Absalom Fy Mab

Ciw-restr ar gyfer Dafydd

(Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon
 
(Bathseba) Fy Arglwydd Frenin!
(1, 0) 752 Dydd da, fy Mrenhines.
(Bathseba) {Yn codi ac yn cymryd cam at yr Orsedd gan ddangos y cloff.}
 
(1, 0) 758 Mab Jonathan!
(Meffiboseth) {Yn dynesu at yr Orsedd ar ci faglau gan grymu ei ben, ond heb ddringo'r esgynlawr.}
 
(Meffiboseth) Trugaredd, Frenin grasol!
(1, 0) 761 Mab Jonathan mewn carpiau! Gapten Beneia!
(Beneia) F'Arglwwydd!...
 
(Beneia) F'Arglwwydd!...
(1, 0) 763 Cyrch ymo'r fantell fraith sy ar fy ngwely.
 
(1, 0) 769 Mab Jonathan yn gloff!... Dwg ef i eistedd,
(1, 0) 770 Gadfridog Joab... Mae cwrteisi ein llys?
 
(1, 0) 773 Mab Jonathan yn dlawd!—Fy machgen, gwrando,—
(1, 0) 774 Rhoddaf yn ôl i'th gadw dir dy dadau.
(1, 0) 775 Nac ofna mwyach. Mab fy nghyfaill wyt.
 
(1, 0) 778 Diosg ei garpiog glog, a dyro'r fantell
(1, 0) 779 Fu gennyf fi fy hun dros ei ysgwyddau.
 
(1, 0) 782 Gwrandewch i gyd!
 
(1, 0) 784 O'r dwthwn hwn ymlaen
(1, 0) 785 Bydd Meffiboseth megis mab i mi.
(1, 0) 786 Bwyty ar fwrdd y Brenin. Telwch iddo
(1, 0) 787 Yr un wrogaeth ag i'n tywysogion.
 
(1, 0) 790 Hyn oll, fy machgen, er mwyn Jonathan.
(Meffiboseth) Tad pob amddifad tlawd a dalo iti.
 
(1, 0) 795 Tyred ac eistedd yma.
 
(1, 0) 797 Pwy wyt ti?
(Abisâg) Dy wasanaethferch Abisâg, O Frenin,
 
(Abisâg) A Sŵnamês.
(1, 0) 800 Ple dysgaist ti fy nghân?
(Abisâg) Fe'i dysgais gartref, f'arglwydd, gan fy nhad.
 
(1, 0) 805 'Rwyt ti'n ferch
(1, 0) 806 I Eleasar? Cymrawd llawer cad.
 
(1, 0) 808 Fe drawodd gymaint o'r Philistiaid, Joab,
(1, 0) 809 Nes glynu o'i ddeheulaw wrth y cleddyf
(1, 0) 810 A'i fraich yn ddiffrwyth dro, ar ganol cad.
(1, 0) 811 Pa fodd y ffynna fy hen gymrawd gynt?
(Abisâg) Yn dda, fy arglwydd, ar y tir a roddaist
 
(Abisâg) A'r llaw fu'n glynu wrth gledd yn glynu wrth gryman.
(1, 0) 815 A chanddo y dysgaist fy ngalarnad?
(Abisâg) Ie,
 
(1, 0) 820 Peraidd ganiedydd Israel gynt y'm galwent
(1, 0) 821 Pan gyrchodd gwŷr fi'n llanc o blith y praidd
(1, 0) 822 I wared Saul. {Ochenaid.} Mae dyn yn mynd yn hen.
(1, 0) 823 Mwynder ieuenctid,—cynt na'r bore wlith
(1, 0) 824 Ymedy hwn.
(1, 0) 825 Ond heddiw clywais lais
(1, 0) 826 A'm dug yn ôl i Fethlehem fy ienctid,
(1, 0) 827 I ffresni ei blodau ac i'w phorfa serog,
(1, 0) 828 A lliwiau'r Eden goll ar daen i gyd.
(1, 0) 829 Mi glywais lais yn moli cyfeillgarwch
(1, 0) 830 Uwch marwol don,—pan oedd y fron heb frad.
(1, 0) 831 Bendithiaf Dduw a'th yrrodd ataf heddiw,
(1, 0) 832 Bendithiaf dithau a'm lluddiaist â'th hyfrydlais
(1, 0) 833 Rhag tywallt gwaed y gwirion, ac ymddial
(1, 0) 834 Ar lanc diniwed,—er mwyn Jonathan.
(Abisâg) {Yn ostyngedig.}
 
(Abisâg) I Dduw bo'r clod, a'm cymerth i'n offeryn.
(1, 0) 837 'Rwy'n hen a blin, ond hoffwn petai'r llais
(1, 0) 838 A glywais heddiw'n aros gyda'r brenin
(1, 0) 839 Yn ei fynediad a'i ddyfodiad fyth.
(Abisâg) Nid am dy fod yn frenin, nid am fod
 
(1, 0) 850 Yr Arglwydd Dduw a dalo it dy ras.
(1, 0) 851 Er hynny, ni rown fyth aderyn gwyllt
(1, 0) 852 I fyw mewn cawell a gofyn ganddo gân.
(1, 0) 853 Yr wyt ti'n rhydd bob dydd i fynd a dyfod,
(1, 0) 854 Fy Swnamês, fel un o blant y brenin.
(1, 0) 855 Yr wyt ti'n rhydd i ofyn anrheg hael
(1, 0) 856 Yn wobr dy ganu ganddo; nid gŵr tlawd
(1, 0) 857 Yw Brenin Israel.
 
(1, 0) 859 Cymer y fodrwy hon.
(Abisâg) {Yn ysgwyd ei phen.}
 
(1, 0) 864 A pheth yw rhin llawenydd, lances fwyn?
(Abisâg) Mae'i rin yn syml—gellit ei roi mewn gair.
 
(Abisâg) Mae'i rin yn syml—gellit ei roi mewn gair.
(1, 0) 866 Dysg imi'r gair, ac fel mai byw yr Arglwydd,
(1, 0) 867 Mi a'i llefaraf yng ngwylfeydd y nos.
(Abisâg) Gair dy lawenydd di yw—"Absalom."
 
(Hŵsai) Er mwyn dy orsedd, galw Absalom!
(1, 0) 888 Beth yw dy gyngor dithau, fy Mrenhines?
(Bathseba) Ni ddychwel byth. Caledu a wnaeth ei galon
 
(Bathseba) Â'i dad trwy dymor ei alltudiaeth hir.
(1, 0) 892 Ac er fy hiraeth, nid anfonais air.
(Beneia) Gan hynny, Frenin, ped anfonit heddiw
 
(Beneia) I'w wneud ei hun yn frenin yn dy le?
(1, 0) 898 Beneia! Am fy mab yr wyt-ti'n sôn!
(Bathseba) {Gan anwesu Solomon.}
 
(Bathseba) Ai iawn gan hynny galw llofrudd adref?
(1, 0) 903 Iawn, pan fu'r Brenin yntau'n llofrudd. Iawn!
(Bathseba) {Yn protestio tan ei hanadl ac wedi ei chlwyfo.} O!
 
(Bathseba) {Yn protestio tan ei hanadl ac wedi ei chlwyfo.} O!
(1, 0) 905 Gwnaf, lances, mi anfonaf am fy mab.
(Joab) {Yn codi ar ei draed yn llawen ac agosáu at yr Orsedd.}
 
(Joab) —Cyflawnaist ddyheadau dwys dy weision.
(1, 0) 912 Ni chredi-di, Joab, fel ein doeth Frenhines,
(1, 0) 913 Mai ofer anfon?—Na ddychwelai byth
(1, 0) 914 O dir Gesŵr? Fod balchder yn ei war?
(Joab) Mae cennad o Gesŵr nawr yn yr ardd
 
(1, 0) 920 Wyt-ti'n siŵr?
(Joab) Gofyn y mae am arwydd o'th faddeuant,
 
(Joab) A fynni ei weld?
(1, 0) 924 Mynnwn, yn enw Duw!
(Joab) Nid yw'n llefaru ein tafodiaith ni,
 
(Joab) F'arglwydd, dyma'r gennad.
(1, 0) 935 Croesoi'n llys!...
(1, 0) 936 Cennad y Twysog wyt?
 
(1, 0) 939 Pa raid wrth ragor?
(1, 0) 940 —Modrwy fy mab yw hon!
 
(1, 0) 942 Dwg dithau iddo ef fy modrwy innau
(1, 0) 943 Yn arwydd cymod a maddeuant tad,
(1, 0) 944 A bod pob croeso iddo adre'n ôl.
 
(1, 0) 948 Arch iddo frysio, cyn bod fy mhenwynni'n
(1, 0) 949 Disgyn mewn hiraeth mawr amdano i fedd.
(Absalom) {Yn ei fwrw ei hun ar ei liniau o flaen y Brenin.}
 
(1, 0) 959 Absalom, fy mab!
(Solomon) {Yn cytuno â sylw a wnaed gan Meffiboseth am Absalom.}
 
(Absalom) Gall diffyg pwyll rhwng brodyr droi y ddau.
(2, 1) 1071 Dydd da, fy meibion.
 
(2, 1) 1073 Wele mor ddaionus
(2, 1) 1074 A hyfryd ydyw trigo o frodyr ynghŷd.
(2, 1) 1075 Mae fel yr ennaint gwerthfawr... Mi wnaf gân
(2, 1) 1076 Ryw ddydd ar beraroglus rin brawdgarwch.
(Absalom) Dydd da i'n harglwydd a'n brenhinol dad.
 
(Ahitoffel) Yn awr yn trafod Hebron gyda'i Gyngor.
(2, 1) 1084 Dwedwch yr helynt wrth fy nhywysogion,
(2, 1) 1085 A thraethent hwythau'u barn.
(Ahitoffel) Clywch, fy arglwyddi,
 
(Absalom) O'n cwmpas yng Nghaersalem.
(2, 1) 1097 Ond mewn cyrch
(2, 1) 1098 Y trechais i Gaersalem y Jebiwsiaid,
(2, 1) 1099 Trwy ddringo'r gwter i'w caer anorchfygol,
(2, 1) 1100 Ai throi hi'n Ddinas Dafydd, gan ei harddu
(2, 1) 1101 Ag adeiladau teilwng o Brifddinas.
(Absalom) Nid adeiladau sydd yn gwneud prifddinas;
 
(Hŵsai) I'w gwario ar Gaersalem, meddant hwy!
(2, 1) 1107 Beth yw dy gyngor?
(Absalom) {Wrth ei gyd-dywysogion.}
 
(Joab) Does dim sy'n uno gwlad fel byddin gref.
(2, 1) 1140 Beth sydd yn uno cenedl, Absalom?
(Absalom) Crefydd sy'n uno cenedl, f'arglwydd frenin.
 
(Absalom) A'r enw hwnnw—"Dinas y Brenin Mawr."
(2, 1) 1155 "Dinas y Brenin Mawr!" Fy mab ardderchog!
(2, 1) 1156 A chan na chodir hon mewn dydd na blwyddyn,
(2, 1) 1157 Rhoed Duw hir oes i'm plant i'w sylweddoli.
 
(2, 1) 1159 Pa beth wyt ti'n gynllunio?
(Solomon) Teml, fy nhad,
 
(Meffiboseth) Yn gnapïau addurn ac yn flodau lili.
(2, 1) 1169 Gwyn fyd pob tad â meibion fel y rhain,
(2, 1) 1170 Fel un, mewn planio ac mewn cydweithredu,
(2, 1) 1171 Er mwyn gogoniant y Goruchaf Dduw.
(Ahitoffel) Hyn oll a gymer amser. Eithr heddiw
 
(Ahitoffel) Cyngor rhagorol—teilwng o Fab Dafydd.
(2, 1) 1185 Llwydded yr Iôr d'ymweliad, Absalom,
(2, 1) 1186 A'r un dydd mi offrymaf finnau f'offrwm.
(2, 1) 1187 O flaen yr Arch ar allor Duw yng Nghaersalem.
(Joab) Ai digon fydd pythefnos i drefnu'r dydd?
 
(Joab) Ai digon fydd pythefnos i drefnu'r dydd?
(2, 1) 1189 Digon. Rhoddaf i Sadoc yr offeiriad
(2, 1) 1190 Godaid o arian fel y brysio i brynu
(2, 1) 1191 Bustych ac ŵyn ddigonedd at yr aberth,
(2, 1) 1192 A phorthi'r sanctaidd fflam â braster hyrddod.
(Hŵsai) A'r dydd yr edrych Duw i lawr o'r nefoedd
 
(Hŵsai) Fel y cymododd Ef y tad a'r mab.
(2, 1) 1198 Cyhoedder wedi'r aberth wledd a dawns
(2, 1) 1199 Ag utgyrn arian i'r dinaswyr oll,
(2, 1) 1200 Yn Hebron a Chaersalem. Boed y dydd
(2, 1) 1201 Yn ddydd o lawen chwedl trwy'r holl wlad.
(Ahitoffel) Ai diogel mynd o'n Twysog Absalom
 
(Ahitoffel) A'u holl ystrywiau politicaidd,
(2, 1) 1233 Dos,
(2, 1) 1234 A bendith Dduw fo'n dilyn eich cenhadaeth.
(2, 1) 1235 Fy mab, gwna'n fawr o air fy Mhrif Weinidog.
(2, 1) 1236 Mae'n gweld ymhell; a phwyswn ar ei gyngor
(2, 1) 1237 Fel gair y nef ei hun.
(Ahitoffel) Gadfridog Joab,
 
(2, 1) 1254 A'r ddawns, fy Arglwydd Hŵsai! Os ydym hen,
(2, 1) 1255 Cawn fflach y gwin trwy'n gwaed y dwthwn hwnnw,
(2, 1) 1256 A fllach y ddawns trwy'n neuadd wedi'r wledd.
(Joab) Os esgusoda'r Brenin fi yn awr,
 
(Joab) I erfyn am ei weddi gyda'r antur.
(2, 1) 1263 Ie, dos, gadfridog.
(Solomon) Fy mrawd Absalom,
 
(Absalom) A ganiatei-di hynny?
(2, 1) 1275 Pwy yw'r gyrrwr?
(Absalom) Y grymus Metheg-Ama.
 
(Absalom) Y grymus Metheg-Ama.
(2, 1) 1277 Cerbydwr da!
 
(2, 1) 1279 Ymaith, y gweilch, mwynhewch awelon gwlad.
(Absalom) {Yn atal Solomon er ei frys.}
 
(Absalom) {Solomon yn clecian y chwip.}
(2, 1) 1284 Asbri ieuenctid! Pan yw siawns pob dydd
(2, 1) 1285 Yn dwyn gwin antur newydd, lond ei gwpan,
(2, 1) 1286 Heb ddim o'r gwaddod chwerw sy yng nghwpan henaint.
(Abisâg) {Wedi ymgrymu.}
 
(2, 1) 1297 Eneth, dygaist
(2, 1) 1298 Y peraroglus win i'm bywyd hefyd.
(2, 1) 1299 Yfaf hyd atat. Taled yr Arglwydd iddi,
(2, 1) 1300 Gynghorwyr, ei hymgeledd i hen ŵr.
(Hŵsai) Mae'i llaw ar delyn yn gwefreiddio'n llys,
 
(Abisâg) Cyrchais dy fantell.
(2, 1) 1305 Mynnaf, Abisâg.
 
(2, 1) 1307 Neges sydd gennyf at Sadoc yr offeiriad.
(2, 1) 1308 A ddoi-di gyda mi? Cei weld yr Arch.
(Abisâg) Yn llawen, f'arglwydd.
 
(Abisâg) Yn llawen, f'arglwydd.
(2, 1) 1310 Y Cynghorwr Hŵsai,
(2, 1) 1311 Tyrd dithau gyda ni i drefnu'r Wyl.
(Abisâg) Pa Wyl yw honno?
 
(Ahimâs) Gras a gwrogaeth oddi wrth fy nhad Sadoc.
(2, 1) 1320 Ein cyfarch i fab Sadoc yr Offeiriad!
(Ahitoffel) Paham y rhedaist?
 
(Ahimâs) Croeso, O Frenin mawr, i dŷ fy nhad.
(2, 1) 1330 Tywalltwyd gras ar dy wefusau'n ifanc.
(2, 1) 1331 Cyfod, a hebrwng ni at Was yr Arglwydd.
(Abisâg) A diolch am dyredeg... 'Fynni-di win?
 
(Absalom) Mae haul Ethiopia'n fflam yn ei gyhyrau.
(2, 1) 1361 A dygnwch Iddew ym mwriad Ahimâs!
(2, 1) 1362 Gwystlwn fy nghoron arno....Absalom,
(2, 1) 1363 Mi ddaliaf iti her am gant o siclau
(2, 1) 1364 Y trechir Cŵsi ganddo o fewn tri mis.
(Absalom) {Yn chwerthin.}
 
(Absalom) Mae'r peth fel dwyn dy arian da.
(2, 1) 1369 Cawn weld.
(2, 1) 1370 'Fethodd fy llygaid ddim eto am redegwr.
(2, 1) 1371 Tystion ohonoch, bawb!... Ac Ahimâs,
(2, 1) 1372 Gwêl mai tydi sy'n ennill, ac mi roddaf
(2, 1) 1373 Y ddau can sicl oll yn wobr iti.
(Abisâg) A minnau'r eurdlws hwn sydd ar fy mron.
 
(Ahimâs) A'th ymddiriedaeth di, arglwyddes fwyn.
(2, 1) 1381 O'r gorau, tywys ni i dŷ dy dad,
(2, 1) 1382 Dowch, Abisâg a Hŵsai.
 
(2, 1) 1385 A threfnwch chwithau,
(2, 1) 1386 Ahitoffel ac Absalom, eich apêl
(2, 1) 1387 At bobol Hebron... Hyd yfory, ynteu!
(Absalom) Duw gadwo'r Brenin.
 
(Hŵsai) {Gan edrych yn ddwys ac yn hir yng ngwaelod ei gwpan gwag, a'r lodes yn prysuro v'w lenwi.}
(2, 2) 1542 Mi fûm yn ifanc ac yr wyf yn hen;
(2, 2) 1543 Gwelais sawl gwae a gwynfyd, ond ni welais
(2, 2) 1544 Ffïol llawenydd yn fy myw mor llawn.
(Joab) Am in gael byw i weld y dwthwn hwn
 
(Joab) Yn codi ei lef mewn mawl i Dduw.
(2, 2) 1553 A chlywed
(2, 2) 1554 Y bobol yn ymuno yn ein diolch
(2, 2) 1555 Am gymod bythol rhwng y tad a'r mab.
(Joab) Yfwch, gyfeillion, eto i lwydd y brenin,
 
(Cŵsi) Calon gwŷr Jwda a aeth ar ei ôl.
(2, 2) 1593 Ai saff Ahitoffel, ein Prif Weinidog?
(Cŵsi) Barn Duw a'i hyso! Ef yw tad y drwg.
 
(2, 2) 1614 Byddin i'm herbyn tan fy mab fy hun,
(2, 2) 1615 A baner brad yn llaw fy Mhrif Weinidog.
(2, 2) 1616 Ni roes Duw ddarllen wyneb.
 
(2, 2) 1625 Solomon,
(2, 2) 1626 Cyrch di fy nghledd a'm helm a'm tarian imi.
 
(2, 2) 1628 Bathseba, estyn dithau fantell gynnes.
(2, 2) 1629 O dan y sêr y byddi'n cysgu heno.
(Beneia) {Wedi saliwt â'i gleddyf.}
 
(2, 2) 1649 Nage, fy Nghadfridog,
(2, 2) 1650 Nid yw Caersalem i'w dinistrio er dim.
(2, 2) 1651 Ni allem ddianc mwy na blaidd mewn trap.
(Joab) Beth yw dy gyngor?
 
(Joab) Beth yw dy gyngor?
(2, 2) 1653 Ffoi ar frys i'r anial,
(2, 2) 1654 Nyni a'n gosgordd. Fel yn nyddiau Saul
(2, 2) 1655 Awn eto ar herw i'r gwyllt. Yn y diffeithwch
(2, 2) 1656 Fe ddichon dyrnaid ddal i herio llu.
(2, 2) 1657 Ac yn y gwyllt bydd ffordd i atgyfnerthion
(2, 2) 1658 Ein cyrraedd o holl Israel, nes cael byddin
(2, 2) 1659 Fo'n ddigon mawr i drechu'r bradwyr hyn.
(2, 2) 1660 Ymladd am amser 'rwyf.
(Joab) {Yn llawn edmygedd.}
 
(2, 2) 1681 "Pob milwr i drafaelu'n ysgafn."—Hon
(2, 2) 1682 Ni bu ond pwysau arnaf. Felly safed
(2, 2) 1683 Fan yma i'r neb a fyddo'n Frenin Seion.
(2, 2) 1684 Os Duw a'm dychwel, da... Ac onid e,
(2, 2) 1685 Mae helm yn fwy o gysur i ffoadur,
(2, 2) 1686 A chleddyf na theyrnwialen.
 
(Hŵsai) Rhowch gledd i minnau!
(2, 2) 1692 Na, hen gyfaill, gwrando.
(2, 2) 1693 Yr wyt ti'n ddeg a thrigain; ac ar daith
(2, 2) 1694 Trwy'r anial baich a fyddit arnom.
(Hŵsai) Rhaid
 
(Hŵsai) Im wasanaethu 'Mrenin yn awr y praw.
(2, 2) 1697 Ti gei fy ngwasanaethu... Aros yma
(2, 2) 1698 A chymer arnat ochri Absalom.
(2, 2) 1699 Felly y rhenni eu cyngor... Anfon allan
(2, 2) 1700 Negesydd â'u cynlluniau hyd ein gwersyll.
(2, 2) 1701 Gosod dy feddwl pwyllog i ddirymu
(2, 2) 1702 Cyngor Ahitoffel.
(Joab) Bydd awch dy feddwl
 
(Hŵsai) Ath adael yno â chusan gŵr di-frad.
(2, 2) 1712 Yn barod, fy Mrenhines? Doeth y gwnaethost
(2, 2) 1713 Ddwyn mentyll gwlân i gysgu tan y gwlith.
(2, 2) 1714 Encilied ein gordderchau i gadw'r tŷ
 
(2, 2) 1716 Hyd ein dychweliad yma...
 
(2, 2) 1718 Ac Abisâg,
(2, 2) 1719 Doeth fyddai i tithau ffoi i dŷ dy dad.
(2, 2) 1720 Yn Sŵnem. Mi anfonaf was i'th hebrwng.
(Abisâg) Nac erfyn arnaf i ymado â thi,
 
(Ahimâs) A bendith Sadoc gyda thi lle'r elych.
(2, 2) 1736 Fy niolch byth i Sadoc ac i'w fab,
(2, 2) 1737 Ond nid ymedy'r Arch. Â dawns a chân
(2, 2) 1738 Y cyrchais hi i'w gosod yng Nghaersalem,
(2, 2) 1739 Ac yng Nghaersalem mae hi i aros byth.
(Ahimâs) Mi a'th ganlynaf, pa le bynnag yr elych.
 
(Ahimâs) Mi a'th ganlynaf, pa le bynnag yr elych.
(2, 2) 1741 Mae gennyf amgen gwaith it, Ahimâs,
(2, 2) 1742 Mwy enbyd hefyd.
(Ahimâs) Dyro imi'r fraint.
 
(Ahimâs) Dyro imi'r fraint.
(2, 2) 1744 Aros yn Seion fel rhedegwr Hŵsai.
(2, 2) 1745 Bydd mab offeiriad uwchlaw pob drwgdybiaeth.
(2, 2) 1746 Ar ôl i Hŵsai ddysgu eu cynllwynion
(2, 2) 1747 Dwg di ei neges im, a chei ymrestru
(2, 2) 1748 Yng ngosgordd Llanciau Joab ddydd y frwydyr.
(Ahimâs) {Wedi sefyll a gogwyddo'i ben mewn gwerthfawrogiad o ymddiriedaeth fawr y Brenin.}
 
(2, 2) 1757 Deuwch, ffyddloniaid Dafydd... Tua'r anial!
 
(2, 2) 1761 Na, na, fy machgen ffyddlon! Ni all cloff
(2, 2) 1762 Fyth ganlyn gyda byddin.—Ar ffyn baglau!
(2, 2) 1763 Aros sydd raid i ti.
(Meffiboseth) {Mewn dagrau.}
 
(Abisâg) Ei waith yn anrheg heno wedi'r wledd.
(2, 2) 1774 Pa le y mae hi?
(Abisâg) Cuddiodd hi tan y fainc
 
(2, 2) 1780 'Roi-di mo'r anrheg imi, Meffiboseth?
 
(2, 2) 1783 Diolch, dywysog hoff... Rwy'n dweud "Nos da"
(2, 2) 1784 Yn awr wrth Goron Israel.
 
(2, 2) 1786 Ond os daw bore
(2, 2) 1787 Buddugol fy nychweliad, galwaf arnat:
(2, 2) 1788 "Dwg im fy nghoron yn ei phrydferth gist"...
 
(2, 2) 1790 Ffarwel, Fab Jonathan!
(Meffiboseth) {Yn torri i lawr yn llwyr.}
 
(Beneia) Galwaf, yn ôl eich gair... Mae'n doriad dydd.
(3, 1) 2267 Dydd da, fy Nghapten.
(Beneia) Henffych well, fy Mrenin.
 
(Beneia) Rhingyll ein Gwŷr o Gard i seinio'r utgorn?
(3, 1) 2283 Aros, am ennyd. Gad im edrych eto
(3, 1) 2284 Lle'r huna ugain mil o'm milwyr ffyddlon
(3, 1) 2285 Wrth danau'r gwersyll, cyn troi allan heddiw
(3, 1) 2286 I ryfel dros eu brenin.
 
(3, 1) 2288 Dywed, Joab,
(3, 1) 2289 Am beth y sonia milwyr y nos cyn brwydyr.
(Joab) Am amryw bethau:—rhai am wraig a phlant,
 
(Joab) Yn sôn yn sobr am fyd gwell wedi'r rhyfel.
(3, 1) 2296 A neb yn sôn am farw?
(Joab) Na fydd, neb.
 
(Abisâg) Achos ein Brenin.
(3, 1) 2304 Buont ffyddlon imi,
(3, 1) 2305 Pan aeth y miloedd ar ôl Absalom.
(3, 1) 2306 Rhoed Duw i minnau gadw'u ffydd yn lân.
(Joab) Gwnaethost dy orau iddynt; ac mae plan
 
(Joab) Yn planio trostynt.
(3, 1) 2311 Agor-o allan.
(3, 1) 2312 Archwiliwn unwaith eto wedd y wlad
(3, 1) 2313 Oddi yma, ac awn drosto'r ganfed waith.
(Joab) Rhyngom a'r afon dacw Fforest Effraim,
 
(Joab) Fan acw, 'nôl dy blan, bydd maes y gad.
(3, 1) 2318 Yn hollol! Rhaid i'w byddin fawr gwtogi
(3, 1) 2319 Ei blaen wrth ddod trwy fforest, fel na byddo
(3, 1) 2320 Fawr lletach na blaen byddin lawer llai.
(3, 1) 2321 A'r coed a ddifa fwy y dwthwn hwn a
(3, 1) 2322 Nag a wna'r cleddyf; dyna'n trap ni, Joab!
(Joab) Beth yw d'orchmynion olaf?
 
(Joab) Beth yw d'orchmynion olaf?
(3, 1) 2324 Rhanna'n byddin
(3, 1) 2325 Yn dair; un fintai tan dy frawd, i'r chwith;
(3, 1) 2326 Ac un tan Itai'r Gethiad, ar y dde;
(3, 1) 2327 A'r drydedd tanat ti a mi'n y canol
(3, 1) 2328 I ddenu'r gelyn hyd i graidd Coed Effraim.
(3, 1) 2329 Gorchymyn i'r ddwy asgell gelu eu harfau
(3, 1) 2330 O dan eu clogau rhag pelydrau'r haul,
(3, 1) 2331 Dwy asgell, |tu yma| i'r coed,—nes iddynt glywed
(3, 1) 2332 Banllef dy utgorn yn cyhoeddi rhuthro
(3, 1) 2333 O fyddin Absalom ar dy ôl i'r coed.
(3, 1) 2334 Wedyn o dde a chwith, 'sgubed yr esgyll
(3, 1) 2335 Ymlaen, nes cau tu ôl i Absalom,
(3, 1) 2336 Mor ddiymwared ag y caeir trap.
(Joab) Mae'n gynllun rheiol, teilwng o'th filwriaeth
 
(Joab) Rhag ofn diffoddi golau Israel.
(3, 1) 2341 Pan wêl y llanc fi gyda thi'n y gad,
(3, 1) 2342 Ni chredaf y bydd iddo daro'i dad.
(Joab) Nid ei di ddim i'r frwydyr y waith hon.
 
(Joab) Yn atgyfnerthiad in o Mahanâim.
(3, 1) 2351 Gan i chwi fentro'ch einioes dros eich brenin,
(3, 1) 2352 Gwnaf innau'r hyn fo da'n eich golwg chwi.
(3, 1) 2353 Un peth yn unig a erfyniaf—Bydd
(3, 1) 2354 Yn esmwyth, er fy mwyn, wrth Absalom...
(3, 1) 2355 Seiniwch yr utgorn!
(Joab) Ffarwel, fy Mrenin.
 
(Joab) Ffarwel, fy Mrenin.
(3, 1) 2359 Ffarwel, Gadfridog glew.
 
(Joab) Nid Abner na Gideon, ond Dafydd Frenin.
(3, 1) 2366 Duw a'th warchodo, Joab.
(Joab) Ac yn awr
 
(Joab) Lle y'i gwelo pawb, â'i law mewn bendith drostynt.
(3, 1) 2372 Mi wnaf.
(Abisâg) Os myn y Brenin, af yn awr
 
(Abisâg) Y fyddin yn ymdeithio i'r frwydyr.
(3, 1) 2377 Na,
(3, 1) 2378 Gad iddynt gysgu, tra bo cwsg i'w gael.
 
(3, 1) 2381 Diolch, fy milwyr dewr... Y nef a'ch gwared
(3, 1) 2382 O fagl yr heliwr heddiw yn y Coed.
(3, 1) 2383 Nac ofnwch rhag y saeth a hedo'r dydd,
(3, 1) 2384 Na rhag y waywffon, canys Cyfiawnder
(3, 1) 2385 Fydd darian i chwi'n erbyn haid o fradwyr,
(3, 1) 2386 A Saeth Ymwared Duw a gliria'ch ffordd
(3, 1) 2387 Ifuddugoliaeth... A phan ddelo'r awr,
(3, 1) 2388 Atolwg byddwch esmwyth wrth fy llanc
(3, 1) 2389 A gamarweiniwyd. Dygwch ef at ei dad...
(3, 1) 2390 Ymlaen i'r fuddugoliaeth fawr! Ymlaen!
 
(3, 1) 2394 I'th ofal, Ahimâs, yn awr cyflwynwn
(3, 1) 2395 Luman y Brenin yn y frwydyr heddiw,
(3, 1) 2396 A hynny er anrhydedd, am it gario
(3, 1) 2397 Negesau Hŵsai atom o Gaersalem
(3, 1) 2398 Trwy bob enbydrwydd.
(Ahimâs) {Yn penlinio i dderbyn y faner a'i chusanu.}
 
(Joab) Yn iach it, arglwydd.
(3, 1) 2403 Yn iach, Gadfridog, cofia
(3, 1) 2404 Fy ngeiriau olaf ynghylch Absalom.
(Joab) Dowch, Ahimâs a Chŵsi! Glynwch wrthyf!
 
(3, 1) 2424 Maen'-nhw wedi mynd bob un! Maen'-nhw wedi mynd!
(3, 1) 2425 Sawl un a ddaw yn ôl?... Pwy fyddai'n frenin?
 
(Abisâg) Bu'r straen yn ormod iti. Cwsg ychydig.
(3, 1) 2430 Ni allaf gysgu, a'm byddin ar ei ffordd
(3, 1) 2431 I faes y gwaed.
(Beneia) Bellach ni elli di ragor
 
(Beneia) Cynhaliaf di i'th stafell wely. Tyrd.
(3, 1) 2436 Fy mwriad i oedd aros ar y mur
(3, 1) 2437 I ddisgwyl am redegwr o Goed Effraim
(3, 1) 2438 Gyda newyddion.
(Beneia) Cwsg. Fe alwn arnat
 
(Beneia) Cyn gynted ag y gwelwn y rhedegwr.
(3, 1) 2441 Rwy'n llesg a blin, ond O! ni allwn gysgu
(3, 1) 2442 Er mynd i orwedd dro.
(Abisâg) Coffa it ganu,
 
(Abisâg) Fel i'w anwylyd?
(3, 1) 2452 Ac fe elwch arnaf?
(Beneia) Ar unwaith... Tyred, arglwydd, gorffwys bellach.
 
(3, 2) 2564 Pa le y mae-o?
(3, 2) 2565 Dangoswch-o i mi.
(Beneia) {Yn pwyntio.}
 
(3, 2) 2569 Mae'r llygaid hyn yn hen; dwed a oes eraill
(3, 2) 2570 Yn rhedeg gydag ef o gwr y coed
(3, 2) 2571 Fel ffoaduriaid?
(Beneia) Nac oes, neb ond hwn.
 
(Beneia) Nac oes, neb ond hwn.
(3, 2) 2573 Ha! Os ei hun y mae, negesydd yw.
(Abisâg) Ynawr 'rwy'n ei adnabod... Cŵsi ddu!
 
(Abisâg) Ynawr 'rwy'n ei adnabod... Cŵsi ddu!
(3, 2) 2575 Negesydd Joab. Bydded wyn ei neges.
(Beneia) Edrychwch!... Mae gŵr arall erbyn hyn
 
(Beneia) Yn rhedeg ar ei ôl... Mae bron â'i ddal.
(3, 2) 2578 Os wrtho'i hun y rhed, cennad yw yntau.
(Beneia) Edrychwch!... Fo sy'n ennill... Pasiodd Cŵsi!
 
(Abisâg) Fy Mrenin, 'rwy'n ei nabod... Ahimâs!
(3, 2) 2582 Llanc da yw hwnnw. Newyddion da sydd ganddo.
(Abisâg) Coffa i'r Brenin ddweud y gwystlai'i goron
 
(3, 2) 2607 Ai diogel Absalom fy mab?
(Ahimâs) Ar awr y fuddugoliaeth, 'roedd cythrwfl
 
(Ahimâs) Ymhlith ein milwyr—bloeddio a chroes-floeddio.
(3, 2) 2611 A ddaliwyd y Tywysog yn garcharor?
(Ahimâs) Ni allwn aros dim i weld beth oedd.
 
(Ahimâs) Brysia â'r fuddugoliaeth at y Brenin!"
(3, 2) 2615 Ein diolch, ffrind... Ac fel y cyntaf un
(3, 2) 2616 I ddwyn i'r Brenin y newyddion da
(3, 2) 2617 Am fuddugoliaeth, coffa'r ddefod hen
(3, 2) 2618 Fod y negesydd i gael hawlio'i wobr.
(3, 2) 2619 Ar ben dy redeg gwych y dwthwn hwn
(3, 2) 2620 Cofiwn dy ddewrder fel negesydd Hŵsai.
(3, 2) 2621 Enwa dy wobr, ac fel mai byw yr Arglwydd
(3, 2) 2622 Gofyn a thi a'i cei, beth bynnag fo.
(Ahimâs) Fy Mrenin grasol a haelionus, rho
 
(3, 2) 2627 Fy nhelynores?...
 
(3, 2) 2629 Beth a ddywed hi?
(Abisâg) Am ei ffyddlondeb mawr i'w Frenin rhoddais
 
(Abisâg) Yn ôl dy lw, atolwg, gwrando'i gais.
(3, 2) 2635 Haws, petai wedi gofyn hanner fy nheyrnas!
(3, 2) 2636 Ni fynnwn, ac ni fedrwn byth wynebu
(3, 2) 2637 Ar henaint heb dy gân.
(Abisâg) Ac ni bydd rhaid.
 
(3, 2) 2643 Cymer hi.
(3, 2) 2644 Ar ei phriodas, Gapten, fe'i gwaddolaf
(3, 2) 2645 Â gwaddol Tywysoges...
 
(3, 2) 2647 Wyt ti'n fodlon?
(Abisâg) O frenin mawr, haelfrydig.
 
(3, 2) 2661 Ai diogel Absalom?
(Cŵsi) {Yn dynwared ei drywanu ei hun yn ffyrnig deirgwaith â'i gleddau byr.}
 
(Cŵsi) Sydd heno'n gelain gegrwth...
(3, 2) 2668 O, fy mab!
(3, 2) 2669 O Absalom, fy mab! O Absalom!
 
(3, 2) 2672 Na buaswn farw drosot-ti, fy mab!
(Cŵsi) {Gan godi ar ei draed o'r diwedd.}
 
(Cŵsi) Ac felly y darfyddo am bob bradwr!
(3, 2) 2714 O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab!
(Beneia) {Tan ei anadl wrth Gŵsi.}
 
(Beneia) Baner y Llew fel y bo i'w gweld o bell.
(3, 2) 2734 O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab!
(Abisâg) {Yn ferw o gydymdeimlad.}
 
(3, 2) 2750 O, fy mab Absalom!
(Abisâg) {Mewn dirfawr ing hithau.}
 
(Beneia)
(3, 2) 2763 Absalom!
(Abisâg) Rhaid imi ddiffodd fflam y ffaglen yna!
 
(3, 2) 2824 ... Absalom!
(Joab) Ie, Absalom, mae'n siŵr! Cafodd ei haeddiant.
 
(3, 2) 2830 Na, na, Gadfridog.
(Joab) O! mi wn yn burion
 
(3, 2) 2836 Taw yn awr.
(Joab) Na wnaf, nes ychwanegu eto hyn—
 
(Joab) Tyrd, ymwrola. Dangos dy hun i'th fyddin.
(3, 2) 2848 Gwnewch â mi fel y mynnoch: aeth y goncwest
(3, 2) 2849 Yn lludw yn fy ngenau. Mae fy nghalon
(3, 2) 2850 Mewn bedd yn Fforest Effraim.