Adra

Ciw-restr ar gyfer Aaron

(Lisa) Ia?
 
(Lisa) Ia?
(1, 0) 21 Hei.
(Lisa) Hei.
 
(Lisa) Hei.
(1, 0) 24 Ges di'r blaen ar y gweddill ohona ni braidd.
(Lisa) Pobol.
 
(Lisa) Pobol.
(1, 0) 26 M?
(Lisa) Pobol, gormod ohonyn nhw.
 
(Lisa) Dwi'm yn, y, rhy hoff o bobol.
(1, 0) 29 O.
(Lisa) Ia.
 
(Lisa) Ia.
(1, 0) 31 Ti'n cadw'n iawn?
(Lisa) Ddim yn bad de, prysur...
 
(Lisa) Chditha?
(1, 0) 34 Prysur.
(1, 0) 35 Ddim digon o oria mewn wsos.
(Lisa) Ddois di fyny'n iawn?
 
(Lisa) Ddois di fyny'n iawn?
(1, 0) 38 Do, do, fawr ddim traffig, lori tua Ganllwyd ond o'n i 'di dechra'n ddigon buan.
 
(1, 0) 40 Sa ti 'di sôn swni 'di cynnig lifft.
(Lisa) Na, chwara teg, doni'm isio tarfu ar dy blania di.
 
(Lisa) Na, chwara teg, doni'm isio tarfu ar dy blania di.
(1, 0) 43 Ddoth na griw da do.
(Lisa) Do.
 
(Lisa) Do.
(1, 0) 45 Wyddwn i ddim...
(Lisa) Be?
 
(Lisa) Be?
(1, 0) 47 Wel, fod o'n nabod cymaint.
(Lisa) Mi o'dd o'n ifanc, ma' pawb yn meddwl fod nhw'n nabod rhywun ifanc ddigon da i fynd i g'nebrwng.
 
(Lisa) Mi o'dd o'n ifanc, ma' pawb yn meddwl fod nhw'n nabod rhywun ifanc ddigon da i fynd i g'nebrwng.
(1, 0) 50 Siŵr fod o'n gysur, i'r teulu lly, i weld cymaint.
(Lisa) Ia, o'dd 'na olwg wrth eu bodda arnyn nhw doedd.
 
(Lisa) Ia, o'dd 'na olwg wrth eu bodda arnyn nhw doedd.
(1, 0) 52 Wel, ddim dyna o'dd gen i.
(Lisa) Wn i.
 
(Lisa) Wn i.
(1, 0) 55 Biti am y tywydd.
(Lisa) Ia.
 
(Lisa) Lisa.
(1, 0) 64 Aaron.
(Arwel) Da chi'n iawn gobeithio?
 
(Arwel) Wel, cystal a medar rhywun fod ia?
(1, 0) 67 Ia.
(Arwel) Criw da doedd?
 
(Arwel) Criw da doedd?
(1, 0) 69 O'n i jesd yn deud hynny, criw da iawn.
(Arwel) Cystal teyrnged â'r un doedd.
 
(Arwel) Cystal teyrnged â'r un doedd.
(1, 0) 71 Oedd.
(1, 0) 72 Wir.
(Lisa) O'dd dy un di yn un dda... Arwel?
 
(Arwel) Fyddai'm yn un am sgwennu ond chwara teg, o'n i'n ffrindia gora... o'dd a ni'n ffrindia ers ysgol feithrin.
(1, 0) 76 Felly o'n i'n dallt.
(1, 0) 77 Da o'dd stori'r tedi.
(Arwel) Ia, rhen Ted.
 
(Arwel) Hen dlawd, oddi'n ffwc o sioc.
(1, 0) 91 Debyg iawn.
(Arwel) I bawb deud gwir.
 
(Arwel) {Arwel yn tynnu ei got wleb a'i gosod dros gefn cadair o flaen y tân.}
(1, 0) 98 Dwi heb weld un o'r rheina ers blynyddoedd.
(Arwel) Naddo?
 
(Megan) O, na, digwydd rhannu ymbarél wnaethon ni.
(1, 0) 112 Ia, biti am y tywydd!
(1, 0) 113 Aaron dwi.
(Megan) Hei.
 
(Arwel) A'r syniad ydi aros drw nos heno, ma' hon yma, ma' 'na fwy o stwff hefyd yn y ffrij.
(1, 0) 125 O, wel, dwnim.
(Megan) Fydd rhaid i mi fynd, fedrai'm yfed, gen i gar...
 
(Arwel) Ia.
(1, 0) 130 Gwylnos?
(Lisa) Fydda pobol yn ista efo cyrff 'stalwm, drwy nos ar ôl iddyn nhw farw.
 
(Lisa) Fydda pobol yn ista efo cyrff 'stalwm, drwy nos ar ôl iddyn nhw farw.
(1, 0) 132 Pam?
(Lisa) Cofn i'r diafol fynd â nhw, ne rhag ofn bo nhw'n fyw.
 
(Arwel) Ddim byd swyddogol, ond mi oedd 'na damad o bapur a rhyw fanion erill.
(1, 0) 146 O'dd o isio ni yma lly?
(Arwel) Oedd, ni'n benodol.
 
(Ywain) Un sesh eto de.
(1, 0) 152 Fedra i aros hefyd, masiwr, am sbel.
(1, 0) 153 Gweld sut eith hi.
(1, 0) 154 Fydd rhaid mi ffonio i sôn.
(Megan) Dwi'm am yfed ond mi wna'i aros am chydig.
 
(Megan) Dwi'm am yfed ond mi wna'i aros am chydig.
(1, 0) 157 Sa signal 'ma?
(Ywain) Ar pwy wyt ti mêt?
 
(Ywain) Ar pwy wyt ti mêt?
(1, 0) 159 Foda.
(Ywain) Rhaid ti fynd allan, os ei di lawr stryd de, at y bont, gin ti jans go lew yn fa'no.
 
(Ywain) Rhaid ti fynd allan, os ei di lawr stryd de, at y bont, gin ti jans go lew yn fa'no.
(1, 0) 161 Oce, diolch, fyddai'm yn hir gobeithio.
(Megan) Brifysgol?
 
(Lisa) Posh/
(1, 0) 207 /Sori, oddi'n anodd ca'l signal hyd yn oed ar ben y bont.
(1, 0) 208 Mai'n dal i fwrw.
(1, 0) 209 Gymra'i un bach efo chi, er cof.
(Arwel) Da iawn, reit.
 
(Arwel) M.
(1, 0) 222 Sut lly?
(Lisa) Deud ti 'tha ni.
 
(Lisa) Ddim rili.
(1, 0) 230 Na, ddim yn y ffordd da chi'n feddwl eniwe.
(Megan) O'dd o'n gleniach na lot.
 
(Arwel) Cradur.
(1, 0) 249 Doni'm yn gwbod fod o/
(Megan) /na fi, ddim rili.
 
(Lisa) Wel, dwisio.
(1, 0) 265 A finna.
(Arwel) Megan?
 
(Arwel) Crogi nath o.
(1, 0) 277 Shit.
(Arwel) Dwi'm yn dallt bob dim cofiwch, jesd digwydd bod o'n i o gwmpas.
 
(Lisa) Yrrodd o negas i fi, dridia cyn iddo fo...
(1, 0) 323 Be ddudodd o?
(Lisa) Dwnim, ddim byd mawr... jesd holi sut o'dd petha'n mynd.
 
(Lisa) O'dd o isio help dachi'n feddwl?
(1, 0) 331 Waeth ni heb a meddwl fel'na.
(Arwel) Mai'n anodd iawn peidio.
 
(Ywain) Llanast de.
(1, 0) 356 Diolchwch fod ganddoch chi siop o gwbwl.
(Ywain) A ma'r siop jips yn siop gebabs.
 
(Arwel) Dyna o'dd gen i.
(1, 0) 366 Pitsa ydi calzone.
(Arwel) Nace.
 
(Ywain) Di'r, peth, di'r sgodyn ddim r'un fath.
(1, 0) 377 Be'dio Goldffish?
(Ywain) Y ffycin batyr de coc oen!
 
(Arwel) Hold on rŵan.
(1, 0) 397 Ti'm am ei amddiffyn o?
(Arwel) Nacdw, jesd/
 
(Arwel) A'i ar ei ôl o.
(1, 0) 416 Waw.
(Lisa) Fedrai'm coelio fod pobol fel'na'n bodoli.
 
(Lisa) Be o'dd o'n weld yn rheinia duda?
(1, 0) 419 Dwi'm yn gwbod, wel, yndw.
(1, 0) 420 Ti'n ca'l dy fagu mewn lle penodol ac amgylchfyd penodol a ti'n teimlo rhyw gysylltiad hefo pobol dwyt.
(1, 0) 421 A ti'n madda petha fel'na iddyn nhw.
(Lisa) Be sgin ti griw fel'ma yn y pentra chwaral na nes di adael?
 
(Lisa) Be sgin ti griw fel'ma yn y pentra chwaral na nes di adael?
(1, 0) 423 God nagoes, peth cynta nes i odd deud ta-ta wrth rheiny ond 'di pawb ddim.
(Megan) Sgynoch chi'm syniad nagos.
 
(Megan) Ma nhw'n wahanol ar y diawl i'n rhei i ta.
(1, 0) 431 O'dd o'n rong.
(Megan) Oedd, dwi'n gwbod hynny, jesd ddim ond fo sydd fel'na, a 'di hynna'm yn deud fod o'n iawn, jesd deud dwi.
 
(Lisa) Sa well taswn i heb aros.
(1, 0) 436 Sa'n shit tasa ni heb, ac ydi'r ni a nhw ma'n helpu?
 
(1, 0) 438 Dwi'n gwbod na fi a nhw di dy default di.
(Lisa) Dos i halio Aaron.
 
(Lisa) Dos i halio Aaron.
(1, 0) 440 Jesd yma o ran parch ma pawb, yn ffyicn hics a nazis a be bynnag da ni.
(Lisa) Jesd ma'n anodd, am lot o resyma, a 'di stwff fel'na ddim yn helpu.
 
(Lisa) Jesd ma'n anodd, am lot o resyma, a 'di stwff fel'na ddim yn helpu.
(1, 0) 443 Nacdi.
(1, 0) 444 Meddylia sut dwi'n teimlo ma ta, dwi ofn y byddai mewn rhyw ffycin wicker man cyn bora.
(Lisa) Yr un gwreiddiol, nid fersiwn Nic Cage gobeithio.
 
(Lisa) Yr un gwreiddiol, nid fersiwn Nic Cage gobeithio.
(1, 0) 446 Y, ia.
(1, 0) 447 Ffwcio Nic Cage...
(Y ddau) The bees!
 
(Lisa) Rhaid ni gal noson ffilms shit eto.
(1, 0) 451 Bydd, mai'i 'di bod yn flynyddoedd.
(1, 0) 452 Mi fasa...
 
(1, 0) 454 Dio'm 'di hitio fi sti.
(1, 0) 455 Dwi'm yn gwbod pryd neith o.
(Lisa) O'n i'n golchi'n nannadd bora ddoe a nath o jesd dod o nunlla.
 
(Lisa) Dyna nath y drwg.
(1, 0) 461 Nes i 'rioed feddwl lot am lle gath o'i fagu, dodd o'm yn trafod y lle.
(1, 0) 462 Ma'n siwtio fo mewn ffordd, er na faswn i byth 'di meddwl am y lle fel'ma.
(Lisa) Soniodd o am y goedan?
 
(Lisa) Soniodd o am y goedan?
(1, 0) 464 Coedan?
(Lisa) O'dd ganddo fo rhyw goedan yn cefn medda fo lle o'dd o'n gallu gweld y môr, mi alla ni drio ffendio hi.
 
(Lisa) O'dd ganddo fo rhyw goedan yn cefn medda fo lle o'dd o'n gallu gweld y môr, mi alla ni drio ffendio hi.
(1, 0) 466 Ia, sa hynna'n braf basa deud gwir.
(Megan) Dwi 'di ca'l gair efo nhw, ma nhw ar 'u ffordd i fewn.
 
(Ywain) Es i i hwylia a ma'i 'di bod yn gont o wsos.
(1, 0) 474 Ma'i 'di bod yn wsos anodd.
(Lisa) Do.
 
(Ywain) Dwi'm i fod i deimlo felma, dio'm yn iawn.
(1, 0) 479 Ma'n naturiol siŵr.
(Arwel) Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn.
 
(Ywain) A dwi'm isio piti neb na gneud rhyw esgus jesd deud dwi.
(1, 0) 519 So be, odda chdi'n dal hyn yn ei erbyn o?
(Ywain) Nagon i, ond dodd o'm o'i blaid o chwaith.
 
(Lisa) Fysa'm yn well i ni drio chwara gêm ne wbath?
(1, 0) 536 God.
(Arwel) Syniad da.
 
(Lisa) Snakes and ladders.
(1, 0) 545 Be 'da ni, plant?
(Megan) Na, gwo on.
 
(Arwel) O, iesu do, a gweiddi.
(1, 0) 556 O'dd o'n chwara twister?
(Ywain) Ia, tua pump o'dd o cofiwch.
 
(Arwel) Cain ella?
(1, 0) 561 Fydda fo'n cicio'n nhin i ar Cluedo.
(Megan) Whodunnit.
 
(Megan) Fydda ni'n siarad dipyn am betha fel'na, rhaglenni felly lly.
(1, 0) 565 Taclus di rheiny de, ffendio bai pwy o'dd o ar y diwadd.
(Lisa) Shit, neidar eto.
 
(Arwel) Felly weli di hi'n amal iawn {yn ysgwyd y deis} a dyma fina lawr efo chdi.
(1, 0) 569 Jesd lwc ydi hon de.
(Ywain) Fatha' rhan fwya o betha.
 
(Ywain) Ma' nhw'n trefnu'r petha 'ma.
(1, 0) 578 Ma'n gneud sens.
(Megan) Bwl.
 
(Ywain) Ma' gin ffycin, y, ma' gin fwnci gynffon reit, i falansio mewn briga a ballu, sgin chimps ddim.
(1, 0) 596 Pam fod gan chimps ddim cynffona?
(Arwel) Achos bo nhw'n cerddad ar lawr yn ôl Iolo Williams yn fama.
 
(Ywain) A ma' nhw yn gneud fwy ar lawr na mwncis.
(1, 0) 600 Hen dinna' hyll sgynyn nhw de.
(Ywain) Eniwe so Ryshans/
 
(Ywain) So ma' 'na lond gwlad o Ryshans yn y gofod 'na, 'di marw, ne 'di ca'l 'u lladd wrth landio a dosna'm sôn o gwbwl am danyn nhw.
(1, 0) 611 Fedrai goelio hynna deud gwir.
(Lisa) Ia, a fi, odd Chernobyl yn hysh hysh am fisoedd doedd.
 
(Ywain) Aaron!
(1, 0) 619 Ma nhw'n llai, ac yn blasu'n wahanol.
(Megan) Ond jesd lliw gwahanol dio, ddim blas.
 
(Lisa) Dodda nhw ddim, ddim bob tro.
(1, 0) 632 Wel, di hynny'm yn/
(Lisa) /mi driodd o o'r blaen.
 
(Arwel) Do?
(1, 0) 638 Doni'm yn gwbod.
(Lisa) O'dd o cyn i chdi ddod ar y sin.
 
(Lisa) Felly ddaetho'n ni'n ffrindia.
(1, 0) 651 O'dd pawb yn meddwl bo chi efo'ch gilydd.
(Lisa) Naethon ni rioed, dwi'm yn meddwl.
 
(Lisa) A dwi 'di bod yn meddwl, am y ffordd nes i ymatab a taswn i di bod yn gallach ella fasa hyn ddim 'di digwydd, ella basa fo 'di gweiddi arna'i eto.
(1, 0) 689 Sa ti di gallu sôn...
(Lisa) Sa fo hefyd.
 
(Arwel) Deud hanas wrtha fi am dano fo.
(1, 0) 700 Dwnim.
(Arwel) Plîs.
 
(Arwel) Plîs.
(1, 0) 702 Wel, nath o'm golchi'i lestri am fisoedd yn y tŷ oedd ganddo fo a mi dyfodd na fyshrwms arnyn nhw.
(1, 0) 703 Odd hynny'n reit ffyni mewn ffordd.
(Arwel) Sut odda chdi'n nabod o ta?
 
(Arwel) Sut odda chdi'n nabod o ta?
(1, 0) 706 Brifysgol.
(1, 0) 707 O'n i ddwy flynadd yn hŷn na fo, cyfarfod pan odda ni allan.
(Arwel) O.
 
(Arwel) Peint yn ddrud yno medda fo 'tha ni.
(1, 0) 710 Oedd, fydda ni'n yfad yn tŷ/
(Ywain) Fejiterian Tecs/
 
(Ywain) Fejiterian Tecs/
(1, 0) 712 /y?
(Arwel) Reffryns o'dd o, paid â phoeni.
 
(Arwel) Reffryns o'dd o, paid â phoeni.
(1, 0) 714 Ia, wedyn yfad yn y fflat cyn mynd allan...
(1, 0) 715 Sori dwi'm yn dda iawn am siarad am betha fel'ma.
(1, 0) 716 Cnebrwng cynta i mi fynd iddo fo rili, ac i feddwl na rhywun tua'r un oed a fi o'dd o.
(1, 0) 717 Mond un nain sgin i a ma hi dal yn fyw, rhyw fath, mewn cartra ochra Deganwy.
(1, 0) 718 O'dd lleill 'di marw cyn mi gal fy ngeni.
(1, 0) 719 Cansar a hartan.
(1, 0) 720 A da ni'm i fod i farw nacdan?
(1, 0) 721 Ti'n disgwl pobol yn priodi dwyt, a ca'l plant.
(1, 0) 722 Ond ddim marw, wbath at nes mlaen di hwnnw de.
(1, 0) 723 Lot o'n ffrindia fi 'di dechra priodi fyd, pawb yn setlo rwan, rhaid chdi cyn ti'n thyrti bydd.
(1, 0) 724 Ffendio rhywun, cal tŷ, cal morgej, plant ella, ne gi os di plant yn ormod o gommitment.
(1, 0) 725 Ma' 'na ogla panic mewn pybs a clybia rŵan pan dwi yna efo criw r'un oed a fi sti, beioleg dio, ogla hormons o'dd o ddeg mlynadd nol.
(Arwel) Lot yn fa'ma r'un fath.
 
(Arwel) Diawl mi o'n i.
(1, 0) 728 Oia?
(Arwel) Ai, jesd ddim 'di gneud lot rioed os ti'n dallt be sgin i.
 
(Arwel) Jesd oni'n poeni weithia.
(1, 0) 733 Poeni?
(Arwel) Ia, fedrai'm deud pam, o'dd pawb arall doedd efo rhywun lly.
 
(Arwel) Da ni'n meddwl ca'l tŷ, ne oleia llun o un i roi ar wal wrth i ni safio pres am yr ugian mlynadd nesa.
(1, 0) 754 Be 'di enw'r cariad?
(Arwel) Sian.
 
(Arwel) Sian.
(1, 0) 756 Enw neis, enw cyfarwydd lly, fel soffa ti di arfar efo hi.
(Arwel) Siani Flewog dwi'n galw hi achos, wel, hy.
 
(Arwel) Tynnu ar ein gilydd yda ni, dio'm yn gas sti.
(1, 0) 761 Pam?
(Arwel) Fel'na ma'i.
 
(Arwel) Rhan o'r hwyl am wn i.
(1, 0) 764 Dwi'n weld o'n annifyr, fydda fo sti yn deud rhyw betha weithia, petha annifyr mond fod o 'di newid pitj y frawddeg fel bo hi'n jôc.
(1, 0) 765 Dwi 'di bod o gwmpas llefydd fel fama o'r blaen, 'di ca'l fy magu mewn lle tebyg a dachi'n deud jôcs ac yn chwerthin ond dachi'n casáu'ch gilydd go iawn.
(1, 0) 766 Casáu'ch hunan fyd.
(1, 0) 767 Nes i drio helpu fo efo hynny.
(Arwel) Odda chi'n agos lly?
 
(Arwel) Odda chi'n agos lly?
(1, 0) 769 Odda ni efo'n gilydd, Arwel, am ddwy flynadd.
(1, 0) 770 Dwi'm yn synnu fod o heb sôn.
(Arwel) O, wel, naddo.
 
(Arwel) Doni'm yn... ond iawn de, chwara teg.
(1, 0) 773 M.
(Arwel) Biti fod o heb sôn deud gwir.
 
(Arwel) Biti fod o heb sôn deud gwir.
(1, 0) 775 Sut galla fo?
(Arwel) Y?
 
(Arwel) Y?
(1, 0) 777 Sut galla fo sôn wrtha chdi, a'r cefndar 'na a gweddill criw pen yma.
(1, 0) 778 Mewn ardal lle ma gê yn rwbath ma plant ysgol yn ddeud fatha insult?
(1, 0) 779 Lle os wti fymryn yn wahanol ma'n iawn i bobol dynnu arna chdi a dy fwlio di.
(1, 0) 780 Os tisio ffendio lle ddechreuodd hyn dos yn ôl i'r ysgol na lle odda chi gyd.
(Arwel) 'Di hynna'm yn deg.
 
(Arwel) 'Di hynna'm yn deg.
(1, 0) 782 Deud ti.
(Arwel) Iawn oce, ma na lot o betha gwirion yn cal 'u deud ond no wê, no wê na jesd 'pobol pen yma' be bynnag ffwc ydi hynny sydd wrthi.
 
(Arwel) Sori, dwi'n teimlo mod i 'di pregethu.
(1, 0) 791 Dio'm ots gen i, dio'm ots gen i am ddim byd heno ma.
(1, 0) 792 Ffyc it.
 
(1, 0) 794 Pam fod o 'di goro gneud hynna Arwel?
(Arwel) Dwn i'm.
 
(Arwel) Yndi tad.
(1, 0) 800 Ydi.
 
(1, 0) 808 Shit.
(1, 0) 809 Nes di ddeud sa chdi'n dod yn ôl fel ysbryd do.
(1, 0) 810 A ma'r tŷ 'ma'n llawn ohonna chdi.
(1, 0) 811 Tisio clywad ni'n deud bo ni'n drist wyt?
(1, 0) 812 Bo ni'n dy fethu di?
(1, 0) 813 Wel dwi yn, a mi o'n i cynt, a wedyn do'n i ddim, a dyna sy'n normal, dyna sut ma' pobol fod.
 
(1, 0) 815 Os na rhywun heblaw fi yn y stafall 'ma yn gwbod sut odda chdi go iawn?
(1, 0) 816 O'dd 'na rywun yn y capal 'na?
(1, 0) 817 Sut odda chdi'n gallu bod yn oriog ac annifyr a pwdlyd ac yn ffycin gas heb fod isio ond yn hollol briliant hefyd?
(1, 0) 818 A gallu'n ngwylltio fi i'r ffasiwn radda...
(1, 0) 819 Nes i drio.
(1, 0) 820 Wir i chdi mi nes, ond ma' 'na ddiwadd ar drio ac ar allu hefyd a dwi'n sori am hynny.
(1, 0) 821 Dwi'n gwbod na fi o'dd yn wan masiwr.
 
(1, 0) 824 Dwi'm yn gwbod pam nes i'm atab.
(1, 0) 825 Dduda i mod i'n brysur, ne 'di blino, ne fod o'm yn gyfleus.
(1, 0) 826 Dduda i mod i heb glywad y ffycin ffôn na'n canu ac yn canu.
(1, 0) 827 Fydd na neb callach.
(1, 0) 828 Ond dwi'm yn gwbod pam.
(1, 0) 829 O'n i'n gwbod bo chdi yna.
(1, 0) 830 Ond... odda ni 'di ffraeo ers blynyddoedd!
(1, 0) 831 Odda chdi di dod yn ôl i'r shithol yma at dy fam a'r josgins ma' ers hynny.
(1, 0) 832 Mond pan odda chdi'n pisd odda chdi'n tecstio a choelia ne beidio dydi llun sgi wiff o goc llipa ddim yn mynd i neud i neb ddisgyn yn ôl mewn cariad efo chdi.
(1, 0) 833 Oni'n gwbod na ddim dyna o'dd y tro dwytha na ond, dwnim.
(1, 0) 834 Do'n i'm isio chdi farw.
(1, 0) 835 Ond oni isio llonydd.
(1, 0) 836 Brêc.
(1, 0) 837 Ac o'n i 'di symud mlaen, 'di ffendio rhywun arall, a, dwnim, odda ti'n fwy o hasyl na dim byd arall.
(1, 0) 838 Ond dwi'n dy ffycin fethu di fyd.
(Megan) Pwy sy na?
 
(Megan) Pwy sy na?
(1, 0) 842 Fi, sori i dy ddeffro di.
(Megan) Na, ma'n iawn, doni'm isio cysgu eniwe rili.
 
(Megan) Doni'm i fod yma mor hwyr, gin i waith fory i fod.
(1, 0) 845 Cyfieithu ti ia?
(Megan) M, yn dre.
 
(Megan) M, yn dre.
(1, 0) 847 Ffonia fewn, gei di gymyd amsar off efo galar sti, dwi'n gyfreithiwr, ddylia mod i'n gwbod.
(Megan) Chdi odd y cyfreithiwr?
 
(Megan) Oni'n ama.
(1, 0) 850 Be, o'dd o'n sôn am danai?
(Megan) Am rhyw gyfreithiwr beth bynnag, sôn ddipyn deud gwir.
 
(Megan) Am rhyw gyfreithiwr beth bynnag, sôn ddipyn deud gwir.
(1, 0) 852 Am be lly?
(Megan) Wel, wsti, hel straeon de.
 
(Megan) Petha da ddo.
(1, 0) 856 O, wel, oce.
(Megan) Dyna pam mod i yma dwi'n meddwl ia?
 
(Megan) Am mod i di siarad efo fo am betha fel'na?
(1, 0) 859 Dwi'm yn gwbod, dwni'm pam fod o isio neb yma o gwbwl.
(Megan) Jesd ma'n rhyfadd achos doni'm yn nabod o fatha chdi, ne neb arall yma rili.
 
(Megan) Dibynnu ar y ffaith bo ni'n gorfod bod yn yr un adeilad am oria odda ni, a petha fel y bos a'r mashin coffi shit yn lle petha fel profiada ne atgofion yn dod a ni at 'n gilydd.
(1, 0) 863 I ddechra cychwyn ia, ond fedri di dal gal ffrindia gwaith.
(Megan) Sgin ti rei?
 
(Megan) Sgin ti rei?
(1, 0) 865 Crwner sy'n saethu ar y wicends ydi un a dynas yn ei ffifftis sy'n byta sardins o gan wrth ei desg 'di'r llall so nagoes, ond ddim dyna ydi'r point.
(Megan) Dwi jesd yn teimlo tha mod i ddim i fod yma rwsut.
 
(Megan) Dwi jesd yn teimlo tha mod i ddim i fod yma rwsut.
(1, 0) 867 Falla bo hi'n haws siarad efo chdi na neb ohonna ni, dwi'n gwbod fod o heb grybwyll fi wrth y Deliverance Twins yn fana felly ma gin ti hynna.
(Megan) Pam ni de?
 
(Megan) Pam ni de?
(1, 0) 870 Cysylltiada?
(1, 0) 871 Dwnim, doddna'm llythyr nagoedd ond o'dd 'na wbath.
(Megan) Feddyliodd o am dana ni ti'n meddwl?
 
(Ywain) Ffyc off.
(1, 0) 881 Fydd rhaid i mi throi hi'n o fuan ma'rnai ofn.
(Ywain) Sa well i minna fynd adra fyd.
 
(Arwel) Dwni'm os dio werth...
(1, 0) 889 Swni'n lecio gwbod fyd.
(Arwel) Doddna'm llythyr, na esboniad, heblaw am betha o'dd o'n sgwennu eniwe.
 
(Arwel) Ma'raid fod o di meddwl... ond ddath na'm byd o hynny.
(1, 0) 901 Naddo...