Adar o'r Unlliw

Ciw-restr ar gyfer Jenkins

(Twm) Hylo, Dici!
 
(Dici) Cymryd tro bach ar ol swper?
(1, 0) 160 'Dwy' i am ddim o'ch sebon chi 'ch dau.
(1, 0) 161 Beth wyt ti'n wneud yma, Twm Tincer?
(Twm) Ffrio stêc a winwns.
 
(Twm) Ein winwns ni!
(1, 0) 168 Yn wir?
(Twm) Beth ych chi'n feddwl, Jenkins?
 
(Twm) Beth ych chi'n awgrymu?
(1, 0) 171 'Dwy' i'n awgrymu dim.
(1, 0) 172 'Rwy' i am ddweud beth sy gen i'n eitha plaen.
(1, 0) 173 'Rwy' i am dy weld di, a'r Dici Bach Dwl 'ma, yn 'i chychwyn hi oddiar dir Mr.
(1, 0) 174 Venerbey-Jones.
(Twm) Pwy sy ar 'i hen dir e'?
 
(Twm) Y ffordd fawr yw hon, ontefe?
(1, 0) 178 Falle hynny.
(1, 0) 179 Ond mae'r tir o bobtu yn perthyn i Mr. Venerbey-Jones.
(1, 0) 180 A mae'r gêm sy arno yn perthyn i Mr. Venerbey-Jones.
(Twm) Gall hynny fod.
 
(Twm) Gall hynny fod.
(1, 0) 182 Pob pysgodyn yn yr afon yma am filltir a hanner─Mr. Venerbey-Jones pia hwnnw.
(Twm) Chi sy'n dweud hynny.
 
(Twm) Chi sy'n dweud hynny.
(1, 0) 184 Ia; ac ar y stad yma, perthyn i Mr. Venerbey-Jones mae pob creadur asgellog, pluog a blewog.
(1, 0) 185 Paid ti anghofio hynny.
(Twm) Fe wn i beth sy'n bod, Jenkins.
 
(Twm) Mae'ch meistr wedi bod yn achwyn nad oes gennych ddigon o blwc i wneud cipar da.
(1, 0) 188 Beth?
(Twm) O!─rwy' i wedi clywed!
 
(Twm) A dyma chi'n awr yn dechre dihuno ac yn dod i boeni dau dincer diwyd a gonest.
(1, 0) 191 O, ia, par pert ych chi.
(1, 0) 192 'Does gan y polis mo'r syniad lleia' am yr holl felldith ych chi'n gyflawni─yn cysgu yn y cart yna fel pac o sipsiwns.
(Twm) {Wedi ei dramgwyddo.}
 
(Dici) Cwilydd iddo, Twm─a chitha'n Fethodist hefyd.
(1, 0) 197 Yn y wyrcws y dylet ti fod, y llechgi bach.
(Dici) Nage.
 
(Dici) Yfi y tu fewn i hen wal fawr─dim byth!
(1, 0) 200 Ac am danat ti, Twm Tincer, dy le di yw'r 'jail'─a bydd yn bleser mawr gen i dy gael di yno.
(Twm) Wnewch chi byth mo hynny, Jenkins; 'rych chi wedi treio'n galed am ugain mlynedd.
 
(Twm) Wnewch chi byth mo hynny, Jenkins; 'rych chi wedi treio'n galed am ugain mlynedd.
(1, 0) 202 'Rwy'n sicr o'ch cael chi un o'r dyddiau nesa' yma─y ddau o honoch chi.
(1, 0) 203 A nawr, cyn i mi fynd adre', 'rwy' i am eich cael chi oddiar y stad yma.
(Twm) 'Rym ninnau'n bwriadu symud oddiyma pryd y mynnwn ni, Jenkins, a dim eiliad cyn hynny.
 
(Twm) 'Rwy'i bron â chredu mai chi ddylai 'i chychwyn hi, Jenkins, rhag ofn i mi golli gafael ar y badell ffrio 'ma.
(1, 0) 207 Wel, cofiwch 'rwy' i wedi rhoi rhybudd teg i chi.
(Twm) Diolch i chi am ddim, Jenkins.
 
(Twm) Noswaith dda, a melys bo'ch hun.
(1, 0) 210 Yr hen dacle isel─rodneys─Yh!
(Dici) {Yn gwylio Jenkins yn mynd.}
 
(1, 0) 648 Hsh.
(1, 0) 649 Sefwch fanna 'ch pedwar.
(1, 0) 650 Peidiwch dod i'r golwg nes i mi chwibanu.
(Llais) {O'r tuallan yn sibrwd.}
 
(1, 0) 654 A!
 
(1, 0) 656 Mae' nhw'n bwriadu dod 'nol yma─a physgodyn neu gêm denyn' nhw, gallwch fentro,
 
(1, 0) 658 Hsh!
(1, 0) 659 Pwy yw hwnna sydd ar yr heol?
(1, 0) 660 Mae e', ydi, mae e'n cario bag.
(1, 0) 661 Un o ffrindiau Twm Tincer─potsiar arall lled debig.
(1, 0) 662 Rwy'n mynd i drafod hwn fy hunan.
(1, 0) 663 Ewch yn ol o'r golwg.
(Esgob) {Yn murmur wrth ddod i mewn.}
 
(1, 0) 678 Dyma fi wedi dy ddal, y dyhiryn!
(Esgob) {Wedi ei synnu ac yn gollwng ei bethau.}
 
(Esgob) Sut y meiddiwch chwi wneud y fath beth?
(1, 0) 684 Dy ollwng, wir?
 
(1, 0) 686 Ollynga' i ddim o dy sort di─y lleidr drwg!
(Esgob) Drwg?
 
(Esgob) Ni chlywais erioed y fath─
(1, 0) 692 Bydd yn dawel.
(1, 0) 693 Wyt ti'n clywed?
(Esgob) Na fyddaf i ddim yn dawel.
 
(Esgob) Na fyddaf i ddim yn dawel.
(1, 0) 695 Wel ynte, mi wna' i ti.
 
(1, 0) 697 Nawr ynte!
(Esgob) {Wedi colli ei dymer.}
 
(1, 0) 705 Rhaid iti─
(Esgob) {Yn ei wthio ymaith.}
 
(1, 0) 712 Beth?
 
(1, 0) 714 Offeiriad?
(1, 0) 715 Ddwedsoch chi offeiriad?
(Esgob) Ie, offeiriad.
 
(Esgob) Ond dewch, gwelwch fy ngholer.
(1, 0) 721 Ia,─coler offeiriad; a'ch ffordd chi o siarad hefyd.
(Esgob) A phwy ydych chwi sydd yn beiddio ymddwyn fel hyn?
 
(Esgob) Beth yw eich enw?
(1, 0) 724 Jenkins.
(1, 0) 725 Fi yw pen-cipar Mr. Venerbey-Jones.
(Esgob) Pw!
 
(Esgob) Hwnacw?
(1, 0) 728 Ffeirad?
(1, 0) 729 Wel, wel, wel!
 
(1, 0) 731 Ond beth yw'r olwg yma sydd arnoch chi?
(Esgob) {Yn swta.}
 
(Esgob) Yr olwg arnaf fi?
(1, 0) 734 A'r amser hyn o'r nos hefyd?
(Esgob) {Yn llwyr gashau Jenkins erbyn hyn.}
 
(Esgob) Nid eich busnes chwi ydyw hynny, y dyn.
(1, 0) 737 Falle nage.
(1, 0) 738 Wel, gwell i mi fynd.
(1, 0) 739 Mae'n ddrwg gen i, syr, i mi roi 'nwylo arnoch chi.
(Esgob) {Dipyn yn ymffrostgar.}
 
(Esgob) Cawsoch gystal ag a roddasoch, onid do?
(1, 0) 742 Noswaith dda, syr.
(Esgob) {Yn swta.}
 
(Esgob) Dyma chwi eto, mi welaf.
(1, 0) 857 Beth oeddet ti'n wneud yn yr afon, gynne fach, Twm Tincer?
(Twm) {Yn gyfyng arno am foment.}
 
(Twm) Yn yr afon?
(1, 0) 860 Ia─a gole gen ti.
(1, 0) 861 Beth oeddet ti'n wneud?
(Twm) {Yn dangos het yr Esgob.}
 
(Twm) 'Nol het y gwr bonheddig yma o'r dwr.
(1, 0) 864 Het?
 
(1, 0) 866 Gollsoch chi 'ch het?
(Esgob) Collais fy het, mae hynny'n wir.
 
(Esgob) Collais fy het, mae hynny'n wir.
(1, 0) 868 Paid ti a meddwl, Twm Tincer, y gelli di 'nhwyllo i â hen stori am het.
 
(1, 0) 870 A 'rych chi'n ffrind i'r par yma wedi 'r cwbwl.
(1, 0) 871 Ia, ffeirad nêt ych chi, siwr o fod.
 
(Esgob) Os chwibanwch chwi, bydd yn edifar gennych.
(1, 0) 874 Yn edifar?
(1, 0) 875 Fydda' i 'n wir?
(1, 0) 876 A phwy ych chi, 's gwn i?
(Dici) {Yn fawreddog.}
 
(1, 0) 880 Esgob?
(Esgob) Yn hollol felly.
 
(1, 0) 887 "Y Gwir Barchedig Arglwydd Esgob Canolbarth Cymru."
(Dici) {O'r neilltu.}
 
(1, 0) 891 Ac yr ych chi 'n esgob, syr?
(Esgob) {Yn cymryd y llythyrau yn ol.}
 
(1, 0) 914 Noswaith dda.