinder ysbryd?
(Abisâg) Caniatâ
 
(Abisâg) A grymus yn y gad?
(1, 0) 740 Fy Arglwydd Frenin!
(Dafydd) Dydd da, fy Mrenhines.
 
(1, 0) 754 Wele, fy Arglwydd Frenin, Meffiboseth,
(1, 0) 755 Unig fab Jonathan, yn dlawd a chloff,
(1, 0) 756 I'th gyfarch ac i erfyn dy drugaredd.
(Dafydd) {Yn dosturiol tan ei anadl.}
 
(Dafydd) Beth yw dy gyngor dithau, fy Mrenhines?
(1, 0) 889 Ni ddychwel byth. Caledu a wnaeth ei galon
(1, 0) 890 Ym mhebyll llwyth ei fam; ni cheisiodd gymod
(1, 0) 891 Â'i dad trwy dymor ei alltudiaeth hir.
(Dafydd) Ac er fy hiraeth, nid anfonais air.
 
(1, 0) 900 Ond cofia'i drosedd—lladd ei frawd ei hun!
(1, 0) 901 Mae gan y Brenin feibion mewn oed tyner;
(1, 0) 902 Ai iawn gan hynny galw llofrudd adref?
(Dafydd) Iawn, pan fu'r Brenin yntau'n llofrudd. Iawn!
 
(Joab) A theyrnas Solomon.
(3, 2) 2809 Dos, galw arno.