Adar o'r Unlliw

Ciw-restr ar gyfer Desc

(1, 0) 1 O safle'r gynulleidfa y rhoddir holl gyfarwyddiadau'r llwyfan.
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Ar hyd ffrynt y llwyfan rhed ffordd wledig.
(1, 0) 4 Yn y cefndir y mae allt o goed wedi ymwisgo ag irddail haf.
(1, 0) 5 Rhwng yr allt a'r ffordd mae clawdd glas isel ac ynddo, oddeutu canol y llwyfan, adwy a llwybr yn arwain ohoni drwy'r allt i'r afon gerllaw.
(1, 0) 6 Gwelir goleu'r lleuad yn y coed ac ym mharthau pellaf y llwyfan.
(1, 0) 7 ~
(1, 0) 8 Gerllaw'r adwy, ar fin y ffordd, y mae tân coed yn cynneu.
(1, 0) 9 O bobtu'r tân y mae bocs cyfleus i eistedd arno.
(1, 0) 10 O'r neilltu, mae bocs arall a ddefnyddir fel ystorfwrdd.
(1, 0) 11 Arno gorwedd tryblith o blatiau, cyllyll, ffyrc, dau gwpan tin, sypynnau o ddefnyddiau'r arlwy a llusern.
(1, 0) 12 Ar y llawr yn agos i'r tân mae llusern arall a phadell ffrio yn cynnwys stêc a winwyn.
(1, 0) 13 Teifl y tân a'r ddau lusern, ffrwd o oleuni ar y rhan hon o'r llwyfan.
(1, 0) 14 ~
(1, 0) 15 Pan gwyd y llen, gwelir TWM TINCER yn eistedd ar y bocs ar y dde, yn bwyta ei swper o'r plat sydd ar ei lin.
(1, 0) 16 Dyn canol oed ydyw TWM, garw'r olwg arno a diraen ei wisg.
(1, 0) 17 Wrth ei weld yn syllu'n drist ar ei gwpan gwag, sylweddolir ar unwaith ei fod heb ddim i'w yfed.
(1, 0) 18 Sych ei blat a thusw o laswellt o'r clawdd a gloewa ef a darn o bapur.
(1, 0) 19 Yna tania ei bibell ac ymollwng i'w mwynhau.
(1, 0) 20 ~
(1, 0) 21 Clywir DICI BACH DWL yn canu ar yr aswy.
(Twm) Hylo, Dici!
 
(Twm) Wel, brysia 'ta, machgen i, brysia!
(1, 0) 28 Daw DICI BACH DWL i mewn o'r aswy yn cario torth o fara a jar galwyn.
(1, 0) 29 Llanc ifanc ydyw, ei wisg yn wladaidd a charpiog a chanddo hen het feddal am ben toreth o wallt anghryno.
(1, 0) 30 Dengys ei wyneb syn fod ei feddwl hytrach yn bwl.
(1, 0) 31 Er hynny nid oes ynddo ddim i beri atgasedd; i'r gwrthwyneb mae'n ennyn tosturi a thynerwch.
(1, 0) 32 Dic
(Twm) Mae dy "shar" di yn y badell ffrio.
 
(Twm) Wel, brysia 'ta, machgen i, brysia!
(1, 0) 34 Diawch, Twm, mae oglau hyfryd ar y stêc a'r winwns 'na.
(Twm) Mae dy "shar" di yn y badell ffrio.
 
(Twm) Estyn y cwrw 'na i mi, Dici.
(1, 0) 37 Gesyd DICI 'r dorth gyda'r pethau eraill ar y bocs ac estyn y jar i TWM.
(1, 0) 38 Mae yntau'n arllwys llond cwpan o'r cwrw ac yn ei yfed yn awchus.
(1, 0) 39 Mae DICI yn dal y badell ffrio wrth ben y tên gan fwynhau'r arogl.
(Dici) A─!
 
(Twm) Mae' nhw wedi 'u clymu wrth fôn y pren helyg ymhen isa'r pwllyn.
(1, 0) 47 Clywir ci yn cwyno'n isel ar y dde.
(Dici) {Yn bryderus.}
 
(Dici) Nedi!
(1, 0) 63 Mae'r asyn yn nadu o'r dde.
(Twm) Gwrando arno─ar 'ngair i─yn dy ateb di 'nol cystal ag unrhyw Gristion mewn trowsus.
 
(Dici) Wel─falle y byddai pobl yn barod i gredu hynny, falle─
(1, 0) 77 Clywir swn rhegen yr yd o'r pellter ar yr aswy.
(Twm) 'D yw 'r hen regen yr yd 'na ddim yn gweld rhyw lawer yn y syniad chwaith, feddyliwn i.
 
(Twm) Mae'r gwynt wedi troi i'r gorllewin.
(1, 0) 106 Clywir si'r gwynt yn y coed.
(Dici) Ydi wir.
 
(Twm) Fe ddylsa Dafis Ty Isha fod wedi cynnig mwy na chwe cheiniog am gyweirio'r hen fwced 'na.
(1, 0) 152 Daw JENKINS Y CIPAR i mewn o'r aswy─gwr talgryf, canol oed, wedi ymwisgo yn ol dull cyffredin dynîon o'r alwedigaeth honno.
(Twm) {Yn ffugio syndod.}
 
(Jenkins) Yr hen dacle isel─rodneys─Yh!
(1, 0) 211 A ymaith ar yr aswy.
(Dici) {Yn gwylio Jenkins yn mynd.}
 
(Twm) Fe ddo' i â'r taclau mas eto.
(1, 0) 226 Daw a'r taclau potsio allan.
(1, 0) 227 Mae'r lleuad yn araf ddiflannu tu cefn i'r cymylau.
(Dici) {Yn symud ol a blaen yn gynhyrfus ac yn chwerthin yn llon.}
 
(Twm) Dyma'r clwtyn, dyma'r pren a'r paraffin; gwna ffagal.
(1, 0) 237 Mae TwM yn trin y dryfer, tra mae DICI yn rhwymo'r clwtyn am y pren.
(Dici) {Yn arllwys paraffin ar y clwtyn.}
 
(Twm) Eistedd lawr, Dici bach, a threia edrych fel petae'n ddydd Sul.
(1, 0) 278 Maent eto yn ymddangos fel dau dincer diniwed yn paratoi swper ar fin y ffordd.
(1, 0) 279 Fel peth priodol i'r amgylchiad, mae TWM yn dechreu mwmian emyn Cymreig heb fod yn rhyw sicr iawn o'r nodau.
(1, 0) 280 Mae DICI yn ymuno ag ef.
(1, 0) 281 ~
(1, 0) 282 Daw ESGOB CANOLBARTH CYMRU i mewn ar y dde, yn cerdded yn lluddedig ac yn cario bag.
(1, 0) 283 Mae llwch y fordd ar ei wisg esgobyddol.
(1, 0) 284 Hen foneddwr hynaws ydyw'r ESGOB a chanddo wyneb serchog iawn.
(1, 0) 285 Saif am ennyd gan syllu drwy a thros ei spectol fel un byr iawn ei olwg.
(Esgob) Beth sydd yma?
 
(Esgob) Ond 'rwyf newydd ddod o hyd i'r llythyr yn fy llogell.
(1, 0) 316 Mae cyflwr YR ESGOB a'i diriondeb yn dechreu ennill serch TWM a DICI.
(Dici) Twm, falle y leiciai'r gwr bonheddig eiste' lawr?
 
(Dici) Mae'ch traed chi'n siwr o fod wedi blino.
(1, 0) 325 Eistedda'r ESGOB gydag ochenaid o ollyngdod.
(Esgob) {Yn ffroeni.}
 
(Twm) Estyn y plat 'na, Dici.
(1, 0) 343 Mae Dici 'n dal plat a TwM yn arllwys arno gynnwys y badell ffrio.
(Dici) Dyna fe, Twm, y grafi a chwbl.
 
(Esgob) Nid yn unig mae'n ddymunol yma ond mae─mae yma rywbeth cyfareddol hefyd.
(1, 0) 430 Clywir rhegen yr yd.
(Dici) Dyna'r hen regen 'r yd lawr 'na ar y gors.
 
(Dici) Rhyw bigo fy nhamad 'rwy' innau.
(1, 0) 440 Clywir dylluan yn galw gerllaw.
(Esgob) Fe wn i beth yw honna; dylluan.
 
(Esgob) Wel, 'r oeddwn yn dipyn o athlete pan oeddwn yn Rhydychen.
(1, 0) 469 Dynesa DICI at YR ESGOB.
(1, 0) 470 Mae ei symudiadau didrwst a chwimwth, ynddynt eu hunain, yn llawn cyfaredd.
(1, 0) 471 Mae'n fyw drwyddo gan angerdd ei ddyhead hoenus a lledradaidd ac y mae ei lais yn isel a hudolus.
(Dici) Falle leiciech chi dipyn o sport yn yr afon heno?
 
(Esgob) Swish!
(1, 0) 535 Clywir rhegen yr yd eto.
(Esgob) {Yn tristhau'n sydyn.}
 
(Dici) 'Rhoswch funud syr, os ych chi'n leicio brithyllod.
(1, 0) 552 Brysia trwy'r coed yn y cefn.
(Twm) Bachden digon teidi yw Dici, syr, ond wrth gwrs mae'n rhaid cyfaddef bod na dipyn bach o wendid yn 'i ben e'.
 
(Esgob) Gwn ddigon i wneud cymaint â hynny a phobl y buasech yn synnu clywed eu henwau.
(1, 0) 564 Daw DICI yn ol yn cario nifer o frithyllod.
(Dici) Dyma nhw, syr.
 
(Twm a Dici) Noswaith dda, syr.
(1, 0) 610 Dechreua'r Esgob symud ymaith gan gario ei fag.
(Dici) A gofalwch beidio cwympo i'r afon, syr.
 
(Twm a Dici) Noswaith dda, syr.
(1, 0) 616 A'r EsGOB ymaith ar y dde.
(Dici) Mawredd, Twm, bydd gennym ni rywbeth i'w ddweyd wrthyn' nhw yn yr efail yfory.
 
(Twm) Dere mlaen.
(1, 0) 644 Ant ymaith rhwng y coed yn y cefn, a DICI yn chwerthin rhyngddo a'i hun.
(1, 0) 645 Erys y llwyfan yn wag am ychydig eiliadau.
(1, 0) 646 Daw JENKINS Y CIPAR i mewn o'r aswy yn llechwraidd.
(Jenkins) {Yn sibrwd ac yn amneidio ar rywrai tuallan.}
 
(Jenkins) Ewch yn ol o'r golwg.
(1, 0) 664 Clywir murmur, yna mae distawrwydd.
(1, 0) 665 Mae JENKINS yn plygu'n isel ac yn symud yn y cysgod i fan cyfleus i ymosod ar y dyn sy'n agoshau.
(1, 0) 666 ~
(1, 0) 667 Daw'r ESGOB i mewn o'r dde yn cario ei fag a rhai o'r dillad oedd ynddo.
(1, 0) 668 Mae golwg druenus arno─ei ddillad yn wlyb, ei goler yn llipa a brwnt, ei het wedi diflannu.
(1, 0) 669 Mae wedi tynnu ei got a charia hi ar ei fraich.
(1, 0) 670 Hefyd y mae wedi diosg ei "gaiters" ac ymddengys modfedd neu ddwy o'i "pants" uwchben ei socs glas hen ffasiwn.
(Esgob) {Yn murmur wrth ddod i mewn.}
 
(Esgob) Nos da.
(1, 0) 745 A JENKINS ymaith ar yr aswy.
(1, 0) 746 Mae'r ESGOB yn ysgwyd y dwr o'i got ac yn ei gwisgo.
(1, 0) 747 Gesyd ei gaiters wrth y tân i sychu.
(1, 0) 748 Egyr ei fag a thyn allan ei grys nos sydd yn wlyb iawn.
(1, 0) 749 Gwasg y dwr ohono a thaena'r dilledyn ar focs wrth y tân.
(1, 0) 750 Fel y mae effeithiau'r drochfa a'r sgarmes yn cilio, daw ei hynawsedd arferol i'r amlwg drachefn.
(1, 0) 751 Clywir si'r awel yn y coed ac y mae yntau yn gwrando gyda gwen foddhaus.
(1, 0) 752 Clywir dylluan gerllaw.
(Esgob) {Yn curo ei ddwylo ac yn gwaeddi.}
 
(Esgob) Na, na,─dim am foment!
(1, 0) 776 Cerdda yn ol a blaen eto.
(1, 0) 777 ~
(1, 0) 778 Daw DICI a TWM yn ol, DICI a samwn mawr yn ei law.
(1, 0) 779 Gan TWM mae'r dryfer a het yr ESGOB a gafodd yn yr afon.
(1, 0) 780 Am foment, nid ydynt yn canfod YR ESGOB, canys yn yr ymdrech i ennill y fuddugoliaeth arno ei hun, mae ef wedi cerdded i'r cysgod.
(1, 0) 781 Mae DICI yn agos i'r tân cyn i'r ESGOB sylweddoli eu bod wedi dychwelyd.
(Esgob) {Yn llawen.}
 
(Twm) Gwnawn, syr, fe ddown ni i'ch hebrwng chi i dy Mr. Lewis Pugh, gyda phleser.
(1, 0) 855 Daw JENKINS i mewn o'r aswy.
(Esgob) Dyma chwi eto, mi welaf.
 
(Twm) A chymrwch air o gyngor yn garedig gen i; 'rych chi'n un o'r rheiny sy'n codi'n rhy gynnar.
(1, 0) 919 Mae'n symud i'r dde.
(Esgob) {Yn dilyn Twm.}
 
(Esgob) Ydych, gyfaill, yn rhy gynnar, ydych, yn wir─yn rhy gynnar.
(1, 0) 922 Clywir rhegen yr yd wrthi yn ddygn iawn.
(Esgob) {Yn aros ac yn ysgwyd ei law i'w chyfeiriad.}
 
(Esgob) A thithau'n rhy ddiweddar, aderyn glân─yn rhy ddiweddar!
(1, 0) 925 A TWM, YR ESGOB a DICI allan ar y dde.
(1, 0) 926 ~
(1, 0) 927 LLEN