Adar o'r Unlliw

Ciw-restr ar gyfer Twm

 
(1, 0) 22 Hylo, Dici!
(Dici) {O'r tuallan.}
 
(Dici) Hylo, Twm!
(1, 0) 25 Ydi'r cwrw gen ti?
(Dici) Ydi, siwr.
 
(Dici) Ydi, siwr.
(1, 0) 27 Wel, brysia 'ta, machgen i, brysia!
 
(1, 0) 35 Mae dy "shar" di yn y badell ffrio.
(1, 0) 36 Estyn y cwrw 'na i mi, Dici.
(Dici) A─!
 
(Dici) Ych chi wedi gosod y "lines " nos, Twm?
(1, 0) 44 Ydw.
 
(1, 0) 46 Mae' nhw wedi 'u clymu wrth fôn y pren helyg ymhen isa'r pwllyn.
(Dici) {Yn bryderus.}
 
(Dici) Mae'r ast fach yn anesmwyth iawn.
(1, 0) 50 Ydi.
(1, 0) 51 Dodais hi yn y cart o'r golwg rhag ofn i Jenkins y Cipar neu Powel y Polis ddod heibio.
(Dici) {Yn ei chysuro megis creadur rhesymol.}
 
(Dici) Ble mae'r asyn?
(1, 0) 59 Mae e' wedi 'i rwymo lawr yna wrth y bont.
(1, 0) 60 Galw arno i gael gweld os yw e' yno.
(Dici) {Yn galw.}
 
(Dici) Nedi!
(1, 0) 64 Gwrando arno─ar 'ngair i─yn dy ateb di 'nol cystal ag unrhyw Gristion mewn trowsus.
(1, 0) 65 Y ffordd wyt ti'n gallu trafod creaduriaid─wel─mae tu hwnt i mi.
(Dici) {Yn llwytho ei blat o'r badell ffrio.}
 
(Dici) Ia─a mae gen i eitha ffordd o drafod stêc a winwns hefyd.
(1, 0) 68 "Hold on," Dici bach, cymer bwyll, 'machgen i.
(1, 0) 69 Gad dipyn ar ol yn y badell ffrio, da ti!
(Dici) {Yn anfodlon.}
 
(Dici) Gadael peth?
(1, 0) 72 Ia─rhag ofn.
(1, 0) 73 Ti wyddost yr enw sydd i ni fel potsiars.
(1, 0) 74 Wel, os digwydd i rywun busnesllyd ddod y ffordd hyn, yna fe fydd y badell ffrio ar y tân mewn wincad, {yn dynwared y weithred} a dyma ni, Twm Tincer a Dici Bach Dwl, yn batrwm o ddau dincer teidi yn cael tamad gonest o swper ar fin y ffordd.
(Dici) {Yn amheus.}
 
(Dici) Wel─falle y byddai pobl yn barod i gredu hynny, falle─
(1, 0) 78 'D yw 'r hen regen yr yd 'na ddim yn gweld rhyw lawer yn y syniad chwaith, feddyliwn i.
(1, 0) 79 Welaist ti Price pan o't ti nol y cwrw?
(Dici) Do.
 
(Dici) Gofynnodd i mi roi hwn i chi.
(1, 0) 83 Ynghylch y samwn, debig.
 
(1, 0) 85 "Castle Hotel, Pontewyn.
(1, 0) 86 Cyfrinachol.
(1, 0) 87 Annwyl Twm Tincer, Gair bach i ddweyd bod popeth wedi ei drefnu ar gyfer y luncheon mae Mr. Venerbey-Jones yn ei roi i'r offeiriadon sy'n dod yma yfory i agor ysgoldy newydd Eglwys Dewi Sant."
 
(1, 0) 89 Venerbey-Jones!
(1, 0) 90 Fe garwn i pe bai'r 'ffeiradon 'na'n rhoi luncheon iddo fe ac yn dechreu drwy arllwys dos dda o wenwyn llygod i lawr corn gwddw'r hen gythraul!
(Dici) Clywch, clywch, Twm!
 
(1, 0) 94 "Yma yn y Castle y bydd y wledd a chofia fy mod yn dibynnu arnat ti am y samwn ac y talaf ddeg ceiniog y pound am dano.
(1, 0) 95 Yn gywir, Robert Price."
(Dici) Deg ceiniog y pound?
 
(1, 0) 99 Fe gadwa' i hwn rhag ofn iddo geisio gwadu'r pris.
(1, 0) 100 'Rym ni wedi addo dal samwn iddo fe, Dici, ac fe gaiff un hefyd.
(1, 0) 101 Lawr 'na ym mhwllyn Venerbey-Jones {yn cyfeirio i'r cefn} mae samwns gora'r afon.
(1, 0) 102 Weli di, Dici, mae'r cymylau'n crynhoi.
(1, 0) 103 Ardderchog!
(1, 0) 104 Bydd yn ddigon tywyll i ni gyda hyn.
(1, 0) 105 Mae'r gwynt wedi troi i'r gorllewin.
(Dici) Ydi wir.
 
(Dici) Dere lawr at yr afon, Twm; alla' i ddim dal yn hwy.
(1, 0) 113 Ia.
(1, 0) 114 Gwelli ni baratoi.
(1, 0) 115 Cladda dy swper, Dici.
(Dici) {Yn gorffen ei swper.}
 
(Dici) Oes gennych chi ddefnydd ffagal?
(1, 0) 120 Oes, fe guddiais i bopeth sydd eisieu tu cefn i'r clawdd 'ma.
 
(1, 0) 122 Pren, clwtyn a pharaffin.
 
(1, 0) 124 A dyma'r dryfer.
(Dici) {Yn clustfeinio.}
 
(Dici) {Mae'n gogwyddo ei ben i wrando.}
(1, 0) 128 Beth glywi di?
(Dici) Swn traed.
 
(Dici) Swn traed.
(1, 0) 130 Ble?
(Dici) {Yn cyfeirio i'r aswy.}
 
(Dici) Jenkins y Cipar sy 'na, Twm.
(1, 0) 134 Fe?
(1, 0) 135 Y mawredd annwyl!
(1, 0) 136 Gad i ni guddio rhain.
 
(1, 0) 138 Dwed wrth yr ast fach am fod yn dawel.
(Dici) Reit.
 
(Dici) {Chwibana'n isel a rhybuddiol.}
(1, 0) 141 Dici bach, 'r wyt ti'n gallu spotio cipar neu blisman filltir o ffordd.
(1, 0) 142 Ble felldith mae'r badell ffrio 'na?
(1, 0) 143 A!
 
(1, 0) 145 Eistedd lawr, Dici, da ti, ac edrych mor ddiniwed ag y galli di.
(1, 0) 146 Maent yn eistedd yn dawel o bob tu'r tân gan ymddangos yn batrwm o ddiniweidrwydd,
(Dici) {Yn sibrwd.}
 
(1, 0) 150 Wyt, Dici, 'rwyt ti yn llygad dy le.
(1, 0) 151 Fe ddylsa Dafis Ty Isha fod wedi cynnig mwy na chwe cheiniog am gyweirio'r hen fwced 'na.
 
(1, 0) 154 O, Jenkins y Cipar!
(1, 0) 155 Noswaith dda, Jenkins.
(Dici) Noswaith dda, Mistar Jenkins.
 
(Jenkins) Beth wyt ti'n wneud yma, Twm Tincer?
(1, 0) 162 Ffrio stêc a winwns.
 
(1, 0) 164 Winwns pwy?
(1, 0) 165 Fy winwns i.
(1, 0) 166 Winwns Dici.
(1, 0) 167 Ein winwns ni!
(Jenkins) Yn wir?
 
(Jenkins) Yn wir?
(1, 0) 169 Beth ych chi'n feddwl, Jenkins?
(1, 0) 170 Beth ych chi'n awgrymu?
(Jenkins) 'Dwy' i'n awgrymu dim.
 
(Jenkins) Venerbey-Jones.
(1, 0) 175 Pwy sy ar 'i hen dir e'?
(Dici) Ia─pwy sy arno?
 
(Dici) Ia─pwy sy arno?
(1, 0) 177 Y ffordd fawr yw hon, ontefe?
(Jenkins) Falle hynny.
 
(Jenkins) A mae'r gêm sy arno yn perthyn i Mr. Venerbey-Jones.
(1, 0) 181 Gall hynny fod.
(Jenkins) Pob pysgodyn yn yr afon yma am filltir a hanner─Mr. Venerbey-Jones pia hwnnw.
 
(Jenkins) Pob pysgodyn yn yr afon yma am filltir a hanner─Mr. Venerbey-Jones pia hwnnw.
(1, 0) 183 Chi sy'n dweud hynny.
(Jenkins) Ia; ac ar y stad yma, perthyn i Mr. Venerbey-Jones mae pob creadur asgellog, pluog a blewog.
 
(Jenkins) Paid ti anghofio hynny.
(1, 0) 186 Fe wn i beth sy'n bod, Jenkins.
(1, 0) 187 Mae'ch meistr wedi bod yn achwyn nad oes gennych ddigon o blwc i wneud cipar da.
(Jenkins) Beth?
 
(Jenkins) Beth?
(1, 0) 189 O!─rwy' i wedi clywed!
(1, 0) 190 A dyma chi'n awr yn dechre dihuno ac yn dod i boeni dau dincer diwyd a gonest.
(Jenkins) O, ia, par pert ych chi.
 
(1, 0) 194 Sipsiwns?
(1, 0) 195 Sipsiwns ddwedsoch chi?
(Dici) Cwilydd iddo, Twm─a chitha'n Fethodist hefyd.
 
(Jenkins) Ac am danat ti, Twm Tincer, dy le di yw'r 'jail'─a bydd yn bleser mawr gen i dy gael di yno.
(1, 0) 201 Wnewch chi byth mo hynny, Jenkins; 'rych chi wedi treio'n galed am ugain mlynedd.
(Jenkins) 'Rwy'n sicr o'ch cael chi un o'r dyddiau nesa' yma─y ddau o honoch chi.
 
(Jenkins) A nawr, cyn i mi fynd adre', 'rwy' i am eich cael chi oddiar y stad yma.
(1, 0) 204 'Rym ninnau'n bwriadu symud oddiyma pryd y mynnwn ni, Jenkins, a dim eiliad cyn hynny.
(Dici) Na, dim eiliad cyn hynny, Twm.
 
(Dici) Na, dim eiliad cyn hynny, Twm.
(1, 0) 206 'Rwy'i bron â chredu mai chi ddylai 'i chychwyn hi, Jenkins, rhag ofn i mi golli gafael ar y badell ffrio 'ma.
(Jenkins) Wel, cofiwch 'rwy' i wedi rhoi rhybudd teg i chi.
 
(Jenkins) Wel, cofiwch 'rwy' i wedi rhoi rhybudd teg i chi.
(1, 0) 208 Diolch i chi am ddim, Jenkins.
(1, 0) 209 Noswaith dda, a melys bo'ch hun.
(Jenkins) Yr hen dacle isel─rodneys─Yh!
 
(Dici) Os oes na greadur mwy ffiaidd ar y ddaear 'ma na wenci, cipar yw hwnnw.
(1, 0) 215 'Rym ni wedi addo samwn i Price─Jenkins neu beidio.
(Dici) 'Roedd e'n dweyd 'i fod e'n mynd tua thre.
 
(Dici) Mae'r lleuad yn mynd, Twm.
(1, 0) 224 O'r gora, fe'i mentrwn hi.
(1, 0) 225 Fe ddo' i â'r taclau mas eto.
(Dici) {Yn symud ol a blaen yn gynhyrfus ac yn chwerthin yn llon.}
 
(1, 0) 236 Dyma'r clwtyn, dyma'r pren a'r paraffin; gwna ffagal.
(Dici) {Yn arllwys paraffin ar y clwtyn.}
 
(Dici) Nawr am y paraffin.
(1, 0) 240 Oes matches gen ti?
(Dici) {Yn dangos blwch.}
 
(Dici) Oes, digon.
(1, 0) 243 O'r gora 'ta.
(Dici) Ha, ha, ha!
 
(Dici) O'r mawredd, Twm, baswn i'n siwr o dorri 'nghalon a marw.
(1, 0) 254 Wel, machgen i, gobeithio 'rwy' i na fydd yr un o honom ni yn y jail cyn brecwast bore fory.
 
(1, 0) 256 Dere mlaen.
(Dici) {Yn troi'n chwim i'r dde.}
 
(Dici) Mae rhywun arall yn dod nawr.
(1, 0) 260 Darro'r bobol 'ma!
(1, 0) 261 Chaiff dyn ddim llonydd i fynd ymlaen a'i waith.
 
(1, 0) 263 Ble mae'r badell ffrio 'na?
 
(1, 0) 265 Pwy sy 'na nawr, Dici?
(Dici) {Yn gwrando.}
 
(Dici) Diawch, Twm, ciwrat yw e'.
(1, 0) 272 Ciwrat?
(Dici) Ie, a het silk ar 'i ben e' a legins am 'i goese'.
 
(Dici) Ie, a het silk ar 'i ben e' a legins am 'i goese'.
(1, 0) 274 Ciwrat?
(1, 0) 275 Yr amser hyn o'r nos?
(1, 0) 276 Oes 'na ryw berigl tybed?
(1, 0) 277 Eistedd lawr, Dici bach, a threia edrych fel petae'n ddydd Sul.
(Esgob) Beth sydd yma?
 
(1, 0) 290 Noswaith dda.
(Dici) {Yn codi ei law at ei dalcen.}
 
(Esgob) A fyddwch chwi cystal â dywedyd wrthyf os ydwyf rywle'n agos i'r Ficerdŷ?
(1, 0) 294 Tŷ Mr. Owen Matthews ych chi'n feddwl?
(Esgob) Nage.
 
(Esgob) Mr. Lewis Pugh.
(1, 0) 297 Pugh?
(1, 0) 298 Ond mae fe'n byw yn y cwm arall.
(Esgob) {Wedi arswydo.}
 
(1, 0) 311 Ond oedd 'na neb yn cwrdd â chi, syr?
(Esgob) Nac oedd.
 
(Dici) Twm, falle y leiciai'r gwr bonheddig eiste' lawr?
(1, 0) 318 Eisteddwch chi, syr, a chroeso.
(Esgob) Diolch yn fawr iawn.
 
(Esgob) O diar!
(1, 0) 333 Wedi cerdded am ddwy awr a'r bag mawr trwm 'na?
 
(1, 0) 335 Dici, rhaid iddo gael beth sy' ar ol o'r stêc a'r winwns 'na.
(Dici) {Yn galonnog.}
 
(Esgob) Na'n wir, 'charwn i ddim eich amddifadu chwi─
(1, 0) 340 Peidiwch a son, syr.
(1, 0) 341 'Rym ni wedi cymryd ein swper ni.
(1, 0) 342 Estyn y plat 'na, Dici.
(Dici) Dyna fe, Twm, y grafi a chwbl.
 
(1, 0) 356 Yh─Dici─
(Dici) Mae'n olreit, Twm.
 
(Esgob) Ac yn awr, a gaf fi ofyn eich henwau chwi, fy nghymwynaswyr?
(1, 0) 371 Wel, Twm Tincer mae' nhw 'ngalw i.
(Dici) Dici Bach Dwl yw'r enw sy gennyn' nhw arno' i, syr.
 
(Esgob) Wel, allaf i byth anghofio'r cwmni diddan yma ar fin y ffordd.
(1, 0) 377 Fyswn i ddim yn dweyd wrth bawb, tawn i'n eich lle chi, syr.
(Dici) Na.
 
(1, 0) 383 Ynh─hym─
(Dici) Peidiwch bod ag ofn, Twm.
 
(Dici) Ond gallwch chi weld wrth wyneb y gwr bonheddig fod 'i galon e' yn 'i lle.
(1, 0) 386 I fod yn onest â chi, falle dylswn i ddweyd un peth wrthoch chi, syr.
(1, 0) 387 Wnaiff hi ddim lles ichi, a chitha'n 'ffeirad, i neb eich gweld chi'n eistedd yma fel hyn gyda fi a Dici.
(Esgob) Ond 'rwy'n mwynhau fy hun yma; fel hyn gyda chwi a Dici.
 
(Dici) 'Rhoswch, chi, syr, 'rhoswch chi funud.
(1, 0) 464 Ciwrat neu beidio, syr, wnaiff hi mo'r tro i chi wrando gormod ar Dici Bach Dwl.
(1, 0) 465 Ar brydiau fe allai wneud eitha gang o botsiars o'r Deuddeg Apostol 'u hunain.
(Dici) Ych chi'n leicio tipyn o sport, syr?
 
(1, 0) 474 Dici, Dici!
(Dici) Ond, Twm, 'dych chi ddim yn gweld?
 
(1, 0) 545 Ond fe fu bron â'ch cael chi, syr.
(Dici) Am fod yn garedig 'rown i.
 
(Dici) 'Rhoswch funud syr, os ych chi'n leicio brithyllod.
(1, 0) 553 Bachden digon teidi yw Dici, syr, ond wrth gwrs mae'n rhaid cyfaddef bod na dipyn bach o wendid yn 'i ben e'.
(Esgob) Gwendid?
 
(Esgob) 'Rydwyf yn ei hoffi'n fawr iawn,
(1, 0) 558 Mae ofn yn 'i galon y caiff e' 'i ddal un o'r nosweithiau 'ma.
(1, 0) 559 Mae' nhw'n son am 'i ddodi e' yn y wyrcws.
 
(1, 0) 561 Wrth gwrs, syr, ar ol yr hyn mae fe wedi ddweyd wrthoch chi heno, 'r ych chi'n gwybod digon i'n dodi ni yn llaw'r polis.
(Esgob) Nac ofnwch ddim, fy nghyfaill.
 
(Esgob) Gwell─gwell i mi beidio.
(1, 0) 573 'Dwyt ti ddim yn deall, Dici?
(1, 0) 574 Mae'r gwr bonheddig yn yr Eglwys.
(1, 0) 575 Der' a nhw i fi, Dici.
(1, 0) 576 Fe wna' i o'r gora â nhw.
 
(Esgob) Naddo, nid yn hollol felly.
(1, 0) 586 Ficer, falle?
(Esgob) Bum yn ficer hefyd.
 
(Dici) Esgob?
(1, 0) 593 Wel, ar fy─
(Esgob) {Yn frysiog.}
 
(Esgob) Esgob Canolbarth Cymru.
(1, 0) 597 Ond all Esgob ddim crwydro'r ffyrdd gefn nos fel dafad ar goll.
(1, 0) 598 Pam na ewch chi i aros gyda Mr. Venerbey-Jones, syr?
(1, 0) 599 Fe yw'r gwr mawr ffordd hyn.
(Esgob) Venerbey-Jones?
 
(Esgob) Diolch yn fawr i chwi am eich holl garedigrwydd.
(1, 0) 604 O, peidiwch a son.
(1, 0) 605 Cymrwch yr ail dro ar ol i chi groesi'r bont lawr fanna.
(Esgob) Diolch.
 
(Dici) Eich Anrhydedd?
(1, 0) 620 Nage.
(1, 0) 621 Mae' nhw'n dweyd hynny am faer cyffredin.
(Dici) Fe wn i beth wy' i'n mynd i'w alw e'.
 
(Dici) Fe wn i beth wy' i'n mynd i'w alw e'.
(1, 0) 623 Beth?
(Dici) Ei Fawredd Grasol.
 
(Dici) Ei Fawredd Grasol.
(1, 0) 625 'Dyw hynny ddim yn ffol, wir, Dici.
(Dici) {Yn awyddus.}
 
(1, 0) 629 Ie, dyma'r ffagal.
 
(1, 0) 631 Beth yw'r swn 'na?
(Dici) Dim ond Ei Fawredd Grasol.
 
(Dici) Mae fe wedi tarfu'r asyn.
(1, 0) 634 'Rwy'n gobeithio nad yw'r hen foi ddim wedi cwympo i'r afon.
(1, 0) 635 Nawr te, Dici.
(Dici) {Yn orfoleddus.}
 
(Dici) O darro, Twm─fe leiciwn i ddawnsio bob cam o'r ffordd at yr afon.
(1, 0) 642 Gan bwyll, boi bach, gan bwyll!
(1, 0) 643 Dere mlaen.
(Jenkins) {Yn sibrwd ac yn amneidio ar rywrai tuallan.}
 
(1, 0) 788 Darro!
(Dici) {Gyda gollyngdod.}
 
(Dici) Twm?
(1, 0) 799 Wel?
(Dici) Mae Jenkins y Cipar draw fanna.
 
(Dici) Mae Jenkins y Cipar draw fanna.
(1, 0) 801 Jenkins?
(Esgob) {Yn llidiog.}
 
(Dici) Powel y Polis yw e'.
(1, 0) 806 Mae rhywun tu cefn i mi hefyd, Dici─mae' nhw wedi cauad o'n cwmpas ni.
(Dici) Gaf fi guddio'r samwn?
 
(1, 0) 809 Na, paid.
(1, 0) 810 Falle nag yn' nhw ddim wedi ei weld e' eto.
(Dici) Beth wnawn ni?
 
(Dici) Beth wnawn ni?
(1, 0) 812 Wn i ddim.
(Dici) Mae' nhw'n dod tuag yma.
 
(Esgob) 'R ydwyf yn cashau y dyn yna.
(1, 0) 816 Diawch, Dici.
(1, 0) 817 Mae 'mhocedi i'n llawn o frithyllod hefyd.
(Esgob) T-t-t!
 
(Esgob) T-t-t!
(1, 0) 819 Ia, a mae llythyr Price gen i yn rhywle.
(Dici) Mae' nhw'n cauad arnom ni.
 
(Dici) Mae' nhw'n cauad arnom ni.
(1, 0) 821 Dyma jail i fi, a'r wyrcws i titha, Dici.
(Dici) Y Wyrcws?
 
(Esgob) Os bu i chwi droseddu â'ch dwylaw, pechais innau yn fy nghalon; felly waeth i mi orffen yr hyn a ddechreuais.
(1, 0) 834 Beth ych chi am wneud?
(Esgob) Dileu'r dystiolaeth.
 
(Esgob) A'i ollwng dros y pysgodyn─fel hyn.
(1, 0) 843 Ac wedyn?
(Esgob) Ei lapio am y pysgodyn─fel hyn.
 
(1, 0) 846 Dici!
(Esgob) A dodi'r cyfan yn fy mag─fel hyn.
 
(1, 0) 852 Dyma Jenkins.
 
(1, 0) 854 Gwnawn, syr, fe ddown ni i'ch hebrwng chi i dy Mr. Lewis Pugh, gyda phleser.
(Esgob) Dyma chwi eto, mi welaf.
 
(1, 0) 859 Yn yr afon?
(Jenkins) Ia─a gole gen ti.
 
(1, 0) 863 'Nol het y gwr bonheddig yma o'r dwr.
(Jenkins) Het?
 
(1, 0) 908 Bydd ein pethau ni'n ddigon saff, Dici, nes i ni ddod 'nol.
(1, 0) 909 A nawr, f' Arglwydd, fe fydd yr asyn yn y cart mewn wincad; ac yna, f' Arglwydd, fe rown ni lifft i chi dros y bryn i dŷ Mr. Lewis Pugh, f' Arglwydd.
(Esgob) Diolch i chwi, Twm.
 
(Dici) Noswaith dda, Mistar Jenkins.
(1, 0) 917 Noswaith dda, Jenkins.
(1, 0) 918 A chymrwch air o gyngor yn garedig gen i; 'rych chi'n un o'r rheiny sy'n codi'n rhy gynnar.