Absalom Fy Mab

Ciw-restr ar gyfer Beneia

(Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon
 
(1, 0) 324 Y gair yw "Cymod."
(Cŵsi) {O'r golwg.}
 
(1, 0) 343 Dydd da, Gadfridog.
(1, 0) 344 (Yn ffug-chwareus.} A ddechreuodd chwyldro
(1, 0) 345 Na chaffai Capten y Gard ddynesu i'r plas
(1, 0) 346 Heb roddi gair yr arwydd?
(Joab) Maddau hyn,
 
(1, 0) 351 Rhaid fod yn wir! Y mae fy ngwŷr i'n gwarchod
(1, 0) 352 Pob porth ac adwy. Erioed ni chlywais-i gŵyn
(1, 0) 353 Fod neb o'm gwŷr o gard yn dechrau hepian,
(1, 0) 354 Fod eisiau gwyliwr arall yn yr ardd
(1, 0) 355 Ar fore teg o haf. Ai rhag llaw brad
(1, 0) 356 Y rhoed dy was i gadw llwybrau'r ardd
(1, 0) 357 Â'i gleddyf ysgwydedig, fel y rhoed
(1, 0) 358 Ceriwbiaid Eden i warchod pren y bywyd?
(1, 0) 359 Ceriwb go dlws, wir Dduw,—mor ddu ag uffern!
 
(1, 0) 361 Fy rhwystro gan ddienwaededig gi!
(Joab) Gwrando, Beneia, nid rhag ofn llaw brad
 
(1, 0) 372 Newydd ddychwelyd,
(1, 0) 373 Ar ôl cyflawni neges dros y brenin.
 
(1, 0) 376 P'le cest-ti hon, Gadfridog?
(Joab) Yn ardal Sŵnem.
 
(Joab) Yn ardal Sŵnem.
(1, 0) 378 Ha! Gwlad y lili a'r pomgranadau pêr,
(1, 0) 379 Cartref caneuon serch a merched hardd,
(1, 0) 380 A blas y gwin ar eu cusanau brwd.
 
(1, 0) 382 Llongyfarchiadau, f'arglwydd! Mae dy chwaeth
(1, 0) 383 Mor sicr wrth ddewis milwr, march,—a merch.
(1, 0) 384 Cei ddiolch y brenin am gaethferch deg fel hon,
(1, 0) 385 A cherddgar hefyd,—at ei ordderchwragedd.
(Abisâg) {Yn taro ei law ymaith mewn balchder clwyfedig. Syll Meffiboseth arni.}
 
(1, 0) 395 Purion, Gadfridog!
(Joab) Dywed pwy yw hwn—
 
(Joab) Â'i garpiog glog? {Yn ysgafn.} Wneith hwn ddim gŵr o gard!
(1, 0) 399 Y Brenin a ddywedodd wrthyf, "Dos
(1, 0) 400 I Lo-Debâr, i dŷ Machîr, mab Amiel.
(1, 0) 401 Clywais fod yno un o deulu Saul
(1, 0) 402 Yn fabwysiedig. Brysia, cyrch ef ataf."
(1, 0) 403 Minnau a frysiais ac a gefais hwn
(1, 0) 404 A fagwyd ar ei dyddyn gan Machîr.
(Joab) Pa beth sy ym mryd y Brenin?
 
(Joab) Pa beth sy ym mryd y Brenin?
(1, 0) 406 Ni wn i,
(1, 0) 407 Onid ei grogi fel y gwnaeth â meibion
(1, 0) 408 Rispa a Saul, ar furiau tref Gibeon.
 
(1, 0) 410 A'r deyrnas mor aniddig, yr unig aelod
(1, 0) 411 Daionus o Dŷ Saul yw aelod marw,
(1, 0) 412 Rhag creu gwrthryfel eto. A dyma'r cyw
(1, 0) 413 Olaf o'r nyth adfydus—Meffiboseth,
(1, 0) 414 Mab Jonathan, medd Machîr. Y cloff hwn.
 
(Joab) A'i dâl?—Ei hela o le i le fel petris.
(1, 0) 421 Am hynny, meddaf innau, f'arglwydd Joab,
(1, 0) 422 Colofn ddi-syfl Tŷ Dafydd, yr unig aelod
(1, 0) 423 Daionus o Dŷ Saul yw aelod marw.
(Joab) Eto pa bleser crogi llencyn cloff
 
(Meffiboseth) Arglwyddes Telyn, a gaf i wneud it gist?
(1, 0) 451 Rhaid iti frysio, 'r cyw! Oherwydd sydyn
(1, 0) 452 Yw barnau'r Brenin.
(Abisâg) {Wrth Meffiboseth yn wawdlyd am Beneia.}
 
(Abisâg) Crachach fel hwn na wybu urddas Saul.
(1, 0) 469 Dydd da i'n Twysog Solomon, lleufer llys.
(Solomon) Dydd da, foneddigion... Gapten, beth yw "lleufer"?
 
(Solomon) Dydd da, foneddigion... Gapten, beth yw "lleufer"?
(1, 0) 471 "Lleufer," Dywysog, yw goleuni disglair, —
(1, 0) 472 Dy dad yw'r haul, dy freiniol fam yw'r lloer,
(1, 0) 473 Ac ynot cydgyferfydd eu disgleirdeb.
(Solomon) {Yn ysgrifennu.}
 
(Abisâg) Anrhydedd fydd.
(1, 0) 502 Yr olaf o Dŷ Saul yw'r efrydd hwn.
(1, 0) 503 Â'r fantell garpiog. Dy frenhinol dad
(1, 0) 504 A'i galwodd yma fel y gwypai'i ddedfryd,
(1, 0) 505 A'i enw yw Meffiboseth.
(Solomon) O Dŷ Saul
 
(1, 0) 568 F'arglwyddes, nid oedd hyn ond chwarae plant
(1, 0) 569 Heb unrhyw fwriad drwg.
(Bathseba) Gadfridog Joab,
 
(Bathseba) Pa hyd bydd Gorsedd Dafydd mewn enbydrwydd?
(1, 0) 596 Dyma'r cyw olaf un o nyth y neidr.
(1, 0) 597 Sathred y Brenin heddiw ar ei ben,
(1, 0) 598 A dyna ddiwedd arnynt!
(Meffiboseth) Trugarha,
 
(Dafydd) Mab Jonathan mewn carpiau! Gapten Beneia!
(1, 0) 762 F'Arglwwydd!...
(Dafydd) Cyrch ymo'r fantell fraith sy ar fy ngwely.
 
(Dafydd) Ac er fy hiraeth, nid anfonais air.
(1, 0) 893 Gan hynny, Frenin, ped anfonit heddiw
(1, 0) 894 Ar ôl distawrwydd hir, onid fel gwendid
(1, 0) 895 Yn Israel y cyfrifai yntau hyn,
(1, 0) 896 A chroesi'r ffin â gwrthryfelgar blaid
(1, 0) 897 I'w wneud ei hun yn frenin yn dy le?
(Dafydd) Beneia! Am fy mab yr wyt-ti'n sôn!
 
(2, 2) 1633 Clywsom y Gloch Alarwm! Gelwais y Gard.
(2, 2) 1634 Atolwg, fy Nghadfridog, be' sy'n bod?
(Joab) Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron.
 
(Joab) A bydd ei fyddin yma ym mhen dwyawr.
(2, 2) 1637 Y bradwr ffiaidd!
 
(2, 2) 1639 ... O! mi wyddwn i
(2, 2) 1640 Er pan adferaist ef i ffafr y Brenin...
(2, 2) 1641 Beth yw d'orchmynion?
(Joab) Caeer holl byrth y ddinas.
 
(Joab) A chroesi Rhyd Iorddonen am y gwyllt.
(2, 2) 1671 Purion, Gadfridog... Rhyw orchymyn pellach?
(Joab) Oes. Mae pob milwr i drafaelu'n ysgafn.
 
(Joab) Dim ond ei arfau. Ymborthwn ar y wlad.
(2, 2) 1674 Fy Arglwydd Frenin, trefnaf y llu i'ch disgwyl.
(Dafydd) {Wrth newid ei goron am yr helm, a'i gosod ar y fantell, liwus ar yr orsedd.}
 
(Absalom) Ymlaen, i fuddugoliaeth neu i fedd.
(3, 1) 2260 Fy Arglwydd Frenin!... Fy Nghadfridog Joab!
(3, 1) 2261 Galwaf, yn ôl eich gair... Mae'n doriad dydd.
(Dafydd) Dydd da, fy Nghapten.
 
(Dafydd) Dydd da, fy Nghapten.
(3, 1) 2269 Henffych well, fy Mrenin.
(3, 1) 2270 Mae'r haul am godi'n glir ar ddydd dy frwydr.
(3, 1) 2271 Clir ar dy fuddugoliaeth y machludo.
(Joab) {Yn edrych allan dros y mur.}
 
(3, 1) 2281 A gaf i alw
(3, 1) 2282 Rhingyll ein Gwŷr o Gard i seinio'r utgorn?
(Dafydd) Aros, am ennyd. Gad im edrych eto
 
(Dafydd) I faes y gwaed.
(3, 1) 2432 Bellach ni elli di ragor
(3, 1) 2433 I'w helpu nag a wnaethost eisoes. Tyrd,
 
(3, 1) 2435 Cynhaliaf di i'th stafell wely. Tyrd.
(Dafydd) Fy mwriad i oedd aros ar y mur
 
(Dafydd) Gyda newyddion.
(3, 1) 2439 Cwsg. Fe alwn arnat
(3, 1) 2440 Cyn gynted ag y gwelwn y rhedegwr.
(Dafydd) Rwy'n llesg a blin, ond O! ni allwn gysgu
 
(Dafydd) Ac fe elwch arnaf?
(3, 1) 2453 Ar unwaith... Tyred, arglwydd, gorffwys bellach.
 
(3, 1) 2462 "Bydd esmwyth er fy mwyn wrth Absalom." Baw!
 
(3, 1) 2467 Pe bawn i'n Joab, fe gâi'r llanc "esmwythyd"!
(Abisâg) {Yn canu.}
 
(3, 2) 2509 Peth braf yw gallu cysgu ar ganol brwydr.
(Abisâg) Chefais-i ond cyntun byr... A oes rhyw newid?
 
(Abisâg) Chefais-i ond cyntun byr... A oes rhyw newid?
(3, 2) 2511 Dim newid, na dim arwydd, na dim sŵn.
(3, 2) 2512 Weli di Fforest Effraim ar y gorwel
(3, 2) 2513 Fel rhimyn du? Am oriau bu fy llygaid
(3, 2) 2514 Yn craffu arni a heb weled dim;
(3, 2) 2515 Dim, er yr awr y llithrodd ein dwy asgell
(3, 2) 2516 I dde a chwith o'i chwmpas i'w hamgylchu.
(3, 2) 2517 Am oriau bu fy nghlustiau'n gwrando'n ddwys
(3, 2) 2518 Am unrhyw sŵn o'r Fforest. Dim yw dim.
(3, 2) 2519 Ac eto mae cymrodyr imi ynddi
(3, 2) 2520 Mewn ymdrech ddreng ag angau. Rhwng y cangau
(3, 2) 2521 Mae trwst y brwydro'n tarfu'r adar cân,—
(3, 2) 2522 Clinc cledd ar helm, clonc gwaywffon ar darian,
(3, 2) 2523 Bloeddiadau utgyrn a gweryriad meirch,
(3, 2) 2524 Gwaedd y capteiniaid, ac ysgrech sawl llanc
(3, 2) 2525 Mewn ing, yn treiglo â saeth yn ei goluddion,
(3, 2) 2526 A rhu cynddaredd ei ddialwyr ef.
(Abisâg) Ton brwydr, yn ôl a blaen, a thynged gwlad
 
(Abisâg) Heb wahaniaethu dim rhwng ffrind a gelyn.
(3, 2) 2540 Gobeithio i Dduw y bydd Absalom yn eu plith.
(Abisâg) Yr wyt ti'n galed.
 
(Abisâg) Yr wyt ti'n galed.
(3, 2) 2542 Caled yw gair y nef
(3, 2) 2543 Am bob llanc tebyg, a watwaro'i dad;—
(3, 2) 2544 "Y fagl a osodwyd ar ei lwybr;
(3, 2) 2545 Ei gannwyll a ddiffoddir ganol nos;
(3, 2) 2546 Cigfrain y dyffryn sydd i dynnu ei lygaid,
(3, 2) 2547 Eryrod rheibus sydd i fwyta'i gnawd."
(Abisâg) Och! Meddwl am ei dad.
 
(Abisâg) {Gan syllu allan.}
(3, 2) 2550 Byth ni bydd llawen.
(3, 2) 2551 Tad a genhedlo ffŵl, hyd ddydd ei dranc.
(Abisâg) Edrych!... Ar y gwastadedd... Gŵr yn rhedeg!
 
(Abisâg) Edrych!... Ar y gwastadedd... Gŵr yn rhedeg!
(3, 2) 2553 Negesydd ydyw!... Galw ar y Brenin
 
(3, 2) 2556 Geidwad y Porth!
(Llais) le, Gapten?
 
(Llais) le, Gapten?
(3, 2) 2558 Y negesydd!
(3, 2) 2559 Agor y porth i'w dderbyn.
(Llais) Purion, syr.
 
(Llais) Purion, syr.
(3, 2) 2561 A galw'r Gwŷr o Gard.
(Dafydd) {Gan edrych dros y canllaw castellog.}
 
(3, 2) 2567 Draw ar y gwastad.
(Dafydd) {Yn cysgodi ei lygaid.}
 
(Dafydd) Fel ffoaduriaid?
(3, 2) 2572 Nac oes, neb ond hwn.
(Dafydd) Ha! Os ei hun y mae, negesydd yw.
 
(Dafydd) Negesydd Joab. Bydded wyn ei neges.
(3, 2) 2576 Edrychwch!... Mae gŵr arall erbyn hyn
(3, 2) 2577 Yn rhedeg ar ei ôl... Mae bron â'i ddal.
(Dafydd) Os wrtho'i hun y rhed, cennad yw yntau.
 
(Dafydd) Os wrtho'i hun y rhed, cennad yw yntau.
(3, 2) 2579 Edrychwch!... Fo sy'n ennill... Pasiodd Cŵsi!
(Abisâg) {Yn gyffrous iawn.}
 
(3, 2) 2587 Y nefoedd! Y fath ras!
 
(3, 2) 2589 Y Gard! Trowch allan er anrhydedd iddynt!
 
(3, 2) 2591 Buddugoliaeth!
(Ahimâs) Heddwch, fy Arglwydd Frenin! Bendigedig
 
(Cŵsi) Am ddiwedd bradwr.
(3, 2) 2680 Sut y lladdwyd ef?
(Cŵsi) Yn awr y fuddugoliaeth, a'n gelynion
 
(3, 2) 2716 Os na chest wobr y Brenin, cei wobr Bathseba!
(3, 2) 2717 Prysura'n awr i'w llety yn y ddinas
(3, 2) 2718 Ac adrodd wrthi hi dranc Absalom;
(3, 2) 2719 Dos, galw hi yma ar frys,—a Solomon!
(Cŵsi) 'Rwy'n deall, Gapten. Gwnaf yn ôl dy air.
 
(Cŵsi) {Prysura ymaith i lawr y grisiau de.}
(3, 2) 2724 Baner y Llew a fo'n croesawu'n harwyr
(3, 2) 2725 Buddugoliaethus adref.
 
(3, 2) 2727 Ho yna'r, Gard!
(3, 2) 2728 Estynnwch ffaglen imi i oleuo
(3, 2) 2729 Baner y Llew fel y bo i'w gweld o bell.
(Dafydd) O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab!
 
(Abisâg) Mae'u trwst yn sicr o ladd y Brenin.
(3, 2) 2757 Beth?
(3, 2) 2758 Diffodd y ffaglen sy'n croesawu'r hogiau
(3, 2) 2759 Fu'n mentro'u bywyd trosom? Taw, y ffŵl.
(3, 2) 2760 Nid mewn tywyllwch y mae derbyn arwyr,
(3, 2) 2761 Ond dygant hwythau toc eu ffaglau tân.
 
(3, 2) 2773 Mae rhai o'n milwyr eisoes wrth y Porth
(3, 2) 2774 Yn llithro i'r ddinas megis lladron nos,
(3, 2) 2775 Fel pe mewn cwilydd.... Os dy fwriad oedd
(3, 2) 2776 Gwarthruddo'r bechgyn cywir a fu'n ymladd
(3, 2) 2777 Yn erbyn bradwyr, cefaist dy ddymuniad.
 
(3, 2) 2779 'Disgwyl dy fod di'n fodlon—y gath wyllt!